Diolch i bawb sydd wedi mynychu’r Fforymau Academi yn Semester 1. Rydym ni wedi cael trafodaethau gwych ynghylch lles yn y cwricwlwm, gweithgareddau ymsefydlu myfyrwyr, sut mae myfyrwyr yn defnyddio technoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Galluoedd Digidol (Rhan 1).
Mae ein holl daflenni o’r Fforymau Academi ar gael ar ein tudalennau gwe.
Gallwch nawr archebu eich llear ein Fforymau Academi ar gyfer Semester 2.
24 Ionawr, 14:00-15:30: Fforwm Academi 5: Strategaethau ar gyfer Ymgysylltu Adborth (Wyneb yn wyneb, E3)
16 Chwefror, 10:00-11:30: Fforwm Academi 6: Defnyddio Technoleg ar gyfer Gweithgareddau Myfyriol (Ar-lein)
6 Mawrth, 10:00-11:30, Fforwm Academi 7: Dylunio Asesiad Grŵp gan ddefnyddio Technoleg (Ar-lein)
Mae’n gyffrous gallu cyhoeddi ein Fforymau Academi arfaethedig ar gyfer 2022-23. Gan adeiladu ar lwyddiant sesiynau’r llynedd, ac ar sail adborth, rydym ni wedi cynyddu’r nifer o Fforymau Academi sydd ar gael gyda chyfanswm o 10 dros y flwyddyn academaidd.
I’r rheini yn eich plith sy’n anghyfarwydd â Fforymau Academi, maen nhw’n drafodaethau anffurfiol sy’n dod â chydweithwyr ynghyd o bob rhan o’r Brifysgol. Ym mhob sesiwn, byddwn yn edrych ar bwnc penodol yn gysylltiedig â Dysgu ac Addysgu. Byddwn yn hwyluso’r drafodaeth ac yn darparu adnoddau ac arweiniad yn dilyn y Fforwm Academi. Yna bydd y rhain ar gael ar ein tudalennau gwe. Cymerwch olwg ar bynciau Fforwm Academi y llynedd:
Byddwn yn dechrau’r Fforymau Academi gyda thrafodaeth ar Gynefino Myfyrwyr. Byddwn yn meddwl am sut rydych chi’n paratoi myfyrwyr i astudio. Pa fath o weithgareddau ydych chi’n eu rhedeg yn wythnos 1 eich modiwl er mwyn i’ch myfyrwyr gyfarwyddo â’r cynnwys? Hefyd, byddwn yn gofyn i gydweithwyr rannu gyda ni sut y gallech chi ddefnyddio technoleg yn y rhyngweithiadau hyn.
Mae Fforymau Academi’r flwyddyn academaidd gyfredol bellach wedi dod i ben. Hoffem ddiolch i bawb am gymryd rhan yn y trafodaethau.
Mae taflenni’r fforymau eleni bellach ar gael ar ein tudalennau gwe.
Mae’r taflenni’n cynnwys fframweithiau damcaniaethol allweddol yn ogystal ag astudiaethau achos ymarferol a myfyrdodau cydweithwyr ar eu harferion addysgu eu hunain.
Oherwydd llwyddiant y fformat a’r niferoedd uchel a fu’n rhan o’r trafodaethau, rydym yn gobeithio gallu cynnig rhagor o fforymau academi y flwyddyn academaidd nesaf. Os oes gennych bwnc sy’n ymwneud â dysgu ac addysgu yr hoffech ei drafod â chydweithwyr, anfonwch e-bost atom (udda@aber.ac.uk).
Bydd y gweithdy’n cael ei gynnal ar-lein trwy Teams ac anfonir dolen atoch cyn y digwyddiad.
Gweler isod ddisgrifiad o’r sesiwn a bywgraffiad y siaradwr.
Disgrifiad o’r sesiwn
Pam nad ydyn nhw’n gwrando ar fy adborth?
