
Wrth inni symud tuag at ddysgu wyneb yn wyneb eto, hoffem atgoffa’r staff nad ydynt ar eu pen eu hunain o ran ailaddasu i ddysgu wyneb yn wyneb, a allai newid eto o ran maint y grwpiau, y dulliau o ddarparu’r dysgu, cadw pellter, a masgiau. Bydd yr eitem hon ar ein blog yn trafod yr offer arferol yn yr ystafelloedd dysgu a sut i ymdrin â disgwyliadau myfyrwyr, yn ogystal â chyfeirio’r staff tuag at adnoddau perthnasol ar gyfer yr agweddau hynny.
Offer Arferol yr Ystafelloedd Dysgu
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth wedi datblygu canllawiau ar ddefnyddio’r offer dysgu arferol yn yr ystafelloedd dysgu canolog. Gallwch wylio rhestr o fideos sy’n arddangos yr offer yn yr ystafelloedd dysgu.
Mae’n bosibl y bydd trefn fanylach o ran hylendid a phrotocolau Iechyd a Diogelwch yn dal i fod ar waith ym mis Medi, felly sicrhewch fod gennych y wybodaeth ddiweddaraf yn eu cylch, gan gynnwys systemau unffordd mewn adeiladau, amseroedd cyrraedd/gadael graddol ar gyfer staff a myfyrwyr, gorsafoedd glanhau, a chynlluniau eistedd.
Mae arnom eisiau atgoffa’r staff hefyd o bolisi recordio darlithoedd y Brifysgol – fe allai dychwelyd at ddysgu wyneb yn wyneb olygu dychwelyd at recordio darlithoedd byw. Bydd nifer o fanteision i wneud recordiadau o ddarlithoedd wrth i ni fynd nôl i ddysgu wyneb yn wyneb. Os bydd myfyrwyr yn methu bod yn bresennol mewn darlith oherwydd salwch gallant ddal i fyny â’r gwaith yn haws. Ac os yw myfyrwyr yn gwybod bod recordiadau o ddarlithoedd ar gael, gallant osgoi dod i ganol pobl os nad ydynt yn teimlo’n hwylus. Mae’r cwbl hyn yn ein cynorthwyo â’r gwaith o warchod iechyd a lles pawb ledled y Brifysgol. Os ydych yn ansicr o gwbl, edrychwch eto ar ein rhestr o fideos ar Panopto.
Efallai nad yw eich adran mewn ystafell ddysgu ganolog, a bod offer gwahanol i’r offer canolog arferol ar gael. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r asesiadau risg perthnasol ar gyfer eich mannau dysgu a gwiriwch sut orau i’w rhoi ar waith gyda’r person priodol yn eich adran.