Gwobr Cwrs Nodedig: Enillwyr

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi enillydd y Wobr Cwrs Nodedig, dan arweiniad y Grŵp E-ddysgu, ar gyfer eleni. Gwelwch ein enillwyr ar y Cynhadledd Dysgu ac Addysgu.  Cewch archebu’ch lle yma.

Dyfarnwyd y Wobr Cwrs Nodedig i Alison Pierse, Tiwtor Dysgu Gydol Oes ym maes Celf, ar gyfer y modiwl XA15220 Figuratively Speaking: The History of Western Figurative Sculpture. Cafodd y modiwl hwn ei ganmol gan y panel am ei ffordd arloesol o ddylunio ar y cyd â’r myfyrwyr, yn ogystal â’i allu i greu profiad dysgu 3 dimensiwn ar gyfer myfyrwyr nad ydynt, o bosibl, yn astudio ar y campws, a sicrhau hefyd bod pob agwedd ar y modiwl yn gwbl hygyrch.

Yn ychwanegol at yr enillydd, cafodd y modiwlau canlynol Ganmoliaeth Uchel:

  • Tîm Dysgu o Bell IBERS ar gyfer BDM0120 Research Methods
  • Stephen Chapman ar gyfer BDM1320 The Future of Packaging
  • Alexandros Koutsoukis ar gyfer IP12620 Behind the Headlines
  • Jennifer Wood ar gyfer SP10740 Spanish Language (Beginners)

Mae’r ystod amrywiol o arddulliau dysgu ac addysgu a welwyd yn y ceisiadau eleni yn adlewyrchu’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud ledled y sefydliad.

Nod y Wobr Cwrs Nodedig, sydd ar ei chweched flwyddyn bellach, yw cydnabod yr arferion dysgu ac addysgu gorau oll trwy roi cyfle i aelodau o staff rannu eu gwaith â chyd-weithwyr, gwella eu modiwlau presennol yn Blackboard, a chael adborth ar eu modiwlau. Mae’r modiwlau’n cael eu hasesu mewn 4 maes: dyluniad y cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu, a chymorth i ddysgwyr. Mae natur y wobr, sy’n seiliedig ar hunanasesu, yn rhoi’r cyfle i staff fyfyrio ar eu cwrs a gwella agweddau ar eu modiwl cyn y bydd panel yn asesu pob cais ar sail y gyfeireb.

Hoffai’r panel a’r Grŵp E-ddysgu ddiolch i’r holl ymgeiswyr am yr amser a’r ymdrech a roddwyd ganddynt i’w ceisiadau a’u modiwlau eleni.

Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn mwy o geisiadau y flwyddyn nesaf, a llongyfarchiadau lu i enillwyr y wobr eleni.

Blackboard SaaS – diweddariad 4

Ffocws y rhan fwyaf o’n profi dros y mis diwethaf oedd gwneud yn siŵr bod ein gosodiadau lleol yn Blackboard yn gweithio’n iawn. Rydym wedi treulio llawer o amser yn gweithio ar y cyfieithiad Cymraeg. Mae ein ffeiliau Cymraeg yn eithaf hen ac angen eu diweddaru, felly byddwn yn treulio amser yn ceisio sicrhau fod y rhyngwyneb Cymraeg yn gweithio’n iawn.

Rydym hefyd yn gwirio holl brif offer Blackboard i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio fel y disgwyl – ac er mwyn i hynny weithio’n iawn, byddwn angen eich cymorth. Rydym yn bwriadu gwahodd staff i brofi amgylchedd newydd SaaS i gael mwy o adborth – cadwch lygaid allan am e-bost yn eich gwahodd i ymuno â’r grŵp profi.

