
Y mis diwethaf bu i’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wahodd Dr Kate Exley i gynnal gweithdy i staff Prifysgol Aberystwyth ar sut i symud eich darlith (PowerPoint) ar-lein.
Bu’r rhai fu’n cymryd rhan yn cynnig llu o strategaethau defnyddiol i ennyn diddordeb y myfyrwyr wrth ddysgu ar-lein. Rydym wedi crynhoi rhywfaint o’r drafodaeth isod.
Dylunio’r Dysgu:
- Strategaethau syml oedd fwyaf effeithiol, megis defnyddio dogfen Word a’i llwytho i’r sgwrs
- Defnyddio meddalwedd cynnal pleidlais i gynnwys y myfyrwyr wrth iddynt ddysgu
- Cynnwys gweithgareddau i dorri’r iâ er mwyn creu’r cyswllt cyntaf
- Mewn sesiynau hwy, gosod tasg a chynnwys amser ar gyfer cael egwyl o’r sgrin
- Cynnwys tasgau i’r myfyrwyr eu gwneud ymlaen llaw, a defnyddio’r sesiynau byw i atgyfnerthu eu gwybodaeth
- Cynnwys tasgau cymdeithasol yn ogystal â thasgau ffurfiol
- Mae un adran yn cynnal gweithdai diwrnod o hyd â’r opsiwn i gynnwys yr aelod o staff yn y sesiwn trwy gyfrwng y ffôn oes ganddynt unrhyw gwestiynau
- Cadw at un neu ddau o weithgareddau ar raddfa fawr mewn sesiwn 40 munud
- Bod yn ymwybodol y gall myfyrwyr fod yn dod i’r sesiwn fyw heb fod wedi gwneud yr holl dasgau ymlaen llaw
- Defnyddio offer cydweithredol megis dogfen a rennir, bwrdd gwyn neu Padlet i greu nodiadau ar y cyd
- Bod yn fwy anffurfiol mewn darlithoedd sy’n cael eu recordio
- Cynnig sesiynau galw heibio byw bob wythnos lle gall myfyrwyr ofyn cwestiynau a chael atebion iddynt
- Gofyn i fyfyrwyr gwrdd mewn grwpiau oddi allan i’r gweithgareddau ar yr amserlen
- Rhannu enghreifftiau / astudiaethau achos o fywyd go iawn wrth ddysgu, a gofyn i fyfyrwyr gyfrannu eu henghreifftiau eu hunain
- Gofyn i fyfyrwyr chwilio am bethau / ymchwilio yn y sesiwn fyw


Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gynnal ein sesiynau hyfforddi E-ddysgu Uwch eto’r semester hwn.

