Gwahoddiad: Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth 2021

Keynote announcement banner

Rydym yn edrych ymlaen ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni sydd lai na mis i ffwrdd, 29 Mehefin – 2 Gorffennaf 2021.

Fel yr ydych wedi darllen o bosibl, cynhelir y Gynhadledd eleni ar-lein drwy Teams felly gallwch ymuno am gymaint neu chyn lleied o’r gynhadledd ag y dymunwch.

Gallwch lawrlwytho’r rhaglen lawn ac archebu eich lle ar-lein .

Rydym yn ddiolchgar o gael nifer o siaradwyr allanol eleni.

Bydd ein prif siaradwr, Dr Chrissi Nerantzi, yn siarad am addysgeg agored a hyblyg. Ym Met Manceinion, datblygodd Chrissi’r rhaglen datblygu proffesiynol FLEX, rhaglen seiliedig ar ymarfer a drwyddedir yn agored sy’n ymgorffori llwybrau ymgysylltu ffurfiol ac anffurfiol.  Hi yw sylfaenydd y gymuned traws-sefydliadol Creativity for Learning in Higher Education, y gweminarau Teaching and Learning Conversations (TLC), yn ogystal â nifer o fentrau eraill. Gallwch ddarllen mwy am Chrissi ar ein blog

Yn ogystal â Dr Nerantzi, bydd Dr Dyddgu Hywel, Uwch Ddarlithydd Addysg o Brifysgol Met Caerdydd hefyd yn cymryd rhan. Bydd Dr Hywel yn rhoi cyflwyniad rhyngweithiol ar flaenoriaethu lles myfyrwyr a staff (Caiff cyflwyniad Dr Hywel ei draddodi yn Gymraeg a byddwn yn cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd).

Bydd Andy McGregor, Cyfarwyddwr Technoleg Addysg ar gyfer JISC yn cyflwyno gweithdy i ni sy’n edrych ar ddyfodol asesu, a bydd Joe Probert, ein Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid yn Vevox yn rhoi awgrymiadau i ni ar sut i ddefnyddio meddalwedd pleidleisio i annog dysgwyr i ymgysylltu.

Yn ogystal â’n siaradwyr allanol, ceir dewis da o gyflwyniadau a thrafodaethau gan gydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol, yn cynnig awgrymiadau ymarferol ac astudiaethau achos.

Mae gennym sesiynau ar y pynciau canlynol:

  • Lansio’r strategaeth Sgiliau Digidol newydd
  • Grŵp diddordeb arbennig Dysgwyr o Bell
  • Cyflwyniadau myfyrwyr
  • Awgrymiadau a chyngor ar sefydlu sgiliau
  • Cynnal gweithdai ar-lein
  • Ysgogi a monitro ymrwymiad myfyrwyr
  • Trafodaeth bord gron gyda’r Adran Saesneg
  • Meithrin sgiliau ystadegau ac Excel
  • Teithiau maes rhithiol
  • Sut y gall dysgu cymysg effeithio ar fyfyrwyr niwroamrywiol

A llawer mwy…

Gobeithio y gwelwn ni chi yno.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*