Rydym yn edrych ymlaen ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni sydd lai na mis i ffwrdd, 29 Mehefin – 2 Gorffennaf 2021.
Fel yr ydych wedi darllen o bosibl, cynhelir y Gynhadledd eleni ar-lein drwy Teams felly gallwch ymuno am gymaint neu chyn lleied o’r gynhadledd ag y dymunwch.
Rydym yn ddiolchgar o gael nifer o siaradwyr allanol eleni.
Bydd ein prif siaradwr, Dr Chrissi Nerantzi, yn siarad am addysgeg agored a hyblyg. Ym Met Manceinion, datblygodd Chrissi’r rhaglen datblygu proffesiynol FLEX, rhaglen seiliedig ar ymarfer a drwyddedir yn agored sy’n ymgorffori llwybrau ymgysylltu ffurfiol ac anffurfiol. Hi yw sylfaenydd y gymuned traws-sefydliadol Creativity for Learning in Higher Education, y gweminarau Teaching and Learning Conversations (TLC), yn ogystal â nifer o fentrau eraill. Gallwch ddarllen mwy am Chrissi ar ein blog.
Yn rhan o’n Gŵyl Fach Asesu, estynnodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wahoddiad i’r Athro Kay Sambell a’r Athro Sally Brown gynnal gweithdy i ystyried sut y gallai gwaith asesu esblygu oherwydd y newid yn ein harferion yn sgil y pandemig.
Yn rhan o’r gweithdy, recordiodd Sally a Kay y rhannau hyn: Gwella prosesau asesu a chynnig adborth ar ôl y pandemig: dulliau go iawn o wella sut mae myfyrwyr yn dysgu ac yn ymroi i’w hastudiaethau.
Os nad oeddech yn gallu bod yn bresennol, gallwch weld y recordiadau drwy glicio yma:
Mae’n bleser gyda ni gyhoeddi ein trydydd siaradwr allanol i Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni, Dr Dyddgu Hywel, uwchddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd gyda gradd ddosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun.
Mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwchddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn, ac yno ers dros saith mlynedd bellach, gyda’i harbenigedd mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, y defnydd o dechnoleg, ymgysylltiad ag iechyd a lles myfyrwyr. Yn dilyn 8 mlynedd o chwarae rygbi dros ei gwlad yn y crys coch, mae wedi mabwysiadu sawl dull effeithiol o fyw’n iach, cadw meddylfryd positif a meistroli cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith.
Bydd gweithdy Dyddgu yn ffocysu ar flaenoriaethu iechyd a lles staff. Bydd y gweithdy o fudd i holl staff academaidd y brifysgol, i adnabod dulliau effeithiol o warchod eu hiechyd a lles personol, yn ogystal â darparu gofal bugeiliol i’r holl fyfyrwyr.
Amcanion y gweithdy:
Cyfle i fyfyrio ar eich iechyd a lles personol
Ystyried y cydbwysedd cywir rhwng bywyd pob dydd, a phwysau gwaith
Adnabod rôl addysgwyr mewn iechyd a lles myfyrwyr
Adnabod dulliau rheoli straen, agwedd a meddylfryd positif personol
Mabwysiadu dulliau rheoli amser a blaenoriaethu
Hybu adnoddau Cymraeg ar gyfer ymlacio a myfyrdod effeithiol
Bydd Dyddgu yn cyflwyno ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg a byddwn yn darparu cyfieithu ar y pryd.
Cynhelir y nawfed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ar-lein rhwng dydd Mawrth 29 Mehefin a dydd Gwener 2 Gorffennaf. Gallwch archebu lle drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.
Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
Digwyddiadau a gweminarau ar-lein
7-9/6/2021 Heriot-Watt University, Learning & Teaching Academy open keynotes: Assessment for Learning, Building Community Online with Equity and Care, Towards a Resilient University: What have we learned from Covid?
