Prosiect: Beth yw modiwl Blackboard wedi’i gynllunio’n dda?

Distance Learner Banner

Ysgrifennwyd gan Ania Udalowska

Gall modiwl Blackboard wedi’i gynllunio’n dda olygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Gofynnon ni i’n grŵp o Lysgenhadon Dysgu Myfyrwyr drafod beth mae modiwl wedi’i gynllunio’n dda’n ei olygu iddyn nhw. Rhennir canfyddiadau’r drafodaeth hon yn gategorïau fel y gwelir isod.

Gwybodaeth Modiwl

Amserlen addysgu – dangos yr hyn sy’n ddisgwyliedig drwy gydol y semester (a gynhelir drwy gydol cynllun y modiwl mewn ffolderi). Nid oes angen rhyddhau’r holl gynnwys ar ddechrau’r modiwl o reidrwydd ond yn hytrach map yn dangos i fyfyrwyr yr hyn sydd angen iddynt gynllunio ar ei gyfer. Lawrlwythwch y templed amserlen addysgu:

Llawlyfr modiwl – esboniodd un o’r myfyrwyr fod y llawlyfr bron fel contract rhwng myfyriwr a chydlynydd modiwl. Dylai gynnwys yr holl wybodaeth hanfodol (a all fod, ac mewn rhai achosion, a ddylai fod hefyd yn gynwysedig mewn gwahanol adrannau e.e. yr holl wybodaeth yn ymwneud ag asesu yn Asesu ac Adborth). Edrychwch ar y blog hwn ar lawlyfrau cynhwysfawr.

Cwestiynau Cyffredin ar y modiwl – Gellid cynhyrchu cwestiynau cyffredin drwy gydol y modiwl yn seiliedig ar ymholiadau a ddaw i law y cydlynydd modiwl ac yna eu defnyddio i helpu myfyrwyr y dyfodol e.e. pa werslyfr yw’r gorau / sut ydych chi’n trefnu’r aseiniad / awgrymiadau am adnoddau i helpu gyda chysyniad anodd ac ati. Gallech ddefnyddio swyddogaeth y bwrdd trafod i holi myfyrwyr am gwestiynau yr hoffent gael atebion iddynt.

Fideo cyflwyno byr – byddai’n braf cynnwys fideo sy’n croesawu myfyrwyr i’r modiwl, egluro sut i lywio drwyddo ac amlinellu’n fyr sut fydd yr amserlen addysgu’n edrych. Does dim rhaid iddo fod yn hir nag yn ffurfiol!

Deunyddiau Dysgu

Ffolderi – dylai’r cynnwys fod wedi’i rannu’n wythnosau (neu bynciau). Dylai gyd-fynd â’r amserlen addysgu. Mae cysondeb o fewn ffolderi’r un mor bwysig, ceisiwch gynnwys yr un math o ddeunyddiau dysgu ym mhob ffolder (gallwch ddefnyddio eiconau bach i nodi’r math o weithgaredd) a’u cadw mewn trefn gyson:

  • Tasgau paratoi sesiwn fyw – eglurwch yr hyn sydd angen ei wneud.
  • Dolenni Teams at sesiynau byw.
  • Darlithoedd wedi’u recordio ymlaen llaw (darnau clir/bach a dim sŵn cefndir)
  • Sleidiau darlith a thaflenni darlith gyda lle i wneud nodiadau (sut i drosi sleisiau PowerPoint yn daflenni)
  • Gweithgareddau i’w cwblhau sy’n rhoi canlyniadau/adborth ar unwaith i brofi gwybodaeth. Gallech ddefnyddio profion Blackboard neu gwisiau Panopto.
  • Enghreifftiau, sy’n cysylltu damcaniaeth â’r byd real cymaint â phosibl.
  • Darllen – pa eitemau o’r rhestr ddarllen sy’n cyfeirio at gynnwys yr wythnos honno.

Nodwch: Lle bo’n bosibl defnyddiwch ‘review status and adaptive release’ – mae myfyrwyr yn gwneud cynnydd ar gyflymder gwahanol, mae’n well gan rai bod y cynnwys i gyd yn cael ei ryddhau ar unwaith, eraill mewn camau. Mae gweithredu fel hyn yn rhoi rheolaeth i’r myfyrwyr dros faint o gynnwys maen nhw’n ei weld ar yr un pryd a gall eu helpu i gadw trefn.

Asesu ac Adborth

  • Amlinelliad o bob aseiniad yn y modiwl gan gynnwys eu pwysau ar farc cyffredinol y modiwl.
  • Pwyntiau cyflwyno (ynghyd â chanllaw ar sut i gyflwyno) – dylai’r rhain fod ar frig yr adran, er mwyn bod yn hawdd dod hyd iddynt.
  • Cyfeireb marcio i bob aseiniad.
  • Hen bapurau neu enghreifftiau o aseiniadau
  • Canllaw cyfeirnodi cynhwysfawr a chanllaw arddull yr adran.
  • Arweiniad a thempledi ar strwythur asesiad ynghyd ag awgrymiadau ar arddull ysgrifennu.
  • Cwestiynau cyffredin ar aseiniadau – unwaith eto gellid eu cynhyrchu gan fyfyrwyr. Gallech hefyd ychwanegu adran ‘gwallau cyffredin’ i’r myfyrwyr allu eu hosgoi.
  • Esboniad ar sut i gael marciau ac adborth a sut i geisio eglurhad ar yr adborth.
  • Dolen at Fy Marciau (sydd ar hyn o bryd wedi’i gynnwys yn yr Offer).

Rhestr Ddarllen

Fel y nodwyd uchod mae’n well gan fyfyrwyr bod darllen yn cael ei gynnwys gyda’r deunyddiau dysgu, er mwyn iddynt wybod pa adnodd sy’n cyfeirio at ba ran o’r modiwl. Maen nhw’n hoffi i’w rhestrau darllen gael eu categoreiddio yn ôl wythnosau neu bynciau (sy’n cyd-fynd â’r amserlen addysgu) a nodi pa fath o adnodd yw pob eitem e.e. llyfr ffisegol, e-lyfr, erthygl ac ati. Maen nhw’n gwerthfawrogi os yw staff yn ychwanegu dim ond eitemau hygyrch i’r rhestr ac yn amrywio’r mathau o adnoddau a gynhwysir, gyda mwy na llyfrau ac erthyglau cyfnodolion yn unig.

Cyfathrebu

Dylai’r adran Cysylltiadau gynnwys yr holl staff sy’n ymwneud â’r modiwl gan egluro beth yw eu rôl er mwyn i’r myfyrwyr wybod at bwy y dylid anfon unrhyw ymholiad. Mae oriau swyddfa cyfredol ynghyd â gwybodaeth ar sut i drefnu cyfarfod yn hanfodol. Mae myfyrwyr hefyd yn gwerthfawrogi pan fydd staff yn gadael iddynt wybod pan na fyddant ar gael i ateb eu hymholiadau.

Gellid defnyddio byrddau trafod i gyfathrebu gyda myfyrwyr a chasglu eu cwestiynau. Byddai’n werth troi’r hysbysiadau bwrdd trafod ymlaen er mwyn i fyfyrwyr wybod pan fydd eu cwestiwn wedi’i ateb.

Help a Chefnogaeth – roedd myfyrwyr hefyd yn meddwl ei fod yn werth darparu cysylltiadau ag adrannau eraill y gallent fod angen cysylltu â nhw e.e. eu Llyfrgellydd Pwnc, y Cynrychiolydd Myfyrwyr a Swyddog Materion Academaidd Undeb y Myfyrwyr yn ogystal â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ar gyfer unrhyw ymholiadau e-ddysgu. Mae’r modiwl Cefnogi eich Dysgu i fyfyrwyr yn cynnwys tudalen Gymorth gyda rhestr gynhwysfawr o gysylltiadau y gallech ddymuno cysylltu â nhw.

Awgrymiadau eraill

Labelu’n glir – gwnewch yn siŵr eich bod yn labelu eitemau’n glir e.e. yn lle ‘Tasg Paratoi’ > ‘Mawrth, 20/07 Seminar – tasg paratoi’ a defnyddiwch iaith sy’n ddealladwy i’r myfyrwyr e.e. wyneb yn wyneb yn lle cyfamserol.

Diweddaru – gwiriwch fod y wybodaeth yn gyfredol – yn enwedig manylion cyswllt a therfynau amser asesiadau.

Prydlondeb – byddwch yn gyson wrth uwchlwytho deunyddiau ar amser. Pan nad yw hyn yn bosibl, rhowch wybod i’r myfyrwyr.

Hygyrch – rhowch y deunyddiau mewn gwahanol fformatau e.e. pdf, Word a gwnewch yn siŵr eu bod yn hygyrch.

Cyswllt – byddwch yn bresennol yn y modiwl (yn enwedig os yw oriau cyswllt yn gyfyngedig) – dywedodd un o’r myfyrwyr oedd yn gweithio ar y prosiect: ‘roedd y darlithydd yn gwneud fideo byr bob wythnos i gyflwyno’r wythnos – roedd hyn yn ddifyr ac yn cymell gan fod brwdfrydedd y darlithydd yn amlwg ac yn cadw lefel y diddordeb yn uchel’

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*