Beth sydd wedi newid gyda Blackboard Saas?

Mewngofnodi

Pan ewch chi i https://blackboard.aber.ac.uk byddwch nawr yn gweld y dudalen Login@AU. Defnyddiwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth ar y dudalen hon i gael mynediad i Blackboard.

Yr Iaith Gymraeg

Os ydych chi wedi nodi Cymraeg fel eich dewis iaith yn ABW neu ar eich Cofnod Myfyriwr, byddwch yn gweld y fersiwn Gymraeg o Blackboard yn awtomatig. Os hoffech newid eich gosodiadau iaith gweler y Cwestiynau Cyffredin.

Ap Blackboard

Os ydych chi’n cael problemau wrth ddefnyddio ap Blackboard:

  1. Allgofnodwch a chau’r ap.
  2. Chwiliwch am Aberystwyth University a chlicio ar yr enw.
  3. Cewch neges yn dweud eich bod yn mewngofnodi trwy wefan PA
  4. Cliciwch ar Got it
  5. Mewngofnodwch gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair PA

Diweddariadau

Bydd Blackboard yn diweddaru ar ddechrau pob mis. Mae’r diweddariadau misol hyn yn golygu na fydd angen i ni atal gwasanaeth Blackboard i wneud gwaith cynnal a chadw o hyn ymlaen.

Dyddiadau diweddaru ar gyfer semester 1:

  • 5 Medi
  • 3 Hydref
  • 7 Tachwedd
  • 5 Rhagfyr
  • 2 Ionawr

Efallai y sylwch chi fod pethau wedi newid, neu fod nodweddion newydd wedi ymddangos. Byddwn yn ceisio rhoi gwybodaeth i chi am unrhyw newidiadau sylweddol trwy’r blog.  Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth ar https://help.blackboard.com/Learn/Administrator/SaaS/Release_Notes

Cadw Deunydd a Chopïau Wrth Gefn

Mae Blackboard yn cadw deunydd a ddilëir am 30 diwrnod. Os ydych wedi dileu rhywbeth o Blackboard ac am ei gael yn ôl, anfonwch e-bost at elearning@aber.ac.uk cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn cynnwys deunyddiau cyrsiau, defnyddwyr a graddau.

Ymdrin ag Ymholiadau

Gan fod Blackboard yn cael ei reoli yn y cwmwl bellach, efallai y bydd angen i’r staff cymorth e-ddysgu gyfeirio eich ymholiad ymlaen at dîm cymorth canolog Blackboard.  Mae’n bosib y bydd angen i ni:

  • Ofyn i chi am fwy o fanylion nag arfer ynglŷn â’r broblem – efallai y bydd angen i ni ofyn i chi am fanylion y camau a gymeroch
  • Ganiatáu i staff cymorth Blackboard gael mynediad i’ch modiwl

Mae hefyd yn bosib y bydd yn cymryd ychydig yn hirach i gael ateb, ond byddwn yn ceisio sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth am hynt eich ymholiad.

Creu Deunyddiau Dysgu Hygyrch

Accessibility icons showing 3 images: a checklist, a computer workstation, an image

Daeth deddfwriaeth hygyrchedd digidol newydd i rym yn 2018. Mae’n ymdrin â’r holl ddeunydd ar wefannau’r sector cyhoeddus yn ogystal â dogfennau a uwchlwythir i Amgylcheddau Dysgu Rhithwir megis ein safle Blackboard. I gael manylion am y ddeddf newydd, gweler Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No.2) Accessibility Regulations 2018. Gweler yr Adroddiad Amgylcheddau Dysgu Rhithwir Hygyrch i gael gwybodaeth am sut y gallwn wneud ein modiwlau’n fwy hygyrch a chynhwysol.

Dros y misoedd diwethaf, mae aelodau o staff yn yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr ledled y Brifysgol i baratoi ar gyfer cyflwyno’r ddeddfwriaeth. I gael manylion am sut mae’r brifysgol yn ymateb i’r ddeddfwriaeth, gweler Datganiad Hygyrchedd Digidol y Brifysgol. O’r dudalen honno, cliciwch ar Cyfarwyddyd i Staff (bydd angen i chi fewngofnodi i weld y deunyddiau hyn). Mae’r cyfarwyddyd i staff yn cynnwys dwy adran – un i ddefnyddwyr CMS (adeiladwyr gwefannau) ac un i staff sy’n creu deunyddiau dysgu neu ddogfennau eraill ar gyfer y we neu Blackboard.

