Diben y canllaw hwn yw eich cyflwyno i’r amrywiol sefyllfaoedd yr hoffech eu rhoi ar waith, o bosibl, mewn Ystafelloedd Dysgu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ebostiwch gg@aber.ac.uk.
Dyma’r newidiadau a wnaed i’r ystafelloedd dysgu:
- Ceir bellach ddwy sgrin yn yr ystafell ddysgu. Sgrin 1 (yr un â’r gwe-gamera arni) yw’r brif sgrin. Mae Sgrin 2 wedi’i chysylltu’n uniongyrchol â’r taflunydd. Defnyddiwch Sgrin 2 i arddangos deunyddiau i’ch dosbarth ac i’w rhannu â’r rhai sy’n cymryd rhan trwy gyfrwng Teams.
- Mae Microsoft Teams wedi’i osod a cheir llwybr byr iddo ar bob bwrdd gwaith.
- Mae microffonau newydd wedi’u gosod ar y ddesg, a chafwyd gwared ar y microffonau llabed.
Os ydych mewn ystafell ddysgu a bod angen cymorth technegol arnoch, codwch y ffôn ac aros. Bydd yn deialu’r tîm Cymorth Technegol yn awtomatig.
Dyma’r hyn y cynghorwn eich bod yn ei wneud cyn bob sesiwn:
- Creu cyfarfod Teams ar gyfer yr unigolion hynny na allant ymuno â’r sesiwn wyneb yn wyneb (Sut mae gwneud hynny?)
- Bod â’r deunyddiau dysgu wrth law yn rhwydd – rydym yn argymell eich bod yn defnyddio OneDrive ac yn copïo eich deunyddiau i’r bwrdd gwaith cyn dechrau’r sesiwn. Dylech osgoi dod â chof bach/USB ac ati i’r ystafell ddysgu. (Sut mae defnyddio OneDrive?)
- Rhoi gwybod i unrhyw fyfyrwyr sy’n ymuno trwy Teams sut y byddant yn rhan o’r sesiwn a sut y byddwch yn ymdrin â chwestiynau ganddynt.