Yn y blog diwethaf gwnaethom grybwyll ein bod yn cynllunio amser segur ar gyfer trosglwyddo’r data’n derfynol. Mae hi wedi bod yn anodd dod o hyd i amser addas sydd ddim yn rhy gynnar neu’n rhy aflonyddgar yn ystod cyfnod yr arholiadau atodol. Credwn ein bod wedi dod o hyd i ddyddiad addas erbyn hyn. Ein cynllun yw trefnu amser segur i Blackboard ar 29 Awst. Dylai gymryd ychydig oriau’n unig i drosglwyddo data a phan fydd Blackboard ar gael eto, bydd ar gael i’w ddarllen yn unig tan 2 Medi. Os yw staff angen cael mynediad i ddiweddaru rhywbeth rhwng 29 Awst a 2 Medi, e-bostiwch elearning@aber.ac.uk

Darganfyddiadau arolwg Mewnwelediad Digidol a gynhaliwyd yn PA am yr eilwaith!

Y llynedd gwnaeth Prifysgol Aberystwyth gymryd rhan yng nghynllun peilot Traciwr Profiad Digidol Myfyrwyr JISC – arolwg ar-lein a gynlluniwyd gan JISC i gasglu gwybodaeth am ddisgwyliadau a phrofiadau myfyrwyr o dechnoleg. Mae peilot 2017/18 wedi arwain at wasanaeth JISC newydd nawr o’r enw Mewnwelediad Profiad Digidol.

Cynhaliwyd arolwg Mewnwelediad Digidol i fyfyrwyr yn PA ym mis Ionawr 2019. Roeddem yn gyffrous iawn ynghylch cynnal yr arolwg am yr eilwaith, oherwydd ei fod yn ein galluogi i gymharu’r darganfyddiadau â chanlyniadau’r llynedd a chadw golwg ar ein cynnydd o ran darpariaethau digidol.

Isod ceir crynodeb byr o rai o’r prif ddarganfyddiadau. Os hoffech eu trafod ymhellach neu gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â ni ar elearning@aber.ac.uk.

Fel y gwyddoch efallai, mae’r arolwg Mewnwelediad Profiad Digidol yn dod gyda data meincnodi gan sefydliadau Addysg Uwch eraill yn ein sector. Mae’r data meincnodi bellach ar gael a byddwn yn ei rannu â chi yn y neges Mewnwelediad Digidol nesaf.

Os hoffech ddarllen am brofiad PA o gynnal Mewnwelediad Digidol ym mlwyddyn academaidd 2017/18, edrychwch ar yr erthygl a gyhoeddwyd ar wefan JISC neu porwch drwy ein negeseuon blaenorol:


Mewnwelediad Profiad Digidol 2018/19

WiFi

Cynyddodd boddhad y myfyrwyr â’r ddarpariaeth WiFi o 7.3% o’i gymharu ag arolwg y llynedd. Er mai WiFi yw’r thema fwyaf cyffredin yn sylwadau’r myfyrwyr o hyd, mae nifer y sylwadau ynghylch WiFi wedi lleihau o 66 y llynedd i 38 eleni.

E-lyfrau ac E-gyfnodolion

Ymatebodd 7.7% yn llai o fyfyrwyr fod ganddynt fynediad i e-lyfrau ac e-gyfnodolion pan fônt eu hangen, mae’r mater hwn wedi cael ei grybwyll yn 19 o sylwadau’r myfyrwyr.

Blackboard

Mae’r broblem o ran llywio yn Blackboard wedi gwella mae’n ymddangos. Dim ond 3 sylw oedd am y broblem hon o’i gymharu ag 20 y llynedd a chynnydd o 8.2% yn y cwestiwn am lywio yn Blackboard.

*Mae geiriad y cwestiwn wedi newid ers arolwg 2017/18 a allai fod wedi effeithio ar y cyfraddau.

Diogelwch

Mae’r myfyrwyr yn fwy bodlon â’r darpariaethau o ran materion diogelwch.

