Croeso i staff newydd sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth

Distance Learner Banner

Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.

Mae’r holl wybodaeth fyddwch chi ei hangen ar dudalennau gwe’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Bydd ein tudalennau gwe Cefnogi eich Addysguyn eich helpu gydag amrywiol ddatrysiadau addysgu.

Rydym ni’n ysgrifennu blog gyda’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.

Os bydd angen i chi gysylltu â ni gallwch wneud hynny ar un o ddau gyfeiriad ebost:

  • udda@aber.ac.uk (am gwestiynau addysgegol a chynllunio, neu i drefnu ymgynghoriad) neu
  • eddysgu@aber.ac.uk (am ymholiadau technegol ynghylch ein harlwy e-ddysgu a restrir isod)

Cyflwyniad i’r arlwy e-ddysgu

Amgylchedd Dysgu Rhithwir: Blackboard

Mae gan bob modiwl ei gwrs penodol ei hun yn Blackboard. Mae gan y modiwlau hyn gynnwys ar-lein, fel rhestrau darllen, a manylion staff addysgu. Dyma’r prif bwynt cyswllt am wybodaeth i’ch myfyrwyr ar unrhyw fodiwl, gan gynnwys mynediad at ddarlithoedd wedi’u recordio a chyflwyno aseiniadau. Mae gan y Brifysgol bolisi Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboardar gyfer pob modiwl.

Cipio Darlithoedd: Panopto

Wrth addysgu wyneb yn wyneb, byddwch yn ymwybodol y dylid recordio pob darlith (hynny yw, addysgu lle mae’r ffocws ar drosglwyddo gwybodaeth o staff i fyfyrwyr) yn defnyddio Panopto, ein meddalwedd Cipio Darlithoedd. Gweler manylion ein Polisi Cipio Darlithoedd.

E-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r holl waith testun a phrosesu geiriau yn electronig fel yr amlinellir ym mholisi E-gyflwyno’r Brifysgol. Ar gyfer hyn rydym ni’n defnyddio’r teclynau e-gyflwyno Turnitin a Blackboard Assignment. Mae Turnitin yn darparu swyddogaeth paru testun awtomatig.

Offer Pleidleisio: Vevox

Vevox yw offer pleidleisio Prifysgol Aberystwyth. Gellir cynnal pleidleisiau mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu, yn ogystal â chyfarfodydd, er mwyn creu sesiynau sy’n rhyngweithiol a chydweithredol, a cheir llawer o bosibiliadau gwahanol o ran defnydd.

Adnoddau a rhagor o gymorth

Mae gennym ni nifer o Ganllawiau a Chwestiynau Cyffredini’ch helpu i ddefnyddio ein meddalwedd.

Hyfforddiant

Er mwyn cefnogi’r holl staff gyda’u haddysgu, mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal nifer o sesiynau hyfforddi. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • sesiynau ymarferol i staff ymgyfarwyddo â gwahanol elfennau o’r amgylchedd dysgu rhithwir,
  • yr agenda Dysgu Gweithredol,
  • asesu ac adborth,
  • hygyrchedd,
  • sgiliau cyflwyno, a mwy.

Rydym ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau a rhaglenni hyfforddi. Ceir manylion am ein rhaglen DPP flynyddol a gallwch archebu eich lle drwy ein Tudalen Archebu Cwrs. Rydym ni’n cyflwyno rhai sesiynau ein hunain, tra bo eraill yn cael eu cyflwyno gan staff y brifysgol y mae eu haddysgu’n cynnwys arfer da yn y meysydd hynny. Edrychwch am (D&A) yn nheitl y sesiwn.

Digwyddiadau

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu FlynyddolCynadleddau Bach, Gwyliau Bach a Fforymau Academi. Mae’r rhain i gyd yn gyfleoedd gwych i gyfarfod â phobl o bob rhan o’r brifysgol i drafod materion a datblygiadau’n ymwneud â Dysgu ac Addysgu.

Rhaglenni

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu hefyd yn cynnal rhaglenni i gefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyn yn cynnwys rhaglen Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth (TPAU) a’r Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (PGCTHE) ar lefel Meistr a Chynllun Cymrodoriaeth (ARCHE).