21/6/2021 Educational Developers Thinking Allowed (EDTA), Online Learning Spaces as Troubled and Troubling places for Educators, email Fiona Smart to book
1/7/2021 Assessment in HE Network, AHE Conference Keynote talks: Joanna Tai: Assessment for diversity in the post-digital world, and Paul Ashwin: How teaching, learning and assessment without knowledge undermine the educational role of higher education
Quinlan, K. M. & Pitt, E. (28/5/2021) Towards signature assessment and feedback practices: a taxonomy of discipline-specific elements of assessment for learning, Assessment in Education: Principles, Policy & Practice
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.
Cynhadledd yw hon ar gyfer pawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a beth bynnag yw’r ddisgyblaeth. Gwahoddir gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil ac i gwrdd ag ymchwilwyr Cymraeg eraill o’r un anian.
Bwriad y gynhadledd yw rhoi cyfle i’r to nesaf o academyddion i dorri eu dannedd ar gyflwyno eu hymchwil gerbron cynulleidfa o gyfoedion. Bydd hefyd yn gyfle i rwydweithio ag ymchwilwyr Cymraeg eu hiaith ac i feithrin cymuned ehangach o academyddion sy’n hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion.
Dymaraglen lawn y gynhadleddsy’n cynnwysyr amserlen ynghyd a bywgraffiadau a chrynodebau’r cyfranwyr.
Yn ystod yr Ŵyl Fach yr wythnos ddiwethaf, cynhaliom ni sesiwn ‘Cynllunio Asesiadau sy’n Rhydd o Bryder’. Roedd y sesiwn yn seiliedig ar A review of the literature concerning anxiety for educational assessments gan Ofqual sy’n amlinellu’r cysylltiadau rhwng pryder am asesiadau, perfformiad myfyrwyr ac iechyd meddwl. Mae hefyd yn cynnig ymyriadau posibl ar gyfer pryder am asesiadau y gellir eu cymhwyso i gynllunio yn ogystal â gweithredu asesiadau.
Ar sail yr adolygiad yn ogystal â thrafodaethau o’r sesiwn rydym ni wedi paratoi rhestr o gamau syml y gallwch eu cymryd i sicrhau nad yw asesiadau’n peri cymaint o bryder i’ch myfyrwyr:
Defnyddio anogaeth gadarnhaol yn lle apelio at ofn.
Mae wedi’i ddangos bod apelio at ofn, gyda negeseuon sy’n pwysleisio pwysigrwydd asesiadau arfaethedig, yn cyfrannu at lefelau uwch o bryder am brofion, ymgysylltu dosbarth is a pherfformiad is mewn tasgau (Putwain & Best, 2011; Putwain, Nakhla, Liversidge, Nicholson, Porter & Reece, 2017; Putwain & Symes, 2014). Yn lle symbylu myfyrwyr drwy apelio at ofn, ceisiwch ail-eirio eich negeseuon yn anogaeth gadarnhaol.
Helpu’r myfyrwyr i osod nodau y gellir eu cyflawni.
Yn ogystal â darparu gwybodaeth i fyfyrwyr ar sut y dylai eu perfformiad neu bapur terfynol edrych, mae’n werth ychwanegu gwybodaeth ar y camau sydd eu hangen i gyrraedd yno. Gall rhannu asesiadau’n gamau ac awgrymu tua faint o amser y dylid ei dreulio ar bob rhan fod yn ddefnyddiol i fyfyrwyr, yn enwedig y rheini sydd heb brofiad o reoli asesiadau prifysgol.
Hwyluso amgylchedd dysgu cadarnhaol.
Fel y disgrifir yn yr adolygiad ‘gall amgylcheddau dysgu cadarnhaol gynnwys: cynllunio gwersi sy’n canolbwyntio ar gryfderau a galluoedd myfyrwyr ac yn adeiladu arnynt yn hytrach na nodi gwendidau; rhoi adborth cadarnhaol a chywir; annog perthnasoedd cydweithredol yn hytrach na chystadleuol rhwng cymheiriaid; ac annog cymhelliad cynhenid y myfyrwyr i astudio, yn hytrach na chael eu gorfodi neu ganolbwyntio ar bwysigrwydd deilliannau asesu (Jennings & Greenberg, 2009 dyfynnir yn Ofqual, 2020). Sut allwch chi feithrin yr elfennau hyn yn eich dosbarth?