Dyfeisiau symudol

Mae defnyddio ffonau clyfar i gynorthwyo dysgu wedi cynyddu rhywfaint. Yn y sylwadau, roedd myfyrwyr yn siarad am yr angen i wasanaethau craidd megis Panopto a Blackboard fod yn addas ar gyfer teclynnau symudol ac am fudd apiau i’w helpu â’u hastudiaethau. Yn ddiddorol iawn, pan ofynnwyd iddynt a fyddai’n well ganddynt gael caniatâd i ddefnyddio eu dyfeisiau symudol eu hunain yn y dosbarth, dim ond 49% a atebodd ‘Ar unrhyw adeg’, atebodd 45.4% ‘I wneud gweithgareddau yn y dosbarth yn unig’ ac atebodd 5.6% ‘Dim o gwbl’.

Defnyddio technoleg

Mae yna symudiad tuag at ddefnyddio mwy o dechnoleg, roedd yna nifer o sylwadau ynghylch y ffaith bod angen i’r staff gael rhagor o hyfforddiant ar ddefnyddio technoleg ac roedd cynnydd o bron i 10% yn y myfyrwyr oedd eisiau i fwy o dechnoleg gael ei defnyddio ar eu cwrs.

Cyhoeddi Prif Siaradwr y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Helen Beetham

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi mai’r prif siaradwr ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni fydd Helen Beetham.

Mae Helen yn ymgynghorydd addysg, ymchwilydd, ysgrifennwr, ac arweinydd prosiect digidol, sy’n canolbwyntio’n benodol ar lythrennedd digidol dysgwyr. Yn ddiweddar, gwnaeth Helen helpu i ddatblygu arolwg Mewnwelediad Digidol Jisc. Prifysgol Aberystwyth oedd un o’r Prifysgolion a gymerodd ran yn y prosiect hwn (gallwch ddarllen mwy am y darganfyddiadau a’r prosiect ar ein blog).

Mae trydydd rhifyn o gasgliad a olygodd Helen ar y cyd â Rhona Sharpe yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf eleni, ac mae hyn yn digwydd cyd-daro â dyddiadau’r gynhadledd. Mae’r llyfr, Rethinking Pedagogy for a Digital Age, yn dod â datblygiadau diweddar a damcaniaethau beirniadol ar gynllunio gweithgareddau dysgu ynghyd sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, yn hygyrch, ac yn cynnwys astudiaethau achos ac ymchwil ar draws y sector.

Yn ogystal â chyflwyno’r prif gyflwyniad ar ddatblygiad y cwricwlwm a dysgu digidol, bydd Helen hefyd yn cynnig gweithdy i’r cynrychiolwyr er mwyn iddynt allu cymhwyso’r hyn y maent wedi’i ddysgu i’w cyd-destunau a’u cwricwlwm eu hunain. Byddwn yn defnyddio’r data a’r darganfyddiadau o’r prosiect Mewnwelediad Digidol i gefnogi’r gwaith hwn.

Cynhelir y gynhadledd rhwng 8-10 Gorffennaf 2019 a gall cynrychiolwyr archebu lle yma.

Bydd drafft o amserlen y gynhadledd ar gael ar ein gweddalennau’n fuan.

Mae Helen yn trydar ar @helenbeetham ac yn ysgrifennu blogiau (weithiau) ar digitalthinking.org.uk.

Gwirio’r sillafu yn eich adborth yn Turnitin

Os ydych chi’n rhywbeth tebyg i ni, sef braidd yn gaeth i Line of Duty yn ddiweddar (dim ‘sbwylio’ yma) ac felly’n deall sut y gallai camsillafu’r gair ‘definately’ arwain at ganlyniadau trychinebus – ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau na fydd neb yn cael eu cyhuddo o weithio i OCGs.