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 27/8/2024

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein

Awst

Medi

Adnoddau a chyhoeddiadau – Deallusrwydd Artiffisial (DA)

Adnoddau a chyhoeddiadau – Arall

Arall

  • Call for proposals (open dates) Unfiltered by EmpowerED: A Podcast Series where educators share unedited stories of inspiration and challenge
  • Call for proposals 18/9/2024 Active Learning Network New ALN Co-created Book
  • Call for proposals 27/9/2024 RAISE Network Student Engagement in HE Journal special issue on Engaging with Student Voice
  • Monthly series European Network for Academic Integrity, ENAI monthly webinars free open webinars on various topics related to academic integrity
  • Subscribe to SEDA’s mailing list for email discussions about educational development and emerging teaching practices. This is one of the sources I use when identifying useful material for the Roundup.
  • Join the #LTHEchat on Twitter Wednesday nights for one hour of lively discussion about learning and teaching in HE. I often find out about good resources for the Roundup from the chat.

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Croeso i Flwyddyn Academaidd 2024-25: Diweddariadau i Blackboard ar gyfer myfyrwyr

Croeso cynnes i fyfyrwyr newydd sy’n ymuno â ni a’r rhai sy’n dychwelyd i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn y blogbost hwn, byddwn yn amlinellu’r newidiadau a wnaed i’ch amgylchedd dysgu digidol, Blackboard, yn barod ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2024-25.

Os oes angen cymorth arnoch i ddefnyddio Blackboard, gweler ein Canllaw i Fyfyrwyr sy’n cynnwys pob math o wybodaeth ddefnyddiol.

Mae gennym hefyd gwestiynau cyffredin ar gael ar gyfer yr offer eraill yr ydym yn eu cefnogi, gan gynnwys Turnitin ar gyfer e-gyflwyno a Panopto ar gyfer cipio darlithoedd.

Templed wedi’i ddiweddaru

Mae’r holl gyrsiau wedi cael eu creu eleni gan ddefnyddio templed ychydig yn wahanol.

Mae Gwybodaeth am y Modiwl ac Asesu ac Adborth wedi’u disodli gan Fodiwlau Dysgu. Mae Modiwlau Dysgu yn cynnig ffordd fwy gweledol i chi drefnu’ch cynnwys.

Yn Gwybodaeth am y Modiwl gallwch ddisgwyl dod o hyd i eitemau sy’n ymwneud â gweinyddu’r cwrs.

Yn Asesu ac Adborth gallwch ddisgwyl dod o hyd i’ch mannau cyflwyno, briffiau aseiniadau a meini prawf marcio.

Efallai y gwelwch fod eich darlithwyr hefyd wedi defnyddio Modiwlau Dysgu ar gyfer eich Deunyddiau Dysgu.

Olrhain Cynnydd

Newid arall yw bod Olrhain Cynnydd wedi’i droi ymlaen yn ddiofyn ar yr holl gynnwys ar eich cwrs. Mae’r hyn yn eich galluogi i olrhain eich cynnydd eich hun drwy’r cwrs drwy farcio eich bod wedi cwblhau tasgau. Mae Canllawiau Blackboard yn darparu gwybodaeth bellach.

Blackboard Ally

Nodyn i’ch atgoffa ein bod wedi galluogi Blackboard Ally ar eich holl gyrsiau. Mae Blackboard Ally yn caniatáu ichi lawrlwytho cynnwys i wahanol fformatau. Mae hyn yn cynnwys ffeiliau mp3, darllenwyr trochi, a Braille electronig. Am gymorth, edrychwch ar ganllaw Ally

Blackboard Assignment

Byddwn yn cynnal cyfres o sesiynau peilota gyda rhai cyrsiau ar draws y Brifysgol gan ddefnyddio Blackboard Assignment. I’r rhai ohonoch sydd wedi arfer cyflwyno drwy Turnitin, mae Blackboard Assignment yn cynnig swyddogaeth debyg. Mae gennym gwestiwn cyffredin penodol i fyfyrwyr ar Sut i gyflwyno gan ddefnyddio Blackboard Assignment. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth (gg@aber.ac.uk) a’ch adran academaidd.

Mudiadau Adrannol

Yn olaf, cam olaf ein prosiect Ultra oedd symud Mudiadau Adrannol i Ultra. Mae Mudiadau yn debyg i Gyrsiau ond nid ydynt yn fodiwlau y gallwch eu hastudio. Defnyddir mudiadau i roi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am eich Adran. Fe’u defnyddir hefyd at ddibenion hyfforddi a phrofi, fel y cwis Cyfeirnodi a Llên-ladrad. Gallwch gael mynediad i’ch Mudiadau o’r ddewislen ar y chwith yn Blackboard.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch defnyddio Blackboard cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth (gg@aber.ac.uk).

