Mae cyfnod cyflwyno ceisiadau am y Gwobrau Cwrs Nodedig bellach wedi dechrau. Y dyddiad cau i wneud cais yw 12 yp 31ain Ionawr 2020. I gyflwyno cais, lawrlwythwch ffurflen gais fan hyn a darllenwch y cyfarwyddiadau sydd ar ein gweddalennau.
Cynlluniwyd y Wobr Cwrs Nodedig i gydnabod arfer canmoladwy ym modiwlau Blackboard. Ers ei lansio yn 2013, gwobrwywyd 6 o fodiwlau canmoladwy, cafodd 12 gymeradwyaeth uchel a 3 arall eu cymeradwyo.
Eleni mae’r gwobrau ychydig yn wahanol. Er bod y Wobr yn dal i gael ei seilio ar Gyfarwyddyd Rhaglen Cwrs Nodedig Blackboard, gwnaethom rai addasiadau er mwyn pwysleisio’r dulliau rhyngweithiol y gellir defnyddio Blackboard i ddarparu amgylchedd dysgu cymysg i fyfyrwyr. Ar ben hyn, rhoddwyd pwys ychwanegol ar y meini prawf hygyrchedd er mwyn sicrhau bod pawb sy’n dysgu yn gallu cael defnydd o fodiwlau Blackboard.
Byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi i’r rhai sy’n ystyried cyflwyno cais am y Wobr ddydd Iau 12 Rhagfyr, 2yp-3yp yn E3, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu a dydd Gwener 10 Ionawr, 2yp-3yp. Gallwch archebu lle trwy fynd i dudalennau archebu cwrs.
Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi mai’r Athro John Traxler fydd y prif siaradwr yn ein Cynhadledd Fer. Bydd y gynhadledd fer yn canolbwyntio ar Waith Grŵp ac Asesiad Grŵp ac fe’i cynhelir ddydd Llun 16 Rhagfyr.
Mae John Traxler, FRSA, yn Athro mewn Dysgu Digidol yn y Sefydliad Addysg ym Mhrifysgol Wolverhampton. Mae’n un o arloeswyr dysgu symudol, ac mae wedi bod yn gysylltiedig â phrosiectau ers 2001 pan oedd yn gloriannydd ar gyfer m-learning, y prosiect mawr cyntaf yn yr UE. Ef yw Cyfarwyddwr Sefydlol a chyn Is-Lywydd yr International Association for Mobile Learning. Mae’n gyd-olygydd Mobile Learning: A Handbook for Educators and Trainers, a Mobile Learning: the Next Generation, sydd ar gael mewn Arabeg, a gyda’r Athro Agnes Kukulska-Hulme, Mobile Learning and Mathematics, Mobile Learning and STEM: Case Studies in Practice, and Mobile Learning in Higher Education: Challenges in Context, a nifer o areithiau, paneli, papurau, erthyglau a phenodau ar bob agwedd ar ddysgu gyda theclynnau symudol. Mae ei bapurau wedi cael eu dyfynnu dros 6000 o weithiau. Mae wedi gweithio ar nifer o ymgyrchoedd a phrosiectau dysgu digidol. Mae ei dybiaethau presennol yn canolbwyntio llai ar ’ddysgu symudol’ fel o’r blaen, ac yn hytrach ar effaith argaeledd byd-eang technoleg ddigidol bersonol gysylltiol ar berchnogaeth, sylwedd a natur gwybod a dysgu yn ein cymdeithasau.
Bydd y rhaglen lawn yn cael ei chyhoeddi’n fuan. Yn y cyfamser, gallwch archebu lle ar y digwyddiad ar-lein. Os hoffech gyflwyno cynnig i’r gynhadledd fer eleni, llenwch y ffurflen hon ar-lein cyn dydd Llun 18 Tachwedd.
Dyma’r ail bostiad blog yn trafod ein Cynhadledd Fach ar Addysg Gynhwysol a gynhaliwyd yn ddiweddar gan y Grŵp E-ddysgu. Am drosolwg o’r hanner cyntaf, gweler y postiad blog hwn.
