Fel darlithydd ym maes dysgu ac addysgu sy’n gyfrifol am y TUAAU, rwy’n cadw llygad am adnoddau newydd i gynorthwyo ein staff i ddysgu’n effeithiol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gweminarau allanol, pecynnau cymorth, cyhoeddiadau ac adnoddau eraill. Oherwydd bod dysgu gweithredol yn cael blaenoriaeth ar agenda’r Brifysgol, rwy’n hynod o awyddus i rannu canllawiau ar gyfer symud dysgu gweithredol ar-lein.
Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
16/7/2020 RAISE network. “RAISE Student Engagement Buddying scheme, introduced as a pilot in 2019 to connect staff and students from across the network and facilitate communication and collaboration among our members. The webinar is hosted by the scheme co-ordinator, Madalene George, and there will be a chance to hear from some of our matched buddies about their experience. You can find out more at the event link on Advance HE Connect.”
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth.
Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.
Crynodeb Wythnosol o Adnoddau gyda Mary Jacob Darlithydd – Dysgu ac Addysgu
Fel darlithydd ym maes dysgu ac addysgu sy’n gyfrifol am y TUAAU, rwy’n cadw llygad am adnoddau newydd i gynorthwyo ein staff i ddysgu’n effeithiol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gweminarau allanol, pecynnau cymorth, cyhoeddiadau ac adnoddau eraill. Oherwydd bod dysgu gweithredol yn cael blaenoriaeth ar agenda’r Brifysgol, rwy’n hynod o awyddus i rannu canllawiau ar gyfer symud dysgu gweithredol ar-lein.
Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
Galw staff @PrifAber. Ydych chi’n defnyddio darlithoedd byr neu gwisiau Panopto wrth ddysgu ar-lein? Rydyn ni’n chwilio am enghreifftiau ar gyfer ein modiwl arferion da newydd. E-bostiwch udda@aber.ac.uk os hoffech rannu eich deunydd â ni.
15/7/2020 “Transforming Assessment Webinars – ‘Feedback is useless if no-one can get what it means’ – The effect of technology-mediated peer feedback on uptake and literacy. James Michael Wood (Seoul National University, South Korea); Inclusive assessment design: what can we learn from assessment adjustments?. Joanna Tai, Mary Dracup, Merrin Mccracken, Yasmin Mobayad (Deakin University, Australia); Assessment and digital competences: building capacity with academic staff. Rob Lowne and Suzanne Stone (Dublin City University, Ireland)” http://taw.fi/15jul2020
“Call for papers for Compass: Journal of Learning and Teaching – Compass is an open access, peer-reviewed journal that welcomes research articles, case studies, opinion pieces and reviews relating to learning, teaching, assessment, and the wider student experience within higher education.” https://journals.gre.ac.uk/index.php/compass
Beard, Mary “The end of the university as we know it? – Mary Beard asks if the iconic university lecture might have had its day, in the aftermath of the pandemic” BBC Radio 4 https://www.bbc.co.uk/programmes/m000k2cq
Tan, E., Small, A., & Lewis, P. (2020). Have a question? Just ask it: using an anonymous mobile discussion platform for student engagement and peer interaction to support large group teaching. Research in Learning Technology, 28. https://journal.alt.ac.uk/index.php/rlt/article/view/2323
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth.
Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.
Yn y blogbost hwn, byddwn yn edrych ar offeryn sydd ar gael i wneud y dasg o ddysgu mewn sesiwn Microsoft Teams yn fwy rhyngweithiol. Mae’r Bwrdd Gwyn yn lle i chi a’ch myfyrwyr allu cydweithio.
Gellir defnyddio’r bwrdd gwyn ar gyfer y canlynol:
I fyfyrwyr gael rhannu syniadau neu safbwyntiau
I egluro diagram cymhleth i’ch myfyrwyr
I wneud mapiau meddwl ar gyfer syniadau neu gysyniadau
Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 8fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu, Dydd Llun 7 Medi – Dydd Mercher 9 Medi 2020.
Mae thema’r gynhadledd eleni, Cyfoethogi’r Cwricwlwm: Ysgogi Dysgu a Bywiogi’r Addysgu, yn adlewyrchu’r ymroddiad sydd gan staff Prifysgol Aberystwyth i wella profiad dysgu eu myfyrwyr.
Fel darlithydd ym maes dysgu ac addysgu sy’n gyfrifol am y TUAAU, rwy’n cadw llygad am adnoddau newydd i gynorthwyo ein staff i ddysgu’n effeithiol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gweminarau allanol, pecynnau cymorth, cyhoeddiadau ac adnoddau eraill. Oherwydd bod dysgu gweithredol yn cael blaenoriaeth ar agenda’r Brifysgol, rwy’n hynod o awyddus i rannu canllawiau ar gyfer symud dysgu gweithredol ar-lein.
Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
Galw staff @PrifAber. Ydych chi’n defnyddio darlithoedd byr neu gwisiau Panopto wrth ddysgu ar-lein? Rydyn ni’n chwilio am enghreifftiau ar gyfer ein modiwl arferion da newydd. E-bostiwch udda@aber.ac.uk os hoffech rannu eich deunydd â ni.
24/6/2020 “ALT – Preparing for our ‘new normal’: how can effective student feedback help universities to survive and thrive in the next academic year? Student feedback webinar. Topics to be covered include; Is student evaluation still as important, and what does this look like in the ‘new normal’?; How are universities developing their student feedback mechanisms to reflect what the next academic year is really going to be like?; What are the new, and emerging opportunities, for capturing student feedback?; Is it possible to engage the dis-engaged and traditionally harder-to-reach groups?; How are academic and professional teams being supported to deliver this agenda?” https://go.alt.ac.uk/3e1Xvbe
Association for Learning Technology (ALT), “Call for chapters: Designing Courses with Digital Technologies: Evidence and Examples by and for Higher Education Instructors” Higher education is currently undergoing a digital transformation. As most higher education institutions are integrating digital technologies, instructors need guidance. In this book, to be published by Routledge, instructors from around the world, representing different subject disciplines, will write short chapters with concrete examples of how they use digital technologies to support teaching and learning informed by evidence. The book will be written by and for instructors. https://go.alt.ac.uk/30MLdQf
Educause Review, “Editor’s Picks”: “Can HyFlex Options Support Students in the Midst of Uncertainty?”, “Teaching during COVID-19: Why We’re Fortunate”, “Orienting Students to Online Learning: A Must for Student Success” https://er.educause.edu/editors-picks
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth.
Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.
Fel darlithydd ym maes dysgu ac addysgu sy’n gyfrifol am y TUAAU, rwy’n cadw llygad am adnoddau newydd i gynorthwyo ein staff i ddysgu’n effeithiol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gweminarau allanol, pecynnau cymorth, cyhoeddiadau ac adnoddau eraill. Oherwydd bod dysgu gweithredol yn cael blaenoriaeth ar agenda’r Brifysgol, rwy’n hynod o awyddus i rannu canllawiau ar gyfer symud dysgu gweithredol ar-lein.
Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
18/6/2020 Gweminar Dr Thomas Lancaster – ‘Contract Cheating in the Context of Covid-19: Five Key Ideas to Consider’. “Dr Lancaster will be providing an overview of the contract cheating landscape in relation to Covid-19, with a focus on five key ideas for the academic community to consider” https://register.gotowebinar.com/register/5006411100167100942
23/6/2020 Gweminar “Jumping online: Sustaining quality learning. University of London Centre for Distance Education webinar, designed to support the move to online during the pandemic. The webinar will be led by two CDE fellows, J Simon Rofe, Academic Head of Digital Learning at SOAS University of London and Jonathan San Diego, Lecturer in Technology & Health Informatics Education and Director of the iTEL Hub at Kings College, London and by Diana Laurillard, Professor of Learning with Digital Technologies, UCL Knowledge Lab.” https://london.ac.uk/centre-distance-education/cde-activities/cde-events
1/7/2020 UCISA Gweminar “Webinar Design to Promote Quality Engagement: Towards a Transactional Model and Toolkit” “Webinars are now commonplace, but as with early eLearning pedagogy, a ‘talking head’ design falls short of meeting the potential of the media. Next-generation learners need to master virtual collaboration skills to construct solutions to higher-level problem solving using interactive webinars.” https://www.ucisa.ac.uk/Events/2020/July/Spotlight-on-Digital-capabilities-webinar-3 https://www.ucisa.ac.uk/Events
Virna Rossi “Inclusive Learning Design Webinar series“: “Inclusive Learning Design (post lockdown)”, “A menu of practical lesson activities (in e-learning mode)” http://inclusivelearningdesign.com/webinars/
Sarah Lambert, “A global outlook to the interruption of education due to COVID-19 Pandemic: Navigating in a time of uncertainty and crisis”, Asian Journal of Distance Education, (15)1 (2020) http://asianjde.org/ojs/index.php/AsianJDE/article/view/462/307
Student Engagement in Higher Education Journal “RAISE is a network of staff and students in the higher education across the world who are working in and/or interested in researching and promoting student engagement.” https://sehej.raise-network.com/raise
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth.
Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.
Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wedi trefnu mwy o hyfforddiant Symud i Ddysgu Ar-lein a Defnyddio Microsoft Teams ar gyfer Gweithgareddau Dysgu. Cewch gadw eich lle ar-lein ac fe wnawn ni anfon gwahoddiad Calendr Teams i chi er mwyn i chi gael mynychu’r sesiynau hyfforddi.
Yn y sesiwn Symud i Ddysgu Ar-lein, rydym ni’n cyflwyno rhywfaint o ganllawiau cyffredinol ar sut i gynllunio a pharatoi ar gyfer dysgu ar-lein. Rydym ni’n edrych ar yr amrywiol offer rhyngweithiol sydd ar gael yn Blackboard ac yn cynnig cyngor ar y ffordd orau i’w ddefnyddio wrth ddysgu. Rydym yn cynnig canllawiau hefyd ar yr adnoddau e-asesu sydd ar gael i chi, canllawiau ar sut i deilwra eich recordiadau Panopta er mwyn eu cyflwyno ar-lein, a sut i gynllunio a pharatoi ar gyfer sesiynau cynadledda fideo ar-lein. Gorffennir gyda chanllawiau ar sut i ddefnyddio meddalwedd trydydd parti i gefnogi dysgu.
Yn y sesiwn Defnyddio Microsoft Teams ar gyfer Gweithgareddau Dysgu, rydym ni’n ymhelaethu ar ein cyngor ar gynnal sesiynau dysgu ar-lein i fyfyrwyr ac yn mynd drwy’r nodweddion sydd ar gael i chi mewn cyfarfodydd Teams.
Egwyddorion Dysgu Gweithredol a Hygyrchedd sy’n sail i’r sesiynau hyn a bydd yr egwyddorion yn helpu eich myfyrwyr i ddysgu ar-lein yn effeithiol.
Byddwn yn datblygu ein rhaglen DPP dros yr haf er mwyn ymateb i anghenion staff. Os ydych chi’n dymuno trafod unrhyw agwedd ar ddysgu, anfonwch e-bost at udda@aber.ac.uk. I gael unrhyw ganllawiau technegol, anfonwch e-bost at eddysgu@aber.ac.uk.
Mae Dr Lara Kipp, o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, wedi ennill Gwobr Cwrs Eithriadol am fodiwl TP22320: Principles of Scenography. Cymeradwyodd y panel y modiwl hwn oherwydd cynllun arloesol ei ddull asesu a’r gefnogaeth, y deunyddiau dysgu clir a drefnwyd yn rhesymegol, defnyddio cyhoeddiadau mewn modd gwreiddiol, a chynnig amryw ffyrdd i fyfyrwyr gael bod yn rhan o’r gweithgareddau dysgu.
Yn ogystal, cafodd y modiwl canlynol statws Canmoliaeth Uchel:
Dr Rhianedd Jewell o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd am fodiwl CY25620 / CY35620: Y Gymraeg yn y Gweithle
Mae’r amrywiaeth eang o ddulliau dysgu a welir yng ngheisiadau eleni yn adlewyrchiad o’r gwaith arloesol sy’n digwydd ym mhob rhan o’r sefydliad.
Nod y Wobr Cwrs Eithriadol, a sefydlwyd saith mlynedd yn ôl, yw rhoi cydnabyddiaeth i’r arferion dysgu gorau. Mae’n rhoi cyfle i aelodau staff rannu eu gwaith gyda’u cydweithwyr, gwella eu modiwlau presennol ar Blackboard, a chael adborth er mwyn gwella.
Caiff modiwlau eu hasesu ar draws 4 maes: cynllun y cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu, a chymorth i ddysgwyr. Mae natur y wobr, sy’n seiliedig ar hunanasesiad, yn rhoi cyfle i’r aelodau staff ystyried eu cyrsiau a gwella agweddau ar eu modiwlau cyn i banel asesu bob cais yn erbyn y cyfarwyddyd.
Hoffai’r panel a’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ddiolch i’r holl ymgeiswyr am yr amser a’r ymdrech a roddwyd i’r ceisiadau ac i’r modiwlau eleni.
Rydym yn edrych ymlaen at gael mwy o geisiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf a llongyfarchiadau mawr i enillwyr gwobr eleni.
Un o’r offerynnau rhyngweithiol sydd ar gael yn y Blackboard yw’r Bwrdd Trafod. Wrth drosglwyddo i ddysgu ar-lein, rydym ni wedi gweld staff yn dechrau defnyddio byrddau trafod i gyfathrebu â’u myfyrwyr a myfyrwyr yn eu defnyddio i gyfathrebu â’u cyd-fyfyrwyr.
Yn y blogbost hwn, byddwn yn rhoi rhai awgrymiadau ar y ffordd orau o ddefnyddio’r byrddau trafod i gynllunio gweithgareddau dysgu a rhai strategaethau er mwyn eu rhoi ar waith wrth ddysgu. Wrth i ni drosglwyddo i ddysgu ar-lein, mae’n bwysig cofio bod hyn yn newydd i’r myfyrwyr yn ogystal â’r staff. Bydd gweithgaredd dysgu ar-lein sydd wedi ei gynllunio’n effeithiol i helpu i sicrhau llai o straen i fyfyrwyr a llai o ymholiadau i staff.
Mae un o’r ymholiadau mwyaf cyffredin a gawn gan staff yn ymwneud â’r ffordd y mae’r myfyrwyr yn defnyddio’r amrywiol offerynnau e-ddysgu. Mae’r defnydd yn dibynnu ar y ffordd y cynllunnir y gweithgaredd dysgu a’r ffordd y mae’n bwydo i weddill y modiwl a’r broses ddysgu.
Y cwestiwn cyntaf y dylech ei ystyried wrth ddechrau defnyddio byrddau trafod yw beth yw ei ddiben? Beth hoffech chi i’ch myfyrwyr ei wneud neu allu ei wneud ar ôl gwneud y gweithgaredd? Ar ôl i chi sefydlu mai’r bwrdd trafod yw’r offeryn mwyaf addas ar gyfer y gweithgaredd (cofiwch roi blaenoriaeth i’r anghenion dysgu), cewch ddechrau ei gynllunio.
Trafodaeth (gellir cyfeirio at adnodd penodol neu beidio) Dadl Myfyrio ar brofiad personol Cyflwyniad a grëir ar y cyd Rhannu adnoddau
2. Beth yw diben y drafodaeth neu’r gweithgaredd?
Rhoi myfyrwyr mewn sefyllfa i: · Trin a beirniadu darlleniad · Ffurfio dadl · Profi/herio damcaniaeth · Gweithio mewn parau/timau · Datblygu sgiliau (e.e. chwilio am adnoddau a’u rhannu)
3. Beth sydd angen i fyfyrwyr ei wneud ac erbyn pa bryd?
Am ba hyd y bydd y gweithgaredd yn cael ei gynnal? A ddylai myfyrwyr bostio unwaith, neu fwy nag unwaith? A ddylai myfyrwyr ymateb i un post arall o leiaf? A oes angen iddynt gyfathrebu y tu allan i’r platfform er mwyn cwblhau’r dasg? A ddylai myfyrwyr enwebu cofnodwr? Erbyn pa bryd mae angen cwblhau pob rhan o’r dasg?