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 8/8/2024

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein

Awst

Medi

Adnoddau a chyhoeddiadau – Deallusrwydd Artiffisial (DA)

Adnoddau a chyhoeddiadau – Arall

Arall

  • Call for proposals (open dates) Unfiltered by EmpowerED: A Podcast Series where educators share unedited stories of inspiration and challenge
  • Call for proposals 18/9/2024 Active Learning Network New ALN Co-created Book
  • Call for proposals 27/9/2024 RAISE Network Student Engagement in HE Journal special issue on Engaging with Student Voice
  • Monthly series European Network for Academic Integrity, ENAI monthly webinars free open webinars on various topics related to academic integrity
  • Subscribe to SEDA’s mailing list for email discussions about educational development and emerging teaching practices. This is one of the sources I use when identifying useful material for the Roundup.
  • Join the #LTHEchat on Twitter Wednesday nights for one hour of lively discussion about learning and teaching in HE. I often find out about good resources for the Roundup from the chat.

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Beth sy’n Newydd yn Blackboard Learn Ultra – Awst 2024

Mae’r diweddariad i Blackboard Learn Ultra ym mis Awst yn cynnwys gwelliannau i Ddogfennau Ultra, Ffurflenni, Amodau Rhyddhau a Thrafodaethau.

Gwelliannau i Ddogfennau yn Blackboard Learn Ultra

Roedd y diweddariad i Blackboard Learn Ultra ym mis Awst yn cynnwys gwelliannau i nodweddion creu a golygu Dogfennau Blackboard Learn Ultra . 

I’r rhai sy’n anghyfarwydd â Dogfennau, maent yn ffordd hawdd o greu cynnwys yn Ultra, gan sicrhau eu bod yn cydweddu â dyfeisiau symudol a Blackboard Ally. Gan fod y diweddariad hwn yn golygu newid sylweddol i’r modd y caiff cynnwys ei drefnu, mae gennym flog ar wahân sydd ar gael yma.

Ymatebion dienw i fyfyrwyr ar gyfer Ffurflenni

Mae ymatebion dienw mewn ffurflenni yn annog adborth gonest a didwyll gan fyfyrwyr ac yn helpu cyfranogwyr i deimlo’n ddiogel gan wybod bod eu hunaniaeth yn cael eu diogelu. Mae anhysbysrwydd yn arwain at ymatebion mwy dilys sy’n cyfleu gwir farn a phrofiadau’r ymatebwyr. Yn ogystal, mae’n cynyddu cyfraddau cyfranogi ac ansawdd cyffredinol y canlyniadau.

Gall hyfforddwyr nawr gasglu cyflwyniadau dienw mewn Ffurflenni. Mae’r opsiwn Cyflwyniadau dienw newydd ymddangos yn yr adran Graddio a Chyflwyniadau o Gosodiadau Ffurflenni.

Llun 1: Opsiwn cyflwyno dienw

Opsiwn cyflwyno dienw

Pan fyddwch yn dewis Cyflwyniadau dienw, mae’r gosodiadau hyn wedi’u galluogi yn ddiofyn:

  • Erbyn pryd
  • Gwahardd cyflwyniadau hwyr
  • Gwahardd ymdrechion newydd ar ôl dyddiad cyflwyno
  • Dewisir cyflawn/anghyflawn fel y sgema graddio ar gyfer ffurflenni heb eu graddio
  • Wrth raddio, mae’r cyflwyniad yn ennill y pwyntiau a neilltuwyd; ni allwch olygu na diystyru’r pwyntiau a enillir

Manylion pwysig ychwanegol i’w nodi:

  • Ni ellir rhoi ffurflenni dienw i grwpiau.
  • Ni chefnogir sgyrsiau dosbarth pan fydd Cyflwyniadau dienw wedi cael ei ddewis.
  • Er mwyn sicrhau anhysbysrwydd, nid yw gweithgaredd myfyrwyr, eithriadau, esgusodiadau a llety yn cael eu cefnogi.
  • Er mwyn sicrhau anhysbysrwydd, ni chaiff ystadegau/cynnydd myfyrwyr eu cofnodi.
  • Ni chaniateir addasiadau i ffurfio cwestiynau a gosodiadau os oes gan y ffurflen gyflwyniadau a bod y dyddiad cyflwyno wedi pasio.

O’r tab Cyflwyniadau ar gyfer ffurflen, gallwch weld rhestr ddienw o gyfranogwyr myfyrwyr ynghyd â’r wybodaeth a’r opsiynau hyn:

  • Statws cyflwyno myfyrwyr
  • Statws graddio a gradd – Wrth gyflwyno, mae’r statws graddio wedi’i osod i Cwblhawyd ac mae’r radd wedi’i marcio (er enghraifft., 5/5)
  • Post – Ffurflenni wedi’u graddio yn postio’n awtomatig
  • Lawrlwytho’r cyfan – Gallwch lawrlwytho pob ffurflen a gyflwynwyd

I weld ymatebion, dewiswch fyfyriwr anhysbys o’r rhestr. Gallwch roi adborth cyffredinol ar gyfer eu cyflwyniad.