Agorodd ail hanner y gynhadledd gyda Neil MacKintosh a Meirion Roberts o gynllun BioArloesi Cymru IBERS yn trafod ehangu mynediad i’w modiwlau. Yn ddiweddar, mae’r tîm wedi ceisio mynd i’r afael â’r prinder sgiliau lefel uchel a thechnegol mewn busnesau bio-seiliedig, gan gynnwys Bwyd-Amaeth. Un o amcanion y rhaglen yw i edrych ar ffyrdd o ddarparu cwrs dysgu o bell ar gyfer graddedigion sy’n gweithio ym myd diwydiant ar hyn o bryd ac nad oes ganddynt amser, o bosib, i wneud gradd ôl-raddedig. Gobeithir y bydd y cynllun yn cynyddu cynhyrchiant yng Nghymru trwy bwysleisio’r berthynas gilyddol rhwng diwydiant ac ymchwil. Mae cynllun BioArloesi Cymru yn gweithio’n agos â phartneriaid diwydiannol i ddarparu llwybr hyblyg i’r rhai hynny sydd mewn swyddi i ennill cymwysterau ôl-raddedig. Rhoddodd Neil gyflwyniad ar y cynllun cyn trosglwyddo’r awenau i’w gydweithiwr, Meirion Roberts. Mae Meirion yn ddarlithydd cyswllt yn BioArloesi Cymru ac mae’n gyfrifol am ddarparu profiad dysgu dwyieithog ar gyfer y modiwlau dysgu o bell uwchraddedig. Cyflwynir y cyrsiau BioArloesi ar-lein yn unig trwy ddefnyddio Blackboard ynghyd â llu o wahanol ddeunyddiau dysgu. Ar hyn o bryd gall myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar y cwrs fanteisio ar adnoddau yn Gymraeg a Saesneg. Un o’r tasgau cyntaf i Meirion ar ôl dechrau gweithio gydag uned BioArloesi Cymru oedd creu rhyngwyneb, deunydd a darlithoedd dwyieithog ar gyfer y cwrs. Mae’r modiwlau hyn yn defnyddio fforymau ar Blackboard fel dull asesu. Un o’r heriau sy’n codi wrth ddarparu’r modiwlau hyn yn ddwyieithog yw sut i gymedroli a hwyluso fforymau dwyieithog. Yn dilyn trafodaeth rhwng y cynadleddwyr, teimlwyd mai un ffordd ymlaen fyddai annog y rhai sy’n defnyddio’r fforymau i bostio eu hymatebion yn Gymraeg a Saesneg, yn hytrach na bod angen cyfieithu ymatebion Cymraeg i’r Saesneg. Pe gosodid cynsail i bostio yn y ddwy iaith teimlwyd y byddai hyn yn ddull mwy cynhwysol o greu amgylchedd dysgu dwyieithog. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â defnyddio fforymau a asesir, mae gwybodaeth am raddio’r bwrdd trafod ar gael yma.
Ar ôl y cyflwyniad hwn, rhoddodd Mary Jacob, darlithydd mewn Dysgu ac Addysgu yn y GDSYA, a Nicky Cashman, cynghorydd hygyrchedd yn y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, gyflwyniad ar Greu Deunyddiau Dysgu Cynhwysol a Hygyrch. Nod y cyflwyniad oedd rhoi cyngor ymarferol i staff ar sut i greu adnoddau mwy hygyrch i fyfyrwyr, gan gynnwys eitemau y gellir eu lawrlwytho o’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir. I roi ychydig o gyd-destun, mae 16% o Boblogaeth Myfyrwyr Aberystwyth wedi datgelu anabledd, sydd ychydig yn uwch na chyfartaledd y sector sef 12%. Trafododd Mary a Nicky y pynciau canlynol:
Offer Gwirio Hygyrchedd Microsoft – offeryn sydd wedi’i ymgorffori yn Word
Defnyddio arddulliau yn Word i wneud strwythur eich deunydd yn glir i fyfyrwyr
Sut i drosi eich dogfen Word yn ffeil PDF
Pa liwiau yw’r rhai mwyaf addas i’w defnyddio?
Yn ogystal â hyn, rhannodd Mary a Nicky adnodd a grëwyd gan Brifysgol Hull ar gyfer dylunio deunydd i ddysgwyr amrywiol. Mae’r adnodd hwn ar gael ar-lein a gellir dod o hyd iddo yma. Hefyd, dosbarthwyd taflen o’r enw ‘The Universal Design for Learning Guidelines’ a grëwyd gan CAST ac sydd i’w gael yma. Mae Mary hefyd yn cynnal Bwrdd Trello sy’n cynnwys llawer o adnoddau defnyddiol ar gyfer gweithgareddau dysgu ac addysgu. Mae yna garden ar y bwrdd Trello yn arbennig ar gyfer Creu Deunyddiau Dysgu Hygyrch, o dan yr adran Prosiectau/ meysydd diddordeb.
Rhoddwyd y cyflwyniad olaf gan Dr Jennifer Wood o’r Adran Ieithoedd Modern. Mae Dr Wood yn dysgu Sbaeneg a myfyriodd ar ei defnydd o Brofion Blackboard yn ei dysgu. Nod y profion hyn yw profi dealltwriaeth myfyrwyr sy’n dysgu Sbaeneg y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae defnyddio Profion Blackboard yn galluogi Dr Wood i ryddhau amser yn ei gwersi wyneb yn wyneb a’i horiau cyswllt â’i myfyrwyr. Cyn defnyddio profion ar-lein, neilltuwyd amser gwerthfawr yn y sesiynau dysgu ar gyfer asesiadau dosbarth. Rhoddodd Dr Wood gyd-destun ychwanegol i’r cyflwyniad hefyd trwy drafod pryder ynghylch ieithoedd tramor (Foreign Language Anxiety) a sut y gall Profion Blackboard helpu i leddfu hyn oherwydd bod modd eu sefyll (a’u hailsefyll) ar amser sy’n siwtio’r myfyriwr ac mewn amgylchedd lle y maent yn teimlo’n gysurus. Un o fanteision defnyddio profion Blackboard yw bod modd eu hallforio, eu mewnforio a’u hail-ddefnyddio mewn modiwlau gwahanol ar ôl i chi eu llunio. Yn ogystal â hyn, gellir marcio profion yn awtomatig a rhoi adborth i’r myfyrwyr ar ôl iddynt gwblhau’r prawf. Gan ddibynnu ar yr angen dysgu, gall profion fod naill ai’n ffurfiannol neu’n grynodol a gellir eu cysylltu’n uniongyrchol â’r ganolfan raddau. Ond yn ogystal â’r manteision sy’n deillio o ddefnyddio profion, gall beri rhai heriau hefyd. Gall gymryd amser i lunio a chreu’r profion. Serch hynny gallwch eu creu ar amser sy’n gyfleus i chi, a gallwch eu mewnforio a’u defnyddio yn y modiwl sydd gennych dan sylw. Mantais hyn yw y bydd gennych adnodd y gallwch ei ddefnyddio o flwyddyn i flwyddyn. Os sylwch chi fod cwestiwn yn anghywir, gallwch ailddyrannu’r marciau, newid y graddau neu olygu’r cwestiwn ar gyfer pawb sydd wedi sefyll y prawf. Mae sawl math o gwestiynau y gellir eu defnyddio mewn cwisiau Blackboard. Gweleryma am restr lawn o’r mathau o gwestiynau sydd ar gael ar gyfer profion Blackboard (sylwch y bydd y math o gwestiwn a ddewiswch yn penderfynu a oes modd ei farcio’n awtomatig ai peidio). Mae rhagor o wybodaeth am brofion ar gael yma. Mae’r Grŵp E-ddysgu bob amser yn hapus i weithio gyda’n cydweithwyr academaidd i’ch helpu i gynllunio a chreu eich profion, a’u rhoi ar waith. Mae gennym gryn dipyn o arbenigedd yn y maes hwn.
