Mae Hector, sydd wedi bod yn cydweithio ag ABERymlaen i gefnogi’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol, wedi paratoi rhestr o adnoddau a ysbrydolwyd gan y cyflwyniadau a gafwyd yn y gynhadledd. Pe hoffech wylio unrhyw rai o’r sesiynau eto, gallwch wneud hynny drwy fynd i’n tudalennau gwe.
Prif Araith y Gynhadledd: Dr Chrissi Nerantzi
Yn sicr ddigon, un o uchafbwyntiau’r gynhadledd oedd y brif araith. Gofynnodd Chrissi y cwestiynau canlynol i bobl, a dyma’r canlyniadau:
Os ydych yn dymuno darllen rhagor am waith Chrissi, ewch i’r tudalennau gwe canlynol:
Mae llenyddiaeth addysgegol yn pwysleisio pwysigrwydd ymwneud gweithredol gan fyfyrwyr ym mhob menter sy’n effeithio ar eu profiad dysgu nhw. Gan ein bod ni, yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu, yn gweithio mor agos â’r staff addysgu yn eu cynghori ar arferion gorau mewn dysgu ac addysgu, roeddem ni’n teimlo y byddai ein darpariaeth yn elwa o gael cyfraniad uniongyrchol gan fyfyrwyr. Penderfynwyd creu partneriaeth gyda grŵp o fyfyrwyr, yn gweithio fel Llysgenhadon Dysgu Myfyrwyr, i ganolbwyntio ar un o’r materion a godir yn fwyaf amlwg mewn adborth gan fyfyrwyr – cynllun modiwlau Blackboard.
Gwnaed llawer eisoes i wella llywio a chysondeb modiwlau Blackboard, e.e., cyflwynwyd dewislenni Blackboard adrannol ac Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard. Mae enghreifftiau rhagorol o fodiwlau Blackboard i’w cael, gyda rhai’n cael eu harddangos yn ein Gwobrau Cwrs Nodedig. Fodd bynnag mae sylwadau ar anawsterau o ran llywio a diffyg cysondeb modiwlau Blackboard yn dal i ymddangos yn adborth y myfyrwyr (e.e. Arolwg Digital Insights).
Cyn dechrau’r prosiect, cafodd yr Uned gyfle i fynd i weithdy ar bartneriaeth myfyrwyr-staff a gyflwynwyd gan Ruth a Mick Healey sy’n ymgynghorwyr blaenllaw ar yr agwedd hon ar ymgysylltu â myfyrwyr. Roedd y sesiwn, yn ogystal ag ymgynghoriad dilynol oedd yn edrych yn benodol ar y prosiect Llysgenhadon Dysgu Myfyrwyr, yn hynod o werthfawr. Er bod ein prosiect yn canolbwyntio’n bennaf ar ymgynghori â myfyrwyr, gwnaethom ein gorau i gyflwyno gwerthoedd sylfaenol partneriaethau myfyrwyr-staff, grymuso myfyrwyr i berchnogi’r prosiect, eu helpu i wireddu effaith eu gwaith a myfyrio ar sut y bu’n fuddiol i’w twf.
Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
Varwell, S. (5/7/2021). Models for exploring partnership: Introducing sparqs’ student partnership staircase as a reflective tool for staff and students, International Journal for Students As Partners, 5(1), 107–123.
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.
Gan fod modiwlau 2021-22 bellach ar gael i staff, gallwn eu cysylltu gyda’i gilydd ar gais cydgysylltydd y modiwl. Cyfeirir at y drefn hon fel trefn rhiant a phlentyn. Mae cysylltu modiwlau gyda’i gilydd yn ffordd effeithiol o drafod modiwlau ar wahân a chanddynt yr un cynnwys er mwyn osgoi uwchlwytho deunyddiau ar gyfer dau neu ragor o wahanol fodiwlau.
Yn ôl y drefn hon, bydd un modiwl yn rhiant, a’r modiwl(au) arall/eraill yn blentyn. Ni chyfyngir ar nifer y modiwlau plentyn ond ni ellir cael mwy nag un rhiant.
Os ydych yn gydgysylltydd modiwlau ac os hoffech gysylltu eich modiwlau yn ôl y drefn hon, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk gan roi’r codau modiwl ar gyfer y modiwlau rhiant a phlentyn.
