Ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 byddwn yn defnyddio fersiwn newydd o Turnitin.
Ddydd Mawrth 5 Gorffennaf 2022 bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn rhoi fersiwn newydd o Turnitin ar Blackboard.
Er y bydd y rhan fwyaf o swyddogaethau presennol Turnitin yn aros yr un fath, bydd rhai newidiadau.
Er mwyn helpu staff gyda’r newid hwn, rydym wedi llunio’r Cwestiynau Cyffredin canlynol:
- Pam fod Turnitin yn newid?
- Beth sy’n wahanol i staff yn fersiwn newydd Turnitin?
- Beth sy’n wahanol i fyfyrwyr yn fersiwn newydd Turnitin?
- Sut ydw i’n creu man cyflwyno aseiniad yn fersiwn newydd Turnitin?
- Sut ydw i’n marcio aseiniad yn fersiwn newydd Turnitin?
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Cwestiynau Cyffredin am LTI Turnitin.
Bydd ein tudalennau gwe a’n canllawiau cymorth yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau hyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu (eddygsu@aber.ac.uk).