Ymunwch â ni ar gyfer Fforwm Academi cynta’r flwyddyn yn E3, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu, Llyfrgell Hugh Owen ar 29 Hydref, 10-11yb. Cliciwch fan hyn i archebu eich lle.
Yn y Fforwm Academi cyntaf hwn byddwn yn rhoi trosolwg o’r Traciwr Digidol Myfyrwyr JISC.
Y Fforymau Academi ar gyfer y flwyddyn yw:
Dydd
Amser
Teitl
Ystafell
06.12.2019
11yb-12yp
Engaging with Seminar Reading
Hermann Ethé (Llyfrgell Hugh Owen)
05.02.2020
2yp-3yp
Using Technology in Small Group Teaching
B20, Llandinam
17.03.2020
10yb-11yb
Using Technology in Large Group Teaching
E3, Ystafell Hyfforddiant E-ddysgu
21.05.2020
11yb-12yp
Using Technology for Group Work
E3, Ystafell Hyfforddiant E-ddysgu
Fforwm Newydd Dysgu o Bell
Anelir y Fforymau hyn yn benodol at rai sy’n addysgu ar gyrsiau Dysgu o Bell neu’n ystyried darparu cynnwys o’r fath yn y dyfodol.
Dydd
Amser
Teitl
Ystafell
22.10.2019
1yp-2yp
Strategies for Monitoring Student Engagement
E3, Ystafell Hyfforddiant E-ddysgu
18.02.2020
1yp-2yp
Creating a Podcast
E3, Ystafell Hyfforddiant E-ddysgu
26.05.2020
1yp-2yp
Gauging Opinion from a Distance
E3, Ystafell Hyfforddiant E-ddysgu
Gobeithio y gallwch ddod i’r fforymau hyn. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Dros yr haf, mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth wedi gwneud rhai newidiadau i’r offer yn yr ystafelloedd dysgu:
Cipio bwrdd gwyn gyda chamerâu Crestron Airboard
Dull Cyflwynydd PowerPoint gydag adlewyrchu sgrin
Byrddau gwyn rhyngweithiol gyda sgriniau CleverTouch
Mae’r offer hyn ar gael mewn detholiad o ystafelloedd ledled y campws.
Crestron Airboard
Bydd cipio bwrdd gwyn yn taflunio popeth yr ydych yn ei ysgrifennu ar y sgrin. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i recordio eich nodiadau bwrdd gwyn.
Mae cipio bwrdd gwyn ar gael yn:
IBERS 0.30,
IBERS 0.31,
Edward Llwyd 3.34
Hugh Owen E3
Hugh Owen C22
Ar ôl mewngofnodi i’r cyfrifiadur:
Cliciwch ar yr eicon Crestron Airboard ar y bwrdd gwaith
Mae uned Crestron ar wal ger y bwrdd gwyn.
Pan fydd y botwm ar yr uned yn fflachio’n las, pwyswch y botwm
Bydd tudalen Crestron wedyn yn ymddangos ar y sgrin ac yn dangos eich llawysgrifen ar y sgrin. Gallwch rannu dolen i’r dudalen hon â’ch myfyrwyr. Bydd modd iddynt weld eich llawysgrifen ar liniadur, llechen neu ffôn symudol.
Os hoffech recordio’r llawysgrifen gyda Panopto, bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn dewis cipio i sgrin y cyfrifiadur yn ogystal ag unrhyw PowerPoint yr ydych yn ei ddefnyddio wrth ddechrau eich recordiad. Bydd angen i chi wneud yn siŵr mai gweddalen Crestron yw’r brif ffenestr sydd ar agor ar y cyfrifiadur pan fyddwch yn ysgrifennu ar y bwrdd.
Dull Cyflwynydd
Gallwch ddefnyddio’r Dull Cyflwynydd i ddangos eich sleidiau PowerPoint i fyfyrwyr, a gweld nodiadau’r siaradwr eich hun o’r peiriant yn yr ystafell ddysgu.
Ar gael yn:
Edward Llwyd 3.34
IBERS 0.30
IBERS 0.31
IBERS 0.32
Labordai Iaith Hugh Owen (BA8 a BA9)
Hugh Owen C22 (bob amser yn y dull cyflwynydd gyda dau fonitor)
Pob ystafell ddysgu yn Penbryn 5.
Pan fyddwch yn mewngofnodi i’r cyfrifiadur bydd yn mynd yn awtomatig i adlewyrchu sgrin. Golyga hyn y bydd yr hyn a ddangosir ar y monitor yr un fath â’r hyn a ddangosir ar y sgrin taflunio. Os hoffech ddefnyddio Dull Cyflwynydd PowerPoint (nodiadau siaradwr ar y monitor a sleidiau ar y sgrin):
Cliciwch ar Extend Display ar y bwrdd gwaith
I recordio’r sleidiau ond nid y nodiadau, gosodwch Panopto i gipio Ail Sgrin ac nid y Brif Sgrin.
Gallwch symud ffenestri o’ch prif sgrin (monitor) i’r Ail Sgrin (sgrin) drwy ei lusgo i ochr chwith y monitor
I fynd yn ôl i’r wedd arferol, cliciwch ar Mirror Display
Byrddau Gwyn Rhyngweithiol
Ar gael yn:
Yr holl ystafelloedd dysgu yn Penbryn 5.
I ddefnyddio’r byrddau CleverTouch fel bwrdd gwyn:
Tapiwch ar waelod y sgrin > dewiswch Lux
Tapiwch ar y saeth chwith neu dde > dewiswch Note
Bydd hyn wedyn yn agor rhaglen bwrdd gwyn a gallwch ei anodi. Byddwch yn ymwybodol nad yw’n bosibl recordio’r sgriniau hyn gyda Panopto.
I fynd yn ôl i’r cyfrifiadur tapiwch ar waelod y sgrin a dewis HDMI.
I anodi PowerPoint ac ati ar y cyfrifiadur (dull HDMI)
Cliciwch ar y saeth chwith neu dde ar y bwrdd
Cliciwch ar yr eicon beiro
Bydd hyn yn rhoi llun o’r sgrin, ni fyddwch yn gallu rhyngweithio â’r sgrin ond gallwch ysgrifennu arni.
I symud ymlaen i’r sleid nesaf, cliciwch ar y saeth chwith neu dde ar y bwrdd
Cliciwch ar yr eicon croes
Bydd hyn yn colli eich anodiadau. Noder y bydd eich anodiadau’n diflannu pan fyddwch yn symud i’r sgrin nesaf. Hefyd, ni chaiff anodiadau eu cipio gyda Panopto.
Hoffem groesawu’r holl fyfyrwyr newydd a dweud ‘croeso’n ôl’ wrth y rheini ohonoch sy’n ymuno â ni eto am flwyddyn arall. Gan fod y tymor bellach ar gychwyn, dyma rywfaint o gyngor ac awgrymiadau ichi o ran defnyddio ein systemau E-ddysgu. Yn y blogbost hwn, byddwn yn cyflwyno ein prif wasanaethau i chi. Mae cefnogaeth a chyngor ar e-ddysgu yn cael eu darparu gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu o fewn y Gwasanaethau Gwybodaeth.
Dyma rai o’n hawgrymiadau gorau i’ch helpu i ddechrau defnyddio ein systemau.
Defnyddiwch Chrome neu Firefox i gael mynediad i’n systemau
Gwnewch yn siŵr fod eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Aberystwyth wrth law gennych
Dros yr wythnosau nesaf, treuliwch amser yn ymgyfarwyddo â’r systemau hyn fel eich bod yn barod i’w defnyddio
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â gwasanaethau TG neu’r llyfrgell, ebostiwch gg@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 62 2400.
Yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir
Blackboard yw amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol. Gallwch ddod o hyd i Blackboard trwy fynd i blackboard.aber.ac.uk. Bydd arnoch angen eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Aberystwyth er mwyn mewngofnodi. Bydd eich dewis iaith ar gyfer defnyddio Blackboard yn seiliedig ar eich dewis iaith yn eich cofnod myfyriwr (Cymraeg neu Saesneg). Bydd gan bob modiwl y byddwch yn ei astudio ei safle Blackboard ei hun. Yma, cewch adnoddau a fydd yn cefnogi eich dysgu a’ch addysgu. Byddwch hefyd yn gallu cael gafael ar recordiadau o’ch darlithoedd a chyflwyno eich aseiniadau yn electronig. Gallwch lywio eich ffordd i wahanol rannau o fodiwl trwy glicio ar y ddewislen ar y chwith.
Yn ogystal â chael gafael ar eich adnoddau dysgu, efallai y bydd eich darlithydd yn gofyn ichi wneud gweithgareddau eraill yn Blackboard megis profion neu gwisiau, wicis, blogiau, neu ddyddiaduron myfyriol. Bydd gennych hefyd safleoedd Adrannol a fydd yn cynnwys gwybodaeth bwysig am eich aseiniadau a’r gefnogaeth bellach y gallwch ei chael.
E-gyflwyno
Bydd pob darn o waith testun sydd wedi’i lunio ar raglen prosesu geiriau yn cael ei gyflwyno’n electronig trwy gyfrwng Blackboard yn ystod eich cyfnod yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Byddwch hefyd yn cael eich marciau a’ch adborth yn electronig. Mae dau wahanol fath o gyflwyno electronig ar gael: Turnitin a Blackboard Assignment. Mae gennym gyngor penodol ar gyflwyno trwy gyfrwng Turnitin a hefyd trwy gyfrwng Blackboard Assignment yn ein Cwestiynau a Ofynnir yn Aml. Gweler isod ein hawgrymiadau pennaf ar sut i gyflwyno eich gwaith yn electronig:
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi digon o amser i chi’ch hun gyflwyno’r aseiniad cyn y dyddiad cau
Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith y byddwch yn ei gyflwyno yn cael ei farcio’n ddienw, felly peidiwch ag ysgrifennu eich enw ar eich aseiniad
Cadwch eich aseiniad dan enw sy’n ystyrlon i chi
Gwiriwch ddwywaith eich bod yn cyflwyno’r gwaith i’r modiwl cywir
Edrychwch ar eich ebost wedi ichi gyflwyno er mwyn gwneud yn siŵr eich bod wedi cael derbynneb ebost
Treuliwch amser yn darllen eich adborth yn ofalus ar ôl i chi gael eich marciau
Recordio Darlithoedd
Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio meddalwedd recordio darlithoedd o’r enw Panopto. Mae hyn yn golygu y gallwch gael gafael ar recordiadau o’ch darlithoedd trwy Blackboard. Mae gan Nordmann et al (2018) ffeithlun da ar sut i wneud y defnydd gorau o recordiadau o ddarlithoedd er mwyn cefnogi eich dysgu. Dyma grynodeb o’u cyngor:
Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i’ch darlithoedd. Er bod recordiadau o ddarlithoedd ar gael ichi, ni ddylid eu defnyddio yn hytrach na bod yn bresennol yn y sesiwn ddysgu ei hun. Bryd hynny, cewch gyfleoedd i ofyn cwestiynau ac i ddysgu hefyd gan eich cyfoedion. Meddyliwch am y recordiad o’r ddarlith fel rhywbeth sy’n atodol i’r sesiynau dysgu byw. Yn eich darlithoedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud nodiadau a cheisiwch grynhoi’r trafodaethau yn eich geiriau eich hun.
Wrth ailwylio’r darlithoedd, byddwch yn benodol ac ewch yn ôl i’r rhannau nad ydych yn eu deall neu nad ydych yn eu cofio. Peidiwch â gwylio’r ddarlith gyfan – yn ddelfrydol dylech wneud hyn o fewn ychydig ddyddiau i’r ddarlith er mwyn gweld faint yr ydych yn ei gofio. Gwnewch yn siŵr fod eich nodiadau o’r ddarlith wrth law gennych fel y gallwch ychwanegu atynt.
Os na allwch fynd i’r ddarlith am resymau dilys, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwylio’r recordiad o fewn wythnos fel y byddwch yn ymwybodol o’r cynnwys diweddaraf – peidiwch â chadw’r holl ddarlithoedd tan ddiwedd y semester a’u gwylio i gyd un ar ôl y llall bryd hynny. Os byddwch yn defnyddio’r recordiad, gwyliwch ef ar y cyflymder arferol heb ei gyflymu er mwyn symud ymlaen. Rhowch eich sylw’n llawn i’r recordiad a pheidiwch â gwneud tasgau eraill. Ewch yn ôl at y rhannau nad ydych yn eu deall a’u hailwylio. Gallwch ganfod yr erthygl lawn ar-lein.
Cyfeiriadau
Nordmann, E., Kuepper-Tetzel, C. E., Robson, L., Phillipson, S., Lipan, G., & Mcgeorge, P. (2018). Lecture capture: Practical recommendations for students and lecturers. [ar-lein]. https://doi.org/10.31234/osf.io/sd7u4. Cyrchwyd ddiwethaf: 03.10.2019.
Rydyn ni’n gyffrous iawn i allu cyhoeddi Fforwm newydd Dysgu o Bell i staff. Anelir y Fforymau hyn yn benodol at rai sy’n addysgu ar gyrsiau Dysgu o Bell neu’n ystyried darparu cynnwys o’r fath yn y dyfodol.
Fforwm Dysgu o Bell 1: Strategaeth i Fonitro Ymgysylltiad Myfyrwyr
Dydd Mawrth 22 Hydref 2019, 1pm-2pm, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu E3
Yn y cyntaf o’r Fforymau Dysgu o Bell byddwn yn edrych sut i fesur y graddau y mae myfyrwyr yn ymgysylltu â gweithgareddau dysgu yn Blackboard. Mae llawer o wahanol fathau o gyfleoedd a gweithgareddau dysgu ar Blackboard. Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych sut i fesur y graddau y mae myfyrwyr yn ymgysylltu â Blackboard i fyfyrwyr Dysgu o Bell.
Fforwm Dysgu o Bell 2: Creu Podlediad
Dydd Mawrth 18 Hydref 2020, 1pm-2pm, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu E3
Yn yr ail o’r Fforymau Dysgu o Bell byddwn yn ystyried sut i Greu Podlediad. Mae podlediad yn ffordd dda iawn o ennyn diddordeb eich myfyrwyr yn y cynnwys rydych yn ei greu, yn ogystal â rhoi cyfleoedd iddynt adeiladu gweithgareddau i mewn i’r podlediad. Fe edrychwn ar bodlediad a ddyluniwyd yn llwyddiannus, yn ogystal ag ystyried elfennau ymarferol creu podlediad a’i ymgorffori yn eich cwrs Blackboard.
Fforwm Dysgu o Bell 3: Mesur Barn Myfyrwyr o Bell
Dydd Mawrth 26 Mai 2020, 1pm-2pm, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu E3
Yn y trydydd o’r Fforymau Dysgu o Bell, byddwn yn ystyried sut mae modd mesur barn myfyrwyr o bellter. Bydd strategaethau yn cael eu trafod a’u cyflwyno ar gyfer gwneud i fyfyrwyr dysgu o bell deimlo’n rhan o gymuned a hefyd i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Fe gyflwynwn weithgareddau y gellir eu gwneud ar Blackboard i gynorthwyo hyn, yn ogystal â thechnolegau eraill, er enghraifft pleidlais ar-lein a ‘Skype for Business’.
Gobeithio y gallwch ddod i’r fforymau hyn. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Gan fod modiwlau 2019-20 bellach ar gael i staff, gallwn eu cysylltu gyda’i gilydd ar gais cydgysylltydd y modiwl. Cyfeirir at y drefn hon fel trefn rhiant a phlentyn. Mae cysylltu modiwlau gyda’i gilydd yn ffordd effeithiol o drafod modiwlau ar wahân a chanddynt yr un cynnwys er mwyn osgoi uwchlwytho deunyddiau ar gyfer dau neu ragor o wahanol fodiwlau.
Yn ôl y drefn hon, bydd un modiwl yn rhiant, a’r modiwl(au) arall/eraill yn blentyn. Ni chyfyngir ar nifer y modiwlau plentyn ond ni ellir cael mwy nag un rhiant.
Os ydych yn gydgysylltydd modiwlau ac os hoffech gysylltu eich modiwlau yn ôl y drefn hon, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk gan roi’r codau modiwl ar gyfer y modiwlau rhiant a phlentyn.
Enghreifftiau o Aberystwyth
Mae llawer o aelodau staff eisoes yn defnyddio modiwlau rhiant a phlentyn ar draws y sefydliad. Dyma rai enghreifftiau:
Dysgir yr un cynnwys ar y modiwlau ond mae modiwl ar gael i flynyddoedd gwahanol
Modiwlau â’r un cynnwys a ddysgir yn Gymraeg a Saesneg
Modiwlau sy’n dod â gwahanol gynlluniau gradd at ei gilydd a chanddynt wahanol gyfeirnodau modiwl, er enghraifft modiwlau traethodau estynedig
Yn y bôn, mae pob modiwl sy’n rhannu’r un cynnwys yn ddelfrydol ar gyfer modiwlau rhiant a phlentyn.
Beth mae’r myfyrwyr yn ei weld?
Bydd y myfyrwyr yn gweld enw’r modiwl y maen nhw wedi’i gofrestru ar ei gyfer (hyd yn oed os mai’r modiwl plentyn yw hwnnw) wrth fewngofnodi i Blackboard ond byddant yn gweld yr holl gynnwys a osodir yn y modiwl rhiant. Ni chaiff hyfforddwyr osod cynnwys yn y modiwl plentyn.
I’w ystyried
Nawr, cyn dechrau’r tymor ac wrth i gynnwys modiwlau gael ei greu, yw’r amser perffaith ar gyfer cysylltu eich modiwlau. Er bod cysylltu modiwlau yn arbed amser wrth lwytho deunyddiau, fe ddylech hefyd ystyried yr isod:
Gellir gweld yr holl gynnwys cyn gynted ag y bydd y modiwlau yn cael eu cyfuno (cyn belled â bod y myfyrwyr wedi’u cofrestru ar y modiwl). Yn ogystal â sleidiau PowerPoint, deunyddiau darlithoedd, mae’n cynnwys hefyd Gyhoeddiadau ac offerynnau rhyngweithiol eraill ar eich modiwl rhiant
Ni fydd rhyngweithiadau myfyrwyr hanesyddol ar fodiwl plentyn (megis defnyddio blog neu bostio mewn byrddau trafod) ar gael ar ôl i’r modiwlau gael eu cyfuno
Ni fydd modd gweld unrhyw fannau cyflwyno a grëwyd ar fodiwl plentyn cyn y cyfuno. Fe’ch cynghorir i’w creu o’r newydd yn y modiwl rhiant
Sut gallaf reoli’r cynnwys er mwyn sicrhau mai myfyrwyr y modiwl hwnnw yn unig fydd yn ei weld?
Er bod modd gweld yr holl gynnwys yn awtomatig ar ôl i’r modiwlau gael eu cyfuno, gallwch ddefnyddio grwpiau a rhyddhau’n ymaddasol os dymunwch i’r cynnwys gael ei weld gan garfan benodol o fyfyrwyr. Gall fod yn ddefnyddiol, er enghraifft, os ydych wedi cyfuno modiwl 2il a 3edd flwyddyn ond bod gan y myfyrwyr ar y gwahanol fodiwlau aseiniadau annibynnol. Gallwch ddefnyddio grwpiau – 1 ar gyfer myfyrwyr yr 2il flwyddyn ac un ar gyfer myfyrwyr y 3edd flwyddyn a chyfyngu ar bwy all weld y wybodaeth am yr aseiniadau a’r man cyflwyno. Dilynwch ein cyfarwyddiadau ar greu grŵp a rhyddhau’n ymaddasol os dymunwch wneud hyn.
Canolfan Raddau Rhiant a Phlentyn a Throsglwyddo Marciau Elfennau
Ar ôl cyfuno, bydd pob myfyriwr yn ymddangos yng Nghanolfan Raddau’r modiwl rhiant. Fodd bynnag, gallwch bennu a ydynt wedi’u cofrestru ar y modiwl plentyn gan fod y wybodaeth yma yn ymddangos wrth enw’r myfyriwr yng ngholofnau’r Ganolfan Raddau. Fe’ch cynghorir i greu gwahanol fannau cyflwyno (gan ddefnyddio rhyddhau’n ymaddasol) er mwyn ei gwneud hi’n haws i allu rheoli trosglwyddo marciau’r elfennau. Os ceir un man cyflwyno ar gyfer pob myfyriwr, dim ond ar gyfer un o’r codau modiwl y gellir defnyddio’r drefn o drosglwyddo Marciau Elfennau.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y drefn neu os oes gennych gwestiynau penodol, cysylltwch â ni (eddysgu@aber.ac.uk).
Pan ewch chi i https://blackboard.aber.ac.uk byddwch nawr yn gweld y dudalen Login@AU. Defnyddiwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth ar y dudalen hon i gael mynediad i Blackboard.
Yr Iaith Gymraeg
Os ydych chi wedi nodi Cymraeg fel eich dewis iaith yn ABW neu ar eich Cofnod Myfyriwr, byddwch yn gweld y fersiwn Gymraeg o Blackboard yn awtomatig. Os hoffech newid eich gosodiadau iaith gweler y Cwestiynau Cyffredin.
Ap Blackboard
Os ydych chi’n cael problemau wrth ddefnyddio ap Blackboard:
Allgofnodwch a chau’r ap.
Chwiliwch am Aberystwyth University a chlicio ar yr enw.
Cewch neges yn dweud eich bod yn mewngofnodi trwy wefan PA
Cliciwch ar Got it
Mewngofnodwch gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair PA
Diweddariadau
Bydd Blackboard yn diweddaru ar ddechrau pob mis. Mae’r diweddariadau misol hyn yn golygu na fydd angen i ni atal gwasanaeth Blackboard i wneud gwaith cynnal a chadw o hyn ymlaen.
Dyddiadau diweddaru ar gyfer semester 1:
5 Medi
3 Hydref
7 Tachwedd
5 Rhagfyr
2 Ionawr
Efallai y sylwch chi fod pethau wedi newid, neu fod nodweddion newydd wedi ymddangos. Byddwn yn ceisio rhoi gwybodaeth i chi am unrhyw newidiadau sylweddol trwy’r blog. Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth ar https://help.blackboard.com/Learn/Administrator/SaaS/Release_Notes
Cadw Deunydd a Chopïau Wrth Gefn
Mae Blackboard yn cadw deunydd a ddilëir am 30 diwrnod. Os ydych wedi dileu rhywbeth o Blackboard ac am ei gael yn ôl, anfonwch e-bost at elearning@aber.ac.uk cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn cynnwys deunyddiau cyrsiau, defnyddwyr a graddau.
Ymdrin ag Ymholiadau
Gan fod Blackboard yn cael ei reoli yn y cwmwl bellach, efallai y bydd angen i’r staff cymorth e-ddysgu gyfeirio eich ymholiad ymlaen at dîm cymorth canolog Blackboard. Mae’n bosib y bydd angen i ni:
Ofyn i chi am fwy o fanylion nag arfer ynglŷn â’r broblem – efallai y bydd angen i ni ofyn i chi am fanylion y camau a gymeroch
Ganiatáu i staff cymorth Blackboard gael mynediad i’ch modiwl
Mae hefyd yn bosib y bydd yn cymryd ychydig yn hirach i gael ateb, ond byddwn yn ceisio sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth am hynt eich ymholiad.
Dros y misoedd diwethaf, mae aelodau o staff yn yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr ledled y Brifysgol i baratoi ar gyfer cyflwyno’r ddeddfwriaeth. I gael manylion am sut mae’r brifysgol yn ymateb i’r ddeddfwriaeth, gweler Datganiad Hygyrchedd Digidol y Brifysgol. O’r dudalen honno, cliciwch ar Cyfarwyddyd i Staff (bydd angen i chi fewngofnodi i weld y deunyddiau hyn). Mae’r cyfarwyddyd i staff yn cynnwys dwy adran – un i ddefnyddwyr CMS (adeiladwyr gwefannau) ac un i staff sy’n creu deunyddiau dysgu neu ddogfennau eraill ar gyfer y we neu Blackboard.
Mae’r dudalen Cyfarwyddyd ar Greu Deunyddiau Dysgu Hygyrch yn cynnwys rhestr wirio ar gyfer gwneud eich dogfennau Word, ffeiliau PowerPoint, dogfennau PDF, a chlipiau cyfryngau yn fwy hygyrch i’ch myfyrwyr. Gallwch hefyd gael mynediad i’r daflen o’r sesiwn hyfforddi Creu Deunyddiau Dysgu Hygyrch a gynhelir gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu ar y cyd â Chymorth i Fyfyrwyr.
Yn ogystal â’r sesiynau hyfforddi Creu Deunyddiau Hygyrch (y gellir eu harchebu ar-lein), mae’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu hefyd yn hapus i gynnig hyfforddiant pwrpasol i staff mewn adrannau. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am greu deunyddiau hygyrch ar gyfer dysgu ac addysgu, neu os hoffech archebu sesiwn bwrpasol i chi’ch hun a chydweithwyr yn eich Adran, cysylltwch â ni (udda@aber.ac.uk).
[:cy]Mae modiwlau ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20 bellach ar gael ar gyfer staff sy’n dysgu ar fodiwlau. Efallai eich bod wedi sylwi bod tab newydd wedi ymddangos ar y ddewislen ar frig eich sgrin Blackboard:
Os ydych wedi cofrestru fel aelod o staff ar y modiwl yn Astra dylech allu gweld eich modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Os nad oes modd i chi weld modiwl yr ydych wedi cofrestru arno yna cysylltwch â’ch Swyddog Gweinyddol Adrannol. Ni fydd myfyrwyr yn gallu cofrestru ar eich modiwl nes y bydd y cofrestriad wedi’i gwblhau.
Rydym wedi creu modiwlau 2019/20 yn gynharach yn ystod y flwyddyn er mwyn cynorthwyo staff i baratoi eu modiwlau yn barod ar gyfer ail gyfnod y Copi Gwag o Gwrs, yn sgil Copi Gwag o Gwrs y llynedd ar gyfer holl fodiwlau ar y campws Blwyddyn 1.
Eleni, mae’r Copi Gwag o Gwrs yn berthnasol i holl fodiwlau ar y campws Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3. Bydd modiwlau Blwyddyn 2 a 3 a grëwyd yn wag y llynedd gyda’ch Templed Adrannol yn cael eu copïo drosodd i fodiwl eleni.
Mae’r cymorth canlynol ar gael i’ch helpu â Chopi Gwag o Gwrs:
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch Copi Gwag o Gwrs, neu os oes arnoch angen rhagor o gymorth, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk.
Dyma nodyn i’ch atgoffa na fydd Blackboard ar gael ddydd Iau 29 Awst rhwng 9:30 a 12:30 a bydd mewn perygl tan 14:00 wrth i ni orffen y gwaith o symud i SaaS. Bydd Blackboard wedyn ar gael i’w ddarllen yn unig tan ddydd Llun 2 Medi.
Gall 250 o bobl gymryd rhan mewn gweminar Skype for Business. Gallwch atodi dogfennau i gyfranogwyr eu hadolygu o flaen llaw. Yn ogystal â hyn gallwch ddewis y cynnwys yr hoffech ei ddangos i’ch cyfranogwyr, o alwadau sain i gipio sgrin a chyflwyniadau PowerPoint. Mae Skype for Business wedi’i integreiddio’n llawn ag Office 365 a dim ond cysylltiad â’r Rhyngrwyd sydd ei angen ar gyfranogwyr y gynhadledd i gymryd rhan yn y cyfarfod.
Bydd yr ystafelloedd Fideo-Gynadledda presennol yn cael eu diweddaru ag offer newydd ar gyfer Skype for Business. Gallwch eisoes lawrlwytho Skype for Business. Mae rhagor o gyngor ar gael yma.
Byddwn yn cynnig 2 sesiwn hyfforddi wahanol ar ddefnyddio Skype for Business a gallwch gofrestru yma.
Skype for Business i Drefnwyr Cyfarfodydd
Mae’r sesiwn hon ar gyfer y rhai sy’n trefnu cyfarfodydd. Byddwn yn edrych ar sut i drefnu cyfarfod drwy ddefnyddio Outlook, sut i anfon y cais am gyfarfod i gyfranogwyr, rheoli rhyngweithio’r cyfranogwyr, a rhannu dogfennau â chyfranogwyr cyn y cyfarfod.
Skype for Business ar gyfer Gweithgareddau Addysgu
Yn ogystal â’r uchod, byddwn hefyd yn edrych ar nodweddion rhyngweithiol Skype for Business a all wella Dysgu ac Addysgu. Byddwn yn rhoi cyngor ar strategaethau y gallwch eu defnyddio ar gyfer addysgu rhithwir.
Gall gweminarau wella’r ddarpariaeth dysgu ac addysgu, yn arbennig i fyfyrwyr nad ydynt yn astudio ar y campws. Mae gan JISC gyfarwyddyd ar sut i ddefnyddio Gweminarau mewn addysg, ac maent ar gael yma.
Rydym wedi cynorthwyo’r Adran Addysg i gynnal rhai gweminarau, a cheir rhagor o wybodaeth amdanynt yma. Yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn cynnal rhai gweminarau ar offer a darpariaeth E-ddysgu.