Gwahoddiad: Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth 2021

Keynote announcement banner

Rydym yn edrych ymlaen ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni sydd lai na mis i ffwrdd, 29 Mehefin – 2 Gorffennaf 2021.

Fel yr ydych wedi darllen o bosibl, cynhelir y Gynhadledd eleni ar-lein drwy Teams felly gallwch ymuno am gymaint neu chyn lleied o’r gynhadledd ag y dymunwch.

Gallwch lawrlwytho’r rhaglen lawn ac archebu eich lle ar-lein .

Rydym yn ddiolchgar o gael nifer o siaradwyr allanol eleni.

Bydd ein prif siaradwr, Dr Chrissi Nerantzi, yn siarad am addysgeg agored a hyblyg. Ym Met Manceinion, datblygodd Chrissi’r rhaglen datblygu proffesiynol FLEX, rhaglen seiliedig ar ymarfer a drwyddedir yn agored sy’n ymgorffori llwybrau ymgysylltu ffurfiol ac anffurfiol.  Hi yw sylfaenydd y gymuned traws-sefydliadol Creativity for Learning in Higher Education, y gweminarau Teaching and Learning Conversations (TLC), yn ogystal â nifer o fentrau eraill. Gallwch ddarllen mwy am Chrissi ar ein blog

Read More

Adnoddau Sally Brown a Kay Sambell

Banner for Audio Feedback

Yn rhan o’n Gŵyl Fach Asesu, estynnodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wahoddiad i’r Athro Kay Sambell a’r Athro Sally Brown gynnal gweithdy i ystyried sut y gallai gwaith asesu esblygu oherwydd y newid yn ein harferion yn sgil y pandemig.

Drwy gydol y pandemig, daeth Kay a Sally yn ffigurau annatod yn y gwaith i ddatblygu arferion asesu Addysgu Uwch yn sgil cyhoeddi’u papur: The changing landscape of assessment: some possible replacements for unseen, time-constrained, face-to-face invigilated exams.

Yn rhan o’r gweithdy, recordiodd Sally a Kay y rhannau hyn: Gwella prosesau asesu a chynnig adborth ar ôl y pandemig: dulliau go iawn o wella sut mae myfyrwyr yn dysgu ac yn ymroi i’w hastudiaethau.

Os nad oeddech yn gallu bod yn bresennol, gallwch weld y recordiadau drwy glicio yma:

Yn ogystal â’r recordiadau, gallwch weld cyhoeddiadau eraill gan Kay a Sally sy’n canolbwyntio’n benodol ar newid arferion ar eu tudalennau gwe.

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Trydydd siaradwr gwadd – Dr Dyddgu Hywel

Keynote announcement banner

Mae’n bleser gyda ni gyhoeddi ein trydydd siaradwr allanol i Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni, Dr Dyddgu Hywel, uwchddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd gyda gradd ddosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun.

Mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwchddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn, ac yno ers dros saith mlynedd bellach, gyda’i harbenigedd mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, y defnydd o dechnoleg, ymgysylltiad ag iechyd a lles myfyrwyr. Yn dilyn 8 mlynedd o chwarae rygbi dros ei gwlad yn y crys coch, mae wedi mabwysiadu sawl dull effeithiol o fyw’n iach, cadw meddylfryd positif a meistroli cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith.

Bydd gweithdy Dyddgu yn ffocysu ar flaenoriaethu iechyd a lles staff. Bydd y gweithdy o fudd i holl staff academaidd y brifysgol, i adnabod dulliau effeithiol o warchod eu hiechyd a lles personol, yn ogystal â darparu gofal bugeiliol i’r holl fyfyrwyr.

Amcanion y gweithdy:

  • Cyfle i fyfyrio ar eich iechyd a lles personol
  • Ystyried y cydbwysedd cywir rhwng bywyd pob dydd, a phwysau gwaith
  • Adnabod rôl addysgwyr mewn iechyd a lles myfyrwyr
  • Adnabod dulliau rheoli straen, agwedd a meddylfryd positif personol
  • Mabwysiadu dulliau rheoli amser a blaenoriaethu
  • Hybu adnoddau Cymraeg ar gyfer ymlacio a myfyrdod effeithiol

Bydd Dyddgu yn cyflwyno ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg a byddwn yn darparu cyfieithu ar y pryd.

Cynhelir y nawfed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ar-lein rhwng dydd Mawrth 29 Mehefin a dydd Gwener 2 Gorffennaf. Gallwch archebu lle drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 2/6/2021

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein  

Adnoddau a chyhoeddiadau

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol: Cynhadledd Ymchwil Ar-lein (29 Mehefin 2021)

CIRCULAR Funding Projects in Further Education Institutions from the Coleg  Cymraeg Cenedlaethol's Strategic Development Fund

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal Cynhadledd Ymchwil Ar-lein ar 29 Mehefin 2021.  

