Gweminar Vevox: ‘Co-creating expectations with Vevox’

Fel rhan o’n tanysgrifiad sefydliadol i Vevox, mae modd i ni fynychu gweminarau a gynhelir gan Vevox. Am 2yp ddydd Iau 30 Medi bydd Vevox yn cynnal gweminar o’r enw ‘Co-creating expectations with Vevox’. Bydd y weminar yn cael ei redeg gan Tom Langston, sy’n arbenigwr Dysgu ac Addysgu Digidol ym Mhrifysgol Portsmouth.

Bydd y weminar yn cynnig syniadau ynghylch sut y gellir defnyddio pleidleisio (digidol ac “analog”) i ennyn cyfranogiad myfyrwyr, cyngor ymarferol ynglŷn â strwythur trafodaethau, a defnyddio’r swyddogaeth Holi ac Ateb fel bod modd i fyfyrwyr rannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu a gofyn cwestiynau.

Cofrestrwch ar gyfer y weminar hon ar-lein.

Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn hyfforddi: Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Vevox.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Vevox, gweler ein tudalennau gwe ar Offer Pleidleisio.

Trefnu cynnwys Blackboard – Cyngor Defnyddiol gan Fyfyrwyr (Llysgenhadon Dysgu)

Ysgrifennwyd gan Erin Whittaker, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Yn sgil gweithgaredd profi defnyddioldeb y prosiect Llysgenhadon Dysgu, cefais fy annog i ysgrifennu fy mlog am rwyddineb a hygyrchedd dod o hyd i wybodaeth benodol a drafodir mewn darlithoedd a seminarau yn seiliedig ar gynllun cronolegol a labeli eu ffeiliau. Ar ôl gwneud fy ffordd trwy ddau fodiwl enghreifftiol nad oeddwn i wedi eu gweld o’r blaen ac un arall o fodiwl a ddilynais yn yr 2il flwyddyn, sylwais mai’r cynlluniau modiwl mwyaf hygyrch a hawdd llywio drwyddynt oedd y rhai lle’r oedd y wybodaeth a’r deunyddiau ar gyfer darlithoedd a seminarau wedi eu labelu yn ôl wythnos a theitl y pwnc, yn hytrach na dim ond yn ôl rhif y seminar benodol honno; h.y. ‘Seminar: Wythnos 2 – Dysgu am Benodoldeb ‘>’ Seminar 2 ‘. Roedd labelu’r ffeiliau fel hyn yn golygu bod dod o hyd i’r wybodaeth a gyflwynwyd yn y seminarau a’r darlithoedd penodol hynny yn broses fwy syml a chyflym na gorfod chwilio drwy amryfal gyflwyniadau PowerPoint seminarau er mwyn dod o hyd i wybodaeth benodol.

Yn ogystal, y ffolder fwyaf amlwg ar gyfer cadw recordiadau Panopto y ddarlith a’r seminar a’r sleidiau PowerPoint cysylltiedig fyddai ‘Deunyddiau Dysgu’ yn fy marn i. Byddai’n lle da hefyd i’r deunyddiau ychwanegol fel Rhestr Ddarllen Aspire, gweithdai, sesiynau tiwtorial, ac amserlen gyffredinol y modiwl hwnnw. Byddwn yn argymell, fodd bynnag, os oes nifer fawr o ffeiliau ar gyfer seminarau a darlithoedd h.y. mwy na thair ffeil yr wythnos, eu bod yn cael eu rhoi mewn ffolder ar wahân o dan y teitl ‘Darlithoedd/ Seminarau’ yn y golofn ffolderi ar y chwith, ynghyd â chopi o’r Rhestr Ddarllen Aspire.

Read More

Ydy eich modiwlau Blackboard yn siarad iaith y myfyriwr? – Llysgenhadon Dysgu

Ysgrifennwyd gan Angela Connor, Seicoleg

Fe wn y gallai swnio’n rhyfedd i holi a yw eich modiwlau Blackboard yn siarad iaith eich myfyrwyr. Gallaf eich clywed yn dweud “Wrth gwrs eu bod nhw”. Yn amlwg, rydych chi’n llwytho deunyddiau i fyny yn Gymraeg a Saesneg. Ond nid am hynny rwy’n sôn. I sicrhau bod Blackboard yn hygyrch i gynifer o fyfyrwyr â phosib mae angen i ni roi ein hunain yn eu hesgidiau hwy am ychydig ac edrych ar y dyluniad a’r cynnwys yn wrthrychol i weld a yw’r deunyddiau wedi’u gosod yn y ffordd orau i garfan benodol er mwyn iddyn nhw allu deall eich modiwlau’n rhwydd.

