Dydd Mawrth 13 Chwefror 2024
12.30 – 1.30pm ; bydd diodydd poeth a chacennau cri ar gael drwy gydol y digwyddiad.
Lleoliad: Canolfan Ddeialog Ymchwil, Canolfan Ddelweddu, Campws Penglais.
Tŷ Trafod Ymchwil – The Dialogue Centre (aber.ac.uk)
Hoffai Cymdeithas Ddysgedig Cymru eich gwahodd chi a gwestai i ymuno â ni mewn sesiwn ‘cwrdd a chyfarch’ galw heibio ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Mawrth, 13 Chwefror 2024.
Bydd te, coffi a lluniaeth ysgafn yn cael ei weini, ac mae croeso i chi ymuno â ni cyhyd ag y dymunwch rhwng 12.30 a 1.30pm.
Byddwch yn gallu cyfarfod a siarad gyda staff y Gymdeithas Ddysgedig, gan gynnwys Olivia Harrison (Prif Swyddog Gweithredol) a Helen Willson (Rheolwr Ymgysylltu Strategol), a gyda’n Cynrychiolwyr Prifysgol ym Mhrifysgol Aberystwyth – Yr Athro Emeritws Eleri Pryse a’r Athro Iwan Morus. Bydd Yr yr Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yn ymuno â ni hefyd.
Bydd yn gyfle i Gymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig ddod at ei gilydd ac i bawb sy’n mynychu gwrdd ag eraill sydd â diddordeb mewn ymchwil a’i effaith yng Nghymru. Bydd yn gyfle i rwydweithio hefyd, ac i ddysgu mwy am Gymdeithas Ddysgedig Cymru, gan gynnwys ei gwaith gydag ymchwilwyr gyrfa gynnar.
I bwy mae’r digwyddiad hwn?
- Cymrodyr presennol Cymdeithas Ddysgedig Cymru
- Unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymchwil yng Nghymru neu am Gymru, a’i heffaith ar bolisi
- Pobl sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ddod yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
- Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar a fyddai’n cael budd o ymuno â rhwydwaith rhyngddisgyblaethol i ymgysylltu a dysgu oddi wrtho
Gallwch ddarganfod mwy am Gymdeithas Ddysgedig Cymru a’n gwaith yma.
Sesiwn galw heibio yw hon, a does dim rhaid i chi gofrestru neu dderbyn y gwahoddiad hwn yn ffurfiol. Fodd bynnag, buasem yn gwerthfawrogi cael syniad o niferoedd, felly os ydych chi’n gwybod y byddwch chi’n dod draw neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch ni ar lsw@wales.ac.uk