Gwirio’r sillafu yn eich adborth yn Turnitin

Os ydych chi’n rhywbeth tebyg i ni, sef braidd yn gaeth i Line of Duty yn ddiweddar (dim ‘sbwylio’ yma) ac felly’n deall sut y gallai camsillafu’r gair ‘definately’ arwain at ganlyniadau trychinebus – ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau na fydd neb yn cael eu cyhuddo o weithio i OCGs.

Rydym ni wedi dod o hyd i ffordd o ychwanegu geiriadur at y porwr rydych yn ei ddefnyddio wrth farcio er mwyn gallu gwirio sillafu’ch adborth. Rydym yn rhoi cyfarwyddiadau fesul cam isod ar gyfer Chrome a Firefox (fel y gwyddoch, dyna’r porwyr rydym yn eu hargymell er mwyn defnyddio ein hoffer e-ddysgu).

Gosod yr Ategyn Gwirio Sillafu yn Chrome

Os Chrome yw’ch dewis borwr, dyma sut mae gosod yr offer gwirio sillafu:

  1. Agor Chrome
  2. Cliciwch ar y tri smotyn yn y gornel ar y dde ar frig y sgrin:
  3. Dewiswch Settings a bydd ffenest newydd yn agor
  4. Cliciwch ar y tri smotyn yn y gornel ar y chwith ar frig y ffenest wrth ymyl: Settings
  5. Cliciwch ar Advanced a dewis Languages
  6. Gallwch ychwanegu ieithoedd (Welsh-Cymraeg ac English UK) drwy glicio ar Add languages
  7. Wedyn gallwch ddewis ym mha ieithoedd yr hoffech wirio sillafu drwy eu dewis (byddant yn cael eu lliwio’n las)
  8. Wedyn byddwch yn barod i fynd

Gosod yr Ategyn Gwirio Sillafu yn Firefox

Os Firefox yw’ch dewis borwr, dyma sut mae gosod yr offer gwirio sillafu:

  1. Agor Firefox
  2. Cliciwch ar y tair llinell yn y gornel ar y dde ar frig y sgrin:
  3. Dewiswch Ychwanegion/Add-ons
  4. Dewiswch Ategion/Get Add-ons
  5. Yn y blwch chwilio, rhowch Geiriadur Cymraeg neu British English Dictionary a dewiswch y geiriadur perthnasol
  6. Cliciwch Add to Firefox
  7. Wedyn byddwch yn barod i fynd

Gan eu bod wedi’u seilio ar y porwr, bydd rhaid i chi eu hychwanegu at bob porwr a ddefnyddiwch wrth farcio, ond ar ôl iddynt gael eu gosod fe fyddwch yn hollol rydd o unrhyw amheuaeth mai chi yw ‘H’.

Gallwch Gofrestru ar gyfer y Gynhadledd nawr

Gallwch gofrestru nawr ar gyfer y seithfed gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Dysgu o Ragoriaeth: Arloesi, Cydweithio, Cymryd Rhan! ac fe’i cynhelir rhwng dydd Llun 8 a dydd Mercher 10 Gorfennaf 2019.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/cofrestru-ar-gyfer-y-7fed-cynhadledd-dysgu-ac-addysgu-flyn-2

Eleni, mae gennym raglen gyffrous ac amrywiol o weithgareddau, gweithdai a chyflwyniadau sy’n dangos yr arferion dysgu arloesol a geir yn y Brifysgol. Mae copi drafft o’r rhaglen  ar gael ar ein tudalennau gwe yn fuan.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Tanysgrifio i’r Blog UDDA

Gallwch nawr danysgrifio i’r Blog UDDA er mwyn i chi gael hysbysiad e-bost pan fydd neges newydd yn cael ei hysgrifennu. Cewch y newyddion diweddaraf am feddalwedd, mentrau newydd, sesiynau hyfforddi a digwyddiadau sy’n helpu i gynorthwyo gweithgareddau dysgu ac addysgu trwy gyfrwng technoleg.