Cynhadledd yw hon ar gyfer pawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a beth bynnag yw’r ddisgyblaeth. Gwahoddir gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil ac i gwrdd ag ymchwilwyr Cymraeg eraill o’r un anian.
 
Bwriad y gynhadledd yw rhoi cyfle i’r to nesaf o academyddion i dorri eu dannedd ar gyflwyno eu hymchwil gerbron cynulleidfa o gyfoedion. Bydd hefyd yn gyfle i rwydweithio ag ymchwilwyr Cymraeg eu hiaith ac i feithrin cymuned ehangach o academyddion sy’n hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion.

Dyma raglen lawn y gynhadledd sy’n cynnwysyr amserlen ynghyd a bywgraffiadau a chrynodebau’r cyfranwyr. 

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy gwblhau y ffurflen gofrestru hon.

Cynllunio Asesiadau sy’n Rhydd o Bryder

Yn ystod yr Ŵyl Fach yr wythnos ddiwethaf, cynhaliom ni sesiwn ‘Cynllunio Asesiadau sy’n Rhydd o Bryder’. Roedd y sesiwn yn seiliedig ar A review of the literature concerning anxiety for educational assessments gan Ofqual sy’n amlinellu’r cysylltiadau rhwng pryder am asesiadau, perfformiad myfyrwyr ac iechyd meddwl. Mae hefyd yn cynnig ymyriadau posibl ar gyfer pryder am asesiadau y gellir eu cymhwyso i gynllunio yn ogystal â gweithredu asesiadau.

Ar sail yr adolygiad yn ogystal â thrafodaethau o’r sesiwn rydym ni wedi paratoi rhestr o gamau syml y gallwch eu cymryd i sicrhau nad yw asesiadau’n peri cymaint o bryder i’ch myfyrwyr:

  1. Defnyddio anogaeth gadarnhaol yn lle apelio at ofn.

Mae wedi’i ddangos bod apelio at ofn, gyda negeseuon sy’n pwysleisio pwysigrwydd asesiadau arfaethedig, yn cyfrannu at lefelau uwch o bryder am brofion, ymgysylltu dosbarth is a pherfformiad is mewn tasgau (Putwain & Best, 2011; Putwain, Nakhla, Liversidge, Nicholson, Porter & Reece, 2017; Putwain & Symes, 2014). Yn lle symbylu myfyrwyr drwy apelio at ofn, ceisiwch ail-eirio eich negeseuon yn anogaeth gadarnhaol.

  • Helpu’r myfyrwyr i osod nodau y gellir eu cyflawni.

Yn ogystal â darparu gwybodaeth i fyfyrwyr ar sut y dylai eu perfformiad neu bapur terfynol edrych, mae’n werth ychwanegu gwybodaeth ar y camau sydd eu hangen i gyrraedd yno. Gall rhannu asesiadau’n gamau ac awgrymu tua faint o amser y dylid ei dreulio ar bob rhan fod yn ddefnyddiol i fyfyrwyr, yn enwedig y rheini sydd heb brofiad o reoli asesiadau prifysgol.

  • Hwyluso amgylchedd dysgu cadarnhaol.

Fel y disgrifir yn yr adolygiad ‘gall amgylcheddau dysgu cadarnhaol gynnwys: cynllunio gwersi sy’n canolbwyntio ar gryfderau a galluoedd myfyrwyr ac yn adeiladu arnynt yn hytrach na nodi gwendidau; rhoi adborth cadarnhaol a chywir; annog perthnasoedd cydweithredol yn hytrach na chystadleuol rhwng cymheiriaid; ac annog cymhelliad cynhenid y myfyrwyr i astudio, yn hytrach na chael eu gorfodi neu ganolbwyntio ar bwysigrwydd deilliannau asesu (Jennings & Greenberg, 2009 dyfynnir yn Ofqual, 2020). Sut allwch chi feithrin yr elfennau hyn yn eich dosbarth?

  • Addasu’r dull asesu (os yw’n bosibl!).

Mae llawer o ffactorau penodol mewn asesiadau’n effeithio ar faint o bryder y gallant ei achosi. Gall gwneud addasiadau bach i’r dull asesu wneud gwahaniaeth i’ch myfyrwyr:

