Cynllunio Asesiadau sy’n Rhydd o Bryder

Yn ystod yr Ŵyl Fach yr wythnos ddiwethaf, cynhaliom ni sesiwn ‘Cynllunio Asesiadau sy’n Rhydd o Bryder’. Roedd y sesiwn yn seiliedig ar A review of the literature concerning anxiety for educational assessments gan Ofqual sy’n amlinellu’r cysylltiadau rhwng pryder am asesiadau, perfformiad myfyrwyr ac iechyd meddwl. Mae hefyd yn cynnig ymyriadau posibl ar gyfer pryder am asesiadau y gellir eu cymhwyso i gynllunio yn ogystal â gweithredu asesiadau.

Ar sail yr adolygiad yn ogystal â thrafodaethau o’r sesiwn rydym ni wedi paratoi rhestr o gamau syml y gallwch eu cymryd i sicrhau nad yw asesiadau’n peri cymaint o bryder i’ch myfyrwyr:

  1. Defnyddio anogaeth gadarnhaol yn lle apelio at ofn.

Mae wedi’i ddangos bod apelio at ofn, gyda negeseuon sy’n pwysleisio pwysigrwydd asesiadau arfaethedig, yn cyfrannu at lefelau uwch o bryder am brofion, ymgysylltu dosbarth is a pherfformiad is mewn tasgau (Putwain & Best, 2011; Putwain, Nakhla, Liversidge, Nicholson, Porter & Reece, 2017; Putwain & Symes, 2014). Yn lle symbylu myfyrwyr drwy apelio at ofn, ceisiwch ail-eirio eich negeseuon yn anogaeth gadarnhaol.

  • Helpu’r myfyrwyr i osod nodau y gellir eu cyflawni.

Yn ogystal â darparu gwybodaeth i fyfyrwyr ar sut y dylai eu perfformiad neu bapur terfynol edrych, mae’n werth ychwanegu gwybodaeth ar y camau sydd eu hangen i gyrraedd yno. Gall rhannu asesiadau’n gamau ac awgrymu tua faint o amser y dylid ei dreulio ar bob rhan fod yn ddefnyddiol i fyfyrwyr, yn enwedig y rheini sydd heb brofiad o reoli asesiadau prifysgol.

  • Hwyluso amgylchedd dysgu cadarnhaol.

Fel y disgrifir yn yr adolygiad ‘gall amgylcheddau dysgu cadarnhaol gynnwys: cynllunio gwersi sy’n canolbwyntio ar gryfderau a galluoedd myfyrwyr ac yn adeiladu arnynt yn hytrach na nodi gwendidau; rhoi adborth cadarnhaol a chywir; annog perthnasoedd cydweithredol yn hytrach na chystadleuol rhwng cymheiriaid; ac annog cymhelliad cynhenid y myfyrwyr i astudio, yn hytrach na chael eu gorfodi neu ganolbwyntio ar bwysigrwydd deilliannau asesu (Jennings & Greenberg, 2009 dyfynnir yn Ofqual, 2020). Sut allwch chi feithrin yr elfennau hyn yn eich dosbarth?

  • Addasu’r dull asesu (os yw’n bosibl!).

Mae llawer o ffactorau penodol mewn asesiadau’n effeithio ar faint o bryder y gallant ei achosi. Gall gwneud addasiadau bach i’r dull asesu wneud gwahaniaeth i’ch myfyrwyr:

  • Cyfryngiad (faint o effaith mae’r asesiad i’w weld yn ei gael ar radd gyffredinol y myfyriwr): Bydd rhannu neu ledaenu asesiadau cymhleth â phwysau uchel yn ddarnau llai yn helpu myfyrwyr gyda rheoli eu hamser yn well a chreu llai o bwysau i wneud yn dda.
  • Cymhlethdod (pa mor gymhleth mae’r asesiad yn ymddangos): oes unrhyw beth yng nghynllun yr asesiad y gellid ei symleiddio?
  • Gwerthuso (a gaiff eu perfformiad ei werthuso gan eraill): lle bo’n bosibl ystyriwch leihau effaith yr elfen gwerthuso cymdeithasol mewn asesiadau drwy gyfyngu ar faint y gynulleidfa neu ganiatáu i’r myfyrwyr gyflwyno cyflwyniad wedi’i recordio ymlaen llaw.
  • Amseru (a yw eu perfformiad yn cael ei amseru): mae hwn yn gymwys yn enwedig mewn perthynas ag arholiadau sydd â therfynau amser caeth fel arfer. Mae’n werth ystyried ai arholiadau wedi’u hamseru yw’r ffordd orau i fesur cynnydd myfyrwyr ar y deilliant dysgu neu a oes cynllun asesu amgen y gallech ei ddefnyddio.
  • Helpu’r myfyrwyr i deimlo’n barod.

Gall cynyddu pa mor barod maen nhw’n teimlo hefyd helpu i leddfu pryder asesu. Rhai o’r pethau y gallwch eu gwneud i helpu eich myfyrwyr deimlo’n barod yw:

  • sicrhau bod yr asesiad yn glir, yn fanwl ac yn hygyrch;
  • cysylltu asesiadau’n glir ac yn amlwg â deilliannau dysgu;
  • cysylltu sgiliau a ddysgwyd drwy’r modiwl â’r rheini sy’n eu helpu mewn asesiadau;
  • cyfleu disgwyliadau (e.e. faint o amser y dylent ei dreulio ar asesiad) yn glir dro ar ôl tro.

Yn olaf, efallai mai’r ffordd fwyaf effeithiol i wneud myfyrwyr yn fwy parod a’u helpu i arfer â chael eu hasesu yw ffug arholiadau ac asesiadau ffurfiannol eraill (Ergene, 2011).

  • Rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr ar bryder am asesiadau a sut i’w reoli.

Gallwch helpu drwy roi gwybodaeth i fyfyrwyr fod pryder am asesiadau’n gyffredin ymhlith myfyrwyr a rhoi dolenni iddynt at adnoddau sydd ar gael (gweler isod).

Adnoddau

Cefnogi eich Dysgu: modiwl ar gael i’r holl fyfyrwyr drwy Blackboard sy’n cynnig gwybodaeth hanfodol ar asesiadau yn cynnwys adran fer ar ymdrin â phryder am asesiadau.

Canllaw Cyflym i Lwyddiant Myfyrwyr: man cychwyn da ar gyfer helpu myfyrwyr i feithrin sgiliau academaidd fel rheoli amser, strategaethau astudio effeithiol a’r gallu i’w cymell eu hunain.

Tudalennau SgiliauAber (hefyd ar gael drwy Blackboard): cymorth i fyfyrwyr ar amrywiol sgiliau hanfodol yn cynnwys ysgrifennu academaidd, cyfeirnodi neu gyflogadwyedd.

Adnoddau Lles Myfyrwyr: amrywiol adnoddau i fyfyrwyr sy’n gallu eu helpu i feithrin strategaethau ymdopi.

Er efallai nad yw’n bosibl cynllunio asesiadau sy’n gwbl rydd o bryder, gall rhai o’r camau hyn gael effaith gadarnhaol ar berfformiad a lles myfyrwyr.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*