Traciwr Profiad Digidol Myfyrwyr
Eleni, cymerodd Prifysgol Aberystwyth ran am y tro cyntaf yn Nhraciwr Profiad Digidol Myfyrwyr JISC – arolwg ar-lein a luniwyd gan JISC i gasglu gwybodaeth am ddisgwyliadau a phrofiadau myfyrwyr wrth ddefnyddio technoleg.
Pam benderfynon ni gymryd rhan yn y prosiect?
- Mae’r Traciwr yn offeryn syml sydd wedi’i ddylunio’n dda. Mae’n ganddo hygrededd ledled y sector ac mae’r fethodoleg yn ddibynadwy.
- Mae’n cynnwys data meincnodi gan sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn ein sector.
- Dyma’r unig arolwg sy’n canolbwyntio’n llwyr ar y profiad dysgu digidol.
- Cafodd y sefydliadau a gymerodd ran yn y prosiect gryn dipyn o gymorth gan JISC i addasu, hyrwyddo a dadansoddi’r arolwg.
- Ac yn bwysig dros ben – roedd eisoes wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg.
Byddwn yn rhannu’r manteision o gymryd rhan yn y prosiect a rhai canfyddiadau allweddol o’r dadansoddiad data ar lefel sefydliadol ac ar lefel y sector yn y negeseuon nesaf 🙂
Y neges nesaf o’r gyfres ar DigiTracker:
Canfyddiadau allweddol a beth oedd yn arbennig o ddiddorol.