Egluro Meini Prawf Asesu

Mae gan Feini Prawf Asesu nifer o swyddogaethau: gwneud y broses farcio’n dryloyw; darparu eglurder ynghylch yr hyn sy’n cael ei asesu a sut; sicrhau tegwch ar draws yr holl gyflwyniadau; a rhoi sicrwydd ansawdd o ran datganiadau meincnodi pynciau. Er bod pob un o’r rhesymau hyn yn ddilys ac yn anrhydeddus, mae nifer o ystyriaethau ar waith:

  1. Mae gan staff reolaeth uwch neu is ar y meini prawf asesu y gofynnir iddynt eu defnyddio wrth farcio gwaith myfyrwyr a gall dehongliadau o’r meini prawf amrywio rhwng gwahanol aelodau o staff sy’n marcio’r un asesiad.
  2. Mae’r meini prawf asesu’n wahanol i safonau a rhaid cyfleu’r gwahaniaeth rhwng y ddau yn glir i fyfyrwyr (h.y. yr hyn sy’n cael ei asesu yn erbyn pa mor dda mae maen prawf wedi’i fodloni).
  3. Yn aml asesu sy’n cymell y myfyrwyr (cf. Worth, 2014) a gall gorbwyslais ar feini prawf neu feini prawf gorfanwl arwain at ymagwedd ticio blychau’n unig.
  4. Ar y llaw arall, gall meini prawf sy’n rhy amwys neu sy’n dibynnu’n ormodol ar wybodaeth ddealledig o’r pwnc fod yn ddryslyd ac yn anhygyrch i fyfyrwyr, yn enwedig ar ddechrau eu gradd.

Dyw’r blog hwn ddim yn honni y gall ddatrys holl broblemau meini prawf asesu ond bydd yn cynnig nifer o strategaethau posibl y gallai staff ac adrannau’n ehangach eu defnyddio i egluro’r meini prawf asesu, a’r prosesau marcio, i fyfyrwyr. Drwy hyn, daw myfyrwyr yn rhan o gymuned o ymarfer, yn hytrach na chael eu trin fel defnyddwyr (cf. Worth, 2014; Molesworth, Scullion & Nixon, 2011). Gellir grwpio gweithgareddau o’r fath yn fras yn gronolegol o ran y rhai sy’n digwydd cyn, yn ystod, neu ar ôl asesiad.

