Safle Teams NEWYDD:
Rydym ni wedi sefydlu safle Teams newydd, Dysgu ac addysgu cyfrwng Cymraeg. Mae’r safle hwn ar gyfer staff yn y Brifysgol sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu sy’n medru’r Gymraeg. Mae’n lle anffurfiol i ni rannu gwybodaeth am hyfforddiant cyfrwng Cymraeg gyda chi ac yn lle hefyd i bawb rannu arferion addysgu da yn gyffredinol.

*Er mwyn cael eich hychwanegu at y safle, anfonwch e-bost at udda@aber.ac.uk*
Hyfforddiant cyfrwng Cymraeg (mis Mawrth):
Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnig nifer o sesiynau Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) mewn amrywiaeth o bynciau. Rydym yn cynnal dwy sesiwn cyfrwng Cymraeg yn ystod mis Mawrth.
- Hanfodion E-ddysgu Uwch: Beth allaf ei wneud gyda Blackboard (22 Mawrth; 14:00-15:30)
- Fforwm Academi: Addysgu grwpiau bychain (24 Mawrth; 11:00-12:30) *Agored i staff o brifysgolion eraill yng Nghymru
Am restr lawn o’r holl sesiynau (cyfrwng Cymraeg a Saesneg) ac i sicrhau lle ar unrhyw gwrs, ewch i’r wefan hyfforddi staff. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw un o’r sesiynau, anfonwch e-bost at udda@aber.ac.uk.

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi. 


