Cynhadledd Fer: Defnyddio Meddalwedd Pleidleisio i Ddatblygu Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu

Mini Conference Logo

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi y cynhelir y Gynhadledd Fer nesaf ar ddydd Iau 16 Rhagfyr, ar-lein drwy Teams.

Byddwn yn edrych ar feddalwedd pleidleisio – offer y gellir ei ddefnyddio i sicrhau bod myfyrwyr yn ymgysylltu â’u dysgu ac yn gwella eu dealltwriaeth o bynciau cymhleth. Eleni, mae’r Brifysgol wedi prynu Vevox, offer pleidleisio ar-lein, sydd wedi’i integreiddio’n llawn yn Teams ac sy’n gallu gwneud eich gweithgareddau wyneb yn wyneb yn rhyngweithiol.

Galwad am Gynigion:

Rydym yn chwilio am gydweithwyr sy’n defnyddio meddalwedd pleidleisio wrth ddysgu ac addysgu i roi cyflwyniad yn y Gynhadledd Fer. Gallai’r pynciau posibl gynnwys:

  • Defnyddio polau ar gyfer gweithgareddau cynefino a thorri’r garw
  • Polau ar gyfer gemeiddio
  • Polau ar gyfer datblygu’r dysgu
  • Gwneud sesiynau addysgu wyneb yn wyneb yn rhyngweithiol
  • Polau ar gyfer gweithgareddau anghydamseredig

Cyflwynwch eich cynnig ar-lein cyn dydd Gwener 19 Tachwedd.

Mae’n bosibl archebu lle ar gyfer y digwyddiad undydd nawr – archebwch ar-lein.

Bydd cyflwynwyr allanol yn ymuno â ni yn y digwyddiad felly cofiwch gadw llygaid ar ein blog wrth i ni gyhoeddi ein rhaglen.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, rhowch wybod i ni: lteu@aber.ac.uk.

Fforymau Academi 2021-22

Wrth i ddechrau’r tymor newydd gychwyn, hoffem eich gwahodd i’r Fforymau Academi sydd ar ddod dros y flwyddyn academaidd nesaf. Cynhelir ein fforymau academi yn seiliedig ar bwnc neu thema benodol sy’n berthnasol i ddysgu ac addysgu. Maent yn ofod anffurfiol i fyfyrio ar arferion addysgu a’u rhannu, meithrin cysylltiadau â chydweithwyr o ddisgyblaethau eraill, a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ddadleuon yn y sector Addysg Uwch.

Yn seiliedig ar adborth o’n sesiynau llwyddiannus y llynedd, rydym wedi ymestyn ein Fforymau Academi i 90 munud.

Cynhelir ein sesiwn gyntaf ar 2 Tachwedd, 11yb-12.30yp. Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar ganlyniadau’r arolwg Mewnwelediad Digidol. Mae’r arolwg yn cael ei redeg gan JISC ac mae’n gofyn i fyfyrwyr am eu profiadau dysgu digidol. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2020-21, cawsom dros fil o ymatebion. Dewch i’r sesiwn hon os hoffech chi glywed am y canfyddiadau a hefyd meddwl am ffyrdd y gallwch chi gynnwys y canlyniadau yn eich addysgu digidol.

Yn ail, ar 2 Rhagfyr (10yb-11.30yb), byddwn yn ystyried cynllunio dysgu cyfunol. Dros y deunaw mis diwethaf, mae cydweithwyr wedi cyflwyno gweithgareddau addysgu yn gyfan gwbl ar-lein, yn gyfan gwbl wyneb yn wyneb, a hefyd addysgu Hyflex i fyfyrwyr. Os hoffech ystyried sut i gyfuno’r gweithgareddau addysgu ar-lein â gweithgareddau addysgu wyneb yn wyneb, dewch i’r sesiwn hon. Byddwch yn gallu myfyrio ar yr adnoddau yr ydych wedi’u cynhyrchu a sut y gallech chi fynd ati i’w haddasu ar gyfer y cyd-destun addysgu cyfredol.

Yn dilyn cyfnod gwyliau’r gaeaf, bydd ein trydydd sesiwn Fforwm Academi yn cael ei gynnal ar 10 Chwefror (10yb-11.30yb). Bydd y sesiwn hon yn edrych ar strategaethau ar gyfer dylunio asesiadau dilys. Mae JISC yn amlinellu, yn eu papur The Future of Assessment: five principles, five targets for 2025, mai un o ddaliadau allweddol dylunio asesiad yw ei wneud yn ddilys. Rhoddir cyfle i’r cyfranogwyr wella asesiad sy’n bodoli eisoes neu ddylunio un newydd sbon.

Gan edrych ymlaen at y gwanwyn, bydd ein pedwerydd Fforwm Academi am y flwyddyn yn edrych ar gyfleoedd adborth i gymheiriaid. Mae myfyrwyr yn datblygu gwell proses wybyddol drwy gael cyfle i weithio gyda’u cymheiriaid – o aralleirio damcaniaethau cymhleth, i feirniadu gwaith myfyrwyr eraill yn sensitif, gellir defnyddio gweithgareddau adborth cymheiriaid yn effeithiol iawn. Cynhelir y Fforwm Academi hwn ar 3 Mawrth, 11yb-12.30yp. 

Bydd ein fforwm academi olaf yn edrych ar Fyfyrwyr fel Partneriaid ar 27 Ebrill, 11yb-12.30yp. Mae yna wahanol ddulliau y gellir eu defnyddio ar gyfer prosiectau Myfyrwyr fel Partneriaid. Byddwn yn edrych ar y rhain – o gyd-ddylunio gan fyfyrwyr i brosiectau datblygu. Yn yr UDDA, rydym wedi gweithio ar nifer o fentrau myfyrwyr fel partneriaid a byddwn yn rhannu ein prosiectau yn ogystal â rhoi cyfleoedd i chi sefydlu eich prosiect eich hun ar lefel sesiwn, modiwl, cwrs neu adran. 

Am y tro, bydd ein Fforymau Academi yn cael eu cynnal ar-lein. Archebwch eich lle ar ein Safle Archebu Cwrs. Gobeithio eich gweld chi yno.

Wythnos Dyslecsia: Dyslecsia Anweledig

Ysgrifennwyd gan Caroline White, Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr (caw49@aber.ac.uk)

Mae tua 16% o’r boblogaeth yn meddwl mewn modd dyslecsig. Ar hyn o bryd, mae tua 500 o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi datgelu Gwahaniaethau Dysgu Penodol, fel Dyslecsia. Mae myfyrwyr eraill yn gobeithio anghofio’r profiadau negeddol sy’n gysylltiedig â’r gair “dyslecsia” neu maen nhw’n methu fforddio’r broses asesu ac felly dydyn nhw ddim yn manteisio ar y Cymorth Sgiliau Dysgu.

Mae rhai sydd â dyslecsia yn cael yn anhawster yn yr ysgol ond wedyn yn ffynnu yn y brifysgol ac yn ennill gwobrau am draethodau. Mae’r modd y mae rhai eraill dyslecsig yn gweithio yn parhau nes bydd eu hamgylchedd yn newid ee pan fydd eu gwaith darllen yn cynyddu yn sylweddol. Mae’r problemau yn codi fel arfer pan mae  anghysondeb rhwng cyflwyniad y deunydd dysgu a dull yr unigolyn o ddysgu.

Mae sgilliau dyslecsig yn sylfaenol i lawer o waith academaidd. Mewn rhai agweddau fel canfod, dychmygu, cyfathrebu, rhesymu, cysylltu ac archwilio, ceir bod llawer o feddylwyr dyslecsig yn well, ar gyfartaledd.   Y perygl yw bod y rhagoraethau hyn yn mynd ar goll pan fydd cyfathrebu mewn ysgrifen yn cael ei ddefnyddio i fesur faint mae rhywun yn deall.

3 argymhelliad ar gyfer dysgu a chefnogi myfyrwyr dyslecsig:

            Byddwch yn benodol– gall myfyrwyr wedyn defnyddio eu hegni i weithio’n fwy effiethiol a phrofi llai o bryder

            Byddwch yn dryloyw – fel y gall myfyrwyr ddeall dulliau datblygu sgiliau academig

            Byddwch yn ystyriol– gan fod profiadau myfyrwyr mor wahanol, gan gynnwys effeithiau’r pandemig

Adnoddau

Rhestr wirio ar gyfer Addysgu Cynhwysol (Aber)

Fideo Byr Aberyswyth

Dyslecsia (PowerPoint)

Chynhwysiant (PowerPoint)

Fideos TedEx

The Creative Brilliance of Dyslexia | Kate Griggs (15 mins) https://www.youtube.com/watch?v=CYM40HN82l4

The true gifts of a dyslexic mind | Dean Bragonier (17 mins) https://www.youtube.com/results?search_query=dyslexia+ted+talk

Gwefannau allanol

Made by Dyslexia https://www.madebydyslexia.org

British Dyslexia Association https://www.bdadyslexia.org.uk/dyslexia Yn cynnwys cwrs hyfforddi ar-lein BDA am ddim – dyslecsia ac iechyd meddwl – yn ystod Wythnos Dyslecsia

Microsoft Learning Tools https://www.microsoft.com/en-gb/education/products/learning-tools

Gwneud addysgu yn yr ystafell ddosbarth yn rhyngweithiol gyda thechnoleg

Yn y blogbost hwn byddwn yn edrych ar sut y gellir defnyddio technoleg i roi cyfle i fyfyrwyr roi adborth ar feddyliau a syniadau neu weithio’n rhithiol mewn grwpiau cydamserol. O ystyried bod myfyrwyr yn cael eu hannog i wynebu i’r un cyfeiriad mewn ystafelloedd addysgu, bydd gwaith grŵp yn her benodol mewn ystafelloedd addysgu.

Rydym yn argymell eich bod yn annog myfyrwyr i ddod â’u dyfeisiau eu hunain. Bydd hyn yn rhoi mwy o opsiynau i chi adeiladu’r drafodaeth grŵp honno. Os nad oes gan eich myfyrwyr fynediad at ddyfais, yna cyfeiriwch nhw at gg@aber.ac.uk. Os ydych chi am i fyfyrwyr ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain, rhowch wybod iddyn nhw ymlaen llaw.

Defnyddiwch Vevox i fyfyrwyr gyflwyno crynodeb o’u trafodaethau

Offer pleidleisio yw Vevox. Dyma rai gweithgareddau dysgu y gallech eu hystyried, neu gallwch ddyfeisio rhai eich hun:

  • Meddwl a rhannu unigol – Rhowch dasg taflu syniadau neu ddatrys problemau fer i fyfyrwyr, gofynnwch iddyn nhw feddwl am funud neu ddwy ac yna defnyddio Vevox i rannu eu syniadau. Mae hyn yn gweithio’n dda yn yr ystafell ddosbarth, ar-lein, neu mewn amgylchedd HyFlex.
  • Pwynt aneglur neu bwyntiau cofio allweddol – Ar ddiwedd y ddarlith, gofynnwch i’r myfyrwyr bostio naill ai eu pwynt mwyaf aneglur neu eu pwyntiau cofio allweddol o’r ddarlith. Os ydych chi’n defnyddio pwyntiau cofio allweddol, mae hyn nid yn unig yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am ba mor dda roedden nhw’n deall y cynnwys, ond hefyd yn atgyfnerthu dysgu’r myfyrwyr trwy ymarfer adalw. Da i athrawon a myfyrwyr!
  • Trafodaeth grŵp ac adborth – Os ydych chi’n defnyddio grwpiau o chwech lle mae myfyrwyr yn llwyddo i drafod cwestiwn wrth wynebu ymlaen (ie, rydyn ni’n gwybod bod hyn yn her!), gallwch ofyn i bob grŵp gyflwyno eu prif negeseuon trwy Vevox i’r dosbarth cyfan eu gweld. Mae hyn yn caniatáu ichi gyfuno’r dysgu gan bob grŵp yn ystod yr amser yn y dosbarth.
  • Gwirio dealltwriaeth cyn ac ar ôl addysgu – Mae myfyrwyr yn dysgu orau os gallant gysylltu gwybodaeth newydd â gwybodaeth flaenorol. Gofynnwch gwestiynau i’r myfyrwyr ar ddechrau’r ddarlith i ysgogi’r wybodaeth honno, ac yna gofynnwch gwestiynau ar y diwedd i’w hatgyfnerthu. Gall hyn helpu myfyrwyr i gydnabod cymaint y maent wedi’i ddysgu o’r ddarlith ac atgyfnerthu eu dysgu ar yr un pryd.

Read More

Gweminar Vevox: ‘Co-creating expectations with Vevox’

Fel rhan o’n tanysgrifiad sefydliadol i Vevox, mae modd i ni fynychu gweminarau a gynhelir gan Vevox. Am 2yp ddydd Iau 30 Medi bydd Vevox yn cynnal gweminar o’r enw ‘Co-creating expectations with Vevox’. Bydd y weminar yn cael ei redeg gan Tom Langston, sy’n arbenigwr Dysgu ac Addysgu Digidol ym Mhrifysgol Portsmouth.

Bydd y weminar yn cynnig syniadau ynghylch sut y gellir defnyddio pleidleisio (digidol ac “analog”) i ennyn cyfranogiad myfyrwyr, cyngor ymarferol ynglŷn â strwythur trafodaethau, a defnyddio’r swyddogaeth Holi ac Ateb fel bod modd i fyfyrwyr rannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu a gofyn cwestiynau.

Cofrestrwch ar gyfer y weminar hon ar-lein.

Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn hyfforddi: Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Vevox.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Vevox, gweler ein tudalennau gwe ar Offer Pleidleisio.

Trefnu cynnwys Blackboard – Cyngor Defnyddiol gan Fyfyrwyr (Llysgenhadon Dysgu)

Ysgrifennwyd gan Erin Whittaker, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Yn sgil gweithgaredd profi defnyddioldeb y prosiect Llysgenhadon Dysgu, cefais fy annog i ysgrifennu fy mlog am rwyddineb a hygyrchedd dod o hyd i wybodaeth benodol a drafodir mewn darlithoedd a seminarau yn seiliedig ar gynllun cronolegol a labeli eu ffeiliau. Ar ôl gwneud fy ffordd trwy ddau fodiwl enghreifftiol nad oeddwn i wedi eu gweld o’r blaen ac un arall o fodiwl a ddilynais yn yr 2il flwyddyn, sylwais mai’r cynlluniau modiwl mwyaf hygyrch a hawdd llywio drwyddynt oedd y rhai lle’r oedd y wybodaeth a’r deunyddiau ar gyfer darlithoedd a seminarau wedi eu labelu yn ôl wythnos a theitl y pwnc, yn hytrach na dim ond yn ôl rhif y seminar benodol honno; h.y. ‘Seminar: Wythnos 2 – Dysgu am Benodoldeb ‘>’ Seminar 2 ‘. Roedd labelu’r ffeiliau fel hyn yn golygu bod dod o hyd i’r wybodaeth a gyflwynwyd yn y seminarau a’r darlithoedd penodol hynny yn broses fwy syml a chyflym na gorfod chwilio drwy amryfal gyflwyniadau PowerPoint seminarau er mwyn dod o hyd i wybodaeth benodol.

Yn ogystal, y ffolder fwyaf amlwg ar gyfer cadw recordiadau Panopto y ddarlith a’r seminar a’r sleidiau PowerPoint cysylltiedig fyddai ‘Deunyddiau Dysgu’ yn fy marn i. Byddai’n lle da hefyd i’r deunyddiau ychwanegol fel Rhestr Ddarllen Aspire, gweithdai, sesiynau tiwtorial, ac amserlen gyffredinol y modiwl hwnnw. Byddwn yn argymell, fodd bynnag, os oes nifer fawr o ffeiliau ar gyfer seminarau a darlithoedd h.y. mwy na thair ffeil yr wythnos, eu bod yn cael eu rhoi mewn ffolder ar wahân o dan y teitl ‘Darlithoedd/ Seminarau’ yn y golofn ffolderi ar y chwith, ynghyd â chopi o’r Rhestr Ddarllen Aspire.

Read More

Ydy eich modiwlau Blackboard yn siarad iaith y myfyriwr? – Llysgenhadon Dysgu

Ysgrifennwyd gan Angela Connor, Seicoleg

Fe wn y gallai swnio’n rhyfedd i holi a yw eich modiwlau Blackboard yn siarad iaith eich myfyrwyr. Gallaf eich clywed yn dweud “Wrth gwrs eu bod nhw”. Yn amlwg, rydych chi’n llwytho deunyddiau i fyny yn Gymraeg a Saesneg. Ond nid am hynny rwy’n sôn. I sicrhau bod Blackboard yn hygyrch i gynifer o fyfyrwyr â phosib mae angen i ni roi ein hunain yn eu hesgidiau hwy am ychydig ac edrych ar y dyluniad a’r cynnwys yn wrthrychol i weld a yw’r deunyddiau wedi’u gosod yn y ffordd orau i garfan benodol er mwyn iddyn nhw allu deall eich modiwlau’n rhwydd.

Dywedir yn aml mewn addysg os byddwch yn addasu eich cyflwyno i’r rheini sydd ag anghenion ychwanegol, byddwch yn ei gwneud yn haws i bawb. Efallai y gellid cymhwyso’r ethos hon yn nhermau Blackboard, gan roi’r holl fyfyrwyr mewn sefyllfa i gyflawni eu potensial llawn gyda chyn lleied o straen â phosibl.

Heb os, mae rhai elfennau mewn modiwl Blackboard yn galw am ffurfioldeb a phroffesiynoldeb, fel Arfer Academaidd Annerbyniol, a llawlyfr y modiwl. Mae’r llawlyfr yn gweithredu bron fel cytundeb contract rhwng cydlynydd y modiwl a’r myfyriwr, a’r ffordd arall, gan ei fod yn amlinellu’n glir yr hyn y bydd y modiwl yn ei gyflwyno a’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan y myfyrwyr yn eu tro. Ond trwy osgoi jargon addysgol lle bo modd, neu ei gyflwyno’n raddol, gallwch helpu i godi hyder eich myfyrwyr a’u gwneud yn gyfarwydd â’r termau hyn. Er enghraifft, faint o fyfyrwyr oedd wir yn deall y termau “cydamserol” ac “anghydamserol” a hyrddiwyd i mewn yn sydyn i fyd addysg y llynedd? A phan oedden nhw’n ddealledig, a oedden nhw’n cael eu drysu gyda rywbeth arall tebyg o dro i dro? Fe wn i mi gael fy nal unwaith neu ddwy.

Read More

Croeso i staff newydd sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth

Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.

Mae’r holl wybodaeth fyddwch chi ei hangen ar dudalennau gwe’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Yn ddiweddar rydym ni wedi gweithio’n ddwys gyda chydweithwyr academaidd i ddatblygu datrysiadau i bandemig Covid 19. Bydd ein tudalennau gwe Cefnogi eich Addysgu yn eich helpu gydag amrywiol ddatrysiadau addysgu.

Rydym ni’n ysgrifennu blog gyda’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.

Os bydd angen i chi gysylltu â ni gallwch wneud hynny ar un o ddau gyfeiriad ebost:

udda@aber.ac.uk (am gwestiynau addysgegol a chynllunio, neu i drefnu ymgynghoriad) neu

eddysgu@aber.ac.uk (am ymholiadau technegol ynghylch ein harlwy e-ddysgu a restrir isod)

Read More

Cefnogaeth ar gyfer Dysgu Wyneb yn Wyneb

Wrth inni symud tuag at ddysgu wyneb yn wyneb eto, hoffem atgoffa’r staff nad ydynt ar eu pen eu hunain o ran ailaddasu i ddysgu wyneb yn wyneb, a allai newid eto o ran maint y grwpiau, y dulliau o ddarparu’r dysgu, cadw pellter, a masgiau. Bydd yr eitem hon ar ein blog yn trafod yr offer arferol yn yr ystafelloedd dysgu a sut i ymdrin â disgwyliadau myfyrwyr, yn ogystal â chyfeirio’r staff tuag at adnoddau perthnasol ar gyfer yr agweddau hynny.   

Offer Arferol yr Ystafelloedd Dysgu 

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth wedi datblygu canllawiau ar ddefnyddio’r offer dysgu arferol yn yr ystafelloedd dysgu canolog. Gallwch wylio rhestr o fideos sy’n arddangos yr offer yn yr ystafelloedd dysgu

Mae’n bosibl y bydd trefn fanylach o ran hylendid a phrotocolau Iechyd a Diogelwch yn dal i fod ar waith ym mis Medi, felly sicrhewch fod gennych y wybodaeth ddiweddaraf yn eu cylch, gan gynnwys systemau unffordd mewn adeiladau, amseroedd cyrraedd/gadael graddol ar gyfer staff a myfyrwyr, gorsafoedd glanhau, a chynlluniau eistedd.  

Mae arnom eisiau atgoffa’r staff hefyd o bolisi recordio darlithoedd y Brifysgol – fe allai dychwelyd at ddysgu wyneb yn wyneb olygu dychwelyd at recordio darlithoedd byw. Bydd nifer o fanteision i wneud recordiadau o ddarlithoedd wrth i ni fynd nôl i ddysgu wyneb yn wyneb. Os bydd myfyrwyr yn methu bod yn bresennol mewn darlith oherwydd salwch gallant ddal i fyny â’r gwaith yn haws. Ac os yw myfyrwyr yn gwybod bod recordiadau o ddarlithoedd ar gael, gallant osgoi dod i ganol pobl os nad ydynt yn teimlo’n hwylus. Mae’r cwbl hyn yn ein cynorthwyo â’r gwaith o warchod iechyd a lles pawb ledled y Brifysgol. Os ydych yn ansicr o gwbl, edrychwch eto ar ein rhestr o fideos ar Panopto. 

Efallai nad yw eich adran mewn ystafell ddysgu ganolog, a bod offer gwahanol i’r offer canolog arferol ar gael. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r asesiadau risg perthnasol ar gyfer eich mannau dysgu a gwiriwch sut orau i’w rhoi ar waith gyda’r person priodol yn eich adran.   

Read More

Diweddariad Vevox – mathau newydd o gwestiynau ar gael

Bydd gan Vevox ddiweddariad ar 13Medi a fydd yn cyflwyno mathau newydd o gwestiynau sy’n cynnwys delweddau.

Pôl Delwedd y gellir ei Farcio

Gallwch uwchlwytho delwedd fel y math o gwestiwn a gofyn i’ch myfyrwyr farcio’r datrysiad ar y ddelwedd. Bydd hyn yn wych ar gyfer diagramau, mapiau neu graffiau:

Screen grab of pin on image question.

Amlddewis ar bôl Delwedd

Cwestiwn arall ar ffurf delwedd, ond y tro hwn rhowch gyfle i’ch myfyrwyr ddewis yr ateb cywir o nifer o wrthdyniadau:

Screen grab of Multichoice image.

Nodyn i’ch atgoffa bod Vevox yn cynnal sesiynau hyfforddi ar:

  • 09.09.2021, 11:00-12:00
  • 28.09.2021, 14:00-15:00
  • 06.10.2021, 10:00-11:00

Bydd y sesiynau hyn yn ymdrin â:

  • Sut i gael mynediad at gyfrif
  • Sut i greu sesiwn
  • Creu a Rhedeg polau 
  • Cwestiwn ac Ateb Vevox – arddangos, cymedroli 
  • Arolygon 
  • Data a gosodiadau 
  • Gosod Integreiddiad MS Teams
  • Cwestiwn ac Ateb – unrhyw gwestiynau gan gyfranogwyr  

Archebwch eich lle ar-lein.

Am restr o’r holl ddiweddariadau sy’n dod ar 13 Medi, edrychwch ar Flogbost Vevox.

Mae ein holl ganllawiau ar gyfer Vevox ar gael ar ein tudalennau gwe pleidleisio.