Hyfforddiant a Chefnogaeth

Mae rhaglen Hyfforddiant E-ddysgu eleni wedi cychwyn o ddifri erbyn hyn. Gallwch archebu lle ar ein sesiynau hyfforddi drwy dudalennau archebu’r GDSYA. Eleni, mae ein hyfforddiant wedi’i rannu’n 3 lefel wahanol er mwyn i’r hyfforddiant a gynigir gennym fodloni eich gofynion.

Ein lefel gyntaf yw Hanfodion E-ddysgu. Mae’r sesiynau hyn wedi’u hanelu at bobl nad ydynt wedi defnyddio’r systemau o’r blaen neu sydd eisiau sesiwn atgoffa. Diben allweddol y sesiynau hyn yw sicrhau bod y cyfranogwyr yn gallu cadw at bolisïau’r Brifysgol. Er bod y sesiynau hyn yn dechnegol, rydym yn sicrhau bod golwg ar y rhesymwaith addysgegol y tu ôl iddynt hefyd. Yn dilyn hyn, ein lefel nesaf yw E-ddysgu Uwch. Diben y sesiynau hyn yw dechrau ymchwilio i’r ffyrdd arloesol y gallwch ddefnyddio’r meddalwedd E-ddysgu i gynorthwyo eich dysgu ac addysgu. Ein lefel olaf yw Rhagoriaeth E-ddysgu. Mae’r sesiynau hyn yn eich cynorthwyo i ddatblygu dulliau arloesol o ddysgu trwy gyfrwng technoleg.

Mae yna rai sesiynau newydd yr hoffem dynnu eich sylw atynt:

  • What can I do with my Blackboard course? Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar yr offer rhyngweithiol y gellir eu defnyddio yn Blackboard i wella’r dysgu a’r addysgu. Cynhelir fersiwn arbennig o’r sesiwn hon ar 13 Rhagfyr a fydd yn edrych ar sut y gellir defnyddio Blackboard ar gyfer Dysgwyr o Bell.
  • Introduction to Skype for Business. Bydd y sesiwn hon yn edrych ar Skype ar gyfer Busnes a sut y gallwch ei ddefnyddio i greu dosbarth rhithwir. Byddwn yn egluro sut mae trefnu cyfarfod Skype ar gyfer busnes ac i ryngweithio
  • Using Panopto for Assessments. Panopto yw meddalwedd Cipio Darlithoedd y Brifysgol. Yn ogystal â recordio darlithoedd, gellir defnyddio Panopto ar gyfer asesiadau hefyd. Bydd y sesiwn hon yn edrych ar sut y gallwch ddefnyddio Panopto ar gyfer asesiadau myfyrwyr.
  • Teaching with Mobile Devices. Byddwn yn edrych ar sut y gallwch ddefnyddio dyfeisiau symudol wrth addysgu. Yn ogystal â defnyddio dyfeisiau symudol i addysgu, byddwn hefyd yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio meddalwedd pleidleisio i gynyddu’r rhyngweithio yn eich sesiynau dysgu.

Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau ar yr offer Component Marks Transfer sy’n galluogi i farciau gael eu bwydo’n awtomatig o Blackboard i AStRA a allai fod yn ddefnyddiol i staff gweinyddol.

Mae mynediad i E3 Academi Aber wedi newid hefyd. Er mwyn cael mynediad i’r Ystafell Hyfforddi E-ddysgu, dewch i mewn i adeilad Hugh Owen drwy’r Labordy Iaith ar Lawr B. Ewch i fyny’r grisiau nes y cyrhaeddwch Lawr E. Byddwch angen defnyddio eich Cerdyn Aber i gael mynediad i E3, mae’r Ystafell Hyfforddi E-ddysgu i lawr y coridor ar yr ochr dde.

A oes arnoch angen cymorth gyda Panopto?

Panopto yw meddalwedd Cipio Darlithoedd y Brifysgol ac mae wedi’i osod yn yr holl ystafelloedd dysgu ar draws y Brifysgol. Yn unol â’r polisi Cipio Darlithoedd, mae’n rhaid recordio’r holl ddarlithoedd gan ddefnyddio Panopto.