Mae’r dudalen Cyfarwyddyd ar Greu Deunyddiau Dysgu Hygyrch yn cynnwys rhestr wirio ar gyfer gwneud eich dogfennau Word, ffeiliau PowerPoint, dogfennau PDF, a chlipiau cyfryngau yn fwy hygyrch i’ch myfyrwyr. Gallwch hefyd gael mynediad i’r daflen o’r sesiwn hyfforddi Creu Deunyddiau Dysgu Hygyrch a gynhelir gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu ar y cyd â Chymorth i Fyfyrwyr.

Yn ogystal â’r sesiynau hyfforddi Creu Deunyddiau Hygyrch (y gellir eu harchebu ar-lein), mae’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu hefyd yn hapus i gynnig hyfforddiant pwrpasol i staff mewn adrannau. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am greu deunyddiau hygyrch ar gyfer dysgu ac addysgu, neu os hoffech archebu sesiwn bwrpasol i chi’ch hun a chydweithwyr yn eich Adran, cysylltwch â ni (udda@aber.ac.uk).

Modiwlau 2019/2020 bellach ar gael (staff)

[:cy]Mae modiwlau ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20 bellach ar gael ar gyfer staff sy’n dysgu ar fodiwlau. Efallai eich bod wedi sylwi bod tab newydd wedi ymddangos ar y ddewislen ar frig eich sgrin Blackboard:

Os ydych wedi cofrestru fel aelod o staff ar y modiwl yn Astra dylech allu gweld eich modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Os nad oes modd i chi weld modiwl yr ydych wedi cofrestru arno yna cysylltwch â’ch Swyddog Gweinyddol Adrannol. Ni fydd myfyrwyr yn gallu cofrestru ar eich modiwl nes y bydd y cofrestriad wedi’i gwblhau.

Rydym wedi creu modiwlau 2019/20 yn gynharach yn ystod y flwyddyn er mwyn cynorthwyo staff i baratoi eu modiwlau yn barod ar gyfer ail gyfnod y Copi Gwag o Gwrs, yn sgil Copi Gwag o Gwrs y llynedd ar gyfer holl fodiwlau ar y campws Blwyddyn 1.

Eleni, mae’r Copi Gwag o Gwrs yn berthnasol i holl fodiwlau ar y campws Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3. Bydd modiwlau Blwyddyn 2 a 3 a grëwyd yn wag y llynedd gyda’ch Templed Adrannol yn cael eu copïo drosodd i fodiwl eleni.

Mae’r cymorth canlynol ar gael i’ch helpu â Chopi Gwag o Gwrs:

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch Copi Gwag o Gwrs, neu os oes arnoch angen rhagor o gymorth, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk.

Dyma nodyn i’ch atgoffa na fydd Blackboard ar gael ddydd Iau 29 Awst rhwng 9:30 a 12:30 a bydd mewn perygl tan 14:00 wrth i ni orffen y gwaith o symud i SaaS. Bydd Blackboard wedyn ar gael i’w ddarllen yn unig tan ddydd Llun 2 Medi.

Newidiadau i Fideo-Gynadledda

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn newid y ddarpariaeth Fideo-Gynadledda i Skype for Business. Mae’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu wedi bod yn gweithio â chydweithwyr ar draws y Gwasanaethau Gwybodaeth i newid y ddarpariaeth hon.

Gall 250 o bobl gymryd rhan mewn gweminar Skype for Business. Gallwch atodi dogfennau i gyfranogwyr eu hadolygu o flaen llaw. Yn ogystal â hyn gallwch ddewis y cynnwys yr hoffech ei ddangos i’ch cyfranogwyr, o alwadau sain i gipio sgrin a chyflwyniadau PowerPoint. Mae Skype for Business wedi’i integreiddio’n llawn ag Office 365 a dim ond cysylltiad â’r Rhyngrwyd sydd ei angen ar gyfranogwyr y gynhadledd i gymryd rhan yn y cyfarfod.

Bydd yr ystafelloedd Fideo-Gynadledda presennol yn cael eu diweddaru ag offer newydd ar gyfer Skype for Business. Gallwch eisoes lawrlwytho Skype for Business. Mae rhagor o gyngor ar gael yma.

Byddwn yn cynnig 2 sesiwn hyfforddi wahanol ar ddefnyddio Skype for Business a gallwch gofrestru yma.

  • Skype for Business i Drefnwyr Cyfarfodydd

Mae’r sesiwn hon ar gyfer y rhai sy’n trefnu cyfarfodydd. Byddwn yn edrych ar sut i drefnu cyfarfod drwy ddefnyddio Outlook, sut i anfon y cais am gyfarfod i gyfranogwyr, rheoli rhyngweithio’r cyfranogwyr, a rhannu dogfennau â chyfranogwyr cyn y cyfarfod.

  • Skype for Business ar gyfer Gweithgareddau Addysgu

Yn ogystal â’r uchod, byddwn hefyd yn edrych ar nodweddion rhyngweithiol Skype for Business a all wella Dysgu ac Addysgu. Byddwn yn rhoi cyngor ar strategaethau y gallwch eu defnyddio ar gyfer addysgu rhithwir.

Gall gweminarau wella’r ddarpariaeth dysgu ac addysgu, yn arbennig i fyfyrwyr nad ydynt yn astudio ar y campws. Mae gan JISC gyfarwyddyd ar sut i ddefnyddio Gweminarau mewn addysg, ac maent ar gael yma.

Rydym wedi cynorthwyo’r Adran Addysg i gynnal rhai gweminarau, a cheir rhagor o wybodaeth amdanynt yma. Yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn cynnal rhai gweminarau ar offer a darpariaeth E-ddysgu.

Blackboard SaaS – diweddariad 5

Iaith Gwaith logo - speech bubble containing the word Cymraeg

Da iawn ni! Y datblygiad mawr y mis hwn oedd creu fersiwn sy’n gweithio o’rrhyngwyneb Cymraeg. Ar ôl llawer o feddwl a gwaith ymchwil rydym wedi llwyddo i ffeindio ffordd o ail-greu ein tabiau a blychau  Cymraeg ar yr amgylchedd SaaS newydd. Fel defnyddwyr ni fydd unrhyw beth yn edrych yn wahanol, ond i ni mae’n gam enfawr ymlaen. Ac mae’r cyfan wedi’i ddogfennu (dros 9 tudalen!) i wneud yn siŵr y gall unrhyw un yn y tîm ei wneud, os bydd angen. Mae’n braf gweld Blackboard yn ôl i’w normalrwydd dwyieithog!

Rydym hefyd yn chwilio am staff dysgu a gweinyddol i’n helpu i brofi’r amgylchedd SaaS Blackboard newydd. Os oes gennych ddiddordeb, e-bostiwch ni ar elearning@aber.ac.uk

Byddwn yn rhoi mynediad i’n profwyr i gopïau o’u modiwlau Blackboard ar y safle SaaS. Byddwn wedyn yn gofyn i chi

  • Edrych ar ddeunyddiau’r cwrs a gwirio eu bod yn gweithio fel y disgwyl
  • Defnyddio rhai o offer Blackboard i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio’n iawn
  • Adnabod a rhoi gwybod am unrhyw broblemau neu faterion

Mae croeso i’r holl staff ymuno yn y gwaith profi. Rydym yn chwilio’n arbennig am staff sy’n defnyddio Blackboard yn Gymraeg neu sy’n defnyddio offer megis profion a byrddau trafod.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch e-bostio elearning@aber.ac.uk

Gwobr Cwrs Nodedig: Enillwyr

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi enillydd y Wobr Cwrs Nodedig, dan arweiniad y Grŵp E-ddysgu, ar gyfer eleni. Gwelwch ein enillwyr ar y Cynhadledd Dysgu ac Addysgu.  Cewch archebu’ch lle yma.

Dyfarnwyd y Wobr Cwrs Nodedig i Alison Pierse, Tiwtor Dysgu Gydol Oes ym maes Celf, ar gyfer y modiwl XA15220 Figuratively Speaking: The History of Western Figurative Sculpture. Cafodd y modiwl hwn ei ganmol gan y panel am ei ffordd arloesol o ddylunio ar y cyd â’r myfyrwyr, yn ogystal â’i allu i greu profiad dysgu 3 dimensiwn ar gyfer myfyrwyr nad ydynt, o bosibl, yn astudio ar y campws, a sicrhau hefyd bod pob agwedd ar y modiwl yn gwbl hygyrch.

Yn ychwanegol at yr enillydd, cafodd y modiwlau canlynol Ganmoliaeth Uchel:

  • Tîm Dysgu o Bell IBERS ar gyfer BDM0120 Research Methods
  • Stephen Chapman ar gyfer BDM1320 The Future of Packaging
  • Alexandros Koutsoukis ar gyfer IP12620 Behind the Headlines
  • Jennifer Wood ar gyfer SP10740 Spanish Language (Beginners)

Mae’r ystod amrywiol o arddulliau dysgu ac addysgu a welwyd yn y ceisiadau eleni yn adlewyrchu’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud ledled y sefydliad.

