Fforwm Academi 2: Cynllunio Dysgu Cyfunol

Cynhelir ein Fforwm Academi nesaf ar-lein ddydd Iau 2 Rhagfyr, 10yb-11.30yb. Yn y Fforwm Academi hwn, bydd cyfranogwyr yn rhannu eu profiadau a’u dulliau o gynllunio dysgu cyfunol.

Mewn ymateb i’r pandemig, bu’n rhaid i lawer ohonom addasu ein harferion addysgu’n sylweddol. I’r rhan fwyaf, roedd hyn yn dibynnu ar gynnydd yn y defnydd o dechnoleg a gweithgareddau ar-lein i fyfyrwyr ymgymryd â hwy yn eu hamser eu hunain yn anghydamserol. Mae Cynllunio Dysgu Cyfunol yn edrych ar sut y gallech ddefnyddio neu integreiddio rhyngweithiadau ar-lein wrth addysgu wyneb yn wyneb.

Bydd cyfranogwyr yn myfyrio ar eu dulliau presennol o addysgu a sut maent yn cynllunio gweithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Byddwn yn edrych ar rai fframweithiau a fydd o gymorth wrth gynllunio ar gyfer dysgu cyfunol ac yn meddwl am strategaethau ar gyfer integreiddio addysgu ar-lein yn llwyddiannus i ryngweithiadau wyneb yn wyneb, a rhyngweithiadau wyneb yn wyneb i addysgu ar-lein.

Edrychwch ar ein trosolwg o Fforymau Academi sydd i ddod ac archebwch eich lle ar-lein.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni: udda@aber.ac.uk.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*