Ein Cynhadledd Fach eleni oedd ein prysuraf hyd yma o ran nifer y bobl a fynychodd. Blwyddyn nesaf efallai y bydd yn rhaid i ni ystyried symud i ystafell arall. Os hoffech awgrymu pwnc ar gyfer Cynhadledd Fach y flwyddyn nesaf mae croeso i chi gysylltu â ni. Hoffwn eich atgoffa hefyd bod ein Galwad am Gynigion ar agor ar gyfer ein Cynhadledd Fer. Gallwch gyflwyno cynnig trwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon. Hoffem ddiolch i’r holl gyflwynwyr am roi o’u hamser ac am rannu eu harferion â phawb a fynychodd y gynhadledd.
Ar 10 Ebrill, croesawodd y Grŵp E-ddysgu 26 aelod o staff o bob rhan o’r Brifysgol i’r Gynhadledd Fach eleni. Thema’r Gynhadledd eleni oedd Addysg Gynhwysol a chafwyd chwe chyflwyniad yn amrywio o ganllawiau ymarferol ar sut i greu dogfennau hygyrch, i weithio gyda myfyrwyr niwroamrywiol. Oherwydd yr amrywiaeth eang o bynciau a drafodwyd, rhannwyd y crynodeb hwn yn ddwy ran, gyda rhan 1 yn trafod y tri chyflwyniad cyntaf. Darperir crynodeb o’r tri chyflwyniad olaf yn y postiad blog nesaf.
Agorodd y gynhadledd gyda chyflwyniad wedi’i recordio gan Dr Rob Grieve. Mae Dr Grieve yn uwch ddarlithydd mewn Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste. Yn ogystal â’i ymchwil academaidd, mae Dr Grieve hefyd yn cynnal gweithdai o’r enw Stand Up and Be Heard. Mae’r gweithdai hyn yn canolbwyntio ar helpu myfyrwyr y mae arnynt ofn siarad yn gyhoeddus, a bod hynny’n effeithio ar asesiadau sy’n cynnwys elfen gyflwyno. Ategodd Dr Grieve ei gyflwyniad gydag ymchwil a gynhaliwyd gan Marinho et al (2017) a nododd fod gan 64% o fyfyrwyr israddedig (allan o sampl o 1,135) ofn siarad yn gyhoeddus, ac y byddai 89% ohonynt wedi hoffi cael arweiniad a chymorth ychwanegol gan eu sefydliadau ar siarad yn gyhoeddus. Wrth gloi ei gyflwyniad, eglurodd Dr Grieve strategaethau i staff a fyddai’n helpu i gynorthwyo myfyrwyr â siarad yn gyhoeddus a chyflwyniadau asesedig. Awgrymodd y dylid:
Cydnabod bod ar lawer o fyfyrwyr ofn siarad yn gyhoeddus ar gyfer asesiadau modiwl, ac yn gyffredinol
Heblaw am ein rôl yn dysgu pwnc, gallwn gynorthwyo myfyrwyr (neu eu cyfeirio ymlaen) […] i leihau eu hofn o siarad yn gyhoeddus
Mae rhoi cyflwyniadau a siarad yn gyhoeddus yn sgiliau bywyd trosglwyddadwy sy’n gwneud myfyrwyr yn fwy cyflogadwy; nid dim ond ar gyfer asesiadau y’u defnyddir
Yn ogystal â hyn, nododd Dr Grieve nad oes rhaid i gyflwyniadau fod yn berffaith. Y neges allweddol i’w chyfleu i fyfyrwyr yw i fod yn nhw eu hunain wrth wneud cyflwyniadau, ac i fod yn awthentig. Bu’r gweithdai a gynhaliodd Rob yn hynod lwyddiannus i fyfyrwyr, yn enwedig y rhai a oedd yn mynd ymlaen i roi cyflwyniadau asesedig. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gweithdai yma.