Mae’n well gan y rhan fwyaf o bobl berfformio’n dda yn hytrach na pherfformio’n wael, ac un o brif amcanion rhoi adborth i fyfyrwyr yw eu cynorthwyo i wella eu perfformiad. Pam, felly, mae ein myfyrwyr mor aml yn anwybyddu, yn gwrthwynebu ac yn gwrthod yr adborth a rown iddynt, a beth allwn ni ei wneud am hyn? Er mwyn rhoi’r gweithdy mewn cyd-destun, byddwn yn ystyried yn gyntaf i ba raddau mae’r problemau hyn yn unigryw i fyfyrwyr. Yn benodol, byddaf yn rhannu ambell ddarlun o feysydd amrywiol mewn seicoleg gymdeithasol sy’n dangos y cymhellion meidrol sydd wrth wraidd osgoi adborth. Gan gadw’r agweddau hyn mewn cof, awn ymlaen i ymchwilio i’r rhwystrau ymddangosiadol a gwirioneddol sy’n cyfyngu ar allu myfyrwyr i fynd I’r afael â’u hadborth yn effeithiol. Byddwn yn ystyried ffyrdd ymarferol y gallwn ni, fel addysgwyr, gyfrannu at oresgyn y rhwystrau hyn. Trwy gydol y trafodaethau, mae cynaliadwyedd yn allweddol: wrth i’r baich gwaith academaidd gynyddu fwyfwy, ni all ein hatebion bob amser gynnwys rhoi mwy o adborth, adborth mwy cyflym, ac adborth mwy cywrain. Byddaf yn rhannu fy mhrofiadau o geisio rhoi ar waith yr hyn rydw i wedi ei ddysgu wrth addysgu eraill dros gyfnod o bron i ddegawd yn gweithio ar y problemau hyn.
Bywgraffiad y siaradwr
Mae Dr Rob Nash yn Ddarllenydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Aston ac yno, ar y funud, mae’n Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Israddedigion yn yr Ysgol Seicoleg. Fel seicolegydd arbrofol, prif arbenigedd Rob yw’r cof dynol, yn arbennig y ffordd y mae atgofion yn magu rhagfarn, yn cael eu hystumio a’u ffugio. Er hyn, mae hefyd yn arwain a chyhoeddi ymchwil ar bwnc adborth mewn addysg, gyda’r pwyslais ar y ffordd mae pobl yn ymateb ac adweithio wrth gael adborth. Mae Rob yn Uwch Gymrawd yn yr Academi Addysg Uwch, yn Gyd-olygydd y cyfnodolyn a adolygir gan gymhreiriaid Legal & Criminological Psychology, ac mae’n un o awduron Developing Engagement with Feedback Toolkit (Higher Education Academy, 2016).
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â ni (lteu@aber.ac.uk).
Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein Siaradwr Gwadd nesaf.
Ar 16 Chwefror, 2pm-4pm, bydd Kevin L. Merry yn cynnal dosbarth meistr ar Ddylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu a sut mae dull hwnnw o weithio wedi’i roi ar waith ym Mhrifysgol De Montfort.
Gallwch ddarllen mwy am Ddylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu ar wefan CAST.
Cynhelir y gweithdy ar-lein drwy Teams. Bydd dolen yn cael ei hanfon atoch cyn y digwyddiad.
Rhoddir disgrifiad o’r sesiwn a bywgraffiad y siaradwr isod.
Disgrifiad o’r Sesiwn
Yn 2015, mabwysiadodd Prifysgol De Montfort Ddylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL) fel ei dull o ddysgu, addysgu ac asesu i’r sefydliad cyfan, mewn ymateb i’r ffaith bod amrywiaeth eithriadaol ymhlith ei dysgwyr. Mae Dylunio Cyffredinol yn ddull sy’n ymgorffori amrywiaeth o opsiynau sy’n golygu ei fod yn hygyrch ac yn gynhwysol i grwpiau amrywiol o ddysgwyr sydd ag amrywiaeth eang o anghenion a dewisiadau dysgu.
Yn y dosbarth meistr hwn, bydd Dr Kevin Merry yn cyflwyno’r dull “Brechdan Caws” o gynorthwyo dysgwyr i feistrioli eu dysgu. Erbyn hyn, y ‘Brechdan Caws’ yw’r cyfrwng a ddefnyddir gan staff dysgu De Montfort i ddechrau ymgorffori Dylunio Cyffredinol yng ngwaith dylunio eu sesiynau addysgu, eu modiwlau a’u rhaglenni. Yn benodol, bydd Kevin yn darparu cyfres o weithgareddau ymarferol a fydd yn helpu’r cyfranogwyr i ddatgelu sylfeini addysgeg y Brechdan Caws. Ar ben hynny, bydd Kevin yn gwahodd y cyfranogwyr i ddechrau meddwl am rai o’r ystyriaethau allweddol y mae’n rhaid i athrawon eu gwneud wrth gynllunio a dylunio profiadau dysgu o safbwynt Dylunio Cyffredinol, a sut y gellir gwneud hyn gan ddefnyddio ymagwedd systemau’r dull CUTLAS.