  • Cyfryngiad (faint o effaith mae’r asesiad i’w weld yn ei gael ar radd gyffredinol y myfyriwr): Bydd rhannu neu ledaenu asesiadau cymhleth â phwysau uchel yn ddarnau llai yn helpu myfyrwyr gyda rheoli eu hamser yn well a chreu llai o bwysau i wneud yn dda.
  • Cymhlethdod (pa mor gymhleth mae’r asesiad yn ymddangos): oes unrhyw beth yng nghynllun yr asesiad y gellid ei symleiddio?
  • Gwerthuso (a gaiff eu perfformiad ei werthuso gan eraill): lle bo’n bosibl ystyriwch leihau effaith yr elfen gwerthuso cymdeithasol mewn asesiadau drwy gyfyngu ar faint y gynulleidfa neu ganiatáu i’r myfyrwyr gyflwyno cyflwyniad wedi’i recordio ymlaen llaw.
  • Amseru (a yw eu perfformiad yn cael ei amseru): mae hwn yn gymwys yn enwedig mewn perthynas ag arholiadau sydd â therfynau amser caeth fel arfer. Mae’n werth ystyried ai arholiadau wedi’u hamseru yw’r ffordd orau i fesur cynnydd myfyrwyr ar y deilliant dysgu neu a oes cynllun asesu amgen y gallech ei ddefnyddio.
  • Helpu’r myfyrwyr i deimlo’n barod.

Gall cynyddu pa mor barod maen nhw’n teimlo hefyd helpu i leddfu pryder asesu. Rhai o’r pethau y gallwch eu gwneud i helpu eich myfyrwyr deimlo’n barod yw:

  • sicrhau bod yr asesiad yn glir, yn fanwl ac yn hygyrch;
  • cysylltu asesiadau’n glir ac yn amlwg â deilliannau dysgu;
  • cysylltu sgiliau a ddysgwyd drwy’r modiwl â’r rheini sy’n eu helpu mewn asesiadau;
  • cyfleu disgwyliadau (e.e. faint o amser y dylent ei dreulio ar asesiad) yn glir dro ar ôl tro.

Yn olaf, efallai mai’r ffordd fwyaf effeithiol i wneud myfyrwyr yn fwy parod a’u helpu i arfer â chael eu hasesu yw ffug arholiadau ac asesiadau ffurfiannol eraill (Ergene, 2011).

  • Rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr ar bryder am asesiadau a sut i’w reoli.

Gallwch helpu drwy roi gwybodaeth i fyfyrwyr fod pryder am asesiadau’n gyffredin ymhlith myfyrwyr a rhoi dolenni iddynt at adnoddau sydd ar gael (gweler isod).

Adnoddau

Cefnogi eich Dysgu: modiwl ar gael i’r holl fyfyrwyr drwy Blackboard sy’n cynnig gwybodaeth hanfodol ar asesiadau yn cynnwys adran fer ar ymdrin â phryder am asesiadau.

Canllaw Cyflym i Lwyddiant Myfyrwyr: man cychwyn da ar gyfer helpu myfyrwyr i feithrin sgiliau academaidd fel rheoli amser, strategaethau astudio effeithiol a’r gallu i’w cymell eu hunain.

Tudalennau SgiliauAber (hefyd ar gael drwy Blackboard): cymorth i fyfyrwyr ar amrywiol sgiliau hanfodol yn cynnwys ysgrifennu academaidd, cyfeirnodi neu gyflogadwyedd.

Adnoddau Lles Myfyrwyr: amrywiol adnoddau i fyfyrwyr sy’n gallu eu helpu i feithrin strategaethau ymdopi.

Er efallai nad yw’n bosibl cynllunio asesiadau sy’n gwbl rydd o bryder, gall rhai o’r camau hyn gael effaith gadarnhaol ar berfformiad a lles myfyrwyr.

What is a well-designed Blackboard module? – Prosiect Llysgenhadon Dysgu Myfyrwyr

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn chwilio am nifer o Lysgenhadon Dysgu Myfyrwyr i weithio ar brosiect o’r enw ‘What is a well-designed Blackboard module?’. Mae ystyriaethau ynghylch cysondeb a llywio o amgylch modiwlau Blackboard yn cael eu codi’n aml yn yr adborth a gawn gan fyfyrwyr (e.e. drwy Arolwg Defnyddwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth neu arolwg Mewnwelediad Digidol JISC). Hoffem gasglu cymuned fach o fyfyrwyr a fydd, drwy ddulliau Profiad Defnyddwyr amrywiol, yn gweithio ar y cwestiwn hwn. Yn rhan o’r rôl, byddwch yn cymryd rhan mewn grwpiau ffocws, yn adeiladu eich modiwl Blackboard eich hun ac yn gweithio ar y cyd i adrodd ar eich darganfyddiadau.

Hoffem recriwtio 8 myfyriwr. Cynhelir y prosiect rhwng 5 ac 17 Gorffennaf 2021. Gan ddibynnu ar y grŵp, bydd gofyn i’r Llysgenhadon ymrwymo i oddeutu 13 awr o waith naill ai yn ystod wythnos gyntaf neu ail wythnos y prosiect.

Gofynnwn i chi ystyried annog eich myfyrwyr i wneud cais am y rôl drwy borth GwaithAber lle ceir hyd i ragor o wybodaeth. Y dyddiad cau yw 21 Mehefin.