Cyngor ar reoli addysgu wyneb i wyneb ac addysgu ‘HyFlex’ yn llwyddiannus

Cyngor ar reoli addysgu wyneb i wyneb yn llwyddiannus:
Dylai pob aelod o staff ymdrechu i amlhau’r amser y mae myfyrwyr yn gweithio cefn wrth gefn neu ochr wrth ochr, pan fo’n bosibl. Ond, pan nad yw hyn yn bosibl, gall myfyrwyr droi at ei gilydd, i drafod mewn seminar er enghraifft, cyhyd â bod arferion lliniarol eraill ar waith (awyru, masgiau, pellhau cymdeithasol).

Gellir cychwyn trafodaeth fer (10 munud) ymhlith y myfyrwyr drwy ddefnyddio technolegau rhyngweithiol megis meddalwedd pleidleisio i alluogi myfyrwyr i gasglu eu gwybodaeth a chychwyn trafodaeth lawn, lle bydd yr holl fyfyrwyr yn wynebu ymlaen eto. Dylid cynnal mwyafrif y sesiynau wyneb i wyneb gyda’r myfyrwyr wedi’u lleoli cefn wrth gefn neu ochr wrth ochr.

Noder:
• Dylai unrhyw weithgareddau lle mae’r myfyrwyr yn wynebu ei gilydd fod mewn grwpiau bach iawn (parau neu grwpiau o dri) i leihau maint cyffredinol y dosbarth ac i sicrhau y gall pawb gyfrannu.
• Mae atgoffa myfyrwyr o arferion sgwrsio da, ble mae pobl yn cymryd eu tro i siarad, yn hanfodol i leihau cyfanswm y sgyrsiau, ac felly cyfanswm y defnynnau aerosol.
• Mewn ystafelloedd gyda seddi gosod a/neu haenog, gall trafodaeth o’r fath fod yn anodd, gan na chaiff myfyrwyr newid seddi.
• Mewn ystafelloedd gyda seddi symudol, ni ddylid newid gosodiad yr ystafell, a dylai’r staff sicrhau bod myfyrwyr yn cadw pellter cymdeithasol bob tro wrth droi at eraill.

Cyngor ar reoli addysgu ‘HyFlex’ yn llwyddiannus:
• Nodwch eich disgwyliadau’n glir: beth all y myfyrwyr sy’n ymuno o bell ei ddisgwyl? A fyddant yn arsylwi? A fyddant yn cyfrannu? Beth yw cyfyngiadau cymryd rhan o bell?
• Galluogwch dasgau rhyngweithiol sy’n dod â myfyrwyr o bell ac ar y safle at ei gilydd, er enghraifft polau rhyngweithiol y gall pawb gael mynediad iddynt ar yr un pryd.
• Os yw’r niferoedd yn afreolaidd iawn a bod mwyafrif y myfyrwyr yn bresennol mewn un modd (e.e. dim ond un myfyriwr yn ymuno o bell), gwahoddwch fyfyrwyr ar y safle i’r sesiwn ar-lein gan ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain i alluogi trafodaeth rhwng cyfoedion.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*