Dywedir yn aml mewn addysg os byddwch yn addasu eich cyflwyno i’r rheini sydd ag anghenion ychwanegol, byddwch yn ei gwneud yn haws i bawb. Efallai y gellid cymhwyso’r ethos hon yn nhermau Blackboard, gan roi’r holl fyfyrwyr mewn sefyllfa i gyflawni eu potensial llawn gyda chyn lleied o straen â phosibl.

Heb os, mae rhai elfennau mewn modiwl Blackboard yn galw am ffurfioldeb a phroffesiynoldeb, fel Arfer Academaidd Annerbyniol, a llawlyfr y modiwl. Mae’r llawlyfr yn gweithredu bron fel cytundeb contract rhwng cydlynydd y modiwl a’r myfyriwr, a’r ffordd arall, gan ei fod yn amlinellu’n glir yr hyn y bydd y modiwl yn ei gyflwyno a’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan y myfyrwyr yn eu tro. Ond trwy osgoi jargon addysgol lle bo modd, neu ei gyflwyno’n raddol, gallwch helpu i godi hyder eich myfyrwyr a’u gwneud yn gyfarwydd â’r termau hyn. Er enghraifft, faint o fyfyrwyr oedd wir yn deall y termau “cydamserol” ac “anghydamserol” a hyrddiwyd i mewn yn sydyn i fyd addysg y llynedd? A phan oedden nhw’n ddealledig, a oedden nhw’n cael eu drysu gyda rywbeth arall tebyg o dro i dro? Fe wn i mi gael fy nal unwaith neu ddwy.

Read More

Croeso i staff newydd sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth

Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.

Mae’r holl wybodaeth fyddwch chi ei hangen ar dudalennau gwe’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Yn ddiweddar rydym ni wedi gweithio’n ddwys gyda chydweithwyr academaidd i ddatblygu datrysiadau i bandemig Covid 19. Bydd ein tudalennau gwe Cefnogi eich Addysgu yn eich helpu gydag amrywiol ddatrysiadau addysgu.

Rydym ni’n ysgrifennu blog gyda’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.

Os bydd angen i chi gysylltu â ni gallwch wneud hynny ar un o ddau gyfeiriad ebost:

udda@aber.ac.uk (am gwestiynau addysgegol a chynllunio, neu i drefnu ymgynghoriad) neu

eddysgu@aber.ac.uk (am ymholiadau technegol ynghylch ein harlwy e-ddysgu a restrir isod)

Read More

Cefnogaeth ar gyfer Dysgu Wyneb yn Wyneb

Wrth inni symud tuag at ddysgu wyneb yn wyneb eto, hoffem atgoffa’r staff nad ydynt ar eu pen eu hunain o ran ailaddasu i ddysgu wyneb yn wyneb, a allai newid eto o ran maint y grwpiau, y dulliau o ddarparu’r dysgu, cadw pellter, a masgiau. Bydd yr eitem hon ar ein blog yn trafod yr offer arferol yn yr ystafelloedd dysgu a sut i ymdrin â disgwyliadau myfyrwyr, yn ogystal â chyfeirio’r staff tuag at adnoddau perthnasol ar gyfer yr agweddau hynny.   

Offer Arferol yr Ystafelloedd Dysgu 

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth wedi datblygu canllawiau ar ddefnyddio’r offer dysgu arferol yn yr ystafelloedd dysgu canolog. Gallwch wylio rhestr o fideos sy’n arddangos yr offer yn yr ystafelloedd dysgu

Mae’n bosibl y bydd trefn fanylach o ran hylendid a phrotocolau Iechyd a Diogelwch yn dal i fod ar waith ym mis Medi, felly sicrhewch fod gennych y wybodaeth ddiweddaraf yn eu cylch, gan gynnwys systemau unffordd mewn adeiladau, amseroedd cyrraedd/gadael graddol ar gyfer staff a myfyrwyr, gorsafoedd glanhau, a chynlluniau eistedd.  

Mae arnom eisiau atgoffa’r staff hefyd o bolisi recordio darlithoedd y Brifysgol – fe allai dychwelyd at ddysgu wyneb yn wyneb olygu dychwelyd at recordio darlithoedd byw. Bydd nifer o fanteision i wneud recordiadau o ddarlithoedd wrth i ni fynd nôl i ddysgu wyneb yn wyneb. Os bydd myfyrwyr yn methu bod yn bresennol mewn darlith oherwydd salwch gallant ddal i fyny â’r gwaith yn haws. Ac os yw myfyrwyr yn gwybod bod recordiadau o ddarlithoedd ar gael, gallant osgoi dod i ganol pobl os nad ydynt yn teimlo’n hwylus. Mae’r cwbl hyn yn ein cynorthwyo â’r gwaith o warchod iechyd a lles pawb ledled y Brifysgol. Os ydych yn ansicr o gwbl, edrychwch eto ar ein rhestr o fideos ar Panopto. 

