Mae Fforymau Academi eleni wedi cychwyn o ddifri erbyn hyn. Eleni, mae ein Fforymau Academi wedi’u strwythuro o amgylch themâu sy’n deillio o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ac a gynigiwyd gan fynychwyr y gynhadledd.
Y Fforymau Academi ar gyfer y flwyddyn yw:
- 03.10.2018, 3yp-4yp: Cyflwyniad i’r Fforwm Academi
- 11.10.2018, 10yb-11yb: Traciwr Digidol Myfyrwyr JISC
- 16.11.2018, 11yb-12yp: Myfyrwyr fel Partneriaid
- 17.12.2018, 1yp-2yp: Dulliau arloesol o roi adborth
- 21.01.2019: 12yp-1yp: Cynllun Dysgu
- 28.02.2019: 3yp-4yp: Addysgu trwy Ymchwil
- 01.04.2019: 12yp-1yp: Annog hunanddisgyblaeth mewn dysgwyr
- 09.05.2019: 11yb-12yp: Sut ydyn ni’n gwybod bod ein haddysgu’n gweithio?
- 12.06.2019, 2yp-4yp: Defnyddio Dadansoddeg Dysgu Crynodeb a Gorffen
Gallwch archebu lle ar y Fforymau Academi drwy dudalennau archebu y GDSYA.
Mae ein Fforymau Academi’n darparu gofod anffurfiol i aelodau o gymuned y Brifysgol ddod ynghyd i drafod materion sy’n ymwneud â dysgu ac addysgu a dysgu trwy gyfrwng technoleg.
Roedd Fforymau Academi’r llynedd yn seiliedig ar gardiau ehangu profiad digidol myfyrwyr gan JISC. O fewn y Grŵp E-ddysgu, gwnaethom ddechrau datblygu ein Strategaeth Ymgysylltu Myfyrwyr ein hunain a dechrau meddwl sut y gallem weithio’n agosach â’r myfyrwyr. Yn ogystal â hyn gwnaethom ddechrau gweithio gyda chydweithwyr yn y gwasanaeth Gyrfaoedd i siarad am y sgiliau digidol sydd eu hangen yn y gweithle.
Cynhelir y Fforymau Academi yn E3, yr Ystafell Hyfforddiant E-ddysgu. I gael mynediad i E3, byddwch angen eich Cerdyn Aber. Ewch i mewn i adeilad Hugh Owen drwy’r Labordai Iaith a mynd i fyny’r grisiau i Lawr E. Defnyddiwch eich Cerdyn Aber i ddod trwy’r drws ac mae Ystafell Hyffordd E3 rownd y gornel ar yr ochr dde.
Os hoffech ymuno â rhestr bostio’r Fforwm Academi, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk.