Traciwr Digidol Jisc: prif gasgliadau’r

Darllenwch wch Traciwr Digidol Jisc

Prif gasgliadau’r traciwr:

Beth oedd yn arbennig o ddiddorol?

Rydym yn gwybod bod myfyrwyr yn defnyddio cyfarpar symudol, ond mae’r ffaith bod bron yr un cyfartaledd o fyfyrwyr yn cefnogi eu dysgu trwy ddefnyddio ffonau clyfar (30%) yn hytrach na defnyddio gliniaduron (33.1%), yn annisgwyl. Roedd yn ddefnyddiol cael data o’r fath i bwysleisio’r newidiadau yn arferion myfyrwyr a chadarnhau mor bwysig ydyw.

Teimlai 62% yr hoffent weld technolegau digidol yn cael eu defnyddio i’r un graddau ag y maent yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, yn hytrach na mwy. Mae yna dueddiad i feddwl ‘rydyn ni wedi gwneud rhywbeth, gadewch i ni weld sut y gallwn wthio i gyflawni’r peth nesaf/rhywbeth gwahanol’. Efallai bod angen i ni ganolbwyntio ar y pethau rydym yn eu gwneud ar hyn o bryd sy’n dda iawn, a gwella’r pethau hynny, yn hytrach na cheisio cyflwyno gwasanaethau newydd.

Roedd hefyd yn ddiddorol gweld beth roedd y myfyrwyr yn eu hystyried yn dechnolegau cynorthwyol. Doedden ni ddim yn siŵr a oedd y myfyrwyr wedi camddeall y cwestiwn, neu a oedd eu dealltwriaeth o’r cwestiwn yn wahanol. Ni fyddem yn ystyried llawer o’r pethau a nodwyd gan y myfyrwyr yn dechnolegau cynorthwyol (e.e. ap myfyrwyr, google, end note). Rydym yn tueddi i feddwl am dechnoleg gynorthwyol fel rhywbeth sy’n eich helpu os oes gennych angen penodol – efallai bod myfyrwyr yn gweld technoleg gynorthwyol fel ‘rhywbeth sy’n fy helpu’.

Y neges nesaf o’r gyfres ar DigiTracker:

Manteision rhedeg y traciwr a beth fyddwn ni’n ei wneud gyda’r canfyddiadau?

Jisc Traciwr Digidol

Traciwr Profiad Digidol Myfyrwyr

Eleni, cymerodd Prifysgol Aberystwyth ran am y tro cyntaf yn Nhraciwr Profiad Digidol Myfyrwyr JISC – arolwg ar-lein a luniwyd gan JISC i gasglu gwybodaeth am ddisgwyliadau a phrofiadau myfyrwyr wrth ddefnyddio technoleg.

Pam benderfynon ni gymryd rhan yn y prosiect?

  • Mae’r Traciwr yn offeryn syml sydd wedi’i ddylunio’n dda. Mae’n ganddo hygrededd ledled y sector ac mae’r fethodoleg yn ddibynadwy.
  • Mae’n cynnwys data meincnodi gan sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn ein sector.
  • Dyma’r unig arolwg sy’n canolbwyntio’n llwyr ar y profiad dysgu digidol.
  • Cafodd y sefydliadau a gymerodd ran yn y prosiect gryn dipyn o gymorth gan JISC i addasu, hyrwyddo a dadansoddi’r arolwg.
  • Ac yn bwysig dros ben – roedd eisoes wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg.

Byddwn yn rhannu’r manteision o gymryd rhan yn y prosiect a rhai canfyddiadau allweddol o’r dadansoddiad data ar lefel sefydliadol ac ar lefel y sector yn y negeseuon nesaf 🙂

Y neges nesaf o’r gyfres ar DigiTracker:

Canfyddiadau allweddol a beth oedd yn arbennig o ddiddorol.

Cynllunio Amser Segur

Nid yw amser segur ar y systemau yr ydym yn dibynnu arnynt yn beth poblogaidd. Penderfynu pryd i drefnu amser segur ar gyfer Blackboard yw un o benderfyniadau mwyaf anodd y swydd. Mae jyglo’r meysydd gwaith gwahanol yn y Brifysgol yn ogystal â gwneud yn siŵr ein bod yn ymgynghori â’r holl bobl berthnasol yn cymryd llawer o amser. Rydym yn ceisio osgoi gorffen y gwaith cynnal a chadw ar ddydd Gwener – mae’n well sicrhau nad oes problemau’n codi dros y penwythnos pan nad yw’r staff cymorth yma. Yn yr un modd, nid ydym yn gwneud gwaith yn ystod cyfnodau pan fo’r Brifysgol ar gau (mae’n anodd cael cymorth gan gwmnïau meddalwedd oherwydd yn aml iawn maen nhw ar wyliau hefyd).

Rydym yn ceisio trefnu dyddiad – rydym yn gweld pa ymrwymiadau eraill sydd gan bobl, ar lefel y tîm, lefel yr adran a lefel y Brifysgol. Mae yna amseroedd y mae’n rhaid i ni eu hosgoi – ni ellir cael amser segur yn ystod amser dysgu (gan gynnwys y myfyrwyr TAR sy’n dechrau’n gynt ac yn gorffen yn hwyrach nag eraill, yn ogystal â’r rhai sy’n Ddysgwyr o Bell neu sy’n astudio Cyrsiau Dysgu Gydol Oes). Hefyd, mae unrhyw amser pan fo myfyrwyr angen adolygu neu pan fyddant angen defnyddio Blackboard ar gyfer arholiadau allan ohoni. Pan fyddwn ni’n meddwl bod gennym ddyddiad addas, rydym yn gofyn i grŵp llai o unigolion am eu barn – Rheolwyr Athrofeydd, Uwch Reolwyr, AQRO a chysylltiadau allweddol eraill. Os ydyn nhw’n dod o hyd i broblem, rhaid cychwyn o’r cychwyn.

Pan fyddwn wedi cadarnhau dyddiad, byddwn yn dechrau hysbysebu. Rydym bob amser yn rhoi neges ar faner yn Blackboard, yn defnyddio’r E-bost Wythnosol a chyfrifon Twitter a Facebook y Gwasanaethau Gwybodaeth.

Felly nid ydym yn trefnu amser segur Blackboard ar chwarae bach. Rydym yn gofyn i bobl, yn dweud wrth bobl, yn ei drefnu ac yn gwneud ein gorau i leihau ei effaith. Nid ydym bob amser yn cael pethau’n iawn i bawb, ond rydym yn gwneud ein gorau i gydbwyso holl ofynion cystadleuol sefydliad cymhlyg.