Gwybodaeth am Asesiadau – Cyngor Defnyddiol gan Fyfyrwyr (Llysgenhadon Dysgu)

Turnitin icon

Ysgrifennwyd gan Elisa Long Perez, Adran y Gyfraith a Throseddeg

Asesiadau yw’r brif ffordd i ddarlithwyr roi prawf ar wybodaeth myfyrwyr mewn modiwl neu bwnc. I wneud hynny’n bosib, mae angen i fyfyrwyr wybod pa feini prawf y mae disgwyl iddynt eu bodloni, ac yn lle a pha bryd i gyflwyno’r asesiadau. Mewn rhai modiwlau, nid yw’r wybodaeth hanfodol hon yn ddigon hawdd dod o hyd iddi. 

Yn ystod gweithgareddau profi defnyddioldeb y prosiect Llysgenhadon Dysgu, sylwais fod rhai modiwlau nad oeddent yn cynnwys meini prawf marcio neu nad oedd yn hawdd i fyfyrwyr ddod o hyd i’w meini prawf marcio. Heb y ddogfen allweddol hon mae myfyrwyr yn aml yn ansicr ynglŷn â sut y dylid mynd i’r afael â’u haseiniadau, gan arwain at farciau is. Roedd problemau eraill y sylwais arnynt yn ymwneud â phwyntiau cyflwyno a dyddiadau cyflwyno. Roedd pwyntiau cyflwyno yn aml yn cael eu cynnwys ar waelod yr adran Asesu ac Adborth neu mewn adran hollol wahanol. Gallai hyn olygu bod myfyrwyr yn methu â chyflwyno eu haseiniadau mewn pryd neu’n methu eu cyflwyno o gwbl. Yn ail, os nad yw’r dyddiad cyflwyno’n cael ei bwysleisio’n ddigonol neu os yw’n hawdd ei fethu, mae’r un peth yn digwydd; ni fydd myfyrwyr yn gwybod pa bryd i gyflwyno eu haseiniadau ac efallai y byddant yn rhuthro i gyflwyno ar y funud olaf neu’n methu â chyflwyno mewn pryd.

Fy nghyngor i staff addysgu fyddai: cynhwyswch y meini prawf marcio yn yr adran Asesu ac Adborth bob amser, yn ogystal â llawlyfr y modiwl; gwnewch yn siŵr bod y pwyntiau cyflwyno ar frig yr adran ac amlygwch y dyddiad cau mewn print trwm; anfonwch nodyn atgoffa un mis, un wythnos ac un diwrnod cyn y dyddiad cyflwyno.  

Ysgrifennwyd gan Gabriele Sidekerskyte, Ysgol Fusnes Aberystwyth

Roedd bod yn rhan o’r grŵp Llysgenhadon Dysgu yn un o’r prosiectau mwyaf diddorol i mi gymryd rhan ynddo yn y Brifysgol. Rwy’n falch iawn fy mod wedi gallu defnyddio fy mhrofiad fel myfyriwr i wella Blackboard a gwella profiad myfyrwyr eraill ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r ffaith mai myfyrwyr sy’n penderfynu sut y dylai modiwlau Blackboard edrych a’r hyn y dylent ei gynnwys yn anhygoel gan mai myfyrwyr sydd ac a fydd yn ei ddefnyddio, felly eu barn hwy sydd bwysicaf.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn ystod y pandemig, roedd Blackboard yn rhan bwysig iawn o fy mywyd fel myfyriwr. Deuthum ar draws rhai problemau fel cyrraedd at ddeunyddiau darllen ac aseiniadau. Mae’r rhestrau darllen a ddarperir gan gydlynwyr modiwlau yn wych, fodd bynnag, nid yw’r holl ddeunydd darllen ar gael i fyfyrwyr bob amser. Mae’n hanfodol sicrhau bod yr holl ddeunyddiau ar y rhestrau darllen ar gael ar ffurf electronig.

O ran yr adran Asesu ac Adborth, yr wybodaeth bwysicaf a gynhwysir yno yw: y dyddiad cyflwyno a’r pwynt cyflwyno, gofynion aseiniadau, marciau ac adborth. Er bod rhai modiwlau yn cynnwys yr wybodaeth hon yn llawlyfr y modiwl, mae’n llawer haws ac yn fwy greddfol os caiff yr wybodaeth ei chynnwys yn yr adran Asesu ac Adborth. Byddai’n ddelfrydol pe bai dyddiad cyflwyno pob aseiniad yn cael ei ddarparu cyn gynted ag y bo modd er mwyn i fyfyrwyr gael cynllunio eu hamser yn effeithiol. Os caiff y dyddiad cyflwyno ei ymestyn, dylid cyhoeddi hynny’n glir i bawb. Dylid cynnwys pynciau aseiniadau, gofynion, unrhyw lenyddiaeth a gwerth yr aseiniad i farc cyffredinol y modiwl hefyd yn yr adran Asesu ac Adborth, yn yr un man lle bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith. Yn yr un modd, dylid cyfleu’n glir pa bryd y caiff y myfyrwyr ddisgwyl cael eu marciau a’r hadborth, yn enwedig os yw’r amser yn newid. Rwy’n credu y byddai’n wych pe bai’r myfyrwyr yn cael gwybod cyn gynted ag y bo’r marc a’r adborth ar gael. Dylai’r adborth fod yn glir ac yn fanwl, gydag enghreifftiau ac esboniadau o’r camgymeriadau a wnaed ac awgrymiadau ar gyfer gwelliannau. Dyma’r unig ffordd y gall y myfyrwyr wella. 

Gobeithio y bydd fy ngeiriau’n cael eu hystyried. Fe wnes i fwynhau’r profiad yma ac rwy’n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn gwella profiad pawb o Blackboard. Roedd gwaith tîm a threfniadaeth y prosiect yn wych, roedd hyd y cyfarfodydd yn berffaith, ac roedd y gweithgareddau’n ddiddorol. Diolch am y profiad.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*