Wrth i ni ddechrau’r flwyddyn newydd, rydym yn cynllunio ar gyfer cam nesaf ein prosiect Blackboard Learn Ultra.
Dros y chwe mis nesaf, byddwn yn ystyried:
- Gwelliannau i’n proses creu cyrsiau
- Templedi cwrs
- Adolygu’r Isafswm Presenoldeb Gofynnol
Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o’r gwaith ar gyfer rhan gyntaf y flwyddyn yn ymwneud â Mudiadau.
Mae Mudiadau’n cynnig yr un nodweddion â Chyrsiau ond nid ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer modiwlau a addysgir.
Mae Mudiadau nodweddiadol yn cynnwys:
- Mudiadau Adrannol sy’n cynnwys gwybodaeth i staff a myfyrwyr
- Mudiadau Hyfforddi
- Mudiadau Pwrpasol yn ôl y gofyn
Yn rhan o’r gwaith hwn, rydym yn adolygu’r holl Fudiadau presennol i leihau eu nifer a sicrhau bod eu hangen o hyd.
Byddwn hefyd yn datblygu polisi i sicrhau bod gennym ffordd glir o reoli ceisiadau am Fudiadau newydd.
Byddwn yn cysylltu â pherchnogion Mudiadau maes o law.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth am ddefnyddio Ultra, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).