Bydd gan Vevox ddiweddariad ar 13Medi a fydd yn cyflwyno mathau newydd o gwestiynau sy’n cynnwys delweddau.
Pôl Delwedd y gellir ei Farcio
Gallwch uwchlwytho delwedd fel y math o gwestiwn a gofyn i’ch myfyrwyr farcio’r datrysiad ar y ddelwedd. Bydd hyn yn wych ar gyfer diagramau, mapiau neu graffiau:
Amlddewis ar bôl Delwedd
Cwestiwn arall ar ffurf delwedd, ond y tro hwn rhowch gyfle i’ch myfyrwyr ddewis yr ateb cywir o nifer o wrthdyniadau:
Nodyn i’ch atgoffa bod Vevox yn cynnal sesiynau hyfforddi ar:
- 09.09.2021, 11:00-12:00
- 28.09.2021, 14:00-15:00
- 06.10.2021, 10:00-11:00
Bydd y sesiynau hyn yn ymdrin â:
- Sut i gael mynediad at gyfrif
- Sut i greu sesiwn
- Creu a Rhedeg polau
- Cwestiwn ac Ateb Vevox – arddangos, cymedroli
- Arolygon
- Data a gosodiadau
- Gosod Integreiddiad MS Teams
- Cwestiwn ac Ateb – unrhyw gwestiynau gan gyfranogwyr
Archebwch eich lle ar-lein.
Am restr o’r holl ddiweddariadau sy’n dod ar 13 Medi, edrychwch ar Flogbost Vevox.
Mae ein holl ganllawiau ar gyfer Vevox ar gael ar ein tudalennau gwe pleidleisio.