Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.
Yn ystod haf 2022 symudon ni i fersiwn newydd o Turnitin. Gan fod cefnogaeth i’n fersiwn blaenorol o Turnitin bellach wedi dod i ben, caiff y fersiwn hanesyddol (a elwir yn Turnitin Building Block) ei dynnu’n ôl ar 31 Awst 2023.
Mae hyn yn golygu na fydd staff a myfyrwyr bellach yn gallu cael gafael ar aseiniadau sydd wedi’u marcio.
Dylai staff gysylltu â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk) os byddant yn dal i fod angen cael gafael ar aseiniadau Turnitin yn Building Block at ddibenion marcio.
Er na fydd modd i chi gael gafael ar yr aseiniadau a farciwyd, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn dal i allu gofyn amdanynt drwy gymorth Turnitin. Os bydd angen hyn arnoch ar ôl 31 Awst 2023, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).
Ar 4 Ebrill bydd Turnitin yn lansio eu hadnodd newydd i ddatgelu ysgrifennu drwy ddeallusrwydd artiffisial a ChatGPT. Bydd hwn yn cael ei ychwanegu at yr Adroddiad Tebygrwydd. Cyn i gydweithwyr ddechrau defnyddio’r datgelydd deallusrwydd artiffisial, roeddem ni’n meddwl y byddem yn tynnu eich sylw at ambell rybudd yn ei gylch yn y dyfyniadau hyn gan gyrff proffesiynol awdurdodol yn y sector.
Mae Jisc yn nodi (cyfieithwyd y dyfyniad o’r Saesneg): “Ni all datgelyddion deallusrwydd artiffisial brofi’n bendant bod testun wedi cael ei ysgrifennu drwy ddeallusrwydd artiffisial.”
Dyma gyngor yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (eto, cyfieithwyd y dyfyniad o’r Saesneg): “Byddwch yn ofalus yn eich defnydd o offer sy’n honni eu bod yn datgelu testun a gynhyrchwyd drwy ddeallusrwydd artiffisial, a chynghori staff am safiad y sefydliad ar hyn. Nid yw allbwn yr offer hyn wedi cael ei wirio a cheir tystiolaeth bod rhywfaint o destun a gynhyrchwyd drwy ddeallusrwydd artiffisial yn llwyddo i osgoi’r datgelyddion. Hefyd, mae’n bosibl na fydd myfyrwyr wedi rhoi caniatâd i lwytho eu gwaith i’r offer hyn nac wedi cytuno ar sut y bydd eu data’n cael eu cadw.”
Gweler hefyd y Canllawiau i Staffa luniwyd gan y Gweithgor Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol dan arweiniad Mary Jacob. Mae’r canllawiau’n amlinellu awgrymiadau ar gyfer sut y gallwn esbonio ein hasesiadau presennol wrth fyfyrwyr mewn ffyrdd a fydd yn eu hannog i beidio ag ymddwyn mewn modd sy’n academaidd annerbyniol drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, yn ogystal â’r rhybuddion (neu’r ‘baneri coch’) i’w hystyried wrth farcio.
Mae Turnitin hefyd wedi cyhoeddi tudalen adnoddau ar ysgrifennu drwy ddeallusrwydd artiffisial i gefnogi addysgwyr gydag adnoddau addysgu ac i roi gwybod am eu cynnydd wrth ddatblygu nodweddion datgelu ysgrifennu drwy ddeallusrwydd artiffisial.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio adnodd Turnitin i ddatgelu ysgrifennu drwy ddeallusrwydd artiffisial a ChatGPT neu am ddehongli’r canlyniadau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).
Yn ddelfrydol dylai myfyrwyr bob amser gael mynediad at eu haseiniadau a gyflwynwyd drwy fannau cyflwyno Turnitin.
Dylai myfyrwyr gael mynediad i’w graddau a’u hadborth ar y dyddiad rhyddhau Adborth a hysbysebwyd yn wreiddiol iddynt ar gyfer y man cyflwyno Turnitin. Dylai adborth fod ar gael i fyfyrwyr 15 diwrnod gwaith ar ôl cyflwyno yn unol â phwynt 5.2 o’r Polisi E-gyflwyno ac Adborth.
Turnitin a chyflwyno a marcio nad yw’n ddienw.
Rydym yn argymell yn gryf bod y golofn Canolfan Raddau Blackboard yn cael ei chuddio ar gyfer unrhyw fan cyflwyno Turnitin a osodwyd gyda marcio nad yw’n ddienw.
Pan fydd aseiniad Turnitin yn cael ei osod heb farcio dienw bydd unrhyw farciau a gofnodir yn Stiwdio Adborth Turnitin yn bwydo drwodd i golofn canolfan raddau Blackboard yn syth. Mae hyn yn eu gwneud yn weladwy i’r myfyrwyr cyn y dyddiad rhyddhau adborth.
I guddio colofn yn y Ganolfan Raddau:
Ewch i’r Ganolfan Raddau Lawn
Cliciwch ar y llinell onglog (chevron) drws nesaf i’r golofn berthnasol
Rhaid toglo’r opsiwn ‘Cuddio rhag Myfyrwyr (Ymlaen/Diffodd)’ nes bydd llinell goch trwyddo.
Ni ddylai’r golofn Canolfan Raddau Blackboard fod wedi’i chuddio pan fydd y dyddiad rhyddhau adborth wedi pasio.
Ar 20 Mai, ymunodd Dr Mary Davies, Stephen Bunbury, Anna Krajewska, a Dr Matthew Jones â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ar gyfer eu gweithdy ar-lein: Contract Cheating Detection for Markers (Red Flags).
Gyda chydweithwyr eraill, maent yn ffurfio Gweithgor Twyllo ar Gontract Rhwydwaith Uniondeb Academaidd De Ddwyrain Llundain ac maent wedi bod yn gwneud gwaith ac ymchwil hanfodol i’r defnydd cynyddol o felinau traethodau a thwyllo ar gontract.
Roedd y sesiwn yn cynnwys llawer o awgrymiadau ymarferol i gydweithwyr i’w helpu i ganfod y defnydd o Dwyllo ar Gontract wrth farcio.
Mae rhagor o wybodaeth am Ymddygiad Academaidd Annheg ar gael yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd (gweler adran 10).
Diolch yn fawr i’r cyflwynwyr. Rydym wedi cael sesiynau arbennig gan siaradwyr allanol y flwyddyn academaidd hon; edrychwch ar ein blogiau Siaradwyr Allanol i gael rhagor o wybodaeth.
Wrth i fis Mai nesáu, roeddem o’r farn y byddai’n ddefnyddiol amlinellu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer y broses Trosglwyddo Marciau Cydrannol. Mae’r broses hon yn trosglwyddo marciau o golofnau Canolfan