Cyfarchion oddi wrth eich Arbenigwr Dysgu Ar-lein newydd arall.

Sut mae, pawb!
Fy enw i yw Lara, ac rwyf newydd ymuno â’r Tîm Gwella Dysgu ac Addysgu am y chwe mis nesaf. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gyflwyno fy hun.
Rwy’n hanu’n wreiddiol o’r Almaen, Bafaria i fod yn fanwl gywir. Cefais fy magu yn yr Alpau, ac rwy’n dal i weld eisiau’r mynyddoedd o bryd i’w gilydd. Ond mae’r môr, a bryniau Cymru gystal bob tamaid.

Cadwyn o fynyddoedd dramatig ym Mafaria Uchaf. © Lara Kipp
Mynyddoedd ym Mafaria Uchaf. © Lara Kipp
Machlud haul yn Aberystwyth, yn dangos silwét o'r Pier. © Lara Kipp
Machlud haul yn Aberystwyth. © Lara Kipp

Ddes i i Aberystwyth yn 2009 i astudio gradd Anrhydedd Gyfun mewn Senograffeg a Dylunio Theatr a Drama ac Astudiaethau Theatr. Syrthiais mewn cariad ag Aberystwyth, y lle, a’r bobl. Wrth i’m hastudiaethau israddedig ddirwyn i ben, argymhellodd un o’m tiwtoriaid fy mod yn gwneud cais am y rhaglen Mynediad at Radd Meistr, felly fe wnes i. Yn anffodus, nid yw’r fenter wych hon gan yr UE yn bodoli bellach. Fel rhan o’r rhaglen hon, astudiais ar yr MA Ymarfer Theatr a Pherfformio, ac fe’m partnerwyd gyda’r Tŷ Gloÿnnod Byw yng Nghwm Rheidol. Ymgeisiais am PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, gydag anogaeth fy ngoruchwyliwr MA, a’m helpodd i ddatblygu cynnig. Cefais gynnig yr Ysgoloriaeth Ddoethurol i Ddatblygu Gyrfa. Un wythnos ar ôl fy arholiad llafar – yr arholiad terfynol ar gyfer PhD – cefais gynnig swydd ddarlithio amser llawn ym Mhrifysgol Derby yng nghanolbarth Lloegr.
Er eu bod yn dweud na fyddwch chi byth yn gadael Aberystwyth os arhoswch chi yma am fwy na phum mlynedd, ar ôl saith mlynedd codais fy mhac a symud o lan y môr i’r lle pellaf o’r môr ym Mhrydain… ond, fel y gallwch ddyfalu o’r ffaith fy mod yn ysgrifennu hwn, fe’m denwyd yn ôl i Aber mewn dim o dro. Dychwelais i fy alma mater i ymgymryd â gwaith dysgu sesiynol a rhan-amser, gan gynnig gweithdai llawrydd, a thiwtora preifat ochr yn ochr â hynny. Dechreuais ddysgu Cymraeg, sydd wedi bod yn llawer o hwyl ac yn rhywbeth y buaswn yn ei argymell i bawb, yn enwedig y rhai sydd fel arfer mewn swydd ddysgu. Mae’n hynod ddefnyddiol rhoi ein hunain yn esgidiau dysgwyr o bryd i’w gilydd.
Rwyf wedi mwynhau dysgu erioed, ac roeddwn yn ffodus iawn fy mod wedi cael athrawon eithriadol drwy gydol fy addysg, yn enwedig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Nawr fy mod i ar yr ochr arall, rwy’n ymdrechu’n barhaus i fod yn addysgwr o’r math hwnnw: un sy’n ennyn ymddiriedaeth eu dysgwyr ac yn eu hannog i wneud eu gorau. Ymuno â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu yw’r cam nesaf i mi, i ddatblygu ffyrdd o gynorthwyo staff â’u holl anghenion addysgu a dysgu. Yn awr yn fwy nag erioed, mae hyn yn waith hanfodol, wrth i bob un ohonom ddysgu i ddygymod ag argyfwng digynsail pandemig byd-eang, ac ymdrechu i leihau ei effaith ar ein myfyrwyr.
Os oes gennych ddiddordeb yn fy ymarfer creadigol, fy ymchwil neu fy nghyhoeddiadau, mae rhagor o wybodaeth ar fy ngwefan bersonol [dim ond Saesneg].