Addasu’r dull asesu (os yw’n bosibl!).
Mae llawer o ffactorau penodol mewn asesiadau’n effeithio ar faint o bryder y gallant ei achosi. Gall gwneud addasiadau bach i’r dull asesu wneud gwahaniaeth i’ch myfyrwyr:
Cyfryngiad (faint o effaith mae’r asesiad i’w weld yn ei gael ar radd gyffredinol y myfyriwr): Bydd rhannu neu ledaenu asesiadau cymhleth â phwysau uchel yn ddarnau llai yn helpu myfyrwyr gyda rheoli eu hamser yn well a chreu llai o bwysau i wneud yn dda.
Cymhlethdod (pa mor gymhleth mae’r asesiad yn ymddangos): oes unrhyw beth yng nghynllun yr asesiad y gellid ei symleiddio?
Gwerthuso (a gaiff eu perfformiad ei werthuso gan eraill): lle bo’n bosibl ystyriwch leihau effaith yr elfen gwerthuso cymdeithasol mewn asesiadau drwy gyfyngu ar faint y gynulleidfa neu ganiatáu i’r myfyrwyr gyflwyno cyflwyniad wedi’i recordio ymlaen llaw.
Amseru (a yw eu perfformiad yn cael ei amseru): mae hwn yn gymwys yn enwedig mewn perthynas ag arholiadau sydd â therfynau amser caeth fel arfer. Mae’n werth ystyried ai arholiadau wedi’u hamseru yw’r ffordd orau i fesur cynnydd myfyrwyr ar y deilliant dysgu neu a oes cynllun asesu amgen y gallech ei ddefnyddio.
Helpu’r myfyrwyr i deimlo’n barod.
Gall cynyddu pa mor barod maen nhw’n teimlo hefyd helpu i leddfu pryder asesu. Rhai o’r pethau y gallwch eu gwneud i helpu eich myfyrwyr deimlo’n barod yw:
sicrhau bod yr asesiad yn glir, yn fanwl ac yn hygyrch;
cysylltu asesiadau’n glir ac yn amlwg â deilliannau dysgu;
cysylltu sgiliau a ddysgwyd drwy’r modiwl â’r rheini sy’n eu helpu mewn asesiadau;
cyfleu disgwyliadau (e.e. faint o amser y dylent ei dreulio ar asesiad) yn glir dro ar ôl tro.
Yn olaf, efallai mai’r ffordd fwyaf effeithiol i wneud myfyrwyr yn fwy parod a’u helpu i arfer â chael eu hasesu yw ffug arholiadau ac asesiadau ffurfiannol eraill (Ergene, 2011).
Rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr ar bryder am asesiadau a sut i’w reoli.
Gallwch helpu drwy roi gwybodaeth i fyfyrwyr fod pryder am asesiadau’n gyffredin ymhlith myfyrwyr a rhoi dolenni iddynt at adnoddau sydd ar gael (gweler isod).
Adnoddau
Cefnogi eich Dysgu: modiwl ar gael i’r holl fyfyrwyr drwy Blackboard sy’n cynnig gwybodaeth hanfodol ar asesiadau yn cynnwys adran fer ar ymdrin â phryder am asesiadau.
Canllaw Cyflym i Lwyddiant Myfyrwyr: man cychwyn da ar gyfer helpu myfyrwyr i feithrin sgiliau academaidd fel rheoli amser, strategaethau astudio effeithiol a’r gallu i’w cymell eu hunain.
Tudalennau SgiliauAber (hefyd ar gael drwy Blackboard): cymorth i fyfyrwyr ar amrywiol sgiliau hanfodol yn cynnwys ysgrifennu academaidd, cyfeirnodi neu gyflogadwyedd.
Adnoddau Lles Myfyrwyr: amrywiol adnoddau i fyfyrwyr sy’n gallu eu helpu i feithrin strategaethau ymdopi.
