Peilota SafeAssign ar Blackboard Assignment

Diolch yn fawr iawn i’r holl staff sydd wedi cofrestru ar gyfer Peilota SafeAssign ar Blackboard Assignment. Mae amser o hyd i wirfoddoli os oes gennych ddiddordeb (e-bost eddysgu@aber.ac.uk).

Ers y blog diwethaf, rydym wedi sicrhau bod SafeAssign ar gael i’w ddefnyddio yn Blackboard Assignments. Rydym hefyd wedi cynnal y ddwy sesiwn hyfforddi gyntaf. Bydd mwy o sesiynau hyfforddi yn cael eu trefnu ar gyfer semester un – ewch i’r dudalen Digwyddiadau a Hyfforddiant i archebu lle.

Rydym wedi bod yn trafod rhai o’r opsiynau ar gyfer marcio yn Blackboard Assignment y gallai staff eu gweld yn ddefnyddiol:

  1. Mae marcio dirprwyedig yn caniatáu i staff farcio traethodau fesul grŵp. Os ydych yn rhannu’r gwaith marcio yn eich modiwlau rhwng sawl aelod o staff, yna bydd marcio dirprwyedig yn eich helpu.
  2. Mae marcio cyfochrog yn caniatáu i ddau aelod o staff farcio darn o waith yn annibynnol heb weld sylwadau na marciau ei gilydd.
  3. Sylwadau dienw. Yn ddiofyn, mae sylwadau marcio yn Blackboard Assignment yn cynnwys enw’r aelod o staff sy’n marcio. Os nad yw hyn yn briodol ar gyfer eich marcio, gallwch eu gwneud yn ddienw (gweler isod).

Noder y gellir adfer aseiniadau Blackboard sydd wedi’u dileu am hyd at 30 diwrnod ar ôl eu dileu. Os oes angen adfer aseiniadau wedi’u dileu, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk cyn gynted ag y bo modd, gan roi manylion y modiwl ac enw’r aseiniad.

Sylwadau Dienw

Pan fyddwch chi’n creu sylw, cliciwch ar yr eicon marcio dienw

Sgrinlun o flwch sylwadau Blackboard Assignment gyda’r eicon marcio dienw wedi’i amlygu

Gallwch olygu sylwadau presennol i’w gwneud yn ddienw trwy glicio ar y sylw.  Cliciwch ar y tri dot yng nghornel dde uchaf y sylw a chliciwch ar Dienw.

Sgrinlun o flwch sylwadau Blackboard Assignment gyda’r tri dot a’r opsiwn Dienw wedi’i amlygu

I gael rhagor o wybodaeth am yr offer marcio sydd ar gael yn Blackboard Assignments, gweler Canllawiau Anodi Blackboard

Cefnogi eich myfyrwyr

Er mwyn helpu’ch myfyrwyr i ddefnyddio Blackboard Assignment i gyflwyno eu gwaith a dod o hyd i’w hadborth, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cynnwys y Cwestiynau Cyffredin canlynol yn y Modiwl Dysgu Asesu ac Adborth yn eich cwrs Blackboard:

SafeAssign

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i werthuso dewis arall yn lle Turnitin ar gyfer paru testun a marcio. Enw’r dewis arall hwn yw SafeAssign. Mae SafeAssign yn rhan o Blackboard.

Darllenwch yr wybodaeth isod a fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech gymryd rhan yn y gwerthusiad. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech wirfoddoli, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk

Beth yw SafeAssign?

Mae SafeAssign yn adnodd paru testun a ddarperir gan Blackboard. Mae wedi’i gynnwys yn ein prif drwydded Blackboard. Mae SafeAssign yn ddewis amgen i Turnitin.

Pam ydyn ni’n ei ystyried?

Roedd PA yn defnyddio SafeAssign cyn i ni ddechrau defnyddio Turnitin. Yn rhan o’n hymrwymiad i sicrhau ein bod yn defnyddio’r offer gorau sydd ar gael, hoffem werthuso a fyddai SafeAssign yn briodol ar gyfer paru testunau. Cymeradwywyd y gwerthusiad hwn gan y Pwyllgor Gwella Academaidd (Mai 2024).

Beth fydd yn wahanol os byddaf yn defnyddio SafeAssign yn lle Turnitin?

Bydd rhai agweddau ar farcio a chyflwyno wedi newid:

  • Offer newydd ar gyfer cyflwyno, marcio a pharu testun
  • Cronfa ddata wahanol o aseiniadau a ffynonellau ar gyfer paru testunau. Ni fydd y gronfa ddata hon yn cynnwys cyflwyniadau’r blynyddoedd blaenorol gan PA.

Byddwch yn gweld rhai nodweddion newydd:

  • Amlygu testun
  • Rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer cyflwyno a marcio
  • Gweld ac adalw cyflwyniadau blaenorol gan fyfyrwyr

Ac ni fydd rhai nodweddion ar gael:

  • Bydd angen i chi bostio marciau â llaw yn hytrach na gosod dyddiad ac amser rhyddhau. Fodd bynnag, bydd hyn yn rhoi ychydig mwy o reolaeth i chi ynghylch pryd y bydd marciau ar gael i fyfyrwyr.
  • Cyflwyno ar ran myfyrwyr
  • Diffodd marcio dienw ar gyfer myfyrwyr unigol
  • Ni ellir allforio cyfarwyddiadau a marciau cyflym o Turnitin, er bod offer tebyg ar gael yn Blackboard.

Mae manylion llawn nodweddion Turnitin a SafeAssign ar gael.

Y Gymraeg

Bydd holl elfennau’r gwerthusiad hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hyn yn cynnwys canllawiau cymorth, hyfforddiant, cefnogaeth a gwerthusiad. Mae SafeAssign ei hun yn cael ei gyfieithu yn rhan o ymrwymiad Anthology i’r Gymraeg. Mae testun Cymraeg wedi’i gynnwys yn y gwasanaeth paru testunau.

Beth fydd angen i mi ei wneud os ydw i’n gwirfoddoli?

Rydym yn argymell yn gryf bod modiwlau sydd wedi’u cynnwys yn y gwerthusiad yn defnyddio SafeAssign ar gyfer pob e-gyflwyniad yn ystod cyfnod y modiwl. Mae hyn yn helpu staff a myfyrwyr i ddod yn gyfarwydd â SafeAssign yn hytrach na chyfnewid rhwng offer cyflwyno a marcio lluosog.

Bydd yn rhaid i’r holl staff sy’n ymwneud â chyflwyno, marcio a chymedroli ar gyfer y modiwl ddefnyddio SafeAssign (nodwch fod hyn yn cynnwys arholwyr allanol). Os ydych yn gwirfoddoli modiwl sydd â nifer o staff yn marcio arno, gwnewch yn siŵr eu bod i gyd yn ymwybodol, a’u bod i gyd wedi derbyn hyfforddiant priodol (gweler isod). Byddwn yn rhoi gwybodaeth i bob arholwr allanol am y gwerthusiad.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu cyflwyniad prawf/ymarfer i’ch myfyrwyr cyn eu haseiniad cyntaf. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn gwybod sut i ddefnyddio SafeAssign yn gywir. Byddwn yn darparu canllawiau a Chwestiynau Cyffredin i fyfyrwyr y gallwch gysylltu â nhw o ardal Asesu ac Adborth eich cwrs Blackboard.

Pa hyfforddiant a chefnogaeth fydd ar gael?

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau a Chwestiynau Cyffredin ar gyfer staff a myfyrwyr ar wefan yr UDDA. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi ar sut i greu mannau cyflwyno a sut i farcio. Bydd cefnogaeth lawn ar gael i staff a myfyrwyr drwy gydol y tymor.

Sut fydd hyn yn effeithio ar fy myfyrwyr?

Bydd y dull cyflwyno yn wahanol i fyfyrwyr; un fantais o ddefnyddio SafeAssign yw y bydd myfyrwyr yn cael derbynneb e-bost. Bydd myfyrwyr hefyd yn gweld eu hadborth mewn ffordd ychydig yn wahanol. Byddwn yn darparu cefnogaeth lawn i fyfyrwyr.

A allaf siarad â rhywun am hyn?

Cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk i gael gwybodaeth ac i drafod a yw SafeAssign yn briodol ar gyfer eich modiwl.

James Wood: Improving feedback literacy through sustainable feedback engagement practices

Banner for Audio Feedback

Ddydd Mercher 10 Mai, croesawodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu Dr James Wood o Brifysgol Bangor i roi rhai syniadau ynghylch ymgysylltu a dylunio adborth  myfyrwyr.

Mae’r recordiad o’r sesiwn ar Panopto a gellir lawrlwytho’r sleidiau PowerPoint isod:

Yn y sesiwn, amlinellodd Dr Wood

  • Y newidiadau i gwestiynau adborth yr ACF ar gyfer 2023
  • Diben yr adborth
  • Y symud oddi wrth drosglwyddo adborth i weithredu
  • Rhwystrau i ymgysylltu ag adborth myfyrwyr
  • Sgrinledu eich adborth

Y digwyddiad mawr nesaf ar gyfer yr UDDA yw ein Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol sy’n cael ei chynnal rhwng 4 a 6 Gorffennaf. Mae modd archebu lle ar gyfer y gynhadledd nawr.

Os oes gennych unrhyw siaradwyr allanol yr hoffech i’r UDDA eu gwahodd i gyfres y flwyddyn nesaf, e-bostiwch udda@aber.ac.uk gyda’ch awgrym.

Siaradwr Gwadd: James Wood: Improving feedback literacy through sustainable feedback engagement practices 

Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi eu siaradwr gwadd nesaf. Ar 10 Mai am 14:00-15:30, bydd James Wood o Brifysgol Bangor yn cynnal sesiwn ar-lein ar wella llythrennedd adborth trwy arferion cynaliadwy ar gyfer ymateb i adborth.

Mae James Wood yn Ddarlithydd Addysg, Asesu ac yn Arweinydd Cyrsiau Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor. Cyn y swydd hon, bu James yn gweithio gyda Choleg y Brenin Llundain, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Birkbeck, Prifysgol Greenwich, a Phrifysgol Genedlaethol Seoul.

Crynodeb o’r Sesiwn

Er y pwyslais a roddir ar bwysigrwydd adborth i gefnogi dysgu mewn addysg uwch, mae llawer i’w ddysgu o hyd am feithrin sgiliau cynaliadwy ar gyfer gofyn am adborth, ymateb i’r adborth a’i ddefnyddio. Yn ymarferol, mae llawer o fyfyrwyr nad ydynt yn manteisio ar adborth. Hyd yn oed os yw cyrsiau’n cynnig asesiad ffurfiannol mewn egwyddor, dim ond weithiau y bydd dysgwyr yn cymryd sylw ohono neu’n ei ddefnyddio’n effeithiol. Dadleuir yn aml bod angen ‘llythrennedd adborth’ ar fyfyrwyr cyn y gellir mynd i’r afael ag adborth. Fodd bynnag, yn y gweithdy hwn, byddwn yn edrych sut y gall llythrennedd adborth a pharodrwydd i dderbyn adborth ddatblygu. Caiff y myfyrwyr ymgyfarwyddo ag arferion adborth deialogaidd sydd wedi’u cynllunio’n dda ac sy’n cynnig y cyfle i ystyried sut mae dysgu o adborth yn digwydd, y manteision, beth yw ansawdd a sut i’w werthuso, a sut i ddatblygu a gweithredu cynlluniau i gau’r bwlch rhwng cyflawniad presennol a chyflawniad targed. Byddaf hefyd yn trafod sut mae ffactorau cymdeithasol a ffactorau heblaw agweddau dynol ynghlwm wrth allu dysgwyr i ymateb mewn ffyrdd a all gynorthwyo neu gyfyngu ar eu cyfranogiad. Byddaf yn gorffen gyda golwg gyffredinol ar ddefnyddio technolegau i wella gallu dysgwyr i ddefnyddio adborth yn effeithiol a datblygu cysylltiadau â chymunedau a all gynnig cyfleoedd dysgu cydweithredol grymus, yn ogystal â chymorth ac anogaeth emosiynol. 

Cynhelir y gweithdy ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams. Archebwch eich lle ar-lein.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu (udda@aber.ac.uk).

Rhaglen Siaradwyr Gwadd yr UDDA: Cynorthwyo Marcwyr i Ganfod Twyllo ar Gontract

Banner for Audio Feedback

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein Siaradwr Gwadd nesaf.

Ar 20 Mai 2022 12:30-13:30, bydd Dr Mary Davies, Prif Ddarlithydd yn Ysgol Fusnes Prifysgol Oxford Brookes, a’i chydweithwyr yn cynnal gweithdy ar eu hadnodd rhyngweithiol Contract Cheating Detection for Markers, sy’n gweithio ar sail rhestr wirio o ‘faneri coch’.

Bydd Stephen Bunbury, Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Westminster, Anna Krajewska, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu yn y Bloomsbury Institute, a Dr Matthew Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Greenwich, yn ymuno â Dr Davies.

Nod y gweithdy yw helpu aelodau o staff i ganfod achosion posibl o dwyll ar gontract wrth farcio. Mae’r cyflwynwyr yn aelodau o Weithgor Twyllo ar Gontract Rhwydwaith Uniondeb Academaidd Llundain a De-ddwyrain Lloegr. Dyma’r gweithgor sydd wedi paratoi’r adnodd rhyngweithiol Contract Cheating Detection for Markers, a hynny ar sail rhestr wirio o ‘faneri coch’.

Yn y gweithdy, bydd y cyflwynwyr yn esbonio’r baneri coch sy’n tynnu sylw at enghreifftiau posibl o dwyllo ar gontract, a hynny trwy drafod adrannau o’r rhestr wirio: dadansoddi testun, cyfeirnodi a defnyddio ffynonellau, tebygrwydd ar Turnitin a pharu testun, priodweddau dogfennau, y broses ysgrifennu, cymharu â gwaith blaenorol myfyrwyr, a chymharu â gwaith y garfan o fyfyrwyr. Cewch gyfle i ymarfer defnyddio’r rhestr wirio ac i drafod ffyrdd effeithiol o’ch helpu i ganfod enghreifftiau posibl o dwyllo ar gontract yng ngwaith myfyrwyr.

Mae adnoddau o ddigwyddiadau blaenorol gyda Siaradwyr Gwadd i’w gweld ar ein blog.

Cynhelir y gweithdy ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams. Archebwch eich lle ar-lein.

Cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu os oes gennych unrhyw gwestiynau (udda@aber.ac.uk).

Rob Nash: Deunyddiau Siaradwr Gwadd ar gael

Why is receiving feedback so hard? Screen grab from Rob Nash's talk

Ddydd Gwener 11 Mawrth, croesawodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu Dr Rob Nash, Darllenydd mewn Seicoleg o Brifysgol Aston. Mae Rob yn arbenigwr mewn adborth a chynhaliodd weithdy sy’n edrych yn benodol ar ffyrdd y gallwn wella a datblygu ymgysylltiad ag adborth.

Mae recordiad o elfennau trosglwyddo’r sesiwn ar gael ar Panopto. Gallwch hefyd lawrlwytho’r sleidiau a ddefnyddiodd.

I’r rhai ohonoch sydd â diddordeb mewn archwilio adborth ymhellach, gallwch edrych ar y cyfeiriadau a ddefnyddiodd Rob yn ei sesiwn:

Ein digwyddiad Siaradwr Gwadd nesaf yw Dr Mary Davies o Oxford Brookes a bydd cydweithwyr eraill yn ymuno â hi i drafod sut y gallwn ganfod twyll contract posibl yn ystod y broses farcio. Cynhelir y gweithdy hwn ar 20 Mai 2022, 12:30-13:30. Mae modd archebu ar gyfer y sesiwn nawr.

Nodyn i’ch atgoffa hefyd bod ein Galwad am Gynigion ar gyfer ein Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ar agor ar hyn o bryd.

Siaradwr Allanol: Mynd i’r Afael ag Adborth, Dr Robert Nash

Banner for Audio Feedback

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein siaradwr allanol nesaf.

Ddydd Gwener 11 Mawrth, 10yb-12yp, bydd Robert Nash yn cynnal dosbarth meistr ynglŷn â strategaethau i fynd i’r afael ag adborth.

Mae tudalen archebu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar agor a gallwch sicrhau eich lle yno.

Bydd y gweithdy’n cael ei gynnal ar-lein trwy Teams ac anfonir dolen atoch cyn y digwyddiad.

Gweler isod ddisgrifiad o’r sesiwn a bywgraffiad y siaradwr.

Disgrifiad o’r sesiwn

Pam nad ydyn nhw’n gwrando ar fy adborth?

Mae’n well gan y rhan fwyaf o bobl berfformio’n dda yn hytrach na pherfformio’n wael, ac un o brif amcanion rhoi adborth i fyfyrwyr yw eu cynorthwyo i wella eu perfformiad.  Pam, felly, mae ein myfyrwyr mor aml yn anwybyddu, yn gwrthwynebu ac yn gwrthod yr adborth a rown iddynt, a beth allwn ni ei wneud am hyn?  Er mwyn rhoi’r gweithdy mewn cyd-destun, byddwn yn ystyried yn gyntaf i ba raddau mae’r problemau hyn yn unigryw i fyfyrwyr. Yn benodol, byddaf yn rhannu ambell ddarlun o feysydd amrywiol mewn seicoleg gymdeithasol sy’n dangos y cymhellion meidrol sydd wrth wraidd osgoi adborth. Gan gadw’r agweddau hyn mewn cof, awn ymlaen i ymchwilio i’r rhwystrau ymddangosiadol a gwirioneddol sy’n cyfyngu ar allu myfyrwyr i fynd I’r afael â’u hadborth yn effeithiol. Byddwn yn ystyried ffyrdd ymarferol y gallwn ni, fel addysgwyr, gyfrannu at oresgyn y rhwystrau hyn. Trwy gydol y trafodaethau, mae cynaliadwyedd yn allweddol: wrth i’r baich gwaith academaidd gynyddu fwyfwy, ni all ein hatebion bob amser gynnwys rhoi mwy o adborth, adborth mwy cyflym, ac adborth mwy cywrain.  Byddaf yn rhannu fy mhrofiadau o geisio rhoi ar waith yr hyn rydw i wedi ei ddysgu wrth addysgu eraill dros gyfnod o bron i ddegawd yn gweithio ar y problemau hyn.

Bywgraffiad y siaradwr

Mae Dr Rob Nash yn Ddarllenydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Aston ac yno, ar y funud, mae’n Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Israddedigion yn yr Ysgol Seicoleg. Fel seicolegydd arbrofol, prif arbenigedd Rob yw’r cof dynol, yn arbennig y ffordd y mae atgofion yn magu rhagfarn, yn cael eu hystumio a’u ffugio.  Er hyn, mae hefyd yn arwain a chyhoeddi ymchwil ar bwnc adborth mewn addysg, gyda’r pwyslais ar y ffordd mae pobl yn ymateb ac adweithio wrth gael adborth. Mae Rob yn Uwch Gymrawd yn yr Academi Addysg Uwch, yn Gyd-olygydd y cyfnodolyn a adolygir gan gymhreiriaid Legal & Criminological Psychology, ac mae’n un o awduron Developing Engagement with Feedback Toolkit (Higher Education Academy, 2016).

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â ni (lteu@aber.ac.uk).

Diweddariadau i’r Polisi E-gyflwyno ac E-adborth

Banner for Audio Feedback

Mae’r Polisi E-gyflwyno a ddiweddarwyd wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwella Academaidd. Gallwch ddarllen y polisi wedi’i ddiweddaru ar ein Tudalennau E-gyflwyno.

Diben y polisi wedi’i ddiweddaru oedd sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’n Polisi Cipio Darlithoedd a rhoi gwell eglurder am ei gwmpas a’r gofynion gan staff a myfyrwyr. 

Un newid mawr a fydd yn effeithio ar greu mannau cyflwyno Turnitin yw cyflwyno polisi sy’n rhoi dewis i’r myfyriwr gyflwyno nifer o weithiau cyn y dyddiad cau, a hefyd gweld eu hadroddiad gwreiddioldeb yn Turnitin. Wrth greu’r man cyflwyno yn Turnitin, dewiswch y gosodiadau canlynol:

  • Creu Adroddiadau Tebygrwydd i Fyfyrwyr – Ar unwaith (gellir arysgrifennu tan y Dyddiad Dyledus)
  • Caniatáu i fyfyrwyr weld Adroddiadau Tebygrwydd – Ie

Mae’r polisi wedi’i ddiweddaru’n amlinellu:

  • Cwmpas yr E-gyflwyno a’r E-adborth
  • Sut mae ein technolegau E-gyflwyno’n defnyddio eich data chi a’ch myfyrwyr
  • Awgrymiadau ar gyfer cyflwyno gwaith yn electronig, cynnwys dyddiadau cau, rhoi cyfle i’r myfyrwyr ymarfer cyflwyno.
  • Graddio a disgwyliadau adborth
  • Cyflwyno traethodau hir yn electronig
  • Cyfnodau Cadw
  • Hawlfraint
  • Sut yr ymdrinnir â methiannau TG
  • Cyfarwyddyd hygyrchedd i staff a myfyrwyr
  • Y gefnogaeth sydd ar gael

Mae’n ein tudalen E-gyflwyno’n amlinellu’r holl gymorth a’r hyfforddiant sydd ar gael i staff ar e-gyflwyno. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch sut i ddefnyddio’r offer hyn anfonwch e-bost atom ar (eddysgu@aber.ac.uk).