Cynhadledd Fer Cyweirnod: Gwaith (Grŵp) yn yr Oes Ddigidol

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi mai’r Athro John Traxler fydd y prif siaradwr yn ein Cynhadledd Fer.

Bydd y gynhadledd fer yn canolbwyntio ar Waith Grŵp ac Asesiad Grŵp ac fe’i cynhelir ddydd Llun 16 Rhagfyr, 10:30yb-4yp yn B.03,Canolfan Ddelweddu.

Gallwch archebu lle ar y digwyddiad ar-lein

Cynhadledd Fer Cyweirnod: Gwaith (Grŵp) yn yr Oes Ddigidol

Ers troad y ganrif, gwelsom dechnolegau digidol yn esblygu o fod yn ddrud, bregus, prin, tila ac anodd, ac yn aml ddim ond yn sefydliadol, i fod yn rymus, yn hollbresennol, hawdd, rhad a chadarn, a phersonol a chymdeithasol. Yn y cyfnod hwn, maent wedi newid natur y nwyddau, asedau, trafodion a threfniadaeth sy’n creu ein bywydau economaidd; wedi herio agweddau sicr materion, ymlyniadau a phrosesau gwleidyddol; mewn ieithoedd, daeth geirfaoedd, ffurfiau, a thafodieithoedd newydd i’r golwg; maent wedi bwydo braw moesol a chreu dulliau newydd o niweidio, sarhau a chamymddwyn.

Ar ben hynny, maent wedi rhoi i fyfyrwyr y modd a’r cyfle i greu, rhannu, trawsnewid, trafod a chael gafael ar syniadau, delweddau, hunaniaethau a gwybodaeth ac, wrth wneud hynny, wedi rhoi o fewn eu gafael y gallu i fygwth proffesiynau, sefydliadau a dulliau addysg sefydledig, i newid perchnogaeth a rheolaeth yr hyn sy’n wybyddus, pwy sy’n ei wybod a’r ffordd i gaffael yr wybodaeth.

Hwn felly yw’r byd y mae graddedigion yn mynd iddo, byd gwaith wedi’i drawsnewid a phopeth arall mewn bywyd yn ddi-ddiffiniad. Mae Prifysgolion yn mynd â hwy o strwythur a diogelwch yr ysgol i fydoedd lle nad yw’r naill na’r llall ar gael. Sut y gall furfiau pedagogaidd megis asesu a gwaith grŵp gefnogi’r trawsnewid hwn?

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*