Enghreifftiau o Aberystwyth
Mae llawer o aelodau staff eisoes yn defnyddio modiwlau rhiant a phlentyn ar draws y sefydliad. Dyma rai enghreifftiau:
Dysgir yr un cynnwys ar y modiwlau ond mae modiwl ar gael i flynyddoedd gwahanol
Modiwlau â’r un cynnwys a ddysgir yn Gymraeg a Saesneg
Modiwlau sy’n dod â gwahanol gynlluniau gradd at ei gilydd a chanddynt wahanol gyfeirnodau modiwl, er enghraifft modiwlau traethodau estynedig
Yn y bôn, mae pob modiwl sy’n rhannu’r un cynnwys yn ddelfrydol ar gyfer modiwlau rhiant a phlentyn.
Beth mae’r myfyrwyr yn ei weld?
Bydd y myfyrwyr yn gweld enw’r modiwl y maen nhw wedi’i gofrestru ar ei gyfer (hyd yn oed os mai’r modiwl plentyn yw hwnnw) wrth fewngofnodi i Blackboard ond byddant yn gweld yr holl gynnwys a osodir yn y modiwl rhiant. Ni chaiff hyfforddwyr osod cynnwys yn y modiwl plentyn.
Os ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg fel eich iaith ddiofyn yn eich porwr gwe, neu’n defnyddio’r fersiwn Cymraeg o Windows, fe sylwch fod Panopto ar gael yn Gymraeg nawr.
I weld Panopto yn Gymraeg yn eich porwr, yn Blackboard, ac os ydych chi’n defnyddio Panopto Capture – newidiwch iaith eich porwr (Sut mae gwneud hynny?)
I weld y recordiad Panopto yn Gymraeg – newidiwch iaith eich system gweithredu (Sut mae gwneud hynny?)
I gael rhagor o wybodaeth am y bartneriaeth rhwng prifysgolion Cymru a Panopto a wnaeth hyn yn bosibl, edrychwch ar ddatganiad i’r wasg Panopto. Mae’n bleser gennym ddweud, ym mis Chwefror 2021, bod Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn rhan o fenter a drefnwyd gan Brifysgol Abertawe a Chaerdydd i lobïo Panopto am y newid pwysig hwn.
Mae’r Pwyllgor Gwella Academaidd wedi cymeradwyo’r diweddariad i’r Isafswm Presenoldeb Gofynnol ar Blackboard ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.
Newidiwyd yr isafswm presenoldeb y llynedd yn sgil y ffaith bod mwy o’r addysgu’n digwydd ar-lein. Wrth i’r Brifysgol baratoi ar gyfer mis Medi, mae’r isafswm presenoldeb wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau.
Mae modiwlau ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 bellach ar gael ar gyfer staff sy’n dysgu ar fodiwlau. Mae hwn er mwyn cynorthwyo staff i baratoi eu modiwlau ar gyfer Mis Medi. Efallai eich bod wedi sylwi bod tab newydd wedi ymddangos ar y ddewislen ar frig eich sgrin Blackboard:
Os ydych wedi cofrestru fel aelod o staff ar y modiwl yn Astra dylech allu gweld eich modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Os nad oes modd i chi weld modiwl yr ydych wedi cofrestru arno yna cysylltwch â’ch Swyddog Gweinyddol Adrannol. Ni fydd myfyrwyr yn gallu cofrestru ar eich modiwl nes y bydd y cofrestriad wedi’i gwblhau.
Fe sylwch fod y codau ar gyfer modiwlau wedi newid ychydig oherwydd y ffurflen MAF newydd. Mae AB1 yn dynodi modiwlau sy’n rhedeg yn semester 1, mae AB2 yn dynodi modiwlau sy’n rhedeg yn semester 2, ac mae AB3 yn dynodi modiwlau sy’n rhedeg yn Semester 3 a Semester S.
Yn yr wythnos yn dechrau 12 Gorffennaf cynhaliodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu y prosiect Beth yw modiwl Blackboard wedi’i gynllunio’n dda? Dewiswyd 9 myfyriwr yn Llysgenhadon Dysgu i weithio gyda ni. Roedd y grŵp yn cynnwys: un myfyriwr Hanes israddedig 3edd flwyddyn, un myfyriwr Astudiaethau Plentyndod israddedig 3edd flwyddyn, dau fyfyriwr israddedig Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 2il flwyddyn, un myfyriwr Economeg israddedig 3edd flwyddyn, un myfyriwr Hawliau Dynol a Chyfraith Ddyngarol Ryngwladol uwchraddedig, un myfyriwr 3edd flwyddyn a dau fyfyriwr 2il flwyddyn Seicoleg israddedig.
Trwy gydol y prosiect bu’r myfyrwyr yn gweithio ar y tasgau canlynol, yn annibynnol ac yn rhan o’r grŵp:
taflu syniadau am yr hyn mae’n ei olygu i fodiwl fod wedi’i gynllunio’n dda
cynhyrchu rhestr o eitemau y dylid eu cynnwys mewn modiwl Blackboard
categoreiddio’r rhestr o eitemau
cymryd rhan mewn profion defnyddioldeb ar ddau fodiwl Blackboard sy’n bodoli eisoes
rhoi taith i ni drwy fodiwl Blackboard yn eu hadran oedd yn un hylaw
ysgrifennu blog byr ar un agwedd ar gynllun modiwl sy’n bwysig iddyn nhw gydag awgrymiadau ymarferol i staff addysgu
nodi problemau cyffredin mewn modiwlau Blackboard, myfyrio ar eu heffaith, a chreu set o argymhellion ynglŷn â’u datrys
cynnig newidiadau i Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard
Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau’r prosiect yn cynnwys blogiau gan y Llysgenhadon eu hunain. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Angela, Erin, Katie, Ammaarah, Elisa, Lucie, Charlotte, Gabriele a Nathalia am eu gwaith caled ar y prosiect. Credwn y bydd yr holl staff yn ystyried y canfyddiadau yr un mor ddefnyddiol ag y gwnaethom ni.
Wrth i fy nghyfnod i fel Arbenigwr Dysgu Ar-lein yr Uned ddod i ben, rwy’n hynod o falch a diolchgar i allu gorffen drwy gynnal y prosiect hwn. Rydw i wir yn credu y dylai cynnwys myfyrwyr yn weithredol wrth gynllunio eu dysgu fod yn flaenoriaeth ac rwy’n gobeithio am fwy o gyfleoedd ar gyfer partneriaethau staff-myfyrwyr. Hoffwn ddiolch i’r holl staff y cefais gyfle i weithio gyda nhw dros y misoedd diwethaf, diolch am eich gwaith ysbrydoledig a’ch ymrwymiad parhaus i ddarparu’r profiad gorau bosibl i’n myfyrwyr.
Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
Center for Engaged Pedagogy, Barnard College, Faculty Resources (a collection of guides including support for active learning online, backward design, and more)
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.
Mae’r astudiaeth achos hon yn seiliedig ar y bennod The Student-led Planning of Tourism and Hospitality Education: The Use of Wicis to Enhance Student Learning gan Dr Mandy Talbot (Ysgol Funes Aberystwyth) a gyhoeddwyd yn The Routledge Handbook of Tourism and Hospitality Education, ac yn cynnwys detholiadau ohoni.
Pa offeryn ydych chi’n ei ddefnyddio a pham?
Defnyddiodd Dr Mandy Talbot wicis Blackboard i hwyluso ‘prosiect dysgu cydweithredol dan arweiniad myfyrwyr (…) ar y modiwl ail flwyddyn gradd baglor: datblygu twristiaeth ryngwladol. (…) Roedd gwaith cwrs y modiwl yn gofyn i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bach i nodi a gwerthuso’r strategaethau datblygu twristiaeth oedd yn cael eu dilyn mewn cyrchfannau twristaidd penodol a’u cymharu â’r dulliau a ddefnyddid mewn mannau eraill. Oherwydd natur gydweithredol a rhyngweithiol yr aseiniad, yr offeryn gwe mwyaf addas oedd y wici.’
Pam ddewisoch chi’r offeryn hwn?
Cyn cyflwyno’r wicis ‘roedd myfyrwyr yn ymgymryd â’r ymarfer trwy greu a rhoi cyflwyniad PowerPoint grŵp 15 munud i’r dosbarth, gyda 10 munud arall ar gyfer cwestiynau.’ Newidiodd Dr Mandy Talbot fformat yr aseiniad er mwyn:
‘Gwella cydlynrwydd gwaith grŵp y myfyrwyr: Mae fformat wici yn rhoi gofod gwaith cydweithredol i fyfyrwyr ddatblygu eu gwaith’
‘Cynnig mwy o gyfle i fyfyrwyr ryngweithio â gwaith grwpiau eraill: Trwy fformat wici gall myfyrwyr ymweld â chyflwyniadau ei gilydd dros gyfnod estynedig. Mae gan dudalennau wici hefyd flychau ar gyfer sylwadau sy’n galluogi myfyrwyr i holi a chynnal trafodaeth ar y safleoedd eraill.’
‘Datblygu sgiliau TG myfyrwyr: Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i greu a strwythuro tudalennau gwe’.