…heriau, awgrymiadau, a dealltwriaeth o nifer wahanol adrannau yn y brifysgol! Rwyf wedi cael amser wrth fy modd dros yr 11 mis diwethaf yn gweithio gyda’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu fel Arbenigwr Dysgu Ar-lein.
Ar ôl dechrau gyda Chynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol 2020, roedd hi’n hyfryd bod yn rhan o’r un digwyddiad yn 2021 tuag at ddiwedd fy nghyfnod yn y swydd hon. Y tro hwn, fe wnes i gyflwyniad (er bod hynny yn fy rôl fel Darlithydd Theatr a Senograffeg gyda ThFfTh) – cewch hyd i recordiad o’r papur hwnnw yma (dim ond Saesneg). Mae’r ddau ddigwyddiad yn cyplysu amser prysur o ddysgu ac addysgu i mi: ar y cyd â’m cydweithwyr hyfryd, fe wnes i gynllunio, datblygu a chyflwyno sesiynau hyfforddi ar bopeth o Blackboard i Vevox. Fe wnes i gefnogi staff o sawl adran wahanol i addasu o ddysgu cymysg wyneb yn wyneb, i ddysgu ar-lein yn unig, ac yn ôl. Nid gor-ddweud yw dweud fy mod wedi fy syfrdanu gan yr ymroddiad, y penderfyniad a’r dyfeisgarwch a ddangoswyd gan ein cydweithwyr ledled y brifysgol. Rwy’n siŵr y bydd yr adnoddau a gynhyrchwyd gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn parhau i gefnogi staff wrth i ni wynebu blwyddyn academaidd arall a fydd o bosibl yn llawn addasiadau angenrheidiol. Cadwch lygaid ar y tudalennau Hyfforddiant Staff – byddaf fi’n sicr yn eu defnyddio.
Wrth i mi a’m cydweithwyr, sy’n arbenigo ym maes Dysgu Ar-lein, symud ymlaen i heriau eraill, roeddwn eisiau manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl gydweithwyr yn y Gwasanaethau Gwybodaeth, ac yn arbennig i’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu, am fod mor groesawgar a chaniatáu i mi feithrin gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r gwaith amlochrog y mae’r adran yn ei wneud. Diolch o galon i gyd!
Mae’r Polisi E-gyflwyno a ddiweddarwyd wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwella Academaidd. Gallwch ddarllen y polisi wedi’i ddiweddaru ar ein Tudalennau E-gyflwyno.
Diben y polisi wedi’i ddiweddaru oedd sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’n Polisi Cipio Darlithoedd a rhoi gwell eglurder am ei gwmpas a’r gofynion gan staff a myfyrwyr.
Un newid mawr a fydd yn effeithio ar greu mannau cyflwyno Turnitin yw cyflwyno polisi sy’n rhoi dewis i’r myfyriwr gyflwyno nifer o weithiau cyn y dyddiad cau, a hefyd gweld eu hadroddiad gwreiddioldeb yn Turnitin. Wrth greu’r man cyflwyno yn Turnitin, dewiswch y gosodiadau canlynol:
Creu Adroddiadau Tebygrwydd i Fyfyrwyr – Ar unwaith (gellir arysgrifennu tan y Dyddiad Dyledus)
Caniatáu i fyfyrwyr weld Adroddiadau Tebygrwydd – Ie
Mae’r polisi wedi’i ddiweddaru’n amlinellu:
Cwmpas yr E-gyflwyno a’r E-adborth
Sut mae ein technolegau E-gyflwyno’n defnyddio eich data chi a’ch myfyrwyr
Awgrymiadau ar gyfer cyflwyno gwaith yn electronig, cynnwys dyddiadau cau, rhoi cyfle i’r myfyrwyr ymarfer cyflwyno.
Graddio a disgwyliadau adborth
Cyflwyno traethodau hir yn electronig
Cyfnodau Cadw
Hawlfraint
Sut yr ymdrinnir â methiannau TG
Cyfarwyddyd hygyrchedd i staff a myfyrwyr
Y gefnogaeth sydd ar gael
Mae’n ein tudalen E-gyflwyno’n amlinellu’r holl gymorth a’r hyfforddiant sydd ar gael i staff ar e-gyflwyno. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch sut i ddefnyddio’r offer hyn anfonwch e-bost atom ar (eddysgu@aber.ac.uk).
Fel rhan o raglen DPP eleni, cawsom groesawu nifer o siaradwyr gwadd a’n cyflwynodd i safbwyntiau newydd ac arbenigedd unigryw ar amrywiol agweddau ar ddysgu ac addysgu. Er mwyn paratoi am y flwyddyn sydd i ddod, hoffem eich atgoffa o rai o’r pynciau a drafodwyd a’r adnoddau sydd ar gael i chi. Ein gobaith yw, trwy ddatblygu ar y sesiynau hyn a sesiynau eraill a drefnwyd i chi gan yr Uned eleni, y byddwch yn teimlo’n barod i addasu ac arloesi wrth addysgu.
Yng Nghynhadledd Fach gyntaf y flwyddyn, cawsom gyfle i wrando ar Dr Naomi Winstor oedd yn dadlau mai mater o ddyluniad, yn y bôn, yw cynyddu’r defnydd a wneir gan fyfyrwyr o adborth, ac y gellir trawsffurfio rhan y myfyrwyr mewn asesiad trwy roi cyfleoedd iddynt ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i ddefnyddio adborth yn effeithiol, a rhoi cyfleoedd iddynt ddefnyddio adborth,.
Ym mhrif araith y Gynhadledd Fach hon, dysgodd y gynulleidfa am elfennau allweddol seicoleg gadarnhaol yng nghyd-destun addysg uwch a strategaethau ymarferol er mwyn gwella eu lles eu hunain.
Edrychodd Kate Lister o Advance HE ar greu cymunedau digidol effeithiol a all gyfrannu at roi ymdeimlad o berthyn a phwrpas i fyfyrwyr, hyrwyddo cysylltiadau ystyrlon, a rhoi cefnogaeth heb ddibynnu ar y campws.
Cafodd Dr Kate Exley ei gwahodd i gyflwyno gweithdy ar y dasg o symud darlithoedd, a arferai gael eu cyflwyno mewn darlithfeydd ac ystafelloedd dosbarth mawr, er mwyn eu cyflwyno ar-lein.
Yn ystod ein Gŵyl Fach ar asesu, arweiniodd Dr Sally Brown a Dr Kay Sambell weithdy a gynlluniwyd i atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd yn ystod y newidiadau cymhleth a wnaed gan academyddion y llynedd, ac edrych yn fanwl ar y syniad o ddulliau asesu dilys.
Gwahoddwyd yr Athro Mick Healey a Dr Ruth Healey i gyflwyno gweithdy ynglŷn â phartneriaethau rhwng myfyrwyr ac aelodau staff, a chawsant eu holi ynghylch cael myfyrwyr i gymryd rhan yn y prosiectau a’r darpariaethau rydym yn eu cyflwyno ar hyn o bryd.
Cawsom gyfle hefyd i wrando ar Andy McGregor o JISC yn sôn am ddyfodol asesu. Sgwrs yn seiliedig ar bapur JISC: The future of assessment: five principles, five targets for 2025, sy’n gosod pum targed am y bum mlynedd nesaf er mwyn datblygu asesu i fod yn fwy dilys a hygyrch, a’i awtomeiddio’n briodol ac yn ddiogel.
Cyflwynodd Joe Probert ac Izzy Whitley o Vevox, sef meddalwedd pleidleisio’r brifysgol, sesiwn ar sut i ddefnyddio pleidleisio’n effeithiol er mwyn ennyn diddordeb dysgwyr.
Bob blwyddyn, mae’r Grŵp E-ddysgu’n creu modiwlau newydd yn Blackboard yn barod ar gyfer addysgu’r flwyddyn nesaf. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 penderfynodd yr adrannau’n fewnol a fyddai’r modiwlau’n cael eu gadael yn wag neu a fyddai’r cynnwys yn cael ei gopïo. Bydd modiwlau ar gyfer 2021-2022 ar gael o ddechrau mis Awst.
Bydd modiwlau staff yn yr adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac IBERS yn cael eu creu’n wag. Rydym wedi paratoi’r Cwestiynau Cyffredin hyn gyda chanllawiau manwl ar gopïo gwahanol elfennau o un modiwl i’r llall yn Blackboard.
Bydd modiwlau pob adran arall yn cael eu copïo. Fel rhan o’r broses copïo cwrs, ni chaiff yr offer a’r cynnwys canlynol eu copïo:
Cyflwyniadau Turnitin
Aseiniadau Blackboard
Cyhoeddiadau
Blogiau
Cyfnodolion
Wicis
Recordiadau a dolenni Panopto
Cyfarfodydd Teams.
Hoffem gynorthwyo staff i baratoi eu modiwlau gymaint ag y gallwn. Rydym yn hapus i drefnu ymgynghoriad dros Teams. I wneud hynny, anfonwch e-bost at elearning@aber.ac.uk
Cawsom amrywiaeth eang o gyflwyniadau drwy gydol y gynhadledd. Un thema a ddaeth i’r amlwg i mi oedd y ffordd roedd defnydd o ddull dysgu cyfunol yn cynnig gwell hygyrchedd yn benodol drwy deilwra cynnwys modiwlau i weddu i anghenion myfyrwyr. Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym ni’n falch fod gennym ystod mor amrywiol o fyfyrwyr ac rydym yn darparu dull addysgu cynhwysol. Mae rhai o’r ffyrdd mae ein cyrsiau wedi’u haddasu mewn ymateb i’r amgylchiadau addysgu heriol drwy gydol y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar wella hygyrchedd i’n myfyrwyr.
Cafwyd sgwrs wych gan Neil Taylor o’r Adran Cyfrifiadureg ar ei brofiadau’n creu adnoddau gwe rhyngweithiol hygyrch. Roedd yn ceisio datrys dryswch ynglyn â lleoliad dogfennau roedd wedi’u creu i ddarparu gwybodaeth ar gyfer traethodau hir trydedd flwyddyn. Datblygodd sphinx-doc oedd yn casglu’r holl wybodaeth mewn un lle ac mewn fformat fwy hygyrch. Roedd yn gallu ffurfweddu gwahanol themâu a ffontiau i gyd-fynd ag anghenion y myfyrwyr. Roedd sgwrs Neil yn pwysleisio pwysigrwydd dyluniad rhyngwyneb y dudalen gwe i sicrhau hygyrchedd eang. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad.
Rhoddodd aelodau o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol gyflwyniad oedd yn cyflwyno achos o blaid y model hyflex. Dr Louise Marshall, Dr Malte Urban a’r Athro Matt Jarvis oedd yn arwain y cyflwyniad oedd yn gwerthuso manteision y model addysgu hyflex. Roedd myfyrwyr yn gwerthfawrogi hyblygrwydd y dull addysgu ar-lein, oedd yn golygu os oedden nhw’n absennol oherwydd ynysu, salwch neu amgylchiadau eraill, eu bod yn dal i allu ymgysylltu â’r cynnwys a mynychu sesiynau. Siaradodd dau fyfyriwr o’r adran, Alex a Louise, am eu profiadau cadarnhaol o’r model hyflex a sut roedd yn gwella hygyrchedd a chynhwysiant. Rhaid cyfaddef mai hwn oedd un o fy hoff gyflwyniadau, felly os cewch chi gyfle, gwrandewch arno. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad.
Cafwyd cyflwyniad gan Dr Tristram Irvine-Flynn o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear ar greu Teithiau Maes 3D i Gadair Idris. Ysbrydolwyd hyn i ategu rôl gwaith maes mewn modiwlau Daearyddiaeth. Drwy addasu adnoddau mae’r adran wedi creu amgylchedd mwy hygyrch a phrofiad dysgu gweithredol. Mae’n adnodd dysgu gwych gyda llawer o botensial i gynyddu ac ehangu ei ddefnydd. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad.
Roedd cyflwyniad Kittie Belltree, Mary Glasser, Cal Walters-Davies, a Caroline White o’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd yn ymwneud ag effeithiau dysgu cyfunol ar fyfyrwyr niwroamrywiol. Nodwyd nad oedd profiad pob myfyriwr o ddysgu cyfunol yn arbennig o fanteisiol a bod rhai myfyrwyr niwroamrywiol yn ei chael yn anodd addasu i’r dulliau newydd o ddysgu ac addysgu. Yn y cyflwyniad cafwyd gwybodaeth gan y gwasanaeth hygyrchedd ar ffyrdd y gall staff gefnogi myfyrwyr niwroamrywiol a helpu i sicrhau bod cynnwys eu modiwlau’n hygyrch. Hefyd cafwyd canllaw defnyddiol ar gyfer addysgu cynhwysol. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad.
Rwy’n credu mai’r hyn mae’r symud cyflym i’r model hyflex wedi’i ddangos yw’r defnydd ehangach posibl o ddulliau gwahanol o addysgu. Mae wedi arwain at ddarlithwyr yn gallu rhoi cais ar gyflwyno dulliau mwy beiddgar o addysgu ac asesu. Mae wedi cynnig cyfle i adrannau fyfyrio ar y ffordd y caiff cynnwys cyrsiau ei gyflwyno ac wedi dysgu rhai gwersi a sgiliau allweddol y gellir eu defnyddio i ddatblygu cynnwys cyrsiau ymhellach.
Mae’r ail astudiaeth achos ar ddefnyddio offer rhyngweithiol Blackboard yn dangos defnydd effeithiol o brofion ar gyfer asesiadau adolygol a ffurfiannol gan Dr Ruth Wonfor o IBERS.
Pa offeryn ydych chi’n ei ddefnyddio a sut?
Rwy’n defnyddio profion Blackboard un ai ar gyfer profion adolygol neu brofion ffurfiannol yn y rhan fwyaf o’m modiwlau.
Pam dewis yr offeryn hwn?
Rydw i wedi dewis defnyddio profion Blackboard am amrywiaeth o resymau. O ran y profion adolygol, rydw i wedi eu defnyddio mewn modiwl i’r flwyddyn gyntaf ar anatomeg a ffisioleg. Mae’r modiwl hwn yn rhoi llawer o wybodaeth sylfaenol ar fywydeg elfennol a ddefnyddir gan y myfyrwyr ym modiwlau’r dyfodol, felly roedd arna i eisiau cynllunio asesiad a fyddai’n fodd i roi prawf ar amrywiaeth eang o bynciau ar draws y modiwl sy’n bodloni canlyniadau dysgu eithaf eang. Mae profion aml-ddewis wedi gweithio’n dda iawn ar gyfer hyn ac mae’n cyd-fynd yn dda â’r gwaith rwy’n ei wneud yn y modiwl i geisio annog y myfyrwyr i ddefnyddio cardiau fflach i ddysgu. Mae budd y cardiau fflach yn amlwg i’r myfyrwyr yn y prawf hwn.
Ar gyfer yr asesiadau ffurfiannol, rydw i wedi dewis defnyddio profion Blackboard am amrywiaeth o resymau. Yn y gorffennol, rydw i wedi tueddu i’w defnyddio fel ffordd i fyfyrwyr brofi eu dealltwriaeth ar ddiwedd pwnc. Ond, yn ystod y cyfnod o ddysgu ar-lein rydw i wedi dechrau eu defnyddio i ofyn cwestiynau y byddwn i wedi eu gofyn yn y ddarlith i wneud yn siŵr bod pawb yn deall. Mae hyn wedi bod yn wych er mwyn fy helpu i strwythuro’r addysg a gwneud yn siŵr nad yw’r myfyrwyr yn brysio ymlaen i adrannau newydd heb ddeall yn iawn beth oedd angen iddynt ei wneud yn yr adran flaenorol.
Sut wnaethoch chi gynllunio’r gweithgaredd gyda’r offeryn hwn?
Rwy’n cynllunio’r profion Blackboard yn unol â’u defnydd yn llwyr. Mae’r profion adolygol yn eithaf anhyblyg gyda chwestiynau aml-ddewis yn unig. Rwy’n tueddu i ddefnyddio cwestiynau safonol eu ffurf; dewis yr ateb cywir i gwestiwn, dewis y datganiad cywir neu ofyn at ba strwythur yn y ddelwedd mae saeth yn pwyntio. Yn ystod cyfnod Covid-19 pan oedd y myfyrwyr yn sefyll y profion hyn gartref, rydw i wedi bod yn cynnwys rhywfaint o gwestiynau ateb byr yn y prawf aml-ddewis hefyd. Mae’r cwestiynau hyn wedi gweithio’n dda iawn er mwyn atal myfyrwyr rhag chwilio am yr ateb i bob cwestiwn aml-ddewis ac wedi rhannu’r marciau’n dda.
Rwy’n defnyddio ystod ehangach o opsiynau ar gyfer y profion ffurfiannol er mwyn cyd-fynd â’r hyn rydw i eisiau i’r myfyrwyr ei ddysgu. Er enghraifft, rydw i wedi defnyddio’r cwestiynau paru ar ôl mynd trwy’r derminoleg, fel bod yn rhaid i’r myfyrwyr baru’r termau â’r disgrifiad cywir. Rydw i hefyd yn ceisio defnyddio’r adborth i’r cwestiynau ffurfiannol hyn i annog y myfyrwyr i lywio eu dysg eu hunain. Felly yn hytrach na dweud wrth y myfyrwyr eu bod wedi ateb cwestiwn yn anghywir a rhoi’r ateb cywir iddynt, rwy’n defnyddio’r adborth i gyfeirio’r myfyrwyr at y sleid neu’r rhan o’r ddarlith lle mae’r ateb i’w gael. Y gobaith yw bod hyn yn eu hannog i strwythuro mwy ar eu gwaith dysgu ac adolygu.
Yn olaf, yn ystod y cyfnod o ddysgu ar-lein rydw i’n gweld bod rhyddhau deunyddiau’n ymaddasol (adaptive release) ar y cyd â’r profion BB yn fuddiol iawn er mwyn strwythuro pynciau. Byddaf yn aml yn dechrau rhai darlithoedd trwy adolygu rhywfaint o wybodaeth y dylai’r myfyrwyr fod wedi ei astudio yn y modiwlau blaenorol sy’n sail i’r pwnc y byddwn yn ei astudio yn y sesiwn honno. Felly rydw i wedi defnyddio profion BB i wneud y gwaith adolygu hwn. Rwy’n defnyddio’r adborth i gyfeirio’r myfyrwyr at wybodaeth bellach os oes angen iddynt roi sglein ar eu dealltwriaeth ac yna’n defnyddio dull rhyddhau deunyddiau’n ymaddasol i ryddhau’r pwnc iddynt ar ôl iddynt roi cynnig ar y cwis adolygu yn unig. Mae’r myfyrwyr yn cael cyfarwyddiadau clir er mwyn gallu rhoi cynnig ar y cwis a byddant wedyn yn cael mynd ymlaen i bwnc y ddarlith. Roedd hyn i weld yn gweithio’n dda ac felly rwy’n gobeithio dal ati gyda hyn er mwyn rhoi’r gorau i adolygu yn y darlithoedd a threulio mwy o amser yn defnyddio’r wybodaeth a ddysgir yn y darlithoedd.
Beth yw barn eich myfyrwyr am yr offeryn hwn?
Rydw i wedi cael adborth eithaf da gan y myfyrwyr ar y profion BB. Mae llawer ohonynt wedi sôn eu bod yn eu helpu i astudio a mynd dros bynciau er mwyn deall lle mae angen iddynt ymdrechu fwy gyda’u hastudiaeth bellach. Rydw i hefyd wedi helpu i leihau gorbryder myfyrwyr ynglŷn â’r profion adolygol terfynol trwy ddefnyddio profion ffurfiannol trwy gydol y modiwl. Gan fod y prawf adolygol rwy’n ei ddefnyddio yn un ar fodiwl y flwyddyn gyntaf yn semester 1, mae’r myfyrwyr yn aml yn eithaf pryderus ynglŷn â’r hyn i’w ddisgwyl ar lefel prifysgol. Gallaf felly eu cyfeirio at y profion ffurfiannol fel enghreifftiau o lefel y cwestiynau y bydd disgwyl iddynt eu hateb yn yr arholiad.
Oes gennych chi unrhyw gyngor defnyddiol i bobl sydd eisiau defnyddio’r offeryn hwn?
Fy mhrif gyngor fyddai rhoi digon o amser i chi’ch hun i lunio’r profion. Mae’r cam cychwynnol o ysgrifennu cwestiynau ac adborth da i’r myfyrwyr yn cymryd peth amser. Ond ar ôl i chi dreulio’r amser hwnnw, mae’r profion yn barod i’w defnyddio bob blwyddyn. Heb os, mae’n werth yr amser a dreulir er mwyn helpu’r myfyrwyr ac i gael syniad o’u dealltwriaeth, a gweld lle gall fod angen rhoi mwy o eglurhad ar bynciau. Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn sefyll y profion eich hun! Wrth wneud y prawf fy hun, rydw i wedi sylwi ar ambell i gamgymeriad neu gwestiynau sydd angen bod yn fwy eglur ac mae’n ddefnyddiol iawn er mwyn gweld sut bydd fformat terfynol y cwestiynau yn ymddangos i’r myfyrwyr.
Hoffem ddiolch i Dr Ruth Wonfor am rannu ei phrofiadau o ddefnyddio profion Blackboard.
Roedd yn bleser gweld cynifer o wynebau yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu rithwir eleni. Un o’r uchafbwyntiau imi oedd gallu dathlu’r pump a enillodd Wobr Cwrs Nodedig. Ers cychwyn y pandemig, nid ydym wedi gallu cydnabod ein henillwyr yn ystod y seremonïau graddio fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Felly, mae sesiwn gwobrwyo’r enillwyr yn ein galluogi ni i rannu’r arferion gwych a blaengar yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Rydym ar fin dechrau llunio ein cyrsiau ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-22. Felly, os oes angen ysbrydoliaeth arnoch, ewch ar y teithiau o gwmpas y gwahanol fodiwlau drwy ddilyn y dolenni yn y testun isod.
Enillydd:
Dr Hanna Binks, Yr Adran Seicoleg: PS11320: Introduction to Research Methods
Mae’r modiwl craidd blwyddyn gyntaf hwn yn rhoi’r sgiliau y mae eu hangen ar fyfyrwyr i’w cynnal drwy gydol eu gradd Seicoleg. O ganlyniad i’r modd arloesol y cynlluniwyd y gwaith asesu, y cynnwys dwyieithog, y drefn dda oedd ar bethau a’r cyfathrebu clir â myfyrwyr, Hanna oedd enillydd y gystadleuaeth eleni. Os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth i’ch helpu chi i ddod â’r canlyniadau dysgu, y gwaith asesu a’r cynnwys ynghyd, edrychwch ar y modiwl hwn. Mynnwch gip ar y daith o gwmpas modiwl PS11320.
Yn ddiweddar, traddododd yr Athro Rafe Hallett o Brifysgol Keele brif araith a oedd yn ymchwilio i’r cysyniad o fyfyrwyr fel cynhyrchwyr digidol.
Roedd ei gyflwyniad yn annog addysgwyr i ddarganfod pa ddulliau y mae myfyrwyr eisoes yn eu defnyddio i gyd-greu ac sy’n eu galluogi i gydweithredu wrth gynhyrchu gwybodaeth. Yn ôl yr Athro Hallett, mae’r dull saernïol hwn o weithio yn arwain at brofiad mwy ystyrlon. Mae’r myfyrwyr yn creu allbynnau sydd ar gael yn allanol i systemau prifysgol a gellir eu dangos a’u rhannu fel eu hallbynnau ‘nhw’. Mae hyn yn cyfrannu at yr ymdeimlad bod eu gwaith ‘o bwys’, ac mae’n hollol wahanol i gyflwyno asesiad gan ddilyn y diwyg arferol, h.y. asesiad sy’n cael ei ddarllen, ei farcio a’i archifo.
Mae galluogi myfyrwyr i fod yn gynhyrchwyr digidol yn golygu bod angen iddynt adeiladu ar y sgiliau sydd ganddynt eisoes ac i ddatblygu critigolrwydd digidol er mwyn dewis yr adnoddau digidol cywir ar gyfer yr hyn y maent yn ceisio’i wneud. Mae’n un ffordd o hwyluso asesiadau mwy dilys, sy’n gysyniad a drafodwyd gan Kay Sambell a Sally Brown yn ein gŵyl fach yn ddiweddar.
Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
Digwyddiadau a gweminarau ar-lein
7/7/2021 University of Kent Digitally-Enhanced Education Webinars, What will HE look like once the pandemic is over? Please express your interest by contacting the organiser
Postgraduate Pedagogies, an open-access journal dedicated to discussing, synthesising, and analysing the unique contribution that Graduate Teaching Assistants (GTAs) bring to the teaching and learning environment in Higher Education
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.
A dyna ni! Dros dridiau a hanner o gyflwyniadau, y naill ar ôl y llall, gan dros 40 o gyflwynwyr a chyda 150 a mwy o gynadleddwyr yn bresennol. Hoffem ni yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ddiolch yn fawr i bawb a gyfrannodd ac a ymunodd â ni yn ein cynhadledd flynyddol dysgu ac addysgu fwyaf hyd yma.
Peidiwch â phoeni os na fu modd ichi fod yn bresennol – mae’n bleser gennym gyhoeddi bod yr holl recordiadau bellach ar gael ar dudalen rhaglen y Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu.
Os oeddech yn bresennol yn y gynhadledd eleni, byddai’n dda gennym glywed eich adborth. Llenwch Arolwg Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu 2021. Rydym yn dechrau ar ein paratoadau ar gyfer ein degfed Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu a bydd eich adborth o gymorth inni sicrhau mai’r gynhadledd hon fydd yr orau eto!
Yr wythnos yma byddaf yn ysgrifennu blog neu ddau am y gynhadledd, felly os nad ydych wedi ei weld eisoes, mynnwch gip ar ein blog a chofrestrwch i gael diweddariadau gan dîm yr Uned. Yn olaf, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl gyflwynwyr a chynadleddwyr – fyddai’r gynhadledd ddim yn bosibl heb eich cyfraniad!