Yn olaf, bydd Kevin yn gorffen y sesiwn drwy ymdrin â’r cwestiwn mawr hollol amlwg – sef asesiadau a ddyluniwyd yn gyffredinol. Trwy ddarparu arweiniad ac enghreifftiau ymarferol o gymhwyster De Montfort ei hun, sef y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch, bydd Kevin, gobeithio, yn chwalu rhai o’r mythau o amgylch Dylunio Cyffredinol ac asesu, gan helpu’r cyfranogwyr i fabwysiadu dulliau o asesu dysgu sy’n canolbwyntio’n fwy ar Ddylunio Cyffredinol.
Cynhelir ein Fforwm Academi nesaf ar-lein ddydd Iau 2 Rhagfyr, 10yb-11.30yb. Yn y Fforwm Academi hwn, bydd cyfranogwyr yn rhannu eu profiadau a’u dulliau o gynllunio dysgu cyfunol.
Mewn ymateb i’r pandemig, bu’n rhaid i lawer ohonom addasu ein harferion addysgu’n sylweddol. I’r rhan fwyaf, roedd hyn yn dibynnu ar gynnydd yn y defnydd o dechnoleg a gweithgareddau ar-lein i fyfyrwyr ymgymryd â hwy yn eu hamser eu hunain yn anghydamserol. Mae Cynllunio Dysgu Cyfunol yn edrych ar sut y gallech ddefnyddio neu integreiddio rhyngweithiadau ar-lein wrth addysgu wyneb yn wyneb.
Bydd cyfranogwyr yn myfyrio ar eu dulliau presennol o addysgu a sut maent yn cynllunio gweithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Byddwn yn edrych ar rai fframweithiau a fydd o gymorth wrth gynllunio ar gyfer dysgu cyfunol ac yn meddwl am strategaethau ar gyfer integreiddio addysgu ar-lein yn llwyddiannus i ryngweithiadau wyneb yn wyneb, a rhyngweithiadau wyneb yn wyneb i addysgu ar-lein.
Wrth i ddechrau’r tymor newydd gychwyn, hoffem eich gwahodd i’r Fforymau Academi sydd ar ddod dros y flwyddyn academaidd nesaf. Cynhelir ein fforymau academi yn seiliedig ar bwnc neu thema benodol sy’n berthnasol i ddysgu ac addysgu. Maent yn ofod anffurfiol i fyfyrio ar arferion addysgu a’u rhannu, meithrin cysylltiadau â chydweithwyr o ddisgyblaethau eraill, a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ddadleuon yn y sector Addysg Uwch.
Yn seiliedig ar adborth o’n sesiynau llwyddiannus y llynedd, rydym wedi ymestyn ein Fforymau Academi i 90 munud.
Cynhelir ein sesiwn gyntaf ar 2 Tachwedd, 11yb-12.30yp. Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar ganlyniadau’r arolwg Mewnwelediad Digidol. Mae’r arolwg yn cael ei redeg gan JISC ac mae’n gofyn i fyfyrwyr am eu profiadau dysgu digidol. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2020-21, cawsom dros fil o ymatebion. Dewch i’r sesiwn hon os hoffech chi glywed am y canfyddiadaua hefyd meddwl am ffyrdd y gallwch chi gynnwys y canlyniadau yn eich addysgu digidol.
Yn ail, ar 2 Rhagfyr (10yb-11.30yb), byddwn yn ystyried cynllunio dysgu cyfunol. Dros y deunaw mis diwethaf, mae cydweithwyr wedi cyflwyno gweithgareddau addysgu yn gyfan gwbl ar-lein, yn gyfan gwbl wyneb yn wyneb, a hefyd addysgu Hyflex i fyfyrwyr. Os hoffech ystyried sut i gyfuno’r gweithgareddau addysgu ar-lein â gweithgareddau addysgu wyneb yn wyneb, dewch i’r sesiwn hon. Byddwch yn gallu myfyrio ar yr adnoddau yr ydych wedi’u cynhyrchu a sut y gallech chi fynd ati i’w haddasu ar gyfer y cyd-destun addysgu cyfredol.