Yn dilyn ymlaen o gyflwyniad Dr Grieve, cafwyd cyflwyniad gan Dr Debra Croft ar y gwaith y mae’r Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol wedi’i wneud i ymgorffori Sgiliau Craidd yn eu cwricwlwm yn y Brifysgol Haf. Cyflwynir y modiwl Sgiliau Craidd yn Wythnos 1 y cwrs yn bennaf, ac mae’n fodiwl yn ei rhinwedd ei hun. Nod y modiwl yw rhoi i fyfyrwyr y sgiliau astudio a’r sgiliau bywyd y bydd eu hangen arnynt yn ystod gweddill eu hamser yn y Brifysgol Haf a thu hwnt. O ystyried cyfyngiadau amser rhaglen y Brifysgol Haf, nid oes modd ymgorffori’r sgiliau craidd yn y cwricwlwm pwnc-benodol, felly mae angen i’r holl fyfyrwyr gymryd y modiwl Sgiliau Craidd.
Aeth y tîm ati i ddiwygio’r modiwl yn llwyr yn 2016-17, ar sail yr adborth a ddarparwyd gan fyfyrwyr a staff, a’i sgôr isel o ran boddhad myfyrwyr. O ganlyniad, cynyddodd cyfradd boddhad y modiwl Sgiliau Craidd i 80% yn 2016, 80au% uchel yn 2017, a 94% yn 2018. Priodolwyd llwyddiant y modiwl i’r newidiadau a wnaed gan y tîm dysgu. Y gwahaniaeth mwyaf yn 2018 oedd y newid i’r modd y cyflwynwyd y modiwl. Defnyddiwyd grwpiau caeedig ar Facebook i gyfathrebu â myfyrwyr amrywiol, gan wneud defnydd llawn o Blackboard a Turnitin ar gyfer aseiniadau. Rhoddai’r modiwl Sgiliau Craidd bwyslais ar yr elfen gynhwysol a gwahaniaethau dysgu, gan alluogi tiwtoriaid i ymgorffori gofynion yn eu dysgu. Mae’r asesiadau wedi’u safoni ac wedi’u cynllunio i fod yn gynhwysol o’r cychwyn sy’n golygu bod pawb yn gwneud yr un asesiad. Maent hefyd yn defnyddio cwisiau Blackboard sy’n cael eu marcio’n awtomatig ar gyfer sgiliau hyfforddi a TG. Ceir rhagor o wybodaeth am waith y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol yma.
Cyflwynwyd y drydedd a’r olaf o sesiynau hanner hwn y gynhadledd gan Janet Roland a Caroline White o’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd. Nod eu cyflwyniad, Teaching for Everyone: Neurodiversity and Inclusive Practices, oedd darparu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i greu gweithgareddau dysgu ac addysgu ar gyfer myfyrwyr niwroamrywiol. Agorodd y gweithdy gydag ymarfer i dorri’r iâ. Mewn parau, gofynnwyd i’r cyfranogwyr labelu eu hunain ‘A’ a ‘B’. Yn gyntaf, gofynnwyd i bob ‘A’ siarad am eu gwyliau diwethaf am 1 munud gyda ‘B’. Wedyn, gofynnwyd i bob ‘B’ siarad am eu gwyliau diwethaf gydag ‘A’, ond heb ddefnyddio unrhyw air sy’n cynnwys y llythyren ‘E’. Yna, rhoddwyd amlen i’r cyfranogwyr yn cynnwys termau am ymddygiad niwroamrywiol a’u nodweddion, a gofynnwyd iddynt baru’r labeli â’r nodweddion perthnasol. Bu’r cyflwyniad hwn gyfle i’r cyfranogwyr ystyried y gwahanol broffiliau niwroamrywiol a strategaethau y gellir eu defnyddio i greu profiad dysgu mwy cynhwysol.
Cyfeiriadau
Marinho, ACF., de Madeiros, AM., Gama, AC and Teixeira, LC. 2017. Fear of Public Speaking: Perception of College Students and Correlates. Journal of Voice. 31: 1. DOI: 10.1016/j.jvoice.2015.12.012.
Yn y blogiad arbennig hwn, byddwn yn rhoi crynodeb o sut mae Twyllo ar Gontract yn effeithio ar Addysg Uwch. Ym Mhrydain, mae Twyllo ar Gontract yn golygu defnyddio melinau traethodau. Mae’r gwasanaethau hyn wedi cael mwyfwy o sylw yn y blynyddoedd diwethaf, ac yn ôl adroddiad a wnaed ym Mhrifysgol Abertawe, mae un ym mhob saith o raddedigion diweddar wedi cyfaddef iddynt dalu rhywun i wneud eu gwaith drostynt (Newton, 2018). Er mwyn tynnu sylw at y mater hwn, mae’r Ganolfan Ryngwladol dros Uniondeb Academaidd yn yr Unol Daleithiau wedi sefydlu’r Diwrnod Gweithredu Rhyngwladol yn erbyn Twyllo ar Gontract. Yng ngwledydd Prydain, yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (ASA) sy’n darparu arweiniad ar Dwyllo ar Gontract.
Yn 2018, ysgrifennodd penaethiaid mwy na 40 o brifysgolion ym Mhrydain at yr Ysgrifennydd Addysg gan ofyn am wahardd melinau traethodau. Mae hefyd achosion cyfreithiol yn dal i fynd yn eu blaen yn erbyn yr arfer hwn. Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth mae defnyddio melinau traethodau yn dod o dan y rheoliadau Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.