Er efallai nad yw’n bosibl cynllunio asesiadau sy’n gwbl rydd o bryder, gall rhai o’r camau hyn gael effaith gadarnhaol ar berfformiad a lles myfyrwyr.
Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn chwilio am nifer o Lysgenhadon Dysgu Myfyrwyr i weithio ar brosiect o’r enw ‘What is a well-designed Blackboard module?’. Mae ystyriaethau ynghylch cysondeb a llywio o amgylch modiwlau Blackboard yn cael eu codi’n aml yn yr adborth a gawn gan fyfyrwyr (e.e. drwy Arolwg Defnyddwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth neu arolwg Mewnwelediad Digidol JISC). Hoffem gasglu cymuned fach o fyfyrwyr a fydd, drwy ddulliau Profiad Defnyddwyr amrywiol, yn gweithio ar y cwestiwn hwn. Yn rhan o’r rôl, byddwch yn cymryd rhan mewn grwpiau ffocws, yn adeiladu eich modiwl Blackboard eich hun ac yn gweithio ar y cyd i adrodd ar eich darganfyddiadau.
Hoffem recriwtio 8 myfyriwr. Cynhelir y prosiect rhwng 5 ac 17 Gorffennaf 2021. Gan ddibynnu ar y grŵp, bydd gofyn i’r Llysgenhadon ymrwymo i oddeutu 13 awr o waith naill ai yn ystod wythnos gyntaf neu ail wythnos y prosiect.
Gofynnwn i chi ystyried annog eich myfyrwyr i wneud cais am y rôl drwy borth GwaithAber lle ceir hyd i ragor o wybodaeth. Y dyddiad cau yw 21 Mehefin.
Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.
Mae gan Feini Prawf Asesu nifer o swyddogaethau: gwneud y broses farcio’n dryloyw; darparu eglurder ynghylch yr hyn sy’n cael ei asesu a sut; sicrhau tegwch ar draws yr holl gyflwyniadau; a rhoi sicrwydd ansawdd o ran datganiadau meincnodi pynciau. Er bod pob un o’r rhesymau hyn yn ddilys ac yn anrhydeddus, mae nifer o ystyriaethau ar waith:
Mae gan staff reolaeth uwch neu is ar y meini prawf asesu y gofynnir iddynt eu defnyddio wrth farcio gwaith myfyrwyr a gall dehongliadau o’r meini prawf amrywio rhwng gwahanol aelodau o staff sy’n marcio’r un asesiad.
Mae’r meini prawf asesu’n wahanol i safonau a rhaid cyfleu’r gwahaniaeth rhwng y ddau yn glir i fyfyrwyr (h.y. yr hyn sy’n cael ei asesu yn erbyn pa mor dda mae maen prawf wedi’i fodloni).
Yn aml asesu sy’n cymell y myfyrwyr (cf. Worth, 2014) a gall gorbwyslais ar feini prawf neu feini prawf gorfanwl arwain at ymagwedd ticio blychau’n unig.
Ar y llaw arall, gall meini prawf sy’n rhy amwys neu sy’n dibynnu’n ormodol ar wybodaeth ddealledig o’r pwnc fod yn ddryslyd ac yn anhygyrch i fyfyrwyr, yn enwedig ar ddechrau eu gradd.
Dyw’r blog hwn ddim yn honni y gall ddatrys holl broblemau meini prawf asesu ond bydd yn cynnig nifer o strategaethau posibl y gallai staff ac adrannau’n ehangach eu defnyddio i egluro’r meini prawf asesu, a’r prosesau marcio, i fyfyrwyr. Drwy hyn, daw myfyrwyr yn rhan o gymuned o ymarfer, yn hytrach na chael eu trin fel defnyddwyr (cf. Worth, 2014; Molesworth, Scullion & Nixon, 2011). Gellir grwpio gweithgareddau o’r fath yn fras yn gronolegol o ran y rhai sy’n digwydd cyn, yn ystod, neu ar ôl asesiad.