Yn dilyn cyfnod gwyliau’r gaeaf, bydd ein trydydd sesiwn Fforwm Academi yn cael ei gynnal ar 10 Chwefror (10yb-11.30yb). Bydd y sesiwn hon yn edrych ar strategaethau ar gyfer dylunio asesiadau dilys. Mae JISC yn amlinellu, yn eu papur The Future of Assessment: five principles, five targets for 2025, mai un o ddaliadau allweddol dylunio asesiad yw ei wneud yn ddilys. Rhoddir cyfle i’r cyfranogwyr wella asesiad sy’n bodoli eisoes neu ddylunio un newydd sbon.
Gan edrych ymlaen at y gwanwyn, bydd ein pedwerydd Fforwm Academi am y flwyddyn yn edrych ar gyfleoedd adborth i gymheiriaid. Mae myfyrwyr yn datblygu gwell proses wybyddol drwy gael cyfle i weithio gyda’u cymheiriaid – o aralleirio damcaniaethau cymhleth, i feirniadu gwaith myfyrwyr eraill yn sensitif, gellir defnyddio gweithgareddau adborth cymheiriaid yn effeithiol iawn. Cynhelir y Fforwm Academi hwn ar 3 Mawrth, 11yb-12.30yp.
Bydd ein fforwm academi olaf yn edrych ar Fyfyrwyr fel Partneriaid ar 27 Ebrill, 11yb-12.30yp. Mae yna wahanol ddulliau y gellir eu defnyddio ar gyfer prosiectau Myfyrwyr fel Partneriaid. Byddwn yn edrych ar y rhain – o gyd-ddylunio gan fyfyrwyr i brosiectau datblygu. Yn yr UDDA, rydym wedi gweithio ar nifer o fentrau myfyrwyr fel partneriaid a byddwn yn rhannu ein prosiectau yn ogystal â rhoi cyfleoedd i chi sefydlu eich prosiect eich hun ar lefel sesiwn, modiwl, cwrs neu adran.
Am y tro, bydd ein Fforymau Academi yn cael eu cynnal ar-lein. Archebwch eich lle ar ein Safle Archebu Cwrs. Gobeithio eich gweld chi yno.
Yn dilyn y Gynhadledd Fach ddiweddar ar Addysg Gynhwysol, rydym wedi bod yn myfyrio ar ein profiad o’r digwyddiad. Mae pob aelod o’r Grŵp E-ddysgu wedi ysgrifennu darn byr ar un agwedd ar y Gynhadledd Fach.
Niwroamrywiaeth
Roedd sesiwn Janet a Caroline yn ddiddorol o ran y pwnc a’r ffordd y cafodd ei gyflwyno. Fel hyfforddwr, rwy’n chwilio byth a hefyd am syniadau newydd a ffyrdd newydd o gyflwyno gwybodaeth, ac roedd llawer yn y sesiwn hwn. O ymarferion paru i waith grŵp, roedd hwn yn gyflwyniad arbennig o weithredol.
Yn ogystal â helpu i ddeall bod ymennydd pawb yn gweithio’n wahanol iawn, a bod y rheiny â chyflwr niwroamrywiaeth yn aml yn gorfod gweithio’n galed iawn i gyflawni tasgau y byddai pobl niwronodweddiadol yn eu cymryd yn ganiataol. Er y gallai hyn arwain at fwy o straen a llwyth gwaith, y mae hefyd yn fanteisiol gan y gall pobl â niwroamrywiaeth hefyd fod yn gryf, yn greadigol a chanfod ffyrdd newydd ac arloesol o weithio er mwyn cyrraedd eu deilliannau.
Roedd y sesiwn yn amlygu’r ffaith fod llawer o arwyddion allanol niwroamrywiaeth yn debyg iawn, ac y gall newidiadau bach i’r ffordd yr ydym yn addysgu fod o gymorth.
Cyflwynodd Janet a Caroline eu sesiwn mewn ffordd ryngweithiol oedd yn ennyn diddordeb – a byddaf yn sicr yn cofio’r ymarfer lle gwnaethom geisio egluro gwyliau heb ddefnyddio’r llythyren e! Rhowch gynnig arni … bydd yn rhoi syniad sydyn i chi o sut mae gweithio o gwmpas rhywbeth y mae pawb yn ei gymryd yn ganiataol yn arwain at waith caled iawn, a cham-gychwyn dro ar ôl tro – ond hefyd ffordd newydd a gwahanol o fynegi eich hun.
Gwirydd Hygyrchedd
O ganlyniad i’r sesiwn, mae gennyf bellach agwedd newydd tuag at yr offerynnau a ddefnyddiaf a’r deunyddiau a luniaf ar gyfer fy myfyrwyr fel addysgwr. Byddaf yn gwneud ymdrech i beidio â meddwl am fyfyrwyr ag anghenion dysgu penodol fel unigolion y mae’n rhaid imi greu deunyddiau pwrpasol personol ar eu cyfer. Nid oes gan fyfyrwyr ag anawsterau dysgu penodol arddull ddysgu unigryw. Maen nhw’n gwneud dewis fel ag y mae gweddill y myfyrwyr i ryw raddau. Mae’n well meddwl y gall eu harddulliau dysgu neu ddewisiadau penodol fod o fudd i’r holl fyfyrwyr.
Byddaf yn defnyddio offerynnau cynwysedig fel y gwirydd hygyrchedd yn Word. Nid oes angen anfon fy ngwaith at arbenigwr neu ddefnyddio rhaglenni cymhleth. Po fwyaf syml yw’r deunyddiau a gynhyrchaf, gorau oll yw hynny ar gyfer cydweddu â thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hygyrchedd yn golygu bod yn rhaid imi ddefnyddio ffont ‘comic sans’ ar gyfer pob dim. Pethau bach fel ychwanegu testun amgen ar gyfer llun, defnyddio teitlau a phenawdau’n gywir yn hytrach na chwarae gyda ffontiau. Nid oes disgwyl i bob dim a gynhyrchaf gyfateb i lawysgrif euraidd. Rhaid iddo fod yn ymarferol er mwyn iddo ateb y gofyn o gyflwyno gwybodaeth, sef yr hyn a wnaf wrth addysgu beth bynnag.
Beth hoffech chi ei wneud yn wahanol (1)?
Defnyddio Profion Blackboard i ehangu mynediad i ddysgu
Mae Profion Blackboard yn ffordd wych o greu adnodd dysgu i fyfyrwyr. Fel technolegydd dysgu a rhywun sy’n aml ond yn gweld ochr dechnegol profion, roedd yn ddefnyddiol iawn i glywed Jennifer Wood yn cyflwyno ei phrofiad ei hun o’r manteision niferus o ddefnyddio’r offeryn hwn. Mae Jennifer yn addysgu Sbaeneg yn yr Adran Ieithoedd Modern ac mae defnyddio profion wedi galluogi Jennifer i ryddhau amser gwerthfawr yn y dosbarth i ganolbwyntio ar drafodaethau mwy defnyddiol. Cyn defnyddio Profion Blackboard, byddai myfyrwyr yn treulio cyfran o’u hamser yn y dosbarth yn gwneud profion. Bellach gall myfyrwyr brofi eu gwybodaeth a’u dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth mewn amgylchedd y maen nhw’n teimlo’n gyfforddus ynddo. Gan ddibynnu ar y math o gwestiwn a ddewiswch (ceir llawer o fathau o gwestiynau), gall y profion gael eu marcio’n awtomatig a gall yr adborth gael ei ryddhau i’r myfyrwyr ar ôl iddynt sefyll y prawf. Wrth gwrs, mae’n rhaid gwneud peth gwaith ar gyfer profion a rhaid ichi sicrhau eich bod yn gwybod pam y dymunwch ddefnyddio’r prawf er mwyn iddo fod yn ddefnyddiol i chi a’ch myfyrwyr.
Fel trwch cynnwys Blackboard, ceir llawer o osodiadau y gallwch eu defnyddio i baru’r prawf i’ch anghenion a’ch gofynion dysgu. Mae’r Grŵp E-ddysgu yn wastad yn barod i wirio prawf, edrych drwy’r gosodiadau neu hefyd gynorthwyo wrth ddewis y math cywir o gwestiwn ar gyfer eich gweithgarwch dysgu. Beth am greu prawf i helpu’ch myfyrwyr â’u gwaith adolygu?
Beth hoffech chi ei wneud yn wahanol (2)?
Siarad Cyhoeddus a mynediad i sgiliau craidd
Fe wnaeth sgwrs Rob Grieve fy helpu i werthfawrogi faint o broblem yw siarad cyhoeddus i rai unigolion. Roedd y cyngor am fod yn ‘siaradwr diffuant’ yn arbennig o ddefnyddiol i mi. Peidio â blaenoriaethu arddull dros sylwedd, canolbwyntio ar y wybodaeth y dymunaf ei chyflwyno a cheisio siarad mewn ffordd sy’n naturiol i mi yw’r strategaethau y bwriadaf eu defnyddio i wella fy ngallu i siarad yn gyhoeddus.
Cefais f’ysbrydoli hefyd gan gyflwyniad Debra Croft ar y Brifysgol Haf. Dyma brosiect sy’n rhoi cyfle amhrisiadwy i’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan. Gwnaeth amrywiaeth y pynciau a drafodir yn ystod 6 wythnos yn unig, gan gynnwys sgiliau bywyd yn ogystal â phynciau academaidd, argraff fawr arnaf. Roedd cynllun hyblyg a chreadigol y gweithgareddau a’r asesiadau wedi’u teilwra ar gyfer anghenion y myfyrwyr yr un mor drawiadol. Dangosodd y cyflwyniad hwn sut gall darparu ar gyfer y gwahaniaethau gael effaith sylweddol ar fywydau pobl.
Cyflwyno cynnig ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol eleni
Gan fod cynifer o awgrymiadau a myfyrdodau defnyddiol, roedd dewis un ar gyfer pob un ohonom yn dipyn o dasg! Gallwch weld adroddiad llawn am y gynhadledd fach wedi’i rannu yn ddau bostiad blog (Rhan 1 a Rhan 2). Fe’ch atgoffir bod Galwad am Gynigion ar gyfer ein prif Gynhadledd Dysgu ac Addysgu ar gael yma a’n bod yn croesawu cynigion o bob ardal yn y Brifysgol.
Mae’r Grŵp E-ddysgu’n cynnal nifer o Fforymau Academi trwy gydol y flwyddyn. Diben y Fforymau Academi yw dod ag aelodau ynghyd ar draws y Brifysgol i drafod mater yn ymwneud â Dysgu ac Addysgu. Roedd ein Fforwm Academi ddiwethaf yn canolbwyntio ar Feithrin Hunanddisgyblaeth mewn Dysgwyr. Cafodd y pwnc hwn ei awgrymu yn dilyn Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol y llynedd. Yn y gynhadledd, gwnaeth Dr Simon Payne, Liz Titley a Liam Knox roi cyflwyniad ar hunanddisgyblaeth. Yn ogystal â hyn gwnaeth y Grŵp E-ddysgu gynnal Arddangosfa Academi ble roedd Simon yn cyflwyno strategaethau ar gyfer meithrin hunanddisgyblaeth.
Mae nodiadau llawn o’r Fforymau Academi ar gael ar Wici arbennig sydd ar gael yn y modiwl Dysgu trwy gyfrwng Technoleg, ac mae gan bob aelod o staff fynediad i hwn.
Ceir crynodeb o’n trafodaethau isod:
Strategaethau ar gyfer annog hunanddisgyblaeth mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu
Mae myfyrwyr yn treulio mwy o amser yn dysgu y tu allan i’r dosbarth felly fe ddylem fod yn eu dysgu sut i ddysgu
Pa sgiliau sydd gan fyfyrwyr pan fônt yn cyrraedd a beth sydd angen i ni eu dysgu er mwyn iddynt fod yn ddysgwyr hunan-ddisgybledig
Sut allwn ni bwysleisio a mesur gwelliant
Os hoffech ymchwilio ymhellach i hunanddisgyblaeth gallwch wylio’r recordiad o Arddangosfa Academi Simon yn ddiweddar. Yn ogystal â hyn, efallai y bydd yr erthyglau hyn o ddiddordeb:
Cassidy, S. 2011. Self-regulated learning in higher education: Identifying component process Studies in Higher Education 36: 8. tt. 989-1000. https://doi.org/10.1080/03075079.2010.503269
Zimmerman, B. J. 2002. Becoming a Self-Regulated Learner: An Overview. Theory into Practice. 41: 2. tt. 64-70. https://www.jstor.org/stable/1477457
Cynhelir ein Fforwm Academi nesaf ar 9 Mai am 11yb a bydd yn canolbwyntio ar y pwnc ‘Sut mae gwybod fy mod yn addysgu’n llwyddiannus?’ Mae’r fforymau’n ffordd dda o rannu profiadau a dysgu gan eraill a hefyd myfyrio ar eich dulliau eich hun o ymdrin â’r pwnc. Os hoffech awgrymu pwnc ar gyfer Fforwm Academi y flwyddyn nesaf cysylltwch â ni. Gallwch gofrestru ar gyfer y Fforwm Academi drwy archebu ar-lein.