Myfyrwyr – pwy all helpu?
O safbwynt myfyrwyr, mae sawl rheswm a all esbonio pam rydych yn credu mai Twyllo ar Gontract yw’r unig ateb. Efallai nad ydych wedi gadael digon o amser i gwblhau’ch aseiniad. Efallai nad ydych yn deall cwestiwn yr aseiniad neu’ch bod chi’n ei chael hi’n anodd deall cysyniad cymhleth. Efallai hefyd eich bod yn pryderu am eich marciau ac yn awyddus i wneud yn well. Beth bynnag fo’r rheswm, mae digonedd o bobl o gwmpas a all eich helpu i wneud eich gorau glas â’ch aseiniadau.
Y peth cyntaf i’w wneud ar ddechrau’r semester yw sicrhewch eich bod yn cynllunio’ch amser yn ofalus. Rhowch ddigon o amser i chi’ch hunan i edrych drwy’r wybodaeth am yr aseiniad a’r modiwl. Sicrhewch eich bod yn cael gwybod pob un o’ch dyddiadau cau i’ch modiwlau a’ch bod yn eu rhoi ar eich calendr ar-lein. Os gwnewch hynny, fe fyddwch yn gwybod pryd y bydd angen i chi baratoi’ch gwahanol aseiniadau a phryd y byddwch yn debygol o fod ar eich prysuraf. Mae hynny hefyd yn rhoi digon o amser i chi i ddeall eich aseiniad a’r hyn y disgwylir i chi ei wneud.
Sicrhewch eich bod chi’n gofyn am gymorth. Os na ddeallwch gwestiwn yr aseiniad neu gysyniad, siaradwch â’ch darlithydd neu’ch tiwtor a gofynnwch am gymorth. Gofynnwch gwestiynau penodol – pa ran yn union o’r ddamcaniaeth neu gysyniad na ddeallwch? Edrychwch ar y deunydd sydd ar gael i chi drwy ‘Blackboard’ megis nodiadau darlithoedd, sleidiau PowerPoint, neu recordiadau o’ch darlithoedd, a’u defnyddio i’ch helpu i wneud penderfyniad am eich aseiniad ar sail gwybodaeth gadarn. Siaradwch â’ch cyd-fyfyrwyr hefyd ac efallai y gallwch ystyried sefydlu grŵp astudio i drafod materion penodol. Gallwch hefyd gael cyngor gan Lyfrgell y Brifysgol, gan gynnwys cyngor am gadw cyfeiriadau rydych wedi dod ar eu traws a’r feddalwedd sydd ar gael i’ch helpu i reoli a fformatio’ch cyfeirnodau.
Rhowch ddigon o amser i chi’ch hun i edrych ar yr adborth a gawsoch o’ch aseiniadau blaenorol ac i ystyried yr adborth hwnnw. Ystyriwch y meysydd rydych wedi gwneud yn dda ynddynt, yn ogystal â’r hyn y gallwch ei wella. Yn eich aseiniad nesaf, ceisiwch wella’r elfennau hynny sydd wedi’u nodi yn rhai i’w gwella. Does dim modd defnyddio Melin Draethodau i wneud hynny – dim ond chi sy’n adnabod eich gwaith eich hun a pha elfennau mae angen i chi ganolbwyntio arnynt. Gallwch weld yr holl adborth rydych wedi’i gael o’ch aseiniadau drwy fewngofnodi i Blackboard.
Newyddion y BBC. 2018. ‘Essay mills: ‘One in seven’ paying for university essays. Newyddion y BBC.. [ar-lein]. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-45358185. Dyddiad cyrchu diwethaf: 02.10.2019.
Newton, P. 2018. ‘How common is Commercial Contract Cheating in Higher Education and is it increasing? A systematic review’. Frontiers in Education. 30 Awst. [ar-lein]. Ar gael yn: https://doi.org/10.3389/feduc.2018.00067. Dyddiad cyrchu diwethaf: 02.10.2019.
Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi y cynhelir y cyntaf o Gynadleddau Byr yr Academi eleni ar ddydd Llun 16 Rhagfyr 2019. Bydd y Gynhadledd Fer hon yn ymchwilio i natur fanteisiol a chymhleth gwaith grŵp, yn y dosbarth a’r tu allan iddo, ac fel dull o asesu.
Rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r Brifysgol i roi cyflwyniadau, arddangosiadau, gweithdai a thrafodaethau ar sut y maent yn mynd i’r afael ag addysgu grwpiau. Os hoffech gyflwyno cynnig i’r gynhadledd fer eleni, llenwch y ffurflen hon ar-lein cyn dydd Llun 18 Tachwedd.
Dyma rai o’r pynciau posibl:
Dylunio a marcio asesiad grŵp (gan gynnwys marcio gan gyfoedion)
Dulliau o fewnosod gwaith grŵp i’ch addysgu (addysgu mawr a bach)
Ymunwch â ni ar gyfer Fforwm Academi cynta’r flwyddyn yn E3, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu, Llyfrgell Hugh Owen ar 29 Hydref, 10-11yb. Cliciwch fan hyn i archebu eich lle.
Yn y Fforwm Academi cyntaf hwn byddwn yn rhoi trosolwg o’r Traciwr Digidol Myfyrwyr JISC.