Rydym ni wedi dod o hyd i ffordd o ychwanegu geiriadur at y porwr rydych yn ei ddefnyddio wrth farcio er mwyn gallu gwirio sillafu’ch adborth. Rydym yn rhoi cyfarwyddiadau fesul cam isod ar gyfer Chrome a Firefox (fel y gwyddoch, dyna’r porwyr rydym yn eu hargymell er mwyn defnyddio ein hoffer e-ddysgu).

Gosod yr Ategyn Gwirio Sillafu yn Chrome

Os Chrome yw’ch dewis borwr, dyma sut mae gosod yr offer gwirio sillafu:

  1. Agor Chrome
  2. Cliciwch ar y tri smotyn yn y gornel ar y dde ar frig y sgrin:
  3. Dewiswch Settings a bydd ffenest newydd yn agor
  4. Cliciwch ar y tri smotyn yn y gornel ar y chwith ar frig y ffenest wrth ymyl: Settings
  5. Cliciwch ar Advanced a dewis Languages
  6. Gallwch ychwanegu ieithoedd (Welsh-Cymraeg ac English UK) drwy glicio ar Add languages
  7. Wedyn gallwch ddewis ym mha ieithoedd yr hoffech wirio sillafu drwy eu dewis (byddant yn cael eu lliwio’n las)
  8. Wedyn byddwch yn barod i fynd

Gosod yr Ategyn Gwirio Sillafu yn Firefox

Os Firefox yw’ch dewis borwr, dyma sut mae gosod yr offer gwirio sillafu:

  1. Agor Firefox
  2. Cliciwch ar y tair llinell yn y gornel ar y dde ar frig y sgrin:
  3. Dewiswch Ychwanegion/Add-ons
  4. Dewiswch Ategion/Get Add-ons
  5. Yn y blwch chwilio, rhowch Geiriadur Cymraeg neu British English Dictionary a dewiswch y geiriadur perthnasol
  6. Cliciwch Add to Firefox
  7. Wedyn byddwch yn barod i fynd

Gan eu bod wedi’u seilio ar y porwr, bydd rhaid i chi eu hychwanegu at bob porwr a ddefnyddiwch wrth farcio, ond ar ôl iddynt gael eu gosod fe fyddwch yn hollol rydd o unrhyw amheuaeth mai chi yw ‘H’.

Gallwch Gofrestru ar gyfer y Gynhadledd nawr

Gallwch gofrestru nawr ar gyfer y seithfed gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Dysgu o Ragoriaeth: Arloesi, Cydweithio, Cymryd Rhan! ac fe’i cynhelir rhwng dydd Llun 8 a dydd Mercher 10 Gorfennaf 2019.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/cofrestru-ar-gyfer-y-7fed-cynhadledd-dysgu-ac-addysgu-flyn-2

Eleni, mae gennym raglen gyffrous ac amrywiol o weithgareddau, gweithdai a chyflwyniadau sy’n dangos yr arferion dysgu arloesol a geir yn y Brifysgol. Mae copi drafft o’r rhaglen  ar gael ar ein tudalennau gwe yn fuan.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Tanysgrifio i’r Blog UDDA

Gallwch nawr danysgrifio i’r Blog UDDA er mwyn i chi gael hysbysiad e-bost pan fydd neges newydd yn cael ei hysgrifennu. Cewch y newyddion diweddaraf am feddalwedd, mentrau newydd, sesiynau hyfforddi a digwyddiadau sy’n helpu i gynorthwyo gweithgareddau dysgu ac addysgu trwy gyfrwng technoleg.

Dyma rai o’n negeseuon blog diweddaraf:

  • Canolfan Raddio Blackboard – yn ogystal â recordio a rheoli marciau aseiniadau, mae rhai nodweddion a dewisiadau ychwanegol a all eich helpu i ddefnyddio’r Ganolfan Raddio i’w botensial llawn, byddwn yn eich cyflwyno i’r nodweddion hyn.
  • Offer sydd ar gael i’w llogi gan y Gwasanaethau Gwybodaeth – oeddech chi’n gwybod bod gan y GG offer y gallwch eu benthyca? Yn y blog hwn, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth sydd ar gael a sut y gallwch logi’r offer.
  • Gosod cwisiau yn eich recordiadau Panopto – ydych chi eisiau profi gwybodaeth y myfyrwyr wrth iddynt wylio recordiadau o ddarlithoedd? Os felly, beth am roi cwis yn eich recordiad Panopto? Cewch ragor o wybodaeth yn y blog hwn.

