Pa feddalwedd a allaf ei ddefnyddio i addysgu?

Er bod darpariaeth ein huned yn canolbwyntio ar gefnogi offer craidd megis Blackboard, Turnitin, Panopto ac MS Teams,  mae’r rhestr o’r meddalwedd sydd ar gael i staff PA yn llawer hirach.

Yn ddiweddar rydym wedi prynu meddalwedd pleidleisio’r Brifysgol – Vevox a all fod yn ychwanegiad ardderchog i’r offer yr ydych yn eu defnyddio eisoes. Yn ystod y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol (archebu lle ar y gynhadledd)) bydd ein rheolwr cyfrif Vevox, Joe Probert yn egluro sut y gellir defnyddio Vevox ar gyfer gweithgareddau dysgu. Ddydd Mercher, byddwn hefyd yn cael cyfle i ymuno â gweminar ar sut i ddefnyddio Vevox yn eich ystafell ddosbarth hybrid. Os hoffech weld sut mae Vevox wedi cael ei ddefnyddio gan sefydliadau eraill, gallwch hefyd edrych ar yr astudiaethau achos hyn.

Offer arall yr ydym wedi ysgrifennu amdano o’r blaen yw Padlet sy’n rhad ac am ddim ac yn cael ei ddefnyddio’n eang ar draws y sector. Edrychwch ar ein blogbost blaenorol sy’n cynnwys rhai syniadau ar sut y gallai gael ei ddefnyddio i addysgu. Mae yna hefyd recordiad o gyflwyniad ar Padlet gan Danielle Kirk a gyflwynwyd yn ystod y 7fed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol.

Yn seiliedig ar ddarganfyddiadau’r Arolwg Mewnwelediad Digidol rydym hefyd wedi cyhoeddi rhestr o  offer digidol ac apiau defnyddiol ar gyfer dysgu. Efallai yr hoffech argymell y rhain i’ch myfyrwyr drwy rannu’r neges hon â hwy neu eu cyfeirio at offer penodol a fydd yn eu helpu gyda’r hyn y maent ei angen.

Os ydych chi’n penderfynu defnyddio unrhyw feddalwedd trydydd parti ar gyfer dysgu ac addysgu, mae yna rai ystyriaethau i’w gwneud i’ch cadw chi a’ch myfyrwyr yn ddiogel ar-lein.

Gweler: Defnyddio Meddalwedd Trydydd Parti ar gyfer Dysgu ac Addysgu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch defnyddio meddalwedd wrth addysgu, cysylltwch â ni ar lteu@aber.ac.uk.

Symud eich Darlithoedd (PowerPoint) Ar-lein: Gweithdy Kate Exley

Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi gweithdy ar-lein arbennig a gynhelir gan Dr Kate Exley ddydd Mercher 7 Gorffennaf am 10yb.

Bydd y gweithdy yn ddefnyddiol i gydweithwyr sy’n addasu a throsglwyddo eu darlithoedd traddodiadol ar gyfer dysgu ar-lein.

Archebwch eich lle ar-lein [link]:

https://stafftraining.aber.ac.uk/sd/list_courses.php

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly archebwch cyn gynted â phosibl.

Trosolwg o’r Sesiwn:

Mae nifer o gydweithwyr wedi bod yn addysgu’n gyfunol neu ar-lein ers nifer o flynyddoedd ond mae pandemig Covid wedi golygu ei bod yn rhaid i ni gyd ddarparu llawer o’n dysgu ac addysgu o bell. Mae hyn wedi golygu symud ein darlithoedd, a draddodwyd o’r blaen mewn darlithfeydd ac ystafelloedd dosbarth mawr, i lwyfannau ar-lein. Mae’r cyflymder y mae’r newid mawr hwn wedi digwydd yn ei hun wedi achosi heriau sylweddol i staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Mae’r gweithdy cyfunol hwn yn bwriadu darparu cyfarwyddyd, enghreifftiau a fforwm i gydweithwyr rannu eu profiadau a’u syniadau ar gyfer gwella’r ddarpariaeth hon.

Cyflwynir y gweithdy mewn dwy ran:

  • Bydd cyfres o 3 fideo byr ar gael ar neu cyn 30 Mehefin 2021 a dylid eu gwylio’n annibynnol cyn ymuno â’r fforwm drafod – oddeutu 45 munud o astudio annibynnol.
  • Fforwm drafod a gynhelir ar Teams ar 7 Gorffennaf, ble bydd gan gyfranogwyr gyfle i ofyn cwestiynau, rhannu profiadau a thrafod y pwnc – 1 awr o hyd.

Erbyn diwedd y ddwy awr, dylech allu:

  • Ystyried diben y ddarlith ar-lein yn ystod pandemig Covid
  • Trafod amrywiaeth o faterion dylunio ymarferol wrth symud darlithoedd ar-lein
  • Rhannu profiadau a syniadau gyda chydweithwyr ‘yn yr un cwch’
  • Dechrau cynllunio eich camau nesaf a beth y gallwch ei roi ar waith o ganlyniad i’r gweithdy

Mae’r gweithdy hwn wedi’i fapio’n bennaf i A2, A5, K2, K3 ar yr UKPSF. 

Read More