4. Beth fydd swyddogaeth y tiwtor, a pha mor aml y bydd y tiwtor yn ‘bresennol’ (gweler isod)?
A fydd tiwtoriaid yn hwyluso’r drafodaeth? Ynteu a fyddant yn cadw llygad ond yn peidio â gwneud sylwadau hyd at bwynt penodol? A fydd y tiwtoriaid yn taro golwg bob dydd? Pob ychydig o ddyddiau? Ar ddiwedd y dasg os yw’n dasg a arweinir gan y myfyrwyr?
5. Beth ddylai’r myfyrwyr ei wneud os byddant yn cael unrhyw broblemau?
Sut y dylid cyfleu hyn? Yn y fforwm? Trwy e-bost?
Mae llawer o awgrymiadau defnyddiol eraill yn y blogbost hwn felly mae’n werth ei ddarllen.
Ar ôl sefydlu pwrpas priodol y bwrdd trafod, cewch ddechrau meddwl am y ffordd orau o’i gynnwys yn eich gwaith dysgu.
Dylai’r awgrymiadau canlynol helpu i annog cysylltiad:
Paratoi:
Ydych chi wedi paratoi’r myfyrwyr ar gyfer y gweithgaredd?
Ydych chi wedi egluro’n union yr hyn yr ydych yn ei ddisgwyl gan y myfyrwyr?
Ydych chi wedi rhoi canllawiau i’r myfyrwyr ynglŷn ag ymwneud â’r byrddau trafod.
Ydych chi wedi rhoi gwybod i’r myfyrwyr beth yw’r ffordd orau i gyfathrebu â chi?
Eglurhad:
Ydych chi wedi rhoi gwybod i’r myfyrwyr beth yw manteision cymryd rhan yn y gweithgaredd?
Ydy eich myfyrwyr yn gwybod pam mae angen iddynt gymryd rhan yn y gweithgaredd?
Ydych chi wedi egluro i’r myfyrwyr pam rydych wedi trefnu’r gweithgaredd mewn modd penodol?
Ymateb:
Ydych chi wedi ymateb i bostiadau ar y bwrdd trafod yn rheolaidd (os yw hynny wedi ei gynllunio yn rhan o’r gweithgaredd dysgu)?
Ydych chi wedi ymateb i bostiadau mewn gweithgareddau dysgu eraill?
Os ydych chi’n cynnal rhith-seminarau, ydych chi wedi cyfeirio at eu cynnwys yn y postiadau?
Enghreifftiau:
Ydych chi wedi rhoi enghreifftiau o bostiadau’r fforwm drafod i fyfyrwyr?
Os ydych chi’n disgwyl i fyfyrwyr gyfrannu at bostiadau eraill ar y fforwm drafod, ydych chi wedi rhoi enghreifftiau o’r mathau o bostiadau y dylent fod yn eu cyfrannu?
Gobeithio y bydd yr awgrymiadau hyn yn gymorth i chi gynllunio eich gweithgaredd dysgu gyda byrddau trafod. Ar ôl i chi gynllunio’r gweithgaredd, fe gewch yr holl gymorth fydd ei angen er mwyn ei roi ar waith ar gael ar y dudalen cwestiynau cyffredin. https://faqs.aber.ac.uk/index.php?search=discussion.
Rydym ni’n awyddus bob amser i glywed gan bobl sy’n defnyddio offer e-ddysgu yn llwyddiannus yn eu gwaith dysgu. Os ydych chi wedi bod yn defnyddio’r Bwrdd Trafod yn llwyddiannus, rhowch wybod inni. Anfonwch e-bost. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â defnyddio’r offer hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni. eddysgu@aber.ac.uk.
Bwriedir cynnal y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu am eleni rhwng dydd Llun, 7 a dydd Mercher, 9 Medi. Rydym yn dechrau cynllunio i ddarparu elfennau o’r gynhadledd ar-lein.
Cafodd y dyddiad cau i dderbyn cynigion ar gyfer y gynhadledd ei ymestyn tan ddydd Gwener 26 Mehefin 2020 ac ychwanegwyd edefyn arall at y thema am eleni, sef: Cyfoethogi’r Cwricwlwm: Ysgogi Dysgu a Bywiogi’r Addysgu!
Traddodir y ddarlith gyweirnod eleni gan yr Athro Ale Armellini o Brifysgol Northampton. Fe welwch ragor o wybodaeth am yr Athro Armellini yn y blog-bost hwn.