O’r Llyfr Graddau, cyn y dyddiad cyflwyno ar gyfer ffurflen ddienw, mae “Anhysbys” yn ymddangos yn y gell ar gyfer pob myfyriwr. Ar ôl y dyddiad cyflwyno, mae’r celloedd yn dangos:

  • Ar gyfer ffurflenni heb eu graddio, y testun “Cyflwynwyd” neu “Heb ei gyflwyno”
  • Ar gyfer ffurfiau wedi’u graddio, y radd

O’r tab Graddau, gallwch ddewis Lawrlwytho Llyfr Graddau i lawrlwytho ymatebion i ffurflenni gyda chyflwyniadau dienw.

Mae Blackboard wedi cymryd gofal i sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod pryd mae eu cyflwyniad i ffurflen yn ddienw. Mae’r eicon a’r label Anhysbys yn ymddangos ymlaen:

  • y Dudalen Gynnwys
  • y panel Ffurflen lle maent yn dechrau ar yr ymgais ac yn gweld eu cyflwyniad
  • yr adran Manylion a Gwybodaeth sy’n ymddangos wrth ymateb i’r ffurflen

Llun 2: Gwedd myfyrwyr o label ac eicon dienw ar gyfer ffurflen

Gwedd myfyrwyr o label ac eicon dienw ar gyfer ffurflen

Gwelliannau i greu aseiniadau (nid Turnitin)

Mae angen offer cadarn, hawdd eu defnyddio ar hyfforddwyr wrth greu eu hasesiadau.

Er mwyn creu profiad gwell, mae’r dudalen Aseiniad newydd yn cynnwys y gwelliannau hyn:

  • Blwch Cyfarwyddiadau newydd lle gall hyfforddwyr ddefnyddio’r golygydd cynnwys llawn i lunio cyfarwyddiadau aseiniad.
  • Nid oes unrhyw opsiynau i ychwanegu cwestiynau at aseiniad.
  • Mae’r panel Gosodiadau bellach yn cynnwys opsiynau sy’n berthnasol i aseiniadau yn unig.
  • Nid yw ymdrechion gwag bellach yn cael eu creu pan fydd myfyrwyr yn gweld cyfarwyddiadau aseiniad. Mae’r system ond yn creu ymgais pan fydd myfyrwyr yn ychwanegu cynnwys at y parth gollwng ffeil / golygydd cynnwys. Noder: Mae aseiniadau grŵp neu aseiniadau wedi’u hamseru a’u proctora yn parhau i greu ymdrechion pan fydd myfyrwyr yn gweld y cyfarwyddiadau.

Llun 1: Gwedd hyfforddwr o dudalen yr Aseiniad Newydd gyda’r blwch Cyfarwyddiadau newydd

Gwedd hyfforddwr o dudalen yr Aseiniad Newydd gyda'r blwch Cyfarwyddiadau newydd

Llun 2: Gwedd hyfforddwr o ychwanegu cyfarwyddiadau at aseiniad

Gwedd hyfforddwr o ychwanegu cyfarwyddiadau at aseiniad

Llun 3: Gwedd Myfyrwyr o’r panel Gwybodaeth Aseiniad newydd a’r opsiwn Gweld Cyfarwyddiadau

Gwedd Myfyrwyr o’r panel Gwybodaeth Aseiniad newydd a'r opsiwn Gweld Cyfarwyddiadau

Llun 4: Gwedd myfyriwr o gyfarwyddiadau’r aseiniad

Gwedd myfyriwr o gyfarwyddiadau'r aseiniad

Rheolau lluosog ar gyfer amodau rhyddhau

Mae angen i hyfforddwyr ryddhau cynnwys y cwrs yn seiliedig ar feini prawf perfformiad i drefnu myfyrwyr ar lwybrau dysgu’n gywir. Weithiau mae angen iddynt hefyd ryddhau cynnwys i wahanol grwpiau gan ddefnyddio meini prawf gwahanol. Er mwyn cefnogi’r hyblygrwydd hwn sydd ei angen, gall hyfforddwyr nawr greu rheolau lluosog ar gyfer amodau rhyddhau.

Gallwch greu rheolau ar gyfer amodau rhyddhau yn seiliedig ar y meini prawf hyn: dyddiad, amser ac amrediad gradd. Gallwch hefyd greu rheolau ar gyfer dysgwyr unigol penodol, grwpiau, neu ar gyfer pob aelod.