Mae’r Grŵp E-ddysgu yn cynnal cynhadledd fechan ar Addysg Gynhwysol Ddydd Mercher 10 Ebrill am 1pm yn E3, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu, Academi Aber. Yn ychwanegol at ein postiad blog blaenorol yn cyhoeddi’r siaradwyr ar gyfer y gynhadledd fechan, rydym yn falch o gyhoeddi hefyd y bydd Dr Rob Grieve yn rhoi cyflwyniad wedi’i recordio dan y teitl Stand Up and Be Heard: Student Fear of Public Speaking.
Mae Rob yn Uwch Ddarlithydd mewn Ffisiotherapi yn Adran y Proffesiynau Perthynol i Iechyd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE). Yn ogystal â’i brif faes ymchwil a’i brif weithgareddau dysgu, mae Rob hefyd yn un o ymddiriedolwyr Cymdeithas Atal Dweud Prydain. Yn rhinwedd hynny, mae wedi siarad mewn sawl digwyddiad am ddefnyddio cyflwyniadau fel math o asesu a rhoi i fyfyrwyr y sgiliau angenrheidiol ar gyfer siarad cyhoeddus. Yn y cyflwyniad hwn, bydd Rob yn cyfeirio at ambell un o’r cyflwyniadau y mae wedi’u rhoi yn ddiweddar yn Advance Higher Education. Bydd Rob hefyd yn myfyrio ar weithdai Stand Up and Be Heard y mae wedi bod yn eu cynnal i fyfyrwyr y mae arnynt ofn siarad yn gyhoeddus. Nod y gweithdai oedd cefnogi dysgu ac addysgu ym maes cyflwyniadau a siarad cyhoeddus trwy gyfrwng strategaethau penodol, ac adolygu manteision cyffredinol siarad cyhoeddus fel sgìl trosglwyddadwy ar gyfer y brifysgol, bywyd, a chyflogaeth yn y dyfodol. Mae Rob yn adeiladu ar sail arolwg a gynhaliwyd yn 2012 a dystiodd fod 80% o fyfyrwyr yn dweud iddynt brofi pryder cymdeithasol yn rhan o aseiniadau a oedd yn cynnwys siarad cyhoeddus (Russell a Topham, 2012). Yn ogystal â hyn, canfu astudiaeth bellach (Marinho et al, 2017) fod gan 64% o fyfyrwyr ofn siarad yn gyhoeddus, tra byddai 89% wedi hoffi petai eu rhaglen israddedig wedi cynnwys dosbarthiadau ar wella eu siarad cyhoeddus. Ceir rhagor o wybodaeth am waith Rob yn y postiad blog hwn. Enw ei gyfrif ar Twitter yw @robgrieve17.
Gobeithio y gallwch ymuno â ni yn ein cynhadledd fechan. Mae ambell le ar gael o hyd. Gallwch archebu eich lle ar-lein.
Cyfeiriadau
Marinho, ACF., de Madeiros, AM., Gama, AC., & Teixeir, LC. 2017. Fear of Public Speaking: Perception of College Students and Correlates. Journal of Voice. 31:1 DOI: 10.1016/j.jvoice.2015.12.012
Russell, G. a Topham, P. 2012. The impact of social anxiety on student learning and wellbeing in higher education. Journal of Mental Health 21:4. Tt. 375-385. https://doi.org/10.3109/09638237.2012.694505