E-ddysgu Uwch: Sesiynau Hyfforddi Offer Rhyngweithiol Blackboard

Distance Learner BannerMae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gynnal ein sesiynau hyfforddi E-ddysgu Uwch eto’r semester hwn.

Mae sesiwn wedi’i threfnu ar gyfer pob un o Offer Rhyngweithiol Blackboard: Byrddau Trafod, Wicis, Profion a Chwisiau, a Chyfnodolion a Blogiau. Yn ogystal â hyn, mae gennym nifer o weithdai Cyfrwng Cymraeg ar ‘Beth allaf ei wneud gyda Blackboard?’ yn ogystal â rhagor o gyfleoedd DPP.

Mae Offer Blackboard yn hynod o amlbwrpas a gellir eu haddasu ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau dysgu gwahanol: o asesu ffurfiannol ac adolygol i adeiladu cymuned ddysgu ar-lein a chyfoed, o weithgareddau myfyriol i greu adnoddau. Yn yr un modd â’r holl ddysgu trwy gyfrwng technoleg, yr allwedd yw dyluniad y gweithgaredd a sut y caiff ei gysylltu â’r canlyniadau dysgu. Mae rhoi’r anghenion dysgu yn gyntaf a dewis yr offer mwyaf priodol yn golygu ymgysylltiadau ystyrlon â’r dasg.

Cynlluniwyd y sesiynau hyn mewn modd sy’n rhoi blaenoriaeth i gynllun dysgu’r gweithgaredd yn ogystal â’r greadigaeth dechnegol. Bydd y cyfranogwyr yn cael cyfle yn y sesiynau hyn i gynllunio gweithgaredd dysgu gan ddefnyddio’r offer perthnasol, a darperir yr awgrymiadau a’r fideos technegol i ddefnyddio’r offer yn y dull gorau o fewn eu haddysgu.

Isod ceir y dyddiadau a’r amseroedd:

DyddiadSesiwn
22.02.2021Dylunio a Defnyddio Byrddau Trafod Blackboard
26.02.2021Beth allaf ei wneud gyda Blackboard?
03.03.2021Dylunio a Defnyddio Wicis ar gyfer Gweithgareddau Cydweithredol Ar-lein
11.03.2021Creu Profion a Chwisiau yn Blackboard
17.03.2021Defnyddio Cyfnodolion a Blogiau Blackboard ar gyfer Gweithgareddau Dysgu
22.03.2021Beth allaf ei wneud gyda Blackboard?

Gallwch weld ein rhestr lawn o DPP ac archebu eich lle ar-lein: https://stafftraining.aber.ac.uk/sd/list_courses.php.

Cynlluniwyd ein holl sesiynau i gael eu cynnal ar-lein drwy Teams. Anfonir gwahoddiad calendr i chi gyda dolen i’r sesiwn o flaen llaw.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*