Pwysigrwydd llawlyfrau modiwl cynhwysfawr (Llysgenhadon Dysgu)

Ysgrifennwyd gan Nathalia Kinsey, Hanes a Hanes Cymru

Un o’r pethau a drafodwyd yn ystod y prosiect Llysgenhadon Dysgu oedd mor ddefnyddiol y gall llawlyfrau modiwl fod i fyfyrwyr. Trwy gydol fy nhair blynedd yn yr adran Hanes, llawlyfrau modiwlau oedd prif ffynhonnell y wybodaeth allweddol am bob modiwl. Yn aml, byddwn yn lawrlwytho llawlyfrau modiwlau ar ddechrau’r semester a’u cadw ar fy mwrdd gwaith, er mwyn gallu cyrraedd atynt yn hawdd pan fyddai arnaf angen cipolwg ar feini prawf marcio traethawd, cadarnhau dyddiad cyflwyno, neu weld beth oedd angen i mi ei ddarllen ar gyfer fy seminar nesaf. Roedd cael yr holl wybodaeth allweddol hon mewn un ddogfen yn golygu fy mod yn gwybod ble i edrych pan fyddai arnaf angen rhywbeth, heb orfod chwilio trwy Blackboard, yn pendroni lle’r oedd darlithydd wedi rhoi darn penodol o wybodaeth. Y wybodaeth allweddol a gynhwyswyd yn y llawlyfrau oedd:

  • manylion cyswllt y darlithydd;
  • cyflwyniad byr i’r modiwl;
  • rhestrau wedi’u rhifo o deitlau darlithwyr a seminarau, gyda gwybodaeth am y paratoadau angenrheidiol;
  • dyddiadau cau aseiniadau, nifer geiriau a pholisi hyd aseiniad yr adran;
  • dewis o deitlau traethodau (er efallai nad yw hyn yn berthnasol, neu gellid ei addasu ar gyfer adrannau eraill)
  • meini prawf marcio.

Roeddent hefyd yn aml yn cynnwys manylion eraill penodol i’r modiwl, megis map neu goeden deulu, yn ogystal â nodiadau ar gyfeirnodi, ffynonellau cynradd a ddefnyddir yn aml, neu sillafu enwau a allai ymddangos ar amryfal ffurfiau mewn gwahanol destunau. Ar y cyfan, rwyf i ac eraill sy’n cymryd rhan yn y prosiect hwn wedi gweld bod llawlyfrau modiwlau yn ddogfennau hynod ddefnyddiol y byddai’n ddefnyddiol eu cael gan bob adran; maent yn un man lle mae’r holl wybodaeth allweddol am fodiwl ar gael yn hawdd er mwyn ei chadw wrth law.

Enghraifft o lawlyfr modiwl cynhwysfawr:

One thought on “Pwysigrwydd llawlyfrau modiwl cynhwysfawr (Llysgenhadon Dysgu)

  1. Pingback: Prosiect: Beth yw modiwl Blackboard wedi’i gynllunio’n dda? |

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*