Bydd tanysgrifio i’r blog yn sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn syth. Mae’n hawdd tanysgrifio:

  • Ewch i’r Blog UDDA
  • Sgroliwch i lawr y dudalen a rhowch eich cyfeiriad e-bost a chlicio ar Tanysgrifio:
  • Byddwch nawr wedi cofrestru ac yn derbyn neges e-bost pan fydd neges flog newydd yn cael ei hysgrifennu

Rydym bob amser yn chwilio am flogwyr gwadd hefyd – os hoffech ysgrifennu blog am y modd yr ydych yn defnyddio technoleg wrth ddysgu ac addysgu rhowch wybod i ni (udda@aber.ac.uk).  Hefyd e-bostiwch ni os hoffech awgrymu pwnc neu os hoffech i ni ysgrifennu am offer E-ddysgu penodol.

Fy lleoliad gwaith gyda’r Tîm E-ddysgu

[:cy]Helo, fi yw Jude Billingsley, myfyriwr graddedig sydd wrthi’n gweithio gyda’r tîm E-ddysgu’n rhan o raglen AberYmlaen, cynllun a gynlluniwyd i helpu graddedigion i addasu i amgylchedd gwaith a datblygu sgiliau trosglwyddadwy. Yn ystod fy lleoliad byddaf yn cyfrannu at y blog E-ddysgu, yn ymgyfarwyddo â Blackboard trwy adeiladu cynnwys modiwl a chymharu ein gwefan E-ddysgu ni â gwefannau E-ddysgu sefydliadau eraill er mwyn dod o hyd i ardaloedd y gellir eu gwella. Byddaf hefyd yn cynorthwyo i drefnu’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol ac yn helpu gyda’r tasgau o ddydd i ddydd yn y swyddfa.
Fel rhywun sy’n dyheu i fod yn awdur, rwy’n bwriadu creu fy ngwefan fy hun felly bydd y sgiliau meddalwedd yr wyf yn eu dysgu ar y cynllun yn werthfawr. Bydd dysgu sut i gynnal blog yn ddefnyddiol iawn hefyd, gan fod blogio’n angenrheidiol mewn nifer o feysydd creadigol. Rwy’n gobeithio y gall y cynllun ddangos i mi sut y gall creadigrwydd a thechnoleg helpu ei gilydd i greu cynnwys atyniadol ac addysgiadol a’m galluogi i ddefnyddio’r sgiliau yr wyf wedi’u dysgu yn y brifysgol mewn amgylchedd swyddfa. Rwy’n mwynhau mynd i’r afael â meddalwedd, rhaglennu a chynnal gwefannau yn ogystal â gweld sut mae pethau’n gweithio y tu ôl i’r llen yn y brifysgol. Mae fy amser ar y tîm yn fyr ond gobeithiaf ddysgu llawer!

Gallwch Gofrestru ar gyfer y Gynhadledd nawr

Gallwch gofrestru nawr ar gyfer y chweched gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Mynd â Dysgu Myfyrwyr i’r Lefel Nesaf ac fe’i cynhelir rhwng dydd Mawrth 11 a dydd Iau 13 Medi 2018.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein. 

Eleni, mae gennym raglen gyffrous ac amrywiol o weithgareddau, gweithdai a chyflwyniadau sy’n dangos yr arferion dysgu arloesol a geir yn y Brifysgol. Mae copi drafft o’r rhaglen ar gael yma.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni.