Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r 10fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, sydd ychydig dros fis i ffwrdd, 12-14 Medi.

Diben thema’r gynhadledd eleni, Dylunio Addysgu Yfory: Arloesi, Datblygu a Rhagoriaeth: Dathlu 10 mlynedd o Gynadleddau Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth, yw myfyrio ar yr ymrwymiad sydd gan staff PA i wella profiad dysgu myfyrwyr a chydnabod degawd o gynadleddau. 

Mae’n bleser gennym gadarnhau ein rhaglen lawn.  Byddwn yn cael 2 ddiwrnod ar-lein (dydd Llun 12 Medi a dydd Mercher 14 Medi) ac 1 diwrnod wyneb yn wyneb (dydd Mawrth 13 Medi).

 Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy gwblhau’r ffurflen ar-lein hon.  

 Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu tri anerchiad allanol eleni: 

  • Cyflwynir y prif anerchiad eleni gan Kyra Araneta, Jennifer Fraser, a Moonisah Usman o Brifysgol Westminster. Byddant yn edrych yn benodol ar waith partneriaethol rhwng staff a myfyrwyr sydd yn gymdeithasol gyfiawn.
  • Bydd ein hail siaradwr allanol, Alex Hope, yn edrych ar ffyrdd ystyrlon y gallwn ymgorffori cynaliadwyedd ar draws ein maes llafur.
  • Mae’n bleser gennym groesawu ein cydweithiwr, Ania Udalowska, yn ôl i gynnal sesiwn ar y prosiect Hyrwyddwyr Dysgu Digidol maen nhw’n ei gynnal ym Mhrifysgol Celfyddydau Llundain.

Mae gennym raglen gyffrous ac amrywiol eleni gyda chynrychiolwyr o bob cyfadran. Yn ogystal â’n siaradwyr allanol, mae gennym bynciau gwych yn cael eu cyflwyno gan gydweithwyr:

  • Bord gron ar ddatblygu galluoedd digidol myfyrwyr gyda chydweithwyr o’r adrannau Busnes, Seicoleg ac Addysg
  • Uniondeb academaidd ar ôl Covid
  • Strategaethau ymgysylltiad myfyrwyr
  • Asesiadau dilys
  • Trawsieithu o fewn cyd-destun dwyieithog

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y gynhadledd, a chofiwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau mae croeso i chi gysylltu â ni. 

Modiwlau Rhiant a Phlentyn 2022-23

Image of Blackboard logo and parent-child

Gan fod modiwlau 2022-23 bellach ar gael i staff, gallwn eu cysylltu gyda’i gilydd ar gais cydgysylltydd y modiwl. Cyfeirir at y drefn hon fel trefn rhiant a phlentyn. Mae cysylltu modiwlau gyda’i gilydd yn ffordd effeithiol o drafod modiwlau ar wahân a chanddynt yr un cynnwys er mwyn osgoi uwchlwytho deunyddiau ar gyfer dau neu ragor o wahanol fodiwlau.

Yn ôl y drefn hon, bydd un modiwl yn rhiant, a’r modiwl(au) arall/eraill yn blentyn. Ni chyfyngir ar nifer y modiwlau plentyn ond ni ellir cael mwy nag un rhiant.

Os ydych yn gydgysylltydd modiwlau ac os hoffech gysylltu eich modiwlau yn ôl y drefn hon, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk gan roi’r codau modiwl ar gyfer y modiwlau rhiant a phlentyn.

Enghreifftiau o Aberystwyth

Mae llawer o aelodau staff eisoes yn defnyddio modiwlau rhiant a phlentyn ar draws y sefydliad. Dyma rai enghreifftiau:

  1. Dysgir yr un cynnwys ar y modiwlau ond mae modiwl ar gael i flynyddoedd gwahanol
  2. Modiwlau sy’n dod â gwahanol gynlluniau gradd at ei gilydd a chanddynt wahanol gyfeirnodau modiwl, er enghraifft modiwlau traethodau estynedig

Yn y bôn, mae pob modiwl sy’n rhannu’r un cynnwys yn ddelfrydol ar gyfer modiwlau rhiant a phlentyn.

Read More

Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Dathlu 10 mlynedd

Eleni yw’r 10fed flwyddyn y trefnir cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Er mwyn dathlu, rydym wedi rhoi ein holl ddeunydd o’r cynadleddau blaenorol ar we-ddalennau’r gynhadledd.

Rydym hefyd wedi cymryd golwg ar ein hystadegau ac wedi crynhoi nifer o ffeithiau i chi.

Ers y gynhadledd gyntaf yn 2013:

  • Bu dros 400 o wahanol aelodau o staff a myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn bresennol yn y gynhadledd
  • Daeth mwy na 1000 o bobl i’r cynadleddau

Nifer y sesiynau yn ôl Adran:

Ein 10 prif adran academaidd a gyflwynodd yn y gynhadledd yw:

  1. IBERS gyda 41 sesiwn
  2. Addysg gyda 28 sesiwn
  3. Dysgu Gydol Oes gyda 26 sesiwn
  4. Seicoleg gyda 21 sesiwn
  5. Cyfrifiadureg gyda 18 sesiwn
  6. Ysgol Fusnes Aberystwyth gyda 17 sesiwn
  7. Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyda 14 sesiwn
  8. Ffiseg gyda 13 sesiwn
  9. Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear gyda 12 sesiwn
  10. Y Gyfraith a Throseddeg gydag 11 sesiwn

Y rhan fwyaf o sesiynau gan gyflwynydd

Mae 3 unigolyn yn gydradd gyntaf am y nifer fwyaf o sesiynau a gyflwynwyd gan aelod o staff academaidd. Â chyfanswm o 8 sesiwn, mae Steve Atherton, Addysg, Antonia Ivaldi a Gareth Norris, Seicoleg. Yn gydradd yn y pedwerydd safle, gyda 7 sesiwn, mae Basil Wolf, IBERS a Maire Gorman o Ysgol Graddedigion a Ffiseg. Llongyfarchion a diolch iddyn nhw.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y ddegawd nesaf o gynadleddau. Gobeithio y gallwch ymuno â ni yn y gynhadledd rhwng 12 a 14 Medi eleni, lle bydd cymysgedd o sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein. Archebwch eich lle ar-lein. 

Modiwlau 2022-2023 bellach ar gael i Staff

Distance Learner Banner

Mae modiwlau ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23 bellach ar gael ar gyfer staff sy’n dysgu ar fodiwlau. Mae hwn er mwyn cynorthwyo staff i baratoi eu modiwlau ar gyfer Mis Medi.   Efallai eich bod wedi sylwi bod tab newydd wedi ymddangos ar y ddewislen ar frig eich sgrin Blackboard: 

Modiwlau 2022-23

Os ydych wedi cofrestru fel aelod o staff ar y modiwl yn Astra dylech allu gweld eich modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Os nad oes modd i chi weld modiwl yr ydych wedi cofrestru arno yna cysylltwch â’ch Swyddog Gweinyddol Adrannol. Ni fydd myfyrwyr yn gallu cofrestru ar eich modiwl nes y bydd y cofrestriad wedi’i gwblhau.  Os oes arnoch angen rhagor o gymorth, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk

Cyhoeddiad am Brif Siaradwyr Gwadd y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol

Mae’n bleser gennym gyhoeddi enwau’r prif siaradwyr gwadd i’r gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol eleni (12-14 Medi 2022).

Bydd Kyra Araneta, Jennifer Fraser, a Moonisah Usman o Brifysgol San Steffan yn ymuno â ni’n rhithiol ar gyfer y prif anerchiad, Navigating power lines: Developing principles and practices to support socially just student : staff partnerships.

Yn yr anerchiad hwn, bydd Kyra, Jennifer, a Moonisah yn trafod eu prosiectau am bartneriaethau llwyddiannus rhwng staff a myfyrwyr.

Crynodeb o’r Sesiwn

I lawer ohonom mae prifysgolion ac ystafelloedd dosbarth yn safleoedd llawn posibiliadau (hooks, 1994) a buddsoddwn ni ynddynt ein gobeithion ar gyfer mathau gwahanol o ddyfodol i’r myfyrwyr ac i ninnau. Maent hefyd yn safleoedd o densiwn wrth i ni symud drwy gydberthnasau a dynameg grym sy’n gallu bod yn gymhleth. Mae’r ffordd yr ydym yn ‘byw’ addysg ar gyfer rhyddid wedi dod yn bwysicach byth yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda’r gwrthdystiadau Mae Bywydau Du o Bwys, a’r galwadau am ddad-drefedigaethu prifysgolion. Yn Power Lines: On the Subject of Feminist Alliances mae Aimee Carrillo Rowe yn gofyn ‘Sut ydym yn adeiladu llinellau grym a fydd yn ein cysylltu ni ag eraill mewn cyfiawnder, drwy gyfiawnder, ac ar gyfer cyfiawnder?’ (2008), t. 2). Mae ein hanerchiad yn ymdrin â’r cwestiwn hwn, gan ystyried sut rydym yn datblygu egwyddorion ac arferion i gynnal cydberthnasau partneriaethol rhwng myfyrwyr a staff sydd yn gymdeithasol gyfiawn. Rydym yn dadlau bod perthynas, os yw wedi’i dylunio ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol, yn gallu creu awyrgylchoedd gwrth-hiliol a dad-drefedigaethol (Bell, 2018) sy’n dod yn safleoedd llawn posibiliadau. Gan ddefnyddio enghreifftiau o’n gwaith ym Mhrifysgol San Steffan, ymdriniwn â’r mannau lle y mae grym, cynghreiriaeth, cyfiawnder cymdeithasol a phartneriaeth yn dod ynghyd er mwyn ystyried strategaethau ar gyfer llunio rhaglenni lle mae cydberthnasau trawsnewidiol yn greiddiol. Rydym yn rhannu enghreifftiau o sut rydym wedi meithrin cydberthnasau, cyd-greu gwerthoedd rhaglenni, a’u rhoi ar waith mewn prosiectau partneriaethol. Er mwyn dangos sut y gallwn feithrin partneriaethau gyda llinellau grym sy’n ein cysylltu â chyfiawnder cymdeithasol, byddwn yn defnyddio enghraifft y Prosiect Pedagogies for Social Justice (https://blog.westminster.ac.uk/psj/). Mae’r prosiect hwn wedi ymrwymo i roi lle canolog i leisiau myfyrwyr o safbwynt ei werthoedd, ei gredoau a’i brofiadau, ac i ddefnyddio’r rhain i ddatgymalu mathau cyfoes o wladychiaeth mewn cwricwla, cydberthnasau ac ymchwil. Dadleuwn fod partneriaethau’n hanfodol i’r gwaith hwn wrth iddynt gyd-gynhyrchu gwybodaeth; datblygu ffyrdd newydd a beirniadol o ddeall disgyblaethau; ac ymgymryd â chydweithredu, arbrofi a deialog dros gyfnod estynedig. Gan ddeall mai prosesau heriol a chymhleth yw’r rhain, rydym yn cynnig y prif anerchiad hwn fel cam ymlaen yn eich teithiau’ch hun a thaith eich Prifysgol tuag at greu mannau dysgu cymdeithasol gyfiawn i fyfyrwyr a staff.

Read More

Creu Cyrsiau Blackboard 2022-23

Distance Learner Banner

Tua diwedd mis Gorffennaf byddwn yn dechrau creu modiwlau Blackboard ar gyfer 2022-23.

Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, ni fydd fersiynau gwag o unrhyw gyrsiau presennol yn cael eu creu. Gwnaed y penderfyniad hwn yng nghyfarfod y Bwrdd Academaidd yn ddiweddar.

Bydd cynnwys a ffeiliau’r cyrsiau yn cael eu copïo o’r fersiwn o’r modiwl yn y flwyddyn academaidd flaenorol. Ni fydd mannau cyflwyno Turnitin, recordiadau Panopto na gweithgareddau rhyngweithiol Blackboard  yn cael eu cynnwys wrth gopïo; bydd angen ail-greu’r rhain. Mae gennym lawer o Gwestiynau Cyffredin i gynorthwyo’r staff gyda hyn.

Os ydych chi’n cynnal modiwl newydd yna bydd y rhain yn cael eu creu gan ddefnyddio’r Templedi Adrannol y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Yn yr un modd, os ydych chi’n cynnal modiwl na chafodd ei gynnal yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yna bydd y rhain hefyd yn cael eu creu’n wag.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon (eddysgu@aber.ac.uk). Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y modiwlau wedi’u creu.

Newidiadau i Turnitin: Gwybodaeth i Fyfyrwyr

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 byddwn yn defnyddio fersiwn newydd o Turnitin.

Ddydd Mawrth 5 Gorffennaf bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn rhoi fersiwn newydd o Turnitin ar Blackboard.

Er y bydd y rhan fwyaf o swyddogaethau presennol Turnitin yn aros yr un fath, bydd rhai newidiadau. 

I helpu myfyrwyr gyda’r newid hwn, rydym wedi llunio’r Cwestiynau Cyffredin canlynol:

Bydd ein tudalennau gwe a’n canllawiau cymorth yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau hyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Twyllo ar Gontract: Gweithdy Rhestr Wirio o ‘Faneri Coch’ – Deunyddiau sydd ar gael

Turnitin icon

Ar 20 Mai, ymunodd Dr Mary Davies, Stephen Bunbury, Anna Krajewska, a Dr Matthew Jones â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ar gyfer eu gweithdy ar-lein: Contract Cheating Detection for Markers (Red Flags).

Gyda chydweithwyr eraill, maent yn ffurfio Gweithgor Twyllo ar Gontract Rhwydwaith Uniondeb Academaidd De Ddwyrain Llundain ac maent wedi bod yn gwneud gwaith ac ymchwil hanfodol i’r defnydd cynyddol o felinau traethodau a thwyllo ar gontract.

Roedd y sesiwn yn cynnwys llawer o awgrymiadau ymarferol i gydweithwyr i’w helpu i ganfod y defnydd o Dwyllo ar Gontract wrth farcio.

Mae’r adnoddau o’r sesiwn ar gael isod:

Mae rhagor o wybodaeth am Ymddygiad Academaidd Annheg ar gael yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd (gweler adran 10).

Diolch yn fawr i’r cyflwynwyr. Rydym wedi cael sesiynau arbennig gan siaradwyr allanol y flwyddyn academaidd hon; edrychwch ar ein blogiau Siaradwyr Allanol i gael rhagor o wybodaeth.

Newidiadau i Turnitin: Gwybodaeth i Staff

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 byddwn yn defnyddio fersiwn newydd o Turnitin.

Ddydd Mawrth 5 Gorffennaf 2022 bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn rhoi fersiwn newydd o Turnitin ar Blackboard.

Er y bydd y rhan fwyaf o swyddogaethau presennol Turnitin yn aros yr un fath, bydd rhai newidiadau. 

Er mwyn helpu staff gyda’r newid hwn, rydym wedi llunio’r Cwestiynau Cyffredin canlynol:

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Cwestiynau Cyffredin am LTI Turnitin.

Bydd ein tudalennau gwe a’n canllawiau cymorth yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau hyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu (eddygsu@aber.ac.uk).