Y Fforymau Academi ar gyfer y flwyddyn yw:
Dydd
Amser
Teitl
Ystafell
06.12.2019
11yb-12yp
Engaging with Seminar Reading
Hermann Ethé (Llyfrgell Hugh Owen)
05.02.2020
2yp-3yp
Using Technology in Small Group Teaching
B20, Llandinam
17.03.2020
10yb-11yb
Using Technology in Large Group Teaching
E3, Ystafell Hyfforddiant E-ddysgu
21.05.2020
11yb-12yp
Using Technology for Group Work
E3, Ystafell Hyfforddiant E-ddysgu
Fforwm Newydd Dysgu o Bell
Anelir y Fforymau hyn yn benodol at rai sy’n addysgu ar gyrsiau Dysgu o Bell neu’n ystyried darparu cynnwys o’r fath yn y dyfodol.
Dydd
Amser
Teitl
Ystafell
22.10.2019
1yp-2yp
Strategies for Monitoring Student Engagement
E3, Ystafell Hyfforddiant E-ddysgu
18.02.2020
1yp-2yp
Creating a Podcast
E3, Ystafell Hyfforddiant E-ddysgu
26.05.2020
1yp-2yp
Gauging Opinion from a Distance
E3, Ystafell Hyfforddiant E-ddysgu
Gobeithio y gallwch ddod i’r fforymau hyn. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Hoffem groesawu’r holl fyfyrwyr newydd a dweud ‘croeso’n ôl’ wrth y rheini ohonoch sy’n ymuno â ni eto am flwyddyn arall. Gan fod y tymor bellach ar gychwyn, dyma rywfaint o gyngor ac awgrymiadau ichi o ran defnyddio ein systemau E-ddysgu. Yn y blogbost hwn, byddwn yn cyflwyno ein prif wasanaethau i chi. Mae cefnogaeth a chyngor ar e-ddysgu yn cael eu darparu gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu o fewn y Gwasanaethau Gwybodaeth.
Dyma rai o’n hawgrymiadau gorau i’ch helpu i ddechrau defnyddio ein systemau.
Defnyddiwch Chrome neu Firefox i gael mynediad i’n systemau
Gwnewch yn siŵr fod eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Aberystwyth wrth law gennych
Dros yr wythnosau nesaf, treuliwch amser yn ymgyfarwyddo â’r systemau hyn fel eich bod yn barod i’w defnyddio
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â gwasanaethau TG neu’r llyfrgell, ebostiwch gg@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 62 2400.
Yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir
Blackboard yw amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol. Gallwch ddod o hyd i Blackboard trwy fynd i blackboard.aber.ac.uk. Bydd arnoch angen eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Aberystwyth er mwyn mewngofnodi. Bydd eich dewis iaith ar gyfer defnyddio Blackboard yn seiliedig ar eich dewis iaith yn eich cofnod myfyriwr (Cymraeg neu Saesneg). Bydd gan bob modiwl y byddwch yn ei astudio ei safle Blackboard ei hun. Yma, cewch adnoddau a fydd yn cefnogi eich dysgu a’ch addysgu. Byddwch hefyd yn gallu cael gafael ar recordiadau o’ch darlithoedd a chyflwyno eich aseiniadau yn electronig. Gallwch lywio eich ffordd i wahanol rannau o fodiwl trwy glicio ar y ddewislen ar y chwith.
Yn ogystal â chael gafael ar eich adnoddau dysgu, efallai y bydd eich darlithydd yn gofyn ichi wneud gweithgareddau eraill yn Blackboard megis profion neu gwisiau, wicis, blogiau, neu ddyddiaduron myfyriol. Bydd gennych hefyd safleoedd Adrannol a fydd yn cynnwys gwybodaeth bwysig am eich aseiniadau a’r gefnogaeth bellach y gallwch ei chael.
E-gyflwyno
Bydd pob darn o waith testun sydd wedi’i lunio ar raglen prosesu geiriau yn cael ei gyflwyno’n electronig trwy gyfrwng Blackboard yn ystod eich cyfnod yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Byddwch hefyd yn cael eich marciau a’ch adborth yn electronig. Mae dau wahanol fath o gyflwyno electronig ar gael: Turnitin a Blackboard Assignment. Mae gennym gyngor penodol ar gyflwyno trwy gyfrwng Turnitin a hefyd trwy gyfrwng Blackboard Assignment yn ein Cwestiynau a Ofynnir yn Aml. Gweler isod ein hawgrymiadau pennaf ar sut i gyflwyno eich gwaith yn electronig:
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi digon o amser i chi’ch hun gyflwyno’r aseiniad cyn y dyddiad cau
Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith y byddwch yn ei gyflwyno yn cael ei farcio’n ddienw, felly peidiwch ag ysgrifennu eich enw ar eich aseiniad
Cadwch eich aseiniad dan enw sy’n ystyrlon i chi
Gwiriwch ddwywaith eich bod yn cyflwyno’r gwaith i’r modiwl cywir
Edrychwch ar eich ebost wedi ichi gyflwyno er mwyn gwneud yn siŵr eich bod wedi cael derbynneb ebost
Treuliwch amser yn darllen eich adborth yn ofalus ar ôl i chi gael eich marciau
Recordio Darlithoedd
Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio meddalwedd recordio darlithoedd o’r enw Panopto. Mae hyn yn golygu y gallwch gael gafael ar recordiadau o’ch darlithoedd trwy Blackboard. Mae gan Nordmann et al (2018) ffeithlun da ar sut i wneud y defnydd gorau o recordiadau o ddarlithoedd er mwyn cefnogi eich dysgu. Dyma grynodeb o’u cyngor:
Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i’ch darlithoedd. Er bod recordiadau o ddarlithoedd ar gael ichi, ni ddylid eu defnyddio yn hytrach na bod yn bresennol yn y sesiwn ddysgu ei hun. Bryd hynny, cewch gyfleoedd i ofyn cwestiynau ac i ddysgu hefyd gan eich cyfoedion. Meddyliwch am y recordiad o’r ddarlith fel rhywbeth sy’n atodol i’r sesiynau dysgu byw. Yn eich darlithoedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud nodiadau a cheisiwch grynhoi’r trafodaethau yn eich geiriau eich hun.
