Gan ein bod yn defnyddio mwy a mwy o nodweddion ym modiwlau Blackboard, mae’r modd y cânt eu trefnu wedi dod yn gynyddol bwysig. Rydym yn cael nifer o ymholiadau gan fyfyrwyr sy’n cael trafferth dod o hyd i eitemau gwahanol neu fannau cyflwyno yn Blackboard.
I gynorthwyo â hyn, rydym wedi nodi ein prif awgrymiadau ar gyfer trefnu cynnwys.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am hyn neu os hoffech wneud cais am MOT modiwl, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk.
Awgrymiadau ar gyfer Trefnu Cynnwys Blackboard
Cyn dechrau creu a threfnu cynnwys ar eich modiwlau Blackboard, meddyliwch beth yw’r ffordd orau o’i drefnu fel bod modd i’r myfyrwyr gael mynediad ato’n rhwydd a bod y gweithgareddau a’r adnoddau dysgu gyda’i gilydd mewn lle rhesymegol.
1: Trefnu Cynnwys:
Dewiswch yr eitem gywir o’r ddewislen ar gyfer eich cynnwys | Mae gan bob adran ei thempled ei hun. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r cynnwys yn y lle mwyaf rhesymegol i’r myfyrwyr ddod o hyd iddo. |
Defnyddiwch strwythur ffolder i drefnu eich cynnwys | Defnyddiwch ffolderi i sicrhau nad yw’r myfyrwyr yn gorfod sgrolio i lawr tudalen hir a’u helpu i ddod o hyd i gynnwys yn haws. Defnyddiwch ffolder wahanol ar gyfer pob wythnos neu bwnc. |
Cyfyngwch ar sawl gwaith y mae’n rhaid clicio cyn gweld y cynnwys | Gofalwch rhag rhoi gormod o gliciau - dylai myfyriwr allu gweld y cynnwys angenrheidiol mewn 3 chlic ar y mwyaf. |
2. Enwi Cynnwys:
Defnyddiwch derminoleg a chonfensiynau enwi cyfarwydd | Os ydych chi’n ychwanegu dolen i recordiad Panopto, gwnewch yn siŵr eich bod yn addasu enw’r ddarlith. |
Byddwch yn gyson gyda chonfensiynau enwi | Defnyddiwch yr un derminoleg drwy gydol y modiwl a rhowch enwau ystyrlon i eitemau. |
Defnyddiwch ddisgrifiadau ar ffolderi cynnwys | Amlinellwch gynnwys y ffolderi yn y disgrifiadau ffeil er mwyn i’r myfyrwyr wybod beth sydd ynddynt |
3. Dealltwriaeth o’r Cynnwys:
Crëwch eitem Blackboard gyda throsolwg o’r modiwl | Defnyddiwch strwythur wythnos wrth wythnos i roi gwybod i fyfyrwyr beth y gallant ei ddisgwyl. Cofiwch gynnwys unrhyw ddyddiadau allweddol ar gyfer aseiniadau neu dasgau. Gall hyn fod ar ffurf tabl. |
Defnyddiwch Panopto i recordio taith fideo o’r modiwl | Gwnewch sgrinlediad o daith o’r modiwl yn amlygu’r ardaloedd allweddol i fyfyrwyr. Crëwch ddolen i’r recordiad o dan Gwasanathau Modiwl |
Defnyddiwch gyhoeddiadau gyda dolenni i’r cwrs i dynnu sylw’r myfyrwyr | Bydd defnyddio dolen i’r cwrs yn galluogi myfyrwyr i lywio i’r adran honno o’r cyhoeddiadau. Defnyddiwch hyn i dynnu sylw eich myfyrwyr at eitem, ffolder neu offer penodol megis man cyflwyno. |
4. Adolygu Cynnwys:
Defnyddiwch ragolwg myfyriwr | Pan fyddwch wedi creu eich cynnwys, defnyddiwch y nodwedd rhagolwg myfyriwr i weld sut mae’n edrych i’r myfyrwyr. |
---|---|
Symudwch unrhyw gynnwys y mae’r myfyrwyr yn cael trafferth dod o hyd iddo | Hyd yn oed ar ôl creu cynnwys, mae’n bosibl ei symud o hyd. Gofynnwch i’ch myfyrwyr a ydynt yn gallu dod o hyd i’r cynnwys a’r gweithgareddau dysgu a gwneud unrhyw addasiadau os oes angen. |
Mae gennym Isafswm Presenoldeb Gofynnol diwygiedig ar gyfer dysgu yn ein cyd-destun presennol. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk.
I gael rhagor o syniadau sut i drefnu eich modiwlau, edrychwch ar rai o enillwyr ein Gwobr Cwrs Nodedig.