Cyn yr asesiad
Defnyddiwch feini prawf asesu i egluro nodau a chanlyniadau ar ddechrau modiwl, gyda phwyntiau gwirio wrth agosáu at ddyddiad cau.
Nodwch yr anhawster wrth ddeall meini prawf marcio. Yn aml mae myfyrwyr wedi arfer â diffiniadau cul iawn o lwyddiant gyda datganiadau clir sy’n ‘ennill’ pwyntiau iddynt. O gyfuno hyn ag ofn methu, sy’n gyffredin, gall danseilio eu dealltwriaeth o’r meini prawf. Yn ogystal, mae’n bosibl eu bod yn teimlo na allant farnu eu galluoedd eu hunain yn dda yn y cyd-destun newydd hwn (prifysgol). Gall trafodaethau grŵp, nid ar ystyr meini prawf, ond ar yr hyn mae myfyrwyr yn credu yw eu hystyr, helpu i nodi jargon sydd angen eglurhad, gadael i staff egluro eu dealltwriaeth bersonol (os mai nhw sy’n marcio) a gadael i fyfyrwyr ofyn am eglurhad cyn dechrau ar asesiad.
Tynnwch sylw’r myfyrwyr at y gwahaniaeth rhwng meini prawf a safonau (y beth a’r pa mor dda – a sut y caiff hyn ei amlygu yn eich disgyblaeth chi).
Bydd neilltuo amser i ymarfer marcio cymheiriaid yn defnyddio’r meini prawf perthnasol gyda thrafodaeth grŵp ddilynol yn helpu myfyrwyr i ddeall y broses yn well.
Bydd annog myfyrwyr i farcio eu gwaith eu hunain cyn cyflwyno gan ddefnyddio’r meini prawf priodol hefyd yn eu helpu i ddeall y broses yn well.
Gall fod yn ddefnyddiol iawn defnyddio enghreifftiau patrymol i ddangos y meini prawf a’r safonau gydag enghreifftiau penodol. Gall hyn gynnwys myfyrwyr yn marcio enghraifft yn ystod y sesiwn, gyda thrafodaeth ddilynol; enghreifftiau wedi’u hanodi sy’n rhoi cipolwg i’r myfyrwyr ar y broses farcio; neu sesiynau adborth byw lle mae myfyrwyr yn cyflwyno detholiadau o waith sydd ar y gweill a ddefnyddir (yn ddienw) i ddangos y broses farcio i’r grŵp cyfan. Yna mae hyn yn caniatáu ar gyfer cwestiynau ac eglurder ar y penderfyniadau mae marciwr yn eu gwneud wrth weithio drwy gyflwyniad. Efallai y bydd staff yn poeni bod myfyrwyr yn ystyried yr enghreifftiau fel “yr unig ffordd gywir” i ymateb i gyfarwyddyd asesiad – gall darparu amrywiaeth o enghreifftiau, yn enwedig rhai da, wrthweithio’r duedd hon. Gellir defnyddio mathau gwahanol o enghreifftiau:
Efallai mai ‘gwir’ aseiniadau yw’r gorau oherwydd eu cymhlethdod cynhenid (cyhyd â bod myfyrwyr y defnyddir eu gwaith yn cydsynio a bod y gwaith yn ddienw).
Gall enghreifftiau sydd wedi’u llunio wneud y nodweddion asesu’n fwy gweladwy.
Gallai detholiadau (yn hytrach na darnau llawn) fod yn fwy priodol pan fydd myfyrwyr yn dechrau edrych am y meini prawf a sut i’w trosi i’r gwaith yn ogystal â lleddfu pryderon staff am lên-ladrad.
Yn ystod yr asesiad
Defnyddiwch yr un iaith: gwneud y cysylltiad rhwng meini prawf asesu, safonau pwnc, a safonau’r brifysgol yn glir drwy ddefnyddio’r un derminoleg mewn adborth ag sy’n ymddangos yn y meini prawf asesu a’r datganiadau meincnodi pwnc.