Llun 1: Tudalen newydd Amodau Rhyddhau

Tudalen Amodau Rhyddhau

Y gallu i ‘ddilyn’ trafodaethau ar gyfer ymgysylltu gwell

Mae trafodaethau’n rhan bwysig o brofiad y cwrs, gan ganiatáu ar gyfer cydweithredu hawdd rhwng holl aelodau’r cwrs. Mae’r gallu i ymgysylltu ac ail-ymgysylltu â thrafodaethau yn sicrhau bod cydweithio’n weithredol ac yn fywiog. Gall defnyddwyr ail-ymgysylltu pan fyddant yn gwybod bod negeseuon newydd trwy ddilyn y drafodaeth.

Gwelliannau Allweddol:

  • Dilyn trafodaethau: Gall defnyddwyr ddilyn trafodaethau dethol a derbyn hysbysiadau ar gyfer cyfraniadau newydd gan gyfoedion neu hyfforddwyr.
  • Gosodiadau Hysbysu Defnyddiwr: Mae opsiynau hysbysu newydd ar gyfer lleoliadau Ffrwd Gweithgaredd yn caniatáu i ddefnyddwyr reoli dulliau o hysbysu ar gyfer trafodaethau:
    • Gweithgaredd ar fy ymatebion
    • Gweithgaredd ar ymatebion yr wyf wedi ymateb iddynt
    • Ymatebion gan hyfforddwyr
    • Ymatebion ar gyfer trafodaethau dilynol
    • Ymatebion ar gyfer trafodaethau rwy’n eu dilyn

Llun 1: Opsiwn ‘Dilyn’ newydd o fewn trafodaeth

Opsiwn 'Dilyn' newydd o fewn trafodaeth

Llun 2: Opsiynau hysbysu newydd ar gyfer Ffrwd Gweithgaredd

Opsiynau hysbysu newydd ar gyfer Ffrwd Gweithgaredd

Llun 3: Hysbysiadau yn cael eu cyflwyno i’r Ffrwd Gweithgareddau

Hysbysiadau yn cael eu cyflwyno i'r Ffrwd Gweithgareddau

Pleidleisio ar Vevox: Diweddariad Haf 2024

Mae’r Brifysgol wedi tanysgrifio i feddalwedd pleidleisio Vevox.  Gallwch gynnal gweithgareddau pleidleisio yn eich ystafell ddosbarth gan ddefnyddio dyfeisiau symudol i gymryd rhan.

Mae diweddariad Vevox ar gyfer haf 2024 yn cynnwys rhai swyddogaethau newydd yr ydym am dynnu eich sylw atynt. 

Math o gwestiwn newydd:  Pôl Graddfa sgorio

Mae’r math hwn o gwestiwn yn eich galluogi i osod graddfa sgorio o 1 i’r gwerth uchaf.  Gallwch ailenwi gwaelod y raddfa a brig y raddfa ac ychwanegu sawl eitem at y sgôr.

Byddai’r math hwn o gwestiwn yn ddefnyddiol ar gyfer gweithgareddau megis ‘y pwynt mwyaf dryslyd’ neu i nodi pynciau i’w hadolygu.

Gallwch ddisodli’r raddfa sgôr gyda sgôr o sêr yn lle hynny. 

I ddefnyddio’r cwestiwn graddfa, dewiswch ‘Create New’ a dewis ‘Rating Scale’ o’r ddewislen math o gwestiwn. 

Dewis delweddau mewn polau amlddewis

Gallwch gynnig opsiwn i’ch ymatebwyr ddewis delwedd fel detholiad yn y cwestiwn amlddewis.

Yn hytrach na rhoi testun, mae delweddau’n eich galluogi i greu ymateb mwy gweledol i’r math o gwestiwn. 

Gallwch ddefnyddio llyfrgell ddelweddau Unsplash i’ch helpu i ddod o hyd i ddelweddau sy’n berthnasol i’ch cwestiynau. 

Gosodiadau â chwestiynau penodol

Cyn hyn, roedd y gosodiadau a bennwyd gennych i’ch pôl yn berthnasol i’r holl gwestiynau.   Nawr, mae’n bosib dewis gwahanol osodiadau ar gyfer gwahanol gwestiynau pleidleisio. 

Gallwch ddewis newid:

  • Sut mae’r canlyniadau’n ymddangos mewn amser real
  • Sut mae’r canlyniadau’n ymddangos ar ddiwedd y bleidlais
  • Y gwahanol ddewis o gerddoriaeth wrth i’r amserydd gyfrif yr eiliadau 
  • Yr amserydd awtomatig sy’n cyfrif yr eiliadau

I newid gosodiadau cwestiynau unigol, dewiswch ‘Use custom settings for this poll’ yn rhyngwyneb y cwestiwn. 

Sawl arolwg / cwisiau ‘wrth eich pwysau’

Ar gyfer cydweithwyr sy’n defnyddio cwisiau ac arolygon i’w cwblhau ‘wrth eich pwysau’, mae bellach yn bosibl cynnal mwy nag un ar y tro.  Mae hyn yn golygu y gallwch eu hymgorffori ar draws gwahanol fodiwlau. 

Cymysgu Cwestiynau’r Arolwg 

Os ydych am i drefn y cwestiynau yn yr arolwg ymddangos ar hap, dewiswch ‘Shuffle question order’ ar ryngwyneb yr arolwg. 

Hanes delweddau

Bydd Vevox nawr yn arbed y delweddau a lanlwyddir gennych i’w defnyddio mewn polau pleidleisio.  Bydd hyn yn helpu i arbed amser wrth lwytho ac ail-greu cwestiynau. 

Edrychwch ar ein tudalennau cymorth ar gyfer defnyddio Vevox.  Gallwch hefyd ddarllen diweddariadau blaenorol ar y blog.

Mae Vevox yn cynnal gweminarau rheolaidd ar sut i ddefnyddio’r feddalwedd.  Cofrestrwch ar-lein ar gyfer y rhain. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk). 

SafeAssign

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i werthuso dewis arall yn lle Turnitin ar gyfer paru testun a marcio. Enw’r dewis arall hwn yw SafeAssign. Mae SafeAssign yn rhan o Blackboard.

Darllenwch yr wybodaeth isod a fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech gymryd rhan yn y gwerthusiad. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech wirfoddoli, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk

Beth yw SafeAssign?

Mae SafeAssign yn adnodd paru testun a ddarperir gan Blackboard. Mae wedi’i gynnwys yn ein prif drwydded Blackboard. Mae SafeAssign yn ddewis amgen i Turnitin.

Pam ydyn ni’n ei ystyried?

Roedd PA yn defnyddio SafeAssign cyn i ni ddechrau defnyddio Turnitin. Yn rhan o’n hymrwymiad i sicrhau ein bod yn defnyddio’r offer gorau sydd ar gael, hoffem werthuso a fyddai SafeAssign yn briodol ar gyfer paru testunau. Cymeradwywyd y gwerthusiad hwn gan y Pwyllgor Gwella Academaidd (Mai 2024).

Beth fydd yn wahanol os byddaf yn defnyddio SafeAssign yn lle Turnitin?

Bydd rhai agweddau ar farcio a chyflwyno wedi newid:

  • Offer newydd ar gyfer cyflwyno, marcio a pharu testun
  • Cronfa ddata wahanol o aseiniadau a ffynonellau ar gyfer paru testunau. Ni fydd y gronfa ddata hon yn cynnwys cyflwyniadau’r blynyddoedd blaenorol gan PA.

Byddwch yn gweld rhai nodweddion newydd:

  • Amlygu testun
  • Rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer cyflwyno a marcio
  • Gweld ac adalw cyflwyniadau blaenorol gan fyfyrwyr

Ac ni fydd rhai nodweddion ar gael:

  • Bydd angen i chi bostio marciau â llaw yn hytrach na gosod dyddiad ac amser rhyddhau. Fodd bynnag, bydd hyn yn rhoi ychydig mwy o reolaeth i chi ynghylch pryd y bydd marciau ar gael i fyfyrwyr.
  • Cyflwyno ar ran myfyrwyr
  • Diffodd marcio dienw ar gyfer myfyrwyr unigol
  • Ni ellir allforio cyfarwyddiadau a marciau cyflym o Turnitin, er bod offer tebyg ar gael yn Blackboard.

Mae manylion llawn nodweddion Turnitin a SafeAssign ar gael.

Y Gymraeg

Bydd holl elfennau’r gwerthusiad hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hyn yn cynnwys canllawiau cymorth, hyfforddiant, cefnogaeth a gwerthusiad. Mae SafeAssign ei hun yn cael ei gyfieithu yn rhan o ymrwymiad Anthology i’r Gymraeg. Mae testun Cymraeg wedi’i gynnwys yn y gwasanaeth paru testunau.

Beth fydd angen i mi ei wneud os ydw i’n gwirfoddoli?

