Gweminar Vevox: Sut i ddefnyddio Vevox yn eich ystafell ddosbarth hybrid

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld nifer ohonoch yn ein cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol – yr eilwaith i ni ei chynnal ar-lein.

Rydym wedi gwneud newid bach i’r trefniadau. Ar 30 Mehefin, 2yp – 2.45yp, byddwn yn cysylltu â gweminar Vevox ar sut i ddefnyddio meddalwedd pleidleisio Vevox mewn ystafell ddosbarth hybrid:

Yn y weminar ryngweithiol hon, byddwn yn trafod sut y gellir defnyddio Vevox mewn dosbarthiadau hybrid i gynorthwyo dysgu gweithredol beth bynnag fo lleoliad eich myfyrwyr. Yn ymuno â ni ar y panel mae Carol Chatten, Swyddog Datblygu Technoleg Dysgu ym Mhrifysgol Edge Hill, Dr. Robert O’Toole, Cyfarwyddwr Cynnydd a Phrofiad Myfyrwyr NTF, Cyfadran Celf Prifysgol Warwick a Carl Sykes SFHEA, Uwch Dechnolegydd Dysgu CMALT ym Mhrifysgol De Cymru.

Byddwn yn ceisio rhannu storiâu llwyddiant cwsmeriaid ac enghreifftiau i ddangos sut y gall Vevox gefnogi amgylchedd dysgu cymysg a sut y gallwch amlhau ymgysylltiad, rhyngweithiad ac adborth myfyrwyr mewn lleoliad hybrid. Fe edrychwn ar y thema o amlbwrpasedd a pha mor bwysig yw hyn i allu darparu gwir brofiad dysgu cynhwysol.

Gallwch archebu lle ar-lein i fynychu’r gynhadledd: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/pagda2021

Mae ein rhaglen lawn ar-gael ar-lein.

Gallwch ddarllen mwy am Vevox, ein meddalwedd pleidleisio a brynwyd yn ddiweddar: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/elearning/offerpleidleisio/

Vevox i Fyfyrwyr

Yn ystod y mis diwethaf, mae’r brifysgol wedi rhoi Vevox ar waith ac wedi dechrau hyfforddi staff i’w ddefnyddio. Mae Vevox yn cyfuno polau, arolygon a Chwestiwn ac Ateb mewn un meddalwedd rhyngweithiol a gellir ei integreiddio i Microsoft Teams a PowerPoint. Rydym yn falch o weld bod y staff eisoes yn defnyddio’r meddalwedd newydd wrth addysgu a hoffem eich annog fel myfyrwyr i wneud yr un fath.
Mae tanysgrifiad Prifysgol Aberystwyth i Vevox yn dod gyda Mewngofnodi Sengl, sy’n golygu y gall myfyrwyr fewngofnodi’n ddiogel gyda’u henw defnyddiwr a chyfrinair PA. Yn yr un modd ag y mae sawl ffordd y gall staff ddefnyddio Vevox, gallai fod yn declyn defnyddiol i fyfyrwyr hefyd.
Er enghraifft, gallai myfyrwyr ddefnyddio polau Vevox a’r nodwedd Cwestiwn ac Ateb wrth gyflwyno mewn seminarau neu weithdai, yn arbennig mewn asesiadau sy’n cynnwys ymgysylltu â’r gynulleidfa fel maen prawf. Yn yr un modd, mae Vevox yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer ymchwil myfyrwyr, o ran dadansoddi a chwestiynu cynllun arolwg (e.e. drwy ddefnyddio arolygon sampl presennol Vevox), ac ar gyfer creu a chynnal eu harolygon eu hunain. Ymhellach, gellir defnyddio Vevox mewn gwaith grŵp, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr gasglu syniadau ac annog mewnbwn amrywiol gan aelodau mwy tawel o’r grŵp. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar hyn o bryd, ble gall grwpiau o fyfyrwyr gynnwys aelodau o wahanol gartrefi.
Dyma rai enghreifftiau yn unig o sut y gall myfyrwyr ddefnyddio Vevox wrth ddysgu ac rydym yn annog staff i hysbysu myfyrwyr y gallant hwy hefyd ddefnyddio’r feddalwedd yn rhad ac am ddim. Mae ein canllawiau Vevox yma (Cymraeg a Saesneg) a’n fideos Canllaw yma (Cymraeg a Saesneg). Mae’r Uned Dysgu ac Addysgu ar gael ynghyd â’r Tîm Vevox i’ch helpu ag unrhyw ymholiadau technegol a allai godi, gan roi cymorth i fyfyrwyr, cymorth nad yw ar gael wrth ddefnyddio meddalwedd eraill rhad ac am ddim.

A allaf ddefnyddio meddalwedd pleidleisio ar gyfer Dysgwyr o Bell?

Yn sgil y neges ar ddefnyddio meddalwedd pleidleisio ar gyfer addysgu cawsom ymholiad ynghylch y posibilrwydd o ddefnyddio meddalwedd pleidleisio megis PollEverywhere neu Mentimeter ar gyfer modiwlau Dysgwyr o Bell.

Isod ceir canlyniadau ein profi a’n hymchwil.

Mentimeter

Gan fod gan bob cyflwyniad god gwahanol ar gyfer cael mynediad i’r pôl, gallwch bleidleisio hyd yn oed pan nad yw’r cyflwyniad yn cael ei arddangos. Ond, os nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer pleidleisio byw, dylai pob cyflwyniad gynnwys un sleid yn unig. Os yw’r cyflwyniad yn cynnwys dau neu fwy o sleidiau (ac nad yw wedi’i arddangos gan awdur y pôl) dim ond i’r sleid gyntaf y caiff y cyfranogwyr fynediad iddi.

PollEverywhere

  • Mae gan PollEverywhere swyddogaeth sy’n caniatáu i chi grwpio cwestiynau/polau a’u troi’n arolwg y gellir ei rannu a’i lenwi gan gyfranogwyr yn eu hamser eu hunain. Ond bydd yn rhaid i chi ‘ysgogi’r arolwg a dim ond un cyflwyniad y gallwch ei ysgogi ar y tro (https://www.polleverywhere.com/faq cwestiwn: Can I combine multiple questions (polls) into a survey?)
  • Mae offer arolygon ar-lein eraill ar gael megis Google Forms neu Wufoo. Gellir eu defnyddio gan nifer anghyfyngedig o gyfranogwyr (ond nid yw hyn yn wir am PollEverywhere, y cyfyngiad gyda’r cynllun rhad ac am ddim yw 25 o ymatebwyr). Fodd bynnag, nid oes gan yr offer hyn gymaint o amrywiaeth o gwestiynau (yn arbennig o’i gymharu â PollEverywhere) ac nid ydynt mor ddeniadol eu golwg.

Y dewis arall i’r holl raglenni uchod yw profion neu arolygon Blackboard.

Rhannu arolygon â myfyrwyr:

Gellir rhannu’r ddolen i unrhyw un o’r arolygon ar-lein gyda myfyrwyr drwy e-bost, cyhoeddiad neu ddolen yn yr ardal gynnwys ar Blackboard (yn achos PollEverywhere dim ond un arolwg ar y tro y cewch ei rannu, yr un sydd wedi’i ‘ysgogi’).

Rhannu canlyniadau â myfyrwyr:

Nid yw’r offer adrodd am ganlyniadau yn Mentimeter a PollEverywhere ar gael o fewn y cynllun rhad ac am ddim. Gallech rannu’r canlyniadau â’r myfyrwyr drwy gymryd sgrinluniau o’r graffiau gyda’r ymatebion a’u cyflwyno fel delwedd, eitem neu un o’r sleidiau mewn cyflwyniad PowerPoint ar Blackboard.

Yn Google Forms a Wufoo gallwch lawrlwytho’r canlyniadau i Excel. Ond, os hoffech gyflwyno’r canlyniadau mewn modd hygyrch a gweledol, byddai’n well defnyddio’r dull sgrinlun a ddisgrifir uchod. Pan fyddwch yn defnyddio profion neu arolygon Blackboard, gallwch weld yr ystadegau drwy’r Ganolfan Raddau ac naill ai eu lawrlwytho i Excel neu’u cadw fel dogfen pdf.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, mae croeso i chi eu rhannu â ni.

 

Dewis dull ar-lein ar gyfer arolygon barn

Image of students using polling handsets
https://flic.kr/p/9wNtHp

Mae cynnal arolwg barn neu bleidlais yn y dosbarth yn ffordd wych i sicrhau bod myfyrwyr yn cymryd rhan ac yn cydadweithio’n fwy yn yr ystafell ddosbarth (gweler er enghraifft: Shaw et al, 2015; Boyle a Nicol 2003; Habel a Stubbs, 2014; Stratling, 2015). Fe’i defnyddir yn helaeth mewn addysg bellach ac uwch, ac mae nifer o staff Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio arolygon barn yn y dosbarth yn gyson. Yn ogystal â’r setiau llaw Qwizdom sydd ar gael yn offer i’w benthyca mae mwy a mwy yn defnyddio gwasanaethau ar-lein fel Poll Everywhere, Socrative a Mentimeter (ymysg eraill). Mae’r gwasanaethau hyn yn fodd i’r myfyrwyr ddefnyddio’u dyfeisiau eu hunain (megis ffonau symudol, tabledi a gliniaduron) i gymryd rhan mewn arolygon barn, rhoi adborth a gofyn cwestiynau.

Gall y Grŵp E-ddysgu roi ystod eang o wybodaeth a chymorth i unrhyw un sydd â diddordeb mewn defnyddio arolygon barn wrth addysgu. Mae hyn yn amrywio o gyngor ar sut i gynnwys arolygon barn yn llwyddiannus yn eich arferion addysgu, i gymorth ymarferol ar greu a defnyddio arolygon yn y dosbarth.

Ar hyn o bryd, nid yw Prifysgol Aberystwyth yn cynnig dull pleidleisio ar-lein a gefnogir yn ganolog ar gyfer dyfeisiau symudol. Er hynny, mae ystod eang o wasanaethau ar gael, llawer ohonynt â fersiynau di-dâl neu fersiynau prawf. Bwriad y blog hwn yw eich helpu i asesu pa ddull sy’n fwyaf addas i chi a’ch myfyrwyr.

  1. Beth hoffech chi ei wneud? Fel ym mhob technoleg ddysg sy’n cael ei rhoi ar waith, y cwestiwn cyntaf y mae angen ichi ei ofyn yw ‘Beth hoffwn i weld y myfyrwyr yn ei wneud?’ Bydd y gwasanaeth a ddewiswch yn dibynnu ar yr ateb. Er enghraifft, os ydych chi am i’ch myfyrwyr gyflwyno cwestiynau, neu roi adborth ysgrifenedig, chwiliwch am wasanaeth sy’n cynnig mwy na chwestiynau amlddewis
  2. Faint o fyfyrwyr fydd yn y dosbarth? Mae llawer o’r fersiynau di-dâl neu’r fersiynau cyfyngedig o feddalwedd sy’n codi tâl yn gosod cyfyngiad ar nifer y myfyrwyr sy’n cael eu defnyddio. Edrychwch yn ofalus ar fanylion yr hyn sy’n cael ei gynnwys yn y fersiwn di-dâl.
  3. Rydym yn argymell yn gryf hefyd y dylech edrych ar Bolisi Preifatrwydd y gwasanaeth, er mwyn sicrhau eich bod yn gwybod pa ddata personol amdanoch chi a’ch myfyrwyr fydd yn cael ei gasglu (edrychwch ar ein blogiadau ar y mater hwn).

Mae’r Grŵp E-ddysgu wedi llunio rhywfaint o wybodaeth ar rai gwasanaethau a allai fod o fudd ichi.

Pan fyddwch chi wedi penderfynu pa wasanaeth i’w ddefnyddio, dyma gynghorion ar ddefnyddio pleidleisio’n llwyddiannus yn y dosbarth.

  1. Meddwl am eich cwestiwn/cwestiynau. Mae llawer o adnoddau ar gael ynghylch llunio cwestiynau da, yn enwedig cwestiynau aml-ddewis. Peidiwch â theimlo bod rhaid ichi ofyn cwestiwn sydd ag ateb cywir neu anghywir. Weithiau gall cwestiwn sy’n ennyn trafodaeth neu sy’n dangos ehangder y safbwyntiau ar bwnc yn fuddiol.
  2. Defnyddio arolwg barn i ddechrau trafodaeth. Mae amryw o ffyrdd ichi ddefnyddio arolygon barn a thrafodaethau grŵp gyda’i gilydd – dwy ffordd boblogaidd yw Cyfarwyddyd Cymheiriaid (yn enwedig gwaith Eric Mazur) neu Gyfarwyddyd Dosbarth Cyfan (Dufresne, 1996)
  3. Ymarfer. Gofalwch ymarfer cyn y sesiwn fel eich bod yn gyffyrddus ac yn gyfarwydd â defnyddio’r cwestiynau a dangos y canlyniadau. Gallwch wneud hyn o’ch swyddfa drwy ddefnyddio dyfais symudol megis tabled neu ffôn symudol.
  4. Neilltuo amser yn y ddarlith. Os ydych yn defnyddio gweithgareddau arolygon barn yn y dosbarth, gofalwch adael digon o amser i’r myfyrwyr gael gafael ar eu dyfeisiau, meddwl am yr atebion ac ymateb. Efallai y bydd angen amser hefyd i gywiro unrhyw gamddealltwriaeth neu esbonio’r atebion.
  5. Rhoi gwybod i’ch myfyrwyr ymlaen llaw. Gofalwch fod eich myfyrwyr yn gwybod bod angen dod â’u dyfeisiau a bod y rhain ganddyn nhw yn y dosbarth. Gallwch wneud hyn drwy wneud cyhoeddiad yn Blackboard. Gallwch chi hefyd ddarparu cysylltiadau â Chwestiynau Cyffredin perthnasol megis sut i gysylltu â wifi Prifysgol Aberystwyth (Android: https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=692, Windows: https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=870, iOS: https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=700 )

Mae yna ystod eang o gyfleoedd i ddefnyddio arolygon barn – o gasglu gwybodaeth am faint mae’r myfyrwyr yn ei wybod ar ddechrau modiwl i ddarganfod pa bynciau y mae angen ichi ymdrin â nhw mewn sesiwn adolygu. Gallwch hefyd gasglu barn, cael adborth ar sut mae’r ddarlith yn mynd, neu gasglu cwestiynau dienw. Os ydych chi’n defnyddio arolygon barn wrth addysgu, cysylltwch â ni i sôn mwy – gallen ni hyd yn oed gynnwys eich gwaith ar y blog!

Gwasanaethau arolygon barn ar-lein a materion preifatrwydd

Os ydych chi eisoes wedi darllen Rhan Un o’r gyfres hon, byddwch yn gwybod mor ddefnyddiol yw gwasanaethau pleidleisio ar-lein at ymgysylltu’n uniongyrchol â’r myfyrwyr yn y dosbarth (os nad ydych – cymerwch olwg).

Yn ogystal â dewis offeryn sy’n addas at eich gwaith addysgu a dysgu chi, fe all fod angen hefyd ichi edrych ar Bolisi Preifatrwydd y gwasanaeth sydd o ddiddordeb ichi. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall:

  • pa ddata personol y mae’r cwmni dan sylw yn ei gasglu amdanoch;
  • pa ddata personol y gall fod rhaid i’ch myfyrwyr ei roi;
  • gwybodaeth am sut mae’ch cyflwyniadau’n cael eu storio;
  • sut a ble mae’ch data’n cael ei gadw.
https://flic.kr/p/8ouBhQ

Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau’n sicrhau bod eu Polisi Preifatrwydd yn eithaf hawdd dod o hyd iddo (ar y rhan fwyaf o wefannau roedd dolen ar waelod y tudalen hafan o dan y pennawd Preifatrwydd).

Dyma’n prif gynghorion ni ar ddefnyddio arolygon barn ar-lein:

  1. Gwelsom fod Telerau ac Amodau’r rhan fwyaf o wasanaethau yn eithaf byr a hawdd i’w deall – roedd rhai hyd yn oed yn darparu crynodeb byr o’r prif bwyntiau.
  2. Gan amlaf, nid yw’n ofynnol i’r myfyrwyr greu cyfrifon neu gofrestru ar gyfer gwasanaeth i gymryd rhan mewn gweithgaredd pleidleisio. Mae hyn yn golygu mai’r unig wybodaeth sy’n cael ei chasglu am y mwyafrif o’r myfyrwyr yw manylion y porwr neu’r ddyfais etc a ddefnyddiwyd i gysylltu â’r bleidlais. A fydd hyn ddim yn cael ei gysylltu â’u henw na’u cyfeiriad ebost.
  3. Ym mhob achos, mae angen i’r staff gofrestru gyda gwasanaeth er mwyn cael creu arolygon a’u dangos. Yn y mwyafrif o’r gwasanaethau, gallwch naill ai creu enw defnyddiwr a chyfrinair, neu gysylltu â chyfrif sydd eisoes ar gael (megis Google neu Facebook).
    1. Os byddwch yn creu’ch cyfrif eich hun, peidiwch â defnyddio’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth fel cyfrinair i’r gwasanaeth pleidleisio. Dilynwch ein cynghorion i greu cyfrinair cryf ar wahân (https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=25)
    2. Os ydych yn defnyddio cyfrif sy’n bodoli eisoes, cofiwch y gall y data gael ei rannu rhwng y ddau wasanaeth. Bydd eich cyfrif Facebook neu Google yn cynnwys llawer o wybodaeth amdanoch, sef gwybodaeth na fyddwch am iddi gael ei rhannu o bosibl. Efallai yr hoffech edrych ar osodiadau’r cysylltiad er mwyn sicrhau eich bod yn fodlon ar lefel y data fydd yn cael ei rannu.
  4. Edrychwch ar yr hawliau sydd gennych ar eich arolygon. Mae rhai gwasanaethau’n caniatáu i ddefnyddwyr eraill bori a rhannu cyflwyniadau, felly efallai yr hoffech ystyried pa mor weledol yw eich cyflwyniadau.
  5. Ystyriwch pa drydydd partïon y bydd eich data’n cael ei rannu gyda nhw. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn dewis gwasanaeth lle mae’r data naill ai yn seiliedig yn yr UE, neu lle mae’r cwmni yn defnyddio safon Tarian Ddiogelwch yr UE-Unol Daleithiau. A gwiriwch eich dewisiadau – hoffech chi optio allan o restrau postio, hysbysebion etc?

Ar hyn o bryd, does gan Brifysgol Aberystwyth ddim trwydded safle ar gyfer gwasanaeth arolygon barn ar-lein. Felly, pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer un o’r gwasanaethau hyn byddwch yn cofrestru fel unigolyn, ac nid fel cynrychiolydd i Brifysgol Aberystwyth neu ar ei rhan.

Meddalwedd pleidleisio: Mentimeter a Poll Everywhere

Mae’r Grŵp E-ddysgu’n edrych ar sut y gellir defnyddio meddalwedd pleidleisio mewn darlithoedd a seminarau. Mae meddalwedd pleidleisio’n ffordd wych o gynyddu ymgysylltiad y dosbarth oherwydd mae’n darparu cyflwyniadau sy’n amrywio o gwestiynau amlddewis i gymylau geiriau byw. Gyda’u dyfeisiau personol (megis ffonau symudol, llechi ac ati), bydd modd i fyfyrwyr ateb cwestiynau, pleidleisio a gofyn cwestiynau, a fydd yn ymddangos ar sleidiau’r cyflwyniad. Dangosodd yr arolwg Mewnwelediad Digidol diweddar, a oruchwyliwyd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth, bod hanner cant y cant o ddarlithoedd eisoes yn defnyddio rhyw fath o feddalwedd pleidleisio yn y dosbarth.

Dyma rai enghreifftiau o sylwadau cadarnhaol gan fyfyrwyr:

 “Darparu adborth cyflym ar ba ddarlith yr oedd arnom angen cymorth gyda hi”

“Pleidlais ar-lein, am rannau o’r pwnc yn gofyn i’r dosbarth faint oeddent yn ei ddeall. Roedd hyn yn golygu bod pobl yn gallu dweud yn union sut yr oeddent yn teimlo heb orfod siarad yn y dosbarth”

“Mae pleidleisio mewn darlithoedd yn cadw diddordeb y myfyrwyr”

“Roedd hi’n hwyl y llynedd pan wnaethon ni gwisiau ar-lein yn y ddarlith, rhyngweithio â’n gilydd, ac yna mynd dros yr atebion fesul cwestiwn ar y sgrin fawr”

“Dull o adolygu yn pennu deunydd darllen”

Mae’r Grŵp E-ddysgu wedi canfod bod Mentimeter a Poll Everywhere yn arbennig o hygyrch a dibynadwy:

  • Mae Mentimeter yn well ar gyfer darlithoedd sydd â chynulleidfaoedd mawr oherwydd nad oes cyfyngiad ar gyfranogwyr. Gyda Mentimeter gallwch greu cwisiau amlddewis, cymylau geiriau a siartiau i’ch cynulleidfa ryngweithio â hwy. Fodd bynnag, gyda’r fersiwn rhad ac am ddim dim ond dau gwestiwn a phump cwis y cewch eu creu. Nid oes cyfyngiad ar nifer y sleidiau sylfaenol.
  • Mae Poll Everywhere yn capio’r gynulleidfa ar bump ar hugain felly mae’n gweithio orau mewn seminarau a gweithdai. Mae Poll Everywhere yn darparu’r rhan fwyaf o bethau y mae Mentimeter yn ei wneud gyda’r fantais o beidio â chael cyfyngiad ar nifer y cwestiynau/actifadau.

Mae canllawiau  i greu cyflwyniadau gyda Mentimeter a Poll Everywhere ar gael ar ein tudalennau gwe.