Os bydd marcwyr lluosog yn ymwneud â gwahanol grwpiau o fyfyrwyr ar yr un asesiad, gall cael enghreifftiau i gyfeirio atynt helpu i sicrhau safonau clir ar draws carfannau mwy o faint.
Ar ôl yr asesiad
Cyfeiriwch y myfyrwyr yn ôl at y meini prawf asesu a’r trafodaethau blaenorol pan fyddant yn cael adborth a marciau.
Pwysleisiwch y gwahaniaeth rhwng meini prawf a safonau.
Dyw cyflwyno’r meini prawf asesu i’r myfyrwyr ddim yn ddigon. Mae’n hanfodol fod staff yn nodi ac yn egluro’r gwahaniaeth rhwng meini prawf a safonau ac yn egluro iaith y meini prawf asesu drwy archwilio’r wybodaeth ddealledig sydd gan staff yn sgil eu profiad. Bydd defnyddio enghreifftiau a thrafodaethau grŵp ar y rhain i bwysleisio sut mae meini prawf a safonau’n trosi i gyflwyniad yn cynnig cipolwg i’r myfyrwyr ar y broses farcio sy’n eu galluogi i ddeall yn well yr hyn y gofynnir iddynt ei wneud. Yn olaf, dylai staff annog myfyrwyr yn barhaus i wneud defnydd o argaeledd y meini prawf asesu wrth weithio ar eu hasesiadau, a dylai hyn alluogi’r myfyrwyr i deimlo eu bod wedi cael paratoad gwell a bod ganddynt well ffocws yn eu hymatebion.
Cyfeiriadau
References:
Molesworth, M., Scullion, R., and Nixon, E. (eds.) (2011) The Marketisation of Higher Education and the Student as Consumer, London: Routledge
Worth, N. (2014) ‘Student-focused Assessment Criteria: Thinking Through Best Practice’, Journal of Geography in Higher Education, 38:3, pp. 361-372; DOI: 10.1080/03098265.2014.919441
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r 9fed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, sydd ychydig dros fis i ffwrdd, 29 Mehefin – 2 Gorffennaf 2021. Mae thema’r gynhadledd eleni, Byrfyfyrio â Chyfyngiadau: Ail-lunio Cymuned Ddysgu mewn Cyfnod o Newidyn adlewyrchu’r ymroddiad sydd gan staff Prifysgol Aberystwyth i wella profiad dysgu eu myfyrwyr.
Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.
Rydym yn gyffrous iawn i groesawu pedwar siaradwr allanol eleni:
Prif siaradwr eleni yw Dr Chrissi Nerantzi sydd yn Brif Ddarlithydd – DPP Academaidd, Academi Addysgu’r Brifysgol (UTA), Prifysgol Fetropolitan Manceinion. Bydd Dr Nerantzi yn canolbwyntio ar addysgeg agored a hyblyg.
Ein hail siaradwr allanol yw Andy McGregor, sy’n Gyfarwyddwr Technoleg Addysgu ar gyfer JISC. Bydd ei weithdy yn canolbwyntio ar ddyfodol asesiadau.
Ein trydydd siaradwr allanol yw Dr Dyddgu Hywel,Uwch-ddarlithydd mewn Addysg ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Bydd ei chyflwyniad rhyngweithiol yn canolbwyntio ar flaenoriaethu lles myfyrwyr a staff. (Bydd cyflwyniad Dr Hywel drwy gyfrwng y Gymraeg a byddwn yn cynnig cyfieithu ar y pryd.)
Bydd ein siaradwr allanol olaf, Joe Probert, sy’n Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid yn Vevox, yn cyflwyno sesiwn ar sut i wneud defnydd effeithiol o bleidleisio i ennyn diddordeb dysgwyr.
Mae gennym raglen gyffrous ac amrywiol eleni gan gynrychiolwyr o bob cyfadran. Yn ogystal â’n pedwar siaradwr allanol, byddwn hefyd yn cael cyflwyniad gan fyfyrwyr, fforwm Dysgu o Bell a phanel Ysgol Fusnes trwy gyfrwng y Gymraeg.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y gynhadledd, a chofiwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni.