Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 12fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu, Dydd Mawrth 10 – Dydd Iau 12 Medi 2024.
Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein.
Dyma’r thema ar gyfer y gynhadledd eleni:
Paratoi ar gyfer Rhagoriaeth: Cynllunio Dysgu ac Addysgu Arloesol.
Dyma prif gangen y gynhadledd eleni:
- Ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd ar draws y cwricwlwm a thu hwnt
- Harneisio pŵer Deallusrwydd Artiffisial a thechnolegau eraill i wella dysgu
- Creu gweithgareddau dysgu deinamig i ysgogi ac ymgysylltu
- Dylunio dysgu cynhwysol i bawb
Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu, yn enwedig os ydynt yn canolbwyntio ar ymgorffori a defnyddio technoleg wrth ddysgu. Mae croeso i chi gyflwyno pynciau eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn cyd-fynd ag un o’r canghennau uchod.
Rydym yn annog cyflwynwyr i ystyried defnyddio fformatau amgen sy’n cyd-fynd â’r hyn a drafodir yn eu sesiynau. Gan hynny, ni fyddwn yn gofyn am fformat cyflwyno safonol, ond gofynnwn i chi gynnwys fformat, hyd y sesiwn ac unrhyw ofynion eraill a fo gennych wrth i chi wneud eich cynnig isod.
Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 24 Mai 2024. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Datblygu ac Addysgu am udda@aber.ac.uk.