Wrth ailwylio’r darlithoedd, byddwch yn benodol ac ewch yn ôl i’r rhannau nad ydych yn eu deall neu nad ydych yn eu cofio. Peidiwch â gwylio’r ddarlith gyfan – yn ddelfrydol dylech wneud hyn o fewn ychydig ddyddiau i’r ddarlith er mwyn gweld faint yr ydych yn ei gofio. Gwnewch yn siŵr fod eich nodiadau o’r ddarlith wrth law gennych fel y gallwch ychwanegu atynt.
Os na allwch fynd i’r ddarlith am resymau dilys, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwylio’r recordiad o fewn wythnos fel y byddwch yn ymwybodol o’r cynnwys diweddaraf – peidiwch â chadw’r holl ddarlithoedd tan ddiwedd y semester a’u gwylio i gyd un ar ôl y llall bryd hynny. Os byddwch yn defnyddio’r recordiad, gwyliwch ef ar y cyflymder arferol heb ei gyflymu er mwyn symud ymlaen. Rhowch eich sylw’n llawn i’r recordiad a pheidiwch â gwneud tasgau eraill. Ewch yn ôl at y rhannau nad ydych yn eu deall a’u hailwylio. Gallwch ganfod yr erthygl lawn ar-lein.
Cyfeiriadau
Nordmann, E., Kuepper-Tetzel, C. E., Robson, L., Phillipson, S., Lipan, G., & Mcgeorge, P. (2018). Lecture capture: Practical recommendations for students and lecturers. [ar-lein]. https://doi.org/10.31234/osf.io/sd7u4. Cyrchwyd ddiwethaf: 03.10.2019.
Rydyn ni’n gyffrous iawn i allu cyhoeddi Fforwm newydd Dysgu o Bell i staff. Anelir y Fforymau hyn yn benodol at rai sy’n addysgu ar gyrsiau Dysgu o Bell neu’n ystyried darparu cynnwys o’r fath yn y dyfodol.
Fforwm Dysgu o Bell 1: Strategaeth i Fonitro Ymgysylltiad Myfyrwyr
Dydd Mawrth 22 Hydref 2019, 1pm-2pm, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu E3
Yn y cyntaf o’r Fforymau Dysgu o Bell byddwn yn edrych sut i fesur y graddau y mae myfyrwyr yn ymgysylltu â gweithgareddau dysgu yn Blackboard. Mae llawer o wahanol fathau o gyfleoedd a gweithgareddau dysgu ar Blackboard. Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych sut i fesur y graddau y mae myfyrwyr yn ymgysylltu â Blackboard i fyfyrwyr Dysgu o Bell.
Fforwm Dysgu o Bell 2: Creu Podlediad
Dydd Mawrth 18 Hydref 2020, 1pm-2pm, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu E3
Yn yr ail o’r Fforymau Dysgu o Bell byddwn yn ystyried sut i Greu Podlediad. Mae podlediad yn ffordd dda iawn o ennyn diddordeb eich myfyrwyr yn y cynnwys rydych yn ei greu, yn ogystal â rhoi cyfleoedd iddynt adeiladu gweithgareddau i mewn i’r podlediad. Fe edrychwn ar bodlediad a ddyluniwyd yn llwyddiannus, yn ogystal ag ystyried elfennau ymarferol creu podlediad a’i ymgorffori yn eich cwrs Blackboard.
Fforwm Dysgu o Bell 3: Mesur Barn Myfyrwyr o Bell
Dydd Mawrth 26 Mai 2020, 1pm-2pm, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu E3
Yn y trydydd o’r Fforymau Dysgu o Bell, byddwn yn ystyried sut mae modd mesur barn myfyrwyr o bellter. Bydd strategaethau yn cael eu trafod a’u cyflwyno ar gyfer gwneud i fyfyrwyr dysgu o bell deimlo’n rhan o gymuned a hefyd i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Fe gyflwynwn weithgareddau y gellir eu gwneud ar Blackboard i gynorthwyo hyn, yn ogystal â thechnolegau eraill, er enghraifft pleidlais ar-lein a ‘Skype for Business’.