Efallai nad yw eich adran mewn ystafell ddysgu ganolog, a bod offer gwahanol i’r offer canolog arferol ar gael. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r asesiadau risg perthnasol ar gyfer eich mannau dysgu a gwiriwch sut orau i’w rhoi ar waith gyda’r person priodol yn eich adran.   

Read More

Diweddariad Vevox – mathau newydd o gwestiynau ar gael

Bydd gan Vevox ddiweddariad ar 13Medi a fydd yn cyflwyno mathau newydd o gwestiynau sy’n cynnwys delweddau.

Pôl Delwedd y gellir ei Farcio

Gallwch uwchlwytho delwedd fel y math o gwestiwn a gofyn i’ch myfyrwyr farcio’r datrysiad ar y ddelwedd. Bydd hyn yn wych ar gyfer diagramau, mapiau neu graffiau:

Screen grab of pin on image question.

Amlddewis ar bôl Delwedd

Cwestiwn arall ar ffurf delwedd, ond y tro hwn rhowch gyfle i’ch myfyrwyr ddewis yr ateb cywir o nifer o wrthdyniadau:

Screen grab of Multichoice image.

Nodyn i’ch atgoffa bod Vevox yn cynnal sesiynau hyfforddi ar:

  • 09.09.2021, 11:00-12:00
  • 28.09.2021, 14:00-15:00
  • 06.10.2021, 10:00-11:00

Bydd y sesiynau hyn yn ymdrin â:

  • Sut i gael mynediad at gyfrif
  • Sut i greu sesiwn
  • Creu a Rhedeg polau 
  • Cwestiwn ac Ateb Vevox – arddangos, cymedroli 
  • Arolygon 
  • Data a gosodiadau 
  • Gosod Integreiddiad MS Teams
  • Cwestiwn ac Ateb – unrhyw gwestiynau gan gyfranogwyr  

Archebwch eich lle ar-lein.

Am restr o’r holl ddiweddariadau sy’n dod ar 13 Medi, edrychwch ar Flogbost Vevox.

Mae ein holl ganllawiau ar gyfer Vevox ar gael ar ein tudalennau gwe pleidleisio.

Sesiynau Hyfforddiant Vevox

Vevox logo

Yn ystod y flwyddyn diwethaf, prynodd y Brifysgol offer Vevox er mwyn cynnal pleidleisiau. Ers hynny, rydym wedi gweld llu o weithgareddau pleidleisio gwych yn cael eu cynnal mewn dosbarthiadau ledled y Brifysgol.

Os nad ydych wedi defnyddio Vevox o’r blaen, neu os hoffech rywfaint o arweiniad, bydd Vevox yn cynnal sesiynau hyfforddiant ym mis Medi a Hydref: 

  • 9 Medi 11:00-12:00
  • 28 Medi 14:00-15:00
  • 6 Hydref 10:00-11:00

Archebwch eich lle ar ein safle Archebu Cyrsiau.

Cynhelir y sesiwn hyfforddiant hon ar-lein gan ddefnyddio Teams. Anfonir dolen atoch cyn dechrau’r sesiwn.

Am ragor o wybodaeth am Vevox, edrychwch ar ein tudalen ar y we am Offer Pleidleisio Vevox.

Yr adnoddau sy’n deillio o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol

Mae Hector, sydd wedi bod yn cydweithio ag ABERymlaen i gefnogi’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol, wedi paratoi rhestr o adnoddau a ysbrydolwyd gan y cyflwyniadau a gafwyd yn y gynhadledd. Pe hoffech wylio unrhyw rai o’r sesiynau eto, gallwch wneud hynny drwy fynd i’n  tudalennau gwe.

Prif Araith y Gynhadledd: Dr Chrissi Nerantzi

Yn sicr ddigon, un o uchafbwyntiau’r gynhadledd oedd y brif araith. Gofynnodd Chrissi y cwestiynau canlynol i bobl, a dyma’r canlyniadau:

Mentimeter poll result outlining how much colleagues agree with the following statements:

I am feeling more creative since the pandemic broke out (3.8)

My students react more positively to create tasks since the pandemic broke out (3.2)

I find it easier to be creative in my teaching practice during the pandemic (3.3)

Being creative means risk lowering my evaluation scores linked to my teaching (3)
Mentimeter word cloud results answering the following question: What is your main driver to innovate in your practice?