Dyma rai o’n negeseuon blog diweddaraf:

  • Canolfan Raddio Blackboard – yn ogystal â recordio a rheoli marciau aseiniadau, mae rhai nodweddion a dewisiadau ychwanegol a all eich helpu i ddefnyddio’r Ganolfan Raddio i’w botensial llawn, byddwn yn eich cyflwyno i’r nodweddion hyn.
  • Offer sydd ar gael i’w llogi gan y Gwasanaethau Gwybodaeth – oeddech chi’n gwybod bod gan y GG offer y gallwch eu benthyca? Yn y blog hwn, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth sydd ar gael a sut y gallwch logi’r offer.
  • Gosod cwisiau yn eich recordiadau Panopto – ydych chi eisiau profi gwybodaeth y myfyrwyr wrth iddynt wylio recordiadau o ddarlithoedd? Os felly, beth am roi cwis yn eich recordiad Panopto? Cewch ragor o wybodaeth yn y blog hwn.

Bydd tanysgrifio i’r blog yn sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn syth. Mae’n hawdd tanysgrifio:

  • Ewch i’r Blog UDDA
  • Sgroliwch i lawr y dudalen a rhowch eich cyfeiriad e-bost a chlicio ar Tanysgrifio:
  • Byddwch nawr wedi cofrestru ac yn derbyn neges e-bost pan fydd neges flog newydd yn cael ei hysgrifennu

Rydym bob amser yn chwilio am flogwyr gwadd hefyd – os hoffech ysgrifennu blog am y modd yr ydych yn defnyddio technoleg wrth ddysgu ac addysgu rhowch wybod i ni (udda@aber.ac.uk).  Hefyd e-bostiwch ni os hoffech awgrymu pwnc neu os hoffech i ni ysgrifennu am offer E-ddysgu penodol.

Fy lleoliad gwaith gyda’r Tîm E-ddysgu

[:cy]Helo, fi yw Jude Billingsley, myfyriwr graddedig sydd wrthi’n gweithio gyda’r tîm E-ddysgu’n rhan o raglen AberYmlaen, cynllun a gynlluniwyd i helpu graddedigion i addasu i amgylchedd gwaith a datblygu sgiliau trosglwyddadwy. Yn ystod fy lleoliad byddaf yn cyfrannu at y blog E-ddysgu, yn ymgyfarwyddo â Blackboard trwy adeiladu cynnwys modiwl a chymharu ein gwefan E-ddysgu ni â gwefannau E-ddysgu sefydliadau eraill er mwyn dod o hyd i ardaloedd y gellir eu gwella. Byddaf hefyd yn cynorthwyo i drefnu’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol ac yn helpu gyda’r tasgau o ddydd i ddydd yn y swyddfa.
Fel rhywun sy’n dyheu i fod yn awdur, rwy’n bwriadu creu fy ngwefan fy hun felly bydd y sgiliau meddalwedd yr wyf yn eu dysgu ar y cynllun yn werthfawr. Bydd dysgu sut i gynnal blog yn ddefnyddiol iawn hefyd, gan fod blogio’n angenrheidiol mewn nifer o feysydd creadigol. Rwy’n gobeithio y gall y cynllun ddangos i mi sut y gall creadigrwydd a thechnoleg helpu ei gilydd i greu cynnwys atyniadol ac addysgiadol a’m galluogi i ddefnyddio’r sgiliau yr wyf wedi’u dysgu yn y brifysgol mewn amgylchedd swyddfa. Rwy’n mwynhau mynd i’r afael â meddalwedd, rhaglennu a chynnal gwefannau yn ogystal â gweld sut mae pethau’n gweithio y tu ôl i’r llen yn y brifysgol. Mae fy amser ar y tîm yn fyr ond gobeithiaf ddysgu llawer!

Gallwch Gofrestru ar gyfer y Gynhadledd nawr

Gallwch gofrestru nawr ar gyfer y chweched gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Mynd â Dysgu Myfyrwyr i’r Lefel Nesaf ac fe’i cynhelir rhwng dydd Mawrth 11 a dydd Iau 13 Medi 2018.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein. 

Eleni, mae gennym raglen gyffrous ac amrywiol o weithgareddau, gweithdai a chyflwyniadau sy’n dangos yr arferion dysgu arloesol a geir yn y Brifysgol. Mae copi drafft o’r rhaglen ar gael yma.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Croeso i flog E-Ddysgu Aber!

Mae’r Grŵp E-ddysgu’n helpu staff a myfyrwyr trwy’r Brifysgol i ddefnyddio technoleg i wella dysgu, addysgu ac asesu. Yn ddiweddar dyfarnwyd gwobr Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (FfRhA) i Brifysgol Aberystwyth a chafodd y ddarpariaeth E-ddysgu ei chrybwyll fel un o gryfderau’r sefydliad. I’r holl rai sydd â diddordeb mewn gwybod sut y gall technoleg wneud dysgu ac addysgu’n fwy effeithiol dilynwch ein blog. Bydd pob aelod o’r Grŵp E-ddysgu’n ysgrifennu blogiau am eu harbenigeddau a’u diddordebau. Rydym yn croesawu eich sylwadau a’ch awgrymiadau!

Pwy yw’r Grŵp E-ddysgu yn Aber?

Kate Wright, Rheolwr y Grŵp E-ddysgu

Fi yw Rheolwr y Grŵp E-ddysgu, ac rwyf wedi gweithio ym maes e-ddysgu ers 2003. Yn ystod y cyfnod hwn rwyf wedi gweld llawer o newidiadau; pan ddechreuais, roedd Blackboard yn cael ei ddefnyddio’n wirfoddol gan staff oedd â diddordeb ac roeddem yn treulio llawer o amser yn egluro i fyfyrwyr nad oedd modd iddynt weld modiwlau yn Blackboard oherwydd nad oedd eu darlithwyr yn ei ddefnyddio. Ers hynny rwyf wedi gweithio ar nifer o brosiectau newid i gynyddu nifer y bobl sy’n ymwneud ag e-ddysgu, gan gynnwys cyflwyno isafswm presenoldeb gofynnol Blackboard, e-gyflwyno ac e-adborth, a chipio darlithoedd. Mae gennyf ddiddordeb penodol mewn asesu ar-lein, ac rwyf wedi chwarae rhan fawr yn y defnydd o Questionmark Perception yn y brifysgol.

Rwyf wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau a gyllidir yn allanol gan gynnwys Meincnodi E-ddysgu HEA, prosiect Gwella CCAUC, Grant Bach Technoleg ar gyfer Dysgu JISC RSC Cymru, Traciwr Profiad Digidol Staff a Myfyrwyr JISC. Rwyf wedi gwneud cyflwyniadau mewn nifer o gynadleddau rhyngwladol, fi yw cadeirydd Grŵp Defnyddwyr Blackboard Cymru, ac rwyf wedi cyhoeddi erthygl ar y cyd yn y British Journal of Educational Technology.

Dr. James Woolley, Arweinydd Thema, Gwella ac Ymgysylltu E-ddysgu

Helo, Jim ydw i, a fi yw’r Arweinydd Thema Gwella ac Ymgysylltu E-ddysgu. Ymunais â’r Grŵp E-ddysgu ym mis Chwefror 2018 ar ôl cwblhau PhD, 3 blynedd fel llyfrgellydd a rhai blynyddoedd cyn hynny fel Cynorthwyydd Dysgu Uwchraddedig, y cyfan yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae fy swydd yn golygu gweithio gyda chydweithwyr academaidd i ddarparu’r cymorth gorau posibl wrth ddefnyddio ein portffolio o wasanaethau. Rwy’n trefnu ein cynllun hyfforddi E-ddysgu a’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Hoffwn glywed gennych os ydych chi’n gwneud rhywbeth arloesol gyda thechnoleg a dysgu neu os hoffech arbrofi gyda thechnoleg newydd. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda staff ar brosiectau i ehangu’r ddarpariaeth E-ddysgu. Mae gennyf ddiddordeb penodol yn y modd y mae darpariaeth E-ddysgu’n cynorthwyo dulliau mwy cydweithrediadol o ddysgu.

Os oes sesiwn hyfforddi yr ydych chi’n credu y dylem ni ei drefnu neu os hoffech gwrdd â ni, anfonwch e-bost atom.

Robert Francis, Swyddog Cymorth E-ddysgu

Rwy’n cefnogi defnydd ymarferol o amrywiaeth eang o offer TEL ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ogystal â Blackboard mae hyn yn cynnwys; Panopto, Turnitin ar gyfer asesu a Questionmark ar gyfer arholiadau ar-lein. Rwy’n ymwneud yn uniongyrchol â darparu cymorth technegol a datrysiadau i Staff a Myfyrwyr sy’n defnyddio’r feddalwedd hon. Rwy’n cynorthwyo’r Brifysgol i weithredu ei strategaeth o ran dysgu trwy gyfrwng technoleg, hygyrchedd, darparu hyfforddiant, ymgynghori, deunyddiau cymorth a chymorth technegol.

Mae gen i gefndir mewn dysgu Hanes a Saesneg yn y DU a thramor. Rwy’n mwynhau arbrofi gyda thechnoleg newydd. Rwyf wedi gweithio yn y sector Addysg Uwch yn darparu cymorth technegol ers 2010.

Rwy’n siaradwr Cymraeg ail-iaith ac rwy’n frwdfrydig ynghylch siarad yr iaith.

Susan Ferguson, Cynorthwyydd Hyfforddi E-ddysgu

Fel Cynorthwyydd Hyfforddi E-ddysgu rwy’n cynorthwyo staff a myfyrwyr sy’n defnyddio offer e-ddysgu, megis Blackboard, Questionmark Perception, Turnitin, Panopto, a Qwizdom ymhlith eraill, dros y ffôn, ar e-bost ac wyneb i wyneb. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo staff i ddefnyddio’r offer yn yr ystafelloedd dysgu, darparu sesiynau hyfforddi, ymchwilio i offer a meddalwedd newydd, a chreu canllawiau i ddefnyddwyr.

Anna Udalowska, Swyddog Cymorth E-ddysgu

Dechreuais weithio gyda’r Grŵp E-ddysgu yn 2017 fel myfyriwr graddedig dan hyfforddiant. Roedd yr elfen datrys problemau ac arloesedd y swydd yn apelio ac felly fe ymgeisiais am swydd Swyddog Cymorth E-Ddysgu, sef fy swydd bresennol.

Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi bod yn gweithio ar yr ymgyrch hyrwyddo a dadansoddi darganfyddiadau’r Traciwr Profiad Digidol Myfyrwyr a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth am y tro cyntaf. Ynghyd â Rheolwr y Grŵp E-ddysgu, Kate Wright, rwyf wedi cyflwyno darganfyddiadau Traciwr Digidol PA mewn cynhadledd genedlaethol o’r enw DigiFest18 a drefnwyd gan JISC. Rwyf hefyd wedi bod yn gweithio ar weithredu’r Offer Trosglwyddo Marciau Cydrannol.

Fel rhan o’r Grŵp E-ddysgu rwy’n cynorthwyo staff a myfyrwyr sy’n defnyddio Panopto, Blackboard a Turnitin yn ogystal â goruchwylio bod yr arholiadau ar-lein yn rhedeg yn esmwyth gan ddefnyddio’r system Question Mark Perception. Mae gennyf ddiddordeb penodol yn y modd y mae technoleg yn helpu i ddarparu dulliau gwahanol, dynamig a chynhwysol o gyfathrebu, dysgu ac addysgu.