Cyn yr asesiad

  • Defnyddiwch feini prawf asesu i egluro nodau a chanlyniadau ar ddechrau modiwl, gyda phwyntiau gwirio wrth agosáu at ddyddiad cau.
  • Nodwch yr anhawster wrth ddeall meini prawf marcio. Yn aml mae myfyrwyr wedi arfer â diffiniadau cul iawn o lwyddiant gyda datganiadau clir sy’n ‘ennill’ pwyntiau iddynt. O gyfuno hyn ag ofn methu, sy’n gyffredin, gall danseilio eu dealltwriaeth o’r meini prawf. Yn ogystal, mae’n bosibl eu bod yn teimlo na allant farnu eu galluoedd eu hunain yn dda yn y cyd-destun newydd hwn (prifysgol). Gall trafodaethau grŵp, nid ar ystyr meini prawf, ond ar yr hyn mae myfyrwyr yn credu yw eu hystyr, helpu i nodi jargon sydd angen eglurhad, gadael i staff egluro eu dealltwriaeth bersonol (os mai nhw sy’n marcio) a gadael i fyfyrwyr ofyn am eglurhad cyn dechrau ar asesiad.
  • Tynnwch sylw’r myfyrwyr at y gwahaniaeth rhwng meini prawf a safonau (y beth a’r pa mor dda – a sut y caiff hyn ei amlygu yn eich disgyblaeth chi).
  • Bydd neilltuo amser i ymarfer marcio cymheiriaid yn defnyddio’r meini prawf perthnasol gyda thrafodaeth grŵp ddilynol yn helpu myfyrwyr i ddeall y broses yn well.
  • Bydd annog myfyrwyr i farcio eu gwaith eu hunain cyn cyflwyno gan ddefnyddio’r meini prawf priodol hefyd yn eu helpu i ddeall y broses yn well.
  • Gall fod yn ddefnyddiol iawn defnyddio enghreifftiau patrymol i ddangos y meini prawf a’r safonau gydag enghreifftiau penodol. Gall hyn gynnwys myfyrwyr yn marcio enghraifft yn ystod y sesiwn, gyda thrafodaeth ddilynol; enghreifftiau wedi’u hanodi sy’n rhoi cipolwg i’r myfyrwyr ar y broses farcio; neu sesiynau adborth byw lle mae myfyrwyr yn cyflwyno detholiadau o waith sydd ar y gweill a ddefnyddir (yn ddienw) i ddangos y broses farcio i’r grŵp cyfan. Yna mae hyn yn caniatáu ar gyfer cwestiynau ac eglurder ar y penderfyniadau mae marciwr yn eu gwneud wrth weithio drwy gyflwyniad. Efallai y bydd staff yn poeni bod myfyrwyr yn ystyried yr enghreifftiau fel “yr unig ffordd gywir” i ymateb i gyfarwyddyd asesiad – gall darparu amrywiaeth o enghreifftiau, yn enwedig rhai da, wrthweithio’r duedd hon. Gellir defnyddio mathau gwahanol o enghreifftiau:
    • Efallai mai ‘gwir’ aseiniadau yw’r gorau oherwydd eu cymhlethdod cynhenid (cyhyd â bod myfyrwyr y defnyddir eu gwaith yn cydsynio a bod y gwaith yn ddienw).
    • Gall enghreifftiau sydd wedi’u llunio wneud y nodweddion asesu’n fwy gweladwy.
    • Gallai detholiadau (yn hytrach na darnau llawn) fod yn fwy priodol pan fydd myfyrwyr yn dechrau edrych am y meini prawf a sut i’w trosi i’r gwaith yn ogystal â lleddfu pryderon staff am lên-ladrad.

Yn ystod yr asesiad

  • Defnyddiwch yr un iaith: gwneud y cysylltiad rhwng meini prawf asesu, safonau pwnc, a safonau’r brifysgol yn glir drwy ddefnyddio’r un derminoleg mewn adborth ag sy’n ymddangos yn y meini prawf asesu a’r datganiadau meincnodi pwnc.
  • Os bydd marcwyr lluosog yn ymwneud â gwahanol grwpiau o fyfyrwyr ar yr un asesiad, gall cael enghreifftiau i gyfeirio atynt helpu i sicrhau safonau clir ar draws carfannau mwy o faint.

Ar ôl yr asesiad

  • Cyfeiriwch y myfyrwyr yn ôl at y meini prawf asesu a’r trafodaethau blaenorol pan fyddant yn cael adborth a marciau.
  • Pwysleisiwch y gwahaniaeth rhwng meini prawf a safonau.

Dyw cyflwyno’r meini prawf asesu i’r myfyrwyr ddim yn ddigon. Mae’n hanfodol fod staff yn nodi ac yn egluro’r gwahaniaeth rhwng meini prawf a safonau ac yn egluro iaith y meini prawf asesu drwy archwilio’r wybodaeth ddealledig sydd gan staff yn sgil eu profiad. Bydd defnyddio enghreifftiau a thrafodaethau grŵp ar y rhain i bwysleisio sut mae meini prawf a safonau’n trosi i gyflwyniad yn cynnig cipolwg i’r myfyrwyr ar y broses farcio sy’n eu galluogi i ddeall yn well yr hyn y gofynnir iddynt ei wneud. Yn olaf, dylai staff annog myfyrwyr yn barhaus i wneud defnydd o argaeledd y meini prawf asesu wrth weithio ar eu hasesiadau, a dylai hyn alluogi’r myfyrwyr i deimlo eu bod wedi cael paratoad gwell a bod ganddynt well ffocws yn eu hymatebion.

Cyfeiriadau

References:

Molesworth, M., Scullion, R., and Nixon, E. (eds.) (2011) The Marketisation of Higher Education and the Student as Consumer, London: Routledge

Worth, N. (2014) ‘Student-focused Assessment Criteria: Thinking Through Best Practice’, Journal of Geography in Higher Education, 38:3, pp. 361-372; DOI: 10.1080/03098265.2014.919441

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*