Rydym yn argymell yn gryf bod modiwlau sydd wedi’u cynnwys yn y gwerthusiad yn defnyddio SafeAssign ar gyfer pob e-gyflwyniad yn ystod cyfnod y modiwl. Mae hyn yn helpu staff a myfyrwyr i ddod yn gyfarwydd â SafeAssign yn hytrach na chyfnewid rhwng offer cyflwyno a marcio lluosog.

Bydd yn rhaid i’r holl staff sy’n ymwneud â chyflwyno, marcio a chymedroli ar gyfer y modiwl ddefnyddio SafeAssign (nodwch fod hyn yn cynnwys arholwyr allanol). Os ydych yn gwirfoddoli modiwl sydd â nifer o staff yn marcio arno, gwnewch yn siŵr eu bod i gyd yn ymwybodol, a’u bod i gyd wedi derbyn hyfforddiant priodol (gweler isod). Byddwn yn rhoi gwybodaeth i bob arholwr allanol am y gwerthusiad.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu cyflwyniad prawf/ymarfer i’ch myfyrwyr cyn eu haseiniad cyntaf. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn gwybod sut i ddefnyddio SafeAssign yn gywir. Byddwn yn darparu canllawiau a Chwestiynau Cyffredin i fyfyrwyr y gallwch gysylltu â nhw o ardal Asesu ac Adborth eich cwrs Blackboard.

Pa hyfforddiant a chefnogaeth fydd ar gael?

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau a Chwestiynau Cyffredin ar gyfer staff a myfyrwyr ar wefan yr UDDA. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi ar sut i greu mannau cyflwyno a sut i farcio. Bydd cefnogaeth lawn ar gael i staff a myfyrwyr drwy gydol y tymor.

Sut fydd hyn yn effeithio ar fy myfyrwyr?

Bydd y dull cyflwyno yn wahanol i fyfyrwyr; un fantais o ddefnyddio SafeAssign yw y bydd myfyrwyr yn cael derbynneb e-bost. Bydd myfyrwyr hefyd yn gweld eu hadborth mewn ffordd ychydig yn wahanol. Byddwn yn darparu cefnogaeth lawn i fyfyrwyr.

A allaf siarad â rhywun am hyn?

Cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk i gael gwybodaeth ac i drafod a yw SafeAssign yn briodol ar gyfer eich modiwl.

Blackboard Learn Ultra: Gwelliannau i Ddogfennau

Roedd y diweddariad i Blackboard Learn Ultra ym mis Awst yn cynnwys gwelliannau i nodweddion creu a golygu Dogfennau Blackboard Learn Ultra .

I’r rhai sy’n anghyfarwydd â defnyddio Dogfennau, maent yn ffordd hawdd o greu cynnwys yn Ultra, gan sicrhau eu bod yn cydweddu â dyfeisiau symudol a Blackboard Ally. Gan fod y diweddariad hwn yn golygu newid sylweddol i’r modd y caiff cynnwys ei drefnu, rydym yn creu’r blog hwn ar wahân. Gallwch ddarllen am welliannau eraill yn y blog ynghylch diweddariad mis Awst.

Mae’r diweddariad diweddaraf yn rhoi mwy o bŵer i hyfforddwyr a mwy o reolaeth iddynt dros sut mae cynnwys yn ymddangos. Mae’n gweithredu fel tudalen we, gydag amrywiaeth o fathau o flociau y gellir eu defnyddio i greu a threfnu cynnwys. Gellir symud y blociau hyn o gwmpas i roi mwy o opsiynau i hyfforddwyr dros drefn eu cynnwys.

I grynhoi:

  • Gellir gosod delweddau ochr yn ochr â’r testun
  • Gellir trefnu cynnwys dwyieithog yn haws
  • Gellir defnyddio penawdau i helpu i lywio drwy’r cynnwys
  • Gellir uwchlwytho a throsi ffeiliau yn ddogfen Ultra, gan gadw’r fformat gwreiddiol.

Gellir gweld enghraifft o Ddogfen a grëwyd gan ddefnyddio’r golygydd cynnwys newydd isod:

Llun o ddogfen gyda blociau wedi'u llenwi â thestun a delweddau

Y newid mwyaf i’r holl hyfforddwyr yw bod y nodwedd creu cynnwys yn ymddangos ar frig y dudalen. Gallwch barhau i ddefnyddio’r eicon + i greu cynnwys a fydd wedyn yn rhoi’r ddewislen a welwch isod:

Llun o floc creu cynnwys wrth wneud dogfen yn Ultra

Mae’r opsiwn i drosi ffeil yn nodwedd newydd sy’n eich galluogi i uwchlwytho ffeil. Bydd hyn yn ei throi’n Ddogfen Ultra gan gadw fformat y ffeil wreiddiol.