Caiff y recordiadau eu defnyddio’n eang a’u gwerthfawrogi’n fawr gan ein myfyrwyr. Er mwyn sicrhau bod y recordiadau o’r ansawdd gorau posibl a bod y sain wedi’i recordio’n llwyddiannus, mae’r Grŵp E-ddysgu’n cynnig y cymorth canlynol ar gyfer defnyddio’r meddalwedd:

  • Dechrau arni gyda Panopto – bydd aelod o’r Grŵp E-ddysgu’n galw heibio’r lleoliad addysgu cyn y ddarlith i wneud yn siŵr bod yr holl osodiadau’n gywir, ni fydd hyn yn cymryd mwy na 5 munud
  • Ymgynghoriadau un-i-un – gallwn gwrdd â chi mewn lle cyfleus ar amser cyfleus i roi hyfforddiant byr i chi ar ddefnyddio Panopto
  • Cwestiynau Cyffredin – cyfarwyddiadau cam wrth gam gyda chipluniau:

Rydym yn barod i’ch cynorthwyo i ddefnyddio Panopto mewn unrhyw ffordd sy’n gyfleus i chi. Cysylltwch â ni ar #2472 neu elearning@aber.ac.uk

Cynllunio Amser Segur

Nid yw amser segur ar y systemau yr ydym yn dibynnu arnynt yn beth poblogaidd. Penderfynu pryd i drefnu amser segur ar gyfer Blackboard yw un o benderfyniadau mwyaf anodd y swydd. Mae jyglo’r meysydd gwaith gwahanol yn y Brifysgol yn ogystal â gwneud yn siŵr ein bod yn ymgynghori â’r holl bobl berthnasol yn cymryd llawer o amser. Rydym yn ceisio osgoi gorffen y gwaith cynnal a chadw ar ddydd Gwener – mae’n well sicrhau nad oes problemau’n codi dros y penwythnos pan nad yw’r staff cymorth yma. Yn yr un modd, nid ydym yn gwneud gwaith yn ystod cyfnodau pan fo’r Brifysgol ar gau (mae’n anodd cael cymorth gan gwmnïau meddalwedd oherwydd yn aml iawn maen nhw ar wyliau hefyd).

Rydym yn ceisio trefnu dyddiad – rydym yn gweld pa ymrwymiadau eraill sydd gan bobl, ar lefel y tîm, lefel yr adran a lefel y Brifysgol. Mae yna amseroedd y mae’n rhaid i ni eu hosgoi – ni ellir cael amser segur yn ystod amser dysgu (gan gynnwys y myfyrwyr TAR sy’n dechrau’n gynt ac yn gorffen yn hwyrach nag eraill, yn ogystal â’r rhai sy’n Ddysgwyr o Bell neu sy’n astudio Cyrsiau Dysgu Gydol Oes). Hefyd, mae unrhyw amser pan fo myfyrwyr angen adolygu neu pan fyddant angen defnyddio Blackboard ar gyfer arholiadau allan ohoni. Pan fyddwn ni’n meddwl bod gennym ddyddiad addas, rydym yn gofyn i grŵp llai o unigolion am eu barn – Rheolwyr Athrofeydd, Uwch Reolwyr, AQRO a chysylltiadau allweddol eraill. Os ydyn nhw’n dod o hyd i broblem, rhaid cychwyn o’r cychwyn.

Pan fyddwn wedi cadarnhau dyddiad, byddwn yn dechrau hysbysebu. Rydym bob amser yn rhoi neges ar faner yn Blackboard, yn defnyddio’r E-bost Wythnosol a chyfrifon Twitter a Facebook y Gwasanaethau Gwybodaeth.

Felly nid ydym yn trefnu amser segur Blackboard ar chwarae bach. Rydym yn gofyn i bobl, yn dweud wrth bobl, yn ei drefnu ac yn gwneud ein gorau i leihau ei effaith. Nid ydym bob amser yn cael pethau’n iawn i bawb, ond rydym yn gwneud ein gorau i gydbwyso holl ofynion cystadleuol sefydliad cymhlyg.