Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 10fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu, Dydd Llun 12 Medi – Dydd Mercher 14 Medi.
Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein.
Mae thema’r gynhadledd eleni:
Dylunio Addysgu Yfory: Arloesi, Datblygu a Rhagoriaeth
Dathlu 10 mlynedd o Gynadleddau Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth
Yn adlewyrchu’r ymroddiad sydd gan staff Prifysgol Aberystwyth i wella profiad dysgu eu myfyrwyr.
Dyma prif gangen y gynhadledd eleni:
- Addysgeg gynhwysol a chynaliadwy
- Dilysrwydd asesu, asesu dilys, ac ymgysylltu ag adborth
- Sgiliau sgaffaldio ar draws y cwricwlwm a thu hwnt
- Datblygu cymuned Prifysgol Ddwyieithog
- Gweithio gyda myfyrwyr fel partneriaid i ddylunio dysgu
- Dysgu gweithredol yn y dirwedd addysg uwch heddiw
Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu, yn enwedig os ydynt yn canolbwyntio ar ymgorffori a defnyddio technoleg wrth ddysgu. Mae croeso i chi gyflwyno pynciau eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn cyd-fynd ag un o’r canghennau uchod.
Rydym yn annog cyflwynwyr i ystyried defnyddio fformatau amgen sy’n cyd-fynd â’r hyn a drafodir yn eu sesiynau. Gan hynny, ni fyddwn yn gofyn am fformat cyflwyno safonol, ond gofynnwn i chi gynnwys fformat, hyd y sesiwn ac unrhyw ofynion eraill a fo gennych wrth i chi wneud eich cynnig isod.
Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 27 Mai 2022.
Anelwn at roi gwybod i chi am ganlyniad eich cais erbyn 17 Mehefin 2022. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Datblygu ac Addysgu am udda@aber.ac.uk.
Pingback: Rob Nash: Deunyddiau Siaradwr Gwadd ar gael |