Bydd dewis ‘Cynnwys’ yn mynd â chi at y golygydd cynnwys arferol.

Mae hyn yn caniatáu ichi ychwanegu cynnwys ac ailfeintio.

Gallwch chi symud cynnwys o gwmpas yn rhwydd gan osod delweddau ochr yn ochr â’r testun.

Wrth i chi aildrefnu cynnwys, rydym yn argymell eich bod yn arbed eich gwaith wrth fynd i sicrhau bod y newidiadau’n parhau.

I gael rhagor o wybodaeth am greu a defnyddio dogfennau, gweler Canllaw Cymorth Blackboard.

Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol:  Nodyn Atgoffa

Erbyn hyn dim ond ychydig dros fis sydd tan ein cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol, a gynhelir rhwng 10 a 12 Medi 2024.

Gallwch archebu’ch lle ar-lein.

Mae llawer o uchafbwyntiau i’r rhaglen eleni ac rydym yn ddiolchgar i’n cydweithwyr am rannu eu harferion dysgu arloesol â ni.

Mae’r gynhadledd yn dechrau gyda phrif anerchiad a gweithdy a roddir ar-lein gan yr Athro Lisa Taylor (Prifysgol Dwyrain Anglia). Bydd yr Athro Taylor yn rhoi cyflwyniad ar sut y gellir ymgorffori cyflogadwyedd yn y cwricwlwm, cyn symud ymlaen i sôn am ei gwaith arloesol ar leoliadau gwaith ar-lein.

Yn y gweithdy wedyn, bydd y cynadleddwyr yn cael cyfle i gymhwyso’r egwyddorion hyn i’w disgyblaethau eu hunain. Mae’r crynodeb gan yr Athro Taylor yn darparu rhagor o wybodaeth.

Er mwyn adeiladu ar sylfaen sesiwn yr Athro Taylor, bydd staff o bob rhan o’r Brifysgol yn rhannu eu dulliau o wreiddio cyflogadwyedd yn y cwricwlwm, gan arwain at weithdy a gynhelir gan Bev Herring ar ddylunio’r cwricwlwm ar gyfer datblygu cyflogadwyedd.

Yn ogystal â chyflogadwyedd, mae gennym sesiynau ar:

  • Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial mewn Dysgu ac Addysgu
  • Dad-drefedigaethu’r cwricwlwm
  • Niwroamrywiaeth mewn Addysg
  • Dulliau o ddysgu mewn tîm
  • Gwella’r cyswllt â’r myfyrwyr
  • Dysgu drwy efelychu
  • Dysgu sy’n ystyriol o drawma

A llawer mwy.

Gallwch weld y rhaglen lawn ac archebu’ch lle ar-lein. 

Mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Blackboard Ally

Mae Blackboard Ally ar gael i bawb sy’n defnyddio Blackboard.

Gall unrhyw fyfyriwr lawrlwytho cynnwys cwrs mewn fformatau amgen am ddim. Os hoffech chi wybod mwy, edrychwch ar y tabl Pa fformat ddylwn i ei ddefnyddio ar wefan Ally.

Gall pob aelod o staff wirio hygyrchedd eu cwrs a chael help i ddatrys unrhyw broblemau.

Ers mis Medi 2023, pan ddechreuodd Prifysgol Aberystwyth ddefnyddio Blackboard Ally, mae staff a myfyrwyr wedi bod yn ei ddefnyddio.

Fformatau Amgen

• Mae 3579 o ddefnyddwyr unigol yn lawrlwytho fformat amgen
• Mae 22,912 o ddogfennau wedi’u trosi
• Defnyddir fformatau amgen mewn 1100 o gyrsiau

Y fformat amgen sy’n cael ei lawrlwytho fwyaf yw’r PDF wedi’i dagio. Mae PDF wedi’i dagio yn ddefnyddiol i ddarllen wrth fynd, neu ar gyfer myfyrwyr sy’n hoffi darllen gwybodaeth i chwilio, argraffu neu gymryd nodiadau. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n defnyddio rhaglenni darllen sgrin neu feddalwedd testun-i-lais gydag addasiad cyflymder.

Hygyrchedd Cyrsiau

• 282 o addasiadau i’r cynnwys
• Mae cynnwys 66 o gyrsiau wedi’u haddasu
• Mae sgôr hygyrchedd PA wedi gwella o 65.7% i 69.5%

I gael gwybod mwy am ddefnyddio Ally, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i Staff a Myfyrwyr