Gobeithio y gallwch ddod i’r fforymau hyn. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Gan fod modiwlau 2019-20 bellach ar gael i staff, gallwn eu cysylltu gyda’i gilydd ar gais cydgysylltydd y modiwl. Cyfeirir at y drefn hon fel trefn rhiant a phlentyn. Mae cysylltu modiwlau gyda’i gilydd yn ffordd effeithiol o drafod modiwlau ar wahân a chanddynt yr un cynnwys er mwyn osgoi uwchlwytho deunyddiau ar gyfer dau neu ragor o wahanol fodiwlau.
Yn ôl y drefn hon, bydd un modiwl yn rhiant, a’r modiwl(au) arall/eraill yn blentyn. Ni chyfyngir ar nifer y modiwlau plentyn ond ni ellir cael mwy nag un rhiant.
Os ydych yn gydgysylltydd modiwlau ac os hoffech gysylltu eich modiwlau yn ôl y drefn hon, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk gan roi’r codau modiwl ar gyfer y modiwlau rhiant a phlentyn.
Enghreifftiau o Aberystwyth
Mae llawer o aelodau staff eisoes yn defnyddio modiwlau rhiant a phlentyn ar draws y sefydliad. Dyma rai enghreifftiau:
Dysgir yr un cynnwys ar y modiwlau ond mae modiwl ar gael i flynyddoedd gwahanol
Modiwlau â’r un cynnwys a ddysgir yn Gymraeg a Saesneg
Modiwlau sy’n dod â gwahanol gynlluniau gradd at ei gilydd a chanddynt wahanol gyfeirnodau modiwl, er enghraifft modiwlau traethodau estynedig
Yn y bôn, mae pob modiwl sy’n rhannu’r un cynnwys yn ddelfrydol ar gyfer modiwlau rhiant a phlentyn.
Beth mae’r myfyrwyr yn ei weld?
Bydd y myfyrwyr yn gweld enw’r modiwl y maen nhw wedi’i gofrestru ar ei gyfer (hyd yn oed os mai’r modiwl plentyn yw hwnnw) wrth fewngofnodi i Blackboard ond byddant yn gweld yr holl gynnwys a osodir yn y modiwl rhiant. Ni chaiff hyfforddwyr osod cynnwys yn y modiwl plentyn.
I’w ystyried
Nawr, cyn dechrau’r tymor ac wrth i gynnwys modiwlau gael ei greu, yw’r amser perffaith ar gyfer cysylltu eich modiwlau. Er bod cysylltu modiwlau yn arbed amser wrth lwytho deunyddiau, fe ddylech hefyd ystyried yr isod:
Gellir gweld yr holl gynnwys cyn gynted ag y bydd y modiwlau yn cael eu cyfuno (cyn belled â bod y myfyrwyr wedi’u cofrestru ar y modiwl). Yn ogystal â sleidiau PowerPoint, deunyddiau darlithoedd, mae’n cynnwys hefyd Gyhoeddiadau ac offerynnau rhyngweithiol eraill ar eich modiwl rhiant
Ni fydd rhyngweithiadau myfyrwyr hanesyddol ar fodiwl plentyn (megis defnyddio blog neu bostio mewn byrddau trafod) ar gael ar ôl i’r modiwlau gael eu cyfuno
Ni fydd modd gweld unrhyw fannau cyflwyno a grëwyd ar fodiwl plentyn cyn y cyfuno. Fe’ch cynghorir i’w creu o’r newydd yn y modiwl rhiant
Sut gallaf reoli’r cynnwys er mwyn sicrhau mai myfyrwyr y modiwl hwnnw yn unig fydd yn ei weld?
Er bod modd gweld yr holl gynnwys yn awtomatig ar ôl i’r modiwlau gael eu cyfuno, gallwch ddefnyddio grwpiau a rhyddhau’n ymaddasol os dymunwch i’r cynnwys gael ei weld gan garfan benodol o fyfyrwyr. Gall fod yn ddefnyddiol, er enghraifft, os ydych wedi cyfuno modiwl 2il a 3edd flwyddyn ond bod gan y myfyrwyr ar y gwahanol fodiwlau aseiniadau annibynnol. Gallwch ddefnyddio grwpiau – 1 ar gyfer myfyrwyr yr 2il flwyddyn ac un ar gyfer myfyrwyr y 3edd flwyddyn a chyfyngu ar bwy all weld y wybodaeth am yr aseiniadau a’r man cyflwyno. Dilynwch ein cyfarwyddiadau ar greu grŵp a rhyddhau’n ymaddasol os dymunwch wneud hyn.
Canolfan Raddau Rhiant a Phlentyn a Throsglwyddo Marciau Elfennau
Ar ôl cyfuno, bydd pob myfyriwr yn ymddangos yng Nghanolfan Raddau’r modiwl rhiant. Fodd bynnag, gallwch bennu a ydynt wedi’u cofrestru ar y modiwl plentyn gan fod y wybodaeth yma yn ymddangos wrth enw’r myfyriwr yng ngholofnau’r Ganolfan Raddau. Fe’ch cynghorir i greu gwahanol fannau cyflwyno (gan ddefnyddio rhyddhau’n ymaddasol) er mwyn ei gwneud hi’n haws i allu rheoli trosglwyddo marciau’r elfennau. Os ceir un man cyflwyno ar gyfer pob myfyriwr, dim ond ar gyfer un o’r codau modiwl y gellir defnyddio’r drefn o drosglwyddo Marciau Elfennau.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y drefn neu os oes gennych gwestiynau penodol, cysylltwch â ni (eddysgu@aber.ac.uk).