Mae gwirio dealltwriaeth myfyrwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn y broses ddysgu ac addysgu a gall gadarnhau i’r darlithydd beth sy’n cael ei ddysgu tra hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dysgu eu hunain. Gwirio dealltwriaeth yw un o’r heriau mwyaf wrth addysgu ac mae gorfod gwneud hynny mewn ystafell ddosbarth rithwir hyd yn oed yn fwy heriol nag yn yr ystafell ddysgu draddodiadol lle addysgir wyneb-yn-wyneb! Fodd bynnag, mae sawl nodwedd ddefnyddiol o fewn MS Teams y gellir eu defnyddio i’ch helpu i wirio dealltwriaeth. Dyma ychydig o awgrymiadau ar sut i wneud y mwyaf o’r nodweddion hyn:
Y nodwedd sgwrsio (chat).
Gallwch ddefnyddio’r nodwedd sgwrsio mewn amrywiaeth o ffyrdd i wirio dealltwriaeth. Mae rhai syniadau’n cynnwys gofyn i’r myfyrwyr grynhoi cysyniad neu syniad, neu aralleirio damcaniaeth mewn ychydig o frawddegau a phostio hynny yn y nodwedd sgwrsio. Gall y nodwedd hon hefyd fod yn werthfawr iawn i wirio dealltwriaeth myfyrwyr tawelach sydd efallai’n dymuno peidio ag ymateb ar lafar i’ch cwestiynau. Dyma rai awgrymiadau ar sut i reoli’r sgwrs yn effeithiol yn MS Teams.
Emojis.
I godi bach o hwyl yn yr ystafell ddosbarth ac fel ffordd o osgoi ymatebion “ie/na”, gallech ofyn i’ch myfyrwyr ymateb i’ch sylw yn y sgwrs i fynegi sut maen nhw’n teimlo am bwnc neu gysyniad. Er enghraifft:
Nodwedd codi eich llaw.
Mae’r nodwedd codi eich llaw o fewn Teams yn caniatáu i ddefnyddwyr hysbysu’r darlithydd fod ganddynt gwestiwn neu sylw i’w wneud, ond gallech hefyd ei ddefnyddio i wirio dealltwriaeth. Beth am ofyn i fyfyrwyr ddefnyddio’r nodwedd mewn ymateb i gwestiwn? Er enghraifft, “codwch eich llaw os ydych am i mi ddangos i chi sut i wneud hynny eto“.
Gallech hefyd ddefnyddio’r nodwedd i annog myfyrwyr i ymhelaethu ar eu hatebion yn y sgwrs, er enghraifft “codwch eich llaw os gallwch ddweud mwy wrthyf am hynny“. Os yw’r myfyrwyr yn bryderus am ymateb ar lafar, gallwch eu hannog i ymateb gydag ymhelaethu yn ysgrifenedig yn y sgwrs.