Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Trydydd siaradwr gwadd – Dr Dyddgu Hywel

Keynote announcement banner

Mae’n bleser gyda ni gyhoeddi ein trydydd siaradwr allanol i Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni, Dr Dyddgu Hywel, uwchddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd gyda gradd ddosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun.

Mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwchddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn, ac yno ers dros saith mlynedd bellach, gyda’i harbenigedd mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, y defnydd o dechnoleg, ymgysylltiad ag iechyd a lles myfyrwyr. Yn dilyn 8 mlynedd o chwarae rygbi dros ei gwlad yn y crys coch, mae wedi mabwysiadu sawl dull effeithiol o fyw’n iach, cadw meddylfryd positif a meistroli cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith.

Bydd gweithdy Dyddgu yn ffocysu ar flaenoriaethu iechyd a lles staff. Bydd y gweithdy o fudd i holl staff academaidd y brifysgol, i adnabod dulliau effeithiol o warchod eu hiechyd a lles personol, yn ogystal â darparu gofal bugeiliol i’r holl fyfyrwyr.

Amcanion y gweithdy:

  • Cyfle i fyfyrio ar eich iechyd a lles personol
  • Ystyried y cydbwysedd cywir rhwng bywyd pob dydd, a phwysau gwaith
  • Adnabod rôl addysgwyr mewn iechyd a lles myfyrwyr
  • Adnabod dulliau rheoli straen, agwedd a meddylfryd positif personol
  • Mabwysiadu dulliau rheoli amser a blaenoriaethu
  • Hybu adnoddau Cymraeg ar gyfer ymlacio a myfyrdod effeithiol

Bydd Dyddgu yn cyflwyno ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg a byddwn yn darparu cyfieithu ar y pryd.

Cynhelir y nawfed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ar-lein rhwng dydd Mawrth 29 Mehefin a dydd Gwener 2 Gorffennaf. Gallwch archebu lle drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*