Arfer da ar gyfer gwaith grŵp ar-lein: 7 awgrym ymarferol

Mae gwaith grŵp yn rhoi cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr feithrin sgiliau trosglwyddadwy pwysig mewn cyfathrebu, arweinyddiaeth a deinameg grŵp yn ogystal ag atgyfnerthu dysgu a dealltwriaeth. Gyda rhyngweithio wyneb yn wyneb yn gyfyngedig, gall gwaith grŵp ar-lein roi cyfle i fyfyrwyr ddysgu a ffurfio perthynas â’u cyfoedion.

Er y gall myfyrwyr elwa llawer o waith grŵp, gall rhai deimlo’n bryderus o ganlyniad i nifer o broblemau posibl a all godi, megis anghydbwysedd cyfraniadau gan wahanol aelodau’r grŵp, deinameg grŵp anodd a materion amserlennu (Smith et al., 2011). Fodd bynnag, mae camau y gallech eu cymryd i leddfu’r materion hyn a dyma 7 awgrym ymarferol ar sut y gallech wneud gwaith grŵp ar-lein yn brofiad mwy pleserus ac ystyrlon i’ch myfyrwyr:

1. Dechrau ar yr un dudalen.
Sicrhau, cyn i’r gwaith grŵp ddechrau, bod pob myfyriwr yn cael cyfarwyddiadau clir yn ymwneud â sut rydych yn disgwyl i’r prosiect neu’r aseiniad gael ei gwblhau. Er enghraifft, sut ydych chi’n disgwyl i dasgau gael eu rhannu?
Mae’n hanfodol eich bod yn gosod deilliannau dysgu clir. Pa wybodaeth a sgiliau y disgwylir i’r myfyrwyr eu caffael drwy ymgymryd â’r gwaith grŵp? Gall hyn fod yn ddefnyddiol er mwyn dangos i fyfyrwyr y manteision sydd i’w cael o ymgymryd â gwaith grŵp.
Os yw’r gwaith grŵp wedi’i raddio, rhowch criteria marcio manwl i’r fyfyrwyr.

2. Cadwch niferoedd grwpiau yn fach.
Gall trefnu amser i gyfarfod fel grŵp fod yn heriol, yn enwedig os oes rhaid cynnal cyfarfodydd ar-lein. Gall grwpiau mawr wneud trefnu cyfarfodydd yn anodd iawn felly ceisiwch gadw niferoedd grwpiau’n fechan.
Gallwch hefyd annog myfyrwyr i ddefnyddio offer ar-lein am ddim, fel Doodle, i’w cynorthwyo i drefnu eu cyfarfodydd.

3. Rhoi arweiniad ar sut i gynnal cyfarfodydd ar-lein.
Gyda sesiynau ar-lein yn cael eu cyflwyno drwy MS Teams, dylai myfyrwyr fod yn gyfarwydd â sut i fynychu cyfarfodydd o fewn Teams, ond ni fyddant o reidrwydd yn gwybod sut i drefnu cyfarfod eu hunain. Rhowch gyfarwyddiadau clir iddynt ar sut i wneud hyn (FAQ – Sut ydw i’n sefydlu Cyfarfod Timau?)
Gallech hefyd roi cyfarwyddiadau i fyfyrwyr ar sut i ddefnyddio’r nodweddion cydweithredol defnyddiol o fewn Teams, megis y Bwrdd Gwyn a sut i rannu dogfennau cydweithredol.

4. Creu gweithle rhithwir.
Rhowch le rhithwir i fyfyrwyr weithio o fewn eu grwpiau, i gysylltu â’i gilydd ac i rannu syniadau.
Os ydych am i’ch myfyrwyr allu cydweithio ar ddogfen Word, efallai yr hoffech ystyried sefydlu tîm preifat ar gyfer pob grŵp o fewn MS Teams. Fodd bynnag, dylai pob asesiad aros yn Blackboard. Er mwyn i bob grŵp gael ei le ei hun i weithio, gallech sefydlu grŵp ar gyfer y myfyrwyr o fewn Blackboard. Mae’n bwysig rhoi awgrymiadau i fyfyrwyr ar sut i wneud y defnydd gorau o’u gweithle rhithwir.
Gallech hefyd sefydlu bwrdd trafod ar gyfer pob grŵp neu gallech greu bwrdd trafod cyffredinol ar gyfer y modiwl cyfan yn Blackboard fel y gall myfyrwyr ofyn cwestiynau i chi (FAQ: Sut ydw i’n ychwanegu bwrdd trafod at fy modiwl Blackboard?)

5. Rhannu cyfrifoldebau arwain.
Yn hytrach na chael un myfyriwr i arwain y grŵp, beth am ofyn i’r myfyrwyr gymryd eu tro i hwyluso ac arwain y drafodaeth ym mhob cyfarfod? Gall hyn helpu i sicrhau bod pob aelod o’r grŵp yn cymryd cyfrifoldeb cyfartal wrth arwain y grŵp ac yn rhoi cyfle i bawb ddatblygu sgiliau arwain pwysig.

6. Graddio.
Sicrhewch bod eich myfyrwyr yn deall sut bydd y gwaith grŵp yn cael ei asesu. Gellir marcio gwaith grŵp naill ai yn ei gyfanrwydd, yn unigol neu’n gyfuniad o’r ddau (e.e. marcio’r gwaith yn ei gyfanrwydd ond gan ystyried cyfraniadau unigol drwy hunanwerthusiadau a gwerthusiadau gan gymheiriaid).

7. Bod ar gael i roi cymorth.
Efallai y bydd gwaith grŵp yn heriol i rai myfyrwyr. Mae’n bwysig felly bod myfyrwyr yn gwybod beth i’w wneud os oes angen iddynt drafod unrhyw faterion gyda chi’n gyfrinachol neu os oes ganddynt unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r gwaith grŵp yn gyffredinol.
Rhowch fanylion i fyfyrwyr ar sut a phryd y gallant gysylltu â chi. Efallai y byddwch hefyd am sefydlu sesiynau galw heibio dewisol yn MS Teams ar gyfer y myfyrwyr lle gallant ymuno â chi os oes ganddynt unrhyw gwestiynau.

Smith, et al. (2011) ‘Overcoming student resistance to group work: Online versus face-to-face’, The Internet and Higher Education, 14, pp. 121–128.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*