Os ydych yn dymuno darllen rhagor am waith Chrissi, ewch i’r tudalennau gwe canlynol:

Read More

Myfyrdod ar redeg Prosiect Peilot Llysgenhadon Dysgu Myfyrwyr

Gan Anna Udalowska

Mae llenyddiaeth addysgegol yn pwysleisio pwysigrwydd ymwneud gweithredol gan fyfyrwyr ym mhob menter sy’n effeithio ar eu profiad dysgu nhw. Gan ein bod ni, yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu, yn gweithio mor agos â’r staff addysgu yn eu cynghori ar arferion gorau mewn dysgu ac addysgu, roeddem ni’n teimlo y byddai ein darpariaeth yn elwa o gael cyfraniad uniongyrchol gan fyfyrwyr. Penderfynwyd creu partneriaeth gyda grŵp o fyfyrwyr, yn gweithio fel Llysgenhadon Dysgu Myfyrwyr, i ganolbwyntio ar un o’r materion a godir yn fwyaf amlwg mewn adborth gan fyfyrwyr – cynllun modiwlau Blackboard.

Gwnaed llawer eisoes i wella llywio a chysondeb modiwlau Blackboard, e.e., cyflwynwyd dewislenni Blackboard adrannol ac Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard. Mae enghreifftiau rhagorol o fodiwlau Blackboard i’w cael, gyda rhai’n cael eu harddangos yn ein Gwobrau Cwrs Nodedig. Fodd bynnag mae sylwadau ar anawsterau o ran llywio a diffyg cysondeb modiwlau Blackboard yn dal i ymddangos yn adborth y myfyrwyr (e.e. Arolwg Digital Insights).

Cyn dechrau’r prosiect, cafodd yr Uned gyfle i fynd i weithdy ar bartneriaeth myfyrwyr-staff a gyflwynwyd gan Ruth a Mick Healey sy’n ymgynghorwyr blaenllaw ar yr agwedd hon ar ymgysylltu â myfyrwyr. Roedd y sesiwn, yn ogystal ag ymgynghoriad dilynol oedd yn edrych yn benodol ar y prosiect Llysgenhadon Dysgu Myfyrwyr, yn hynod o werthfawr. Er bod ein prosiect yn canolbwyntio’n bennaf ar ymgynghori â myfyrwyr, gwnaethom ein gorau i gyflwyno gwerthoedd sylfaenol partneriaethau myfyrwyr-staff, grymuso myfyrwyr i berchnogi’r prosiect, eu helpu i wireddu effaith eu gwaith a myfyrio ar sut y bu’n fuddiol i’w twf.

Read More

Modiwlau Rhiant a Phlentyn

Image of Blackboard logo and parent-child

Gan fod modiwlau 2021-22 bellach ar gael i staff, gallwn eu cysylltu gyda’i gilydd ar gais cydgysylltydd y modiwl. Cyfeirir at y drefn hon fel trefn rhiant a phlentyn. Mae cysylltu modiwlau gyda’i gilydd yn ffordd effeithiol o drafod modiwlau ar wahân a chanddynt yr un cynnwys er mwyn osgoi uwchlwytho deunyddiau ar gyfer dau neu ragor o wahanol fodiwlau.

Yn ôl y drefn hon, bydd un modiwl yn rhiant, a’r modiwl(au) arall/eraill yn blentyn. Ni chyfyngir ar nifer y modiwlau plentyn ond ni ellir cael mwy nag un rhiant.

Os ydych yn gydgysylltydd modiwlau ac os hoffech gysylltu eich modiwlau yn ôl y drefn hon, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk gan roi’r codau modiwl ar gyfer y modiwlau rhiant a phlentyn.

Enghreifftiau o Aberystwyth

Mae llawer o aelodau staff eisoes yn defnyddio modiwlau rhiant a phlentyn ar draws y sefydliad. Dyma rai enghreifftiau:

  1. Dysgir yr un cynnwys ar y modiwlau ond mae modiwl ar gael i flynyddoedd gwahanol
  2. Modiwlau â’r un cynnwys a ddysgir yn Gymraeg a Saesneg
  3. Modiwlau sy’n dod â gwahanol gynlluniau gradd at ei gilydd a chanddynt wahanol gyfeirnodau modiwl, er enghraifft modiwlau traethodau estynedig

Yn y bôn, mae pob modiwl sy’n rhannu’r un cynnwys yn ddelfrydol ar gyfer modiwlau rhiant a phlentyn.

Beth mae’r myfyrwyr yn ei weld?

Bydd y myfyrwyr yn gweld enw’r modiwl y maen nhw wedi’i gofrestru ar ei gyfer (hyd yn oed os mai’r modiwl plentyn yw hwnnw) wrth fewngofnodi i Blackboard ond byddant yn gweld yr holl gynnwys a osodir yn y modiwl rhiant. Ni chaiff hyfforddwyr osod cynnwys yn y modiwl plentyn.

Read More