Siaradwr Gwadd: Dr Sarah Gretton ac Alice Jackson: Sustainability in the Curriculum and Education of Sustainable Development Goals for Aberystwyth University

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein digwyddiad siaradwr gwadd nesaf. Ar 9 Mawrth 14:00-15:00, bydd Dr Sarah Gretton ac Alice Jackson o Brifysgol Caerlŷr yn cynnal gweithdy ar-lein ar gynaliadwyedd yn y cwricwlwm.

Crynodeb

Gellir derbyn datblygu cynaliadwy fel sbardun ar gyfer newid o fewn sefydliadau addysg uwch ac fel cyfle i drawsnewid cwricwla (fel y gwelwyd yn y diwygiadau diweddar i Ddatganiadau Meincnodi Pwnc QAA). Bydd y gweithdy hwn yn trafod ffyrdd ymarferol o ymgorffori Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy ac, yn benodol, Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn y cwricwla ffurfiol. Bydd Dr Sarah Gretton – Arweinydd Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy’r sefydliad ac Alice Jackson – Swyddog Ymgysylltu Academaidd Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Caerlŷr – yn dod â’u profiad o integreiddio’r Nodau Datblygu Cynaliadwy i addysgu a dysgu ac yn rhoi arweiniad i’r cyfranogwyr ar sut i werthuso eu modiwlau mewn perthynas â’r nodau hyn. Yn ystod y sesiwn hon, gofynnir i gyfranogwyr gysylltu canlyniadau dysgu arfaethedig eu modiwl â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a thargedau cysylltiedig, er mwyn deall sut y gall yr amcanion dysgu presennol gefnogi datblygu cynaliadwy.

Bywgraffiadau

Mae Sarah Gretton yn Athro Cyswllt yn y Gwyddorau Biolegol, yn Gyfarwyddwr rhaglen Gwyddorau Naturiol Prifysgol Caerlŷr, ac yn Arweinydd Academaidd Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (ADC) ym Mhrifysgol Caerlŷr. Mae Sarah yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.  Mae gan Sarah dros ddegawd o brofiad o waith datblygu addysg, ac mae hi wedi gweithio ar brosiectau a ariennir yn fewnol ac yn allanol (yr Academi Addysg Uwch, Advance HE, y Gymdeithas Frenhinol Bioleg (RSB), QAA). Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys cynaliadwyedd, datblygu sgiliau ac addysg wyddoniaeth ryngddisgyblaethol ac mae hyn wedi arwain at amryw gyhoeddiadau (https://scholar.google.co.uk/citations?user=xv8W6lIAAAAJ&hl=en). Hi sy’n arwain is-bwyllgor Ysgoloriaeth Addysgu a Dysgu Cymdeithas Gwyddorau Naturiol y Deyrnas Unedig ac mae hi’n aelod o’r pwyllgor cenedlaethol sy’n trefnu cynhadledd Addysg Uwch UK Horizons in STEM.  Cydnabuwyd ei gwaith addysgol gan nifer o anrhydeddau sy’n cynnwys cyrraedd rowndiau terfynol Gwobrau Green Gown 2017 (Hyrwyddwr Cynaliadwyedd), ennill gwobr Rhagoriaeth Addysgu Prifysgol Caerlŷr (2017), a derbyn Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol yn 2021.

Mae Alice yn weithiwr cynaliadwyedd proffesiynol sy’n gweithio i gyflwyno strategaeth ADC ym Mhrifysgol Caerlŷr. Daw o gefndir cymdeithaseg ac mae ganddi brofiad blaenorol o weithio ym maes cyflogadwyedd a sgiliau graddedigion sydd wedi llywio ei gwaith ym maes ymgysylltu a chryfhau cynnwys cynaliadwyedd yn y cwricwlwm. Hi sy’n arwain ar y gwaith o gasglu a dadansoddi data ar gyfer archwiliad blynyddol ADC ac sy’n gwella’r prosesau hynny ar gyfer y sefydliad fel rhan o brosiect ADC a ariennir gan QAA. Mae hi wedi gweithio ar ddatblygu a chyflwyno modiwl rhyngddisgyblaethol ar fenter gynaliadwy er mwyn cysylltu myfyrwyr â busnesau bach a chanolig lleol i greu effaith gynaliadwy barhaol. Yn ddiweddar, mae hi wedi cael Canmoliaeth Uchel am y gwaith ar y prosiect hwn yng ngwobrau Green Gown 2022. Mae hi hefyd wedi datblygu a chyflwyno Hyfforddiant ar Lythrennedd Carbon i dros 200 o staff, myfyrwyr a busnesau lleol yn rhinwedd ei chymhwyster fel Hyrwyddwr Llythrennedd Carbon achrededig.

Mae hyn yn dilyn ymlaen o’n cynhadledd fach a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr.

Cewch gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar ein tudalen archebu digwyddiadau.

Mae adnoddau o’n cyfres flaenorol o siaradwyr gwadd ar gael ar ein blog.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu (udda@aber.ac.uk).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*