Nod y Wobr Cwrs Nodedig, sydd ar ei chweched flwyddyn bellach, yw cydnabod yr arferion dysgu ac addysgu gorau oll trwy roi cyfle i aelodau o staff rannu eu gwaith â chyd-weithwyr, gwella eu modiwlau presennol yn Blackboard, a chael adborth ar eu modiwlau. Mae’r modiwlau’n cael eu hasesu mewn 4 maes: dyluniad y cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu, a chymorth i ddysgwyr. Mae natur y wobr, sy’n seiliedig ar hunanasesu, yn rhoi’r cyfle i staff fyfyrio ar eu cwrs a gwella agweddau ar eu modiwl cyn y bydd panel yn asesu pob cais ar sail y gyfeireb.

Hoffai’r panel a’r Grŵp E-ddysgu ddiolch i’r holl ymgeiswyr am yr amser a’r ymdrech a roddwyd ganddynt i’w ceisiadau a’u modiwlau eleni.

Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn mwy o geisiadau y flwyddyn nesaf, a llongyfarchiadau lu i enillwyr y wobr eleni.

Blackboard SaaS – diweddariad 4

Ffocws y rhan fwyaf o’n profi dros y mis diwethaf oedd gwneud yn siŵr bod ein gosodiadau lleol yn Blackboard yn gweithio’n iawn. Rydym wedi treulio llawer o amser yn gweithio ar y cyfieithiad Cymraeg. Mae ein ffeiliau Cymraeg yn eithaf hen ac angen eu diweddaru, felly byddwn yn treulio amser yn ceisio sicrhau fod y rhyngwyneb Cymraeg yn gweithio’n iawn.

Rydym hefyd yn gwirio holl brif offer Blackboard i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio fel y disgwyl – ac er mwyn i hynny weithio’n iawn, byddwn angen eich cymorth. Rydym yn bwriadu gwahodd staff i brofi amgylchedd newydd SaaS i gael mwy o adborth – cadwch lygaid allan am e-bost yn eich gwahodd i ymuno â’r grŵp profi.

Yn y blog diwethaf gwnaethom grybwyll ein bod yn cynllunio amser segur ar gyfer trosglwyddo’r data’n derfynol. Mae hi wedi bod yn anodd dod o hyd i amser addas sydd ddim yn rhy gynnar neu’n rhy aflonyddgar yn ystod cyfnod yr arholiadau atodol. Credwn ein bod wedi dod o hyd i ddyddiad addas erbyn hyn. Ein cynllun yw trefnu amser segur i Blackboard ar 29 Awst. Dylai gymryd ychydig oriau’n unig i drosglwyddo data a phan fydd Blackboard ar gael eto, bydd ar gael i’w ddarllen yn unig tan 2 Medi. Os yw staff angen cael mynediad i ddiweddaru rhywbeth rhwng 29 Awst a 2 Medi, e-bostiwch elearning@aber.ac.uk

Darganfyddiadau arolwg Mewnwelediad Digidol a gynhaliwyd yn PA am yr eilwaith!

Y llynedd gwnaeth Prifysgol Aberystwyth gymryd rhan yng nghynllun peilot Traciwr Profiad Digidol Myfyrwyr JISC – arolwg ar-lein a gynlluniwyd gan JISC i gasglu gwybodaeth am ddisgwyliadau a phrofiadau myfyrwyr o dechnoleg. Mae peilot 2017/18 wedi arwain at wasanaeth JISC newydd nawr o’r enw Mewnwelediad Profiad Digidol.

Cynhaliwyd arolwg Mewnwelediad Digidol i fyfyrwyr yn PA ym mis Ionawr 2019. Roeddem yn gyffrous iawn ynghylch cynnal yr arolwg am yr eilwaith, oherwydd ei fod yn ein galluogi i gymharu’r darganfyddiadau â chanlyniadau’r llynedd a chadw golwg ar ein cynnydd o ran darpariaethau digidol.

Isod ceir crynodeb byr o rai o’r prif ddarganfyddiadau. Os hoffech eu trafod ymhellach neu gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â ni ar elearning@aber.ac.uk.

Fel y gwyddoch efallai, mae’r arolwg Mewnwelediad Profiad Digidol yn dod gyda data meincnodi gan sefydliadau Addysg Uwch eraill yn ein sector. Mae’r data meincnodi bellach ar gael a byddwn yn ei rannu â chi yn y neges Mewnwelediad Digidol nesaf.

Os hoffech ddarllen am brofiad PA o gynnal Mewnwelediad Digidol ym mlwyddyn academaidd 2017/18, edrychwch ar yr erthygl a gyhoeddwyd ar wefan JISC neu porwch drwy ein negeseuon blaenorol:


Mewnwelediad Profiad Digidol 2018/19

WiFi

Cynyddodd boddhad y myfyrwyr â’r ddarpariaeth WiFi o 7.3% o’i gymharu ag arolwg y llynedd. Er mai WiFi yw’r thema fwyaf cyffredin yn sylwadau’r myfyrwyr o hyd, mae nifer y sylwadau ynghylch WiFi wedi lleihau o 66 y llynedd i 38 eleni.

E-lyfrau ac E-gyfnodolion

Ymatebodd 7.7% yn llai o fyfyrwyr fod ganddynt fynediad i e-lyfrau ac e-gyfnodolion pan fônt eu hangen, mae’r mater hwn wedi cael ei grybwyll yn 19 o sylwadau’r myfyrwyr.

Blackboard

Mae’r broblem o ran llywio yn Blackboard wedi gwella mae’n ymddangos. Dim ond 3 sylw oedd am y broblem hon o’i gymharu ag 20 y llynedd a chynnydd o 8.2% yn y cwestiwn am lywio yn Blackboard.

*Mae geiriad y cwestiwn wedi newid ers arolwg 2017/18 a allai fod wedi effeithio ar y cyfraddau.

Diogelwch

Mae’r myfyrwyr yn fwy bodlon â’r darpariaethau o ran materion diogelwch.

Dyfeisiau symudol

Mae defnyddio ffonau clyfar i gynorthwyo dysgu wedi cynyddu rhywfaint. Yn y sylwadau, roedd myfyrwyr yn siarad am yr angen i wasanaethau craidd megis Panopto a Blackboard fod yn addas ar gyfer teclynnau symudol ac am fudd apiau i’w helpu â’u hastudiaethau. Yn ddiddorol iawn, pan ofynnwyd iddynt a fyddai’n well ganddynt gael caniatâd i ddefnyddio eu dyfeisiau symudol eu hunain yn y dosbarth, dim ond 49% a atebodd ‘Ar unrhyw adeg’, atebodd 45.4% ‘I wneud gweithgareddau yn y dosbarth yn unig’ ac atebodd 5.6% ‘Dim o gwbl’.

Defnyddio technoleg

Mae yna symudiad tuag at ddefnyddio mwy o dechnoleg, roedd yna nifer o sylwadau ynghylch y ffaith bod angen i’r staff gael rhagor o hyfforddiant ar ddefnyddio technoleg ac roedd cynnydd o bron i 10% yn y myfyrwyr oedd eisiau i fwy o dechnoleg gael ei defnyddio ar eu cwrs.

Cyhoeddi Prif Siaradwr y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Helen Beetham

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi mai’r prif siaradwr ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni fydd Helen Beetham.

Mae Helen yn ymgynghorydd addysg, ymchwilydd, ysgrifennwr, ac arweinydd prosiect digidol, sy’n canolbwyntio’n benodol ar lythrennedd digidol dysgwyr. Yn ddiweddar, gwnaeth Helen helpu i ddatblygu arolwg Mewnwelediad Digidol Jisc. Prifysgol Aberystwyth oedd un o’r Prifysgolion a gymerodd ran yn y prosiect hwn (gallwch ddarllen mwy am y darganfyddiadau a’r prosiect ar ein blog).

Mae trydydd rhifyn o gasgliad a olygodd Helen ar y cyd â Rhona Sharpe yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf eleni, ac mae hyn yn digwydd cyd-daro â dyddiadau’r gynhadledd. Mae’r llyfr, Rethinking Pedagogy for a Digital Age, yn dod â datblygiadau diweddar a damcaniaethau beirniadol ar gynllunio gweithgareddau dysgu ynghyd sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, yn hygyrch, ac yn cynnwys astudiaethau achos ac ymchwil ar draws y sector.

Yn ogystal â chyflwyno’r prif gyflwyniad ar ddatblygiad y cwricwlwm a dysgu digidol, bydd Helen hefyd yn cynnig gweithdy i’r cynrychiolwyr er mwyn iddynt allu cymhwyso’r hyn y maent wedi’i ddysgu i’w cyd-destunau a’u cwricwlwm eu hunain. Byddwn yn defnyddio’r data a’r darganfyddiadau o’r prosiect Mewnwelediad Digidol i gefnogi’r gwaith hwn.

Cynhelir y gynhadledd rhwng 8-10 Gorffennaf 2019 a gall cynrychiolwyr archebu lle yma.

Bydd drafft o amserlen y gynhadledd ar gael ar ein gweddalennau’n fuan.

Mae Helen yn trydar ar @helenbeetham ac yn ysgrifennu blogiau (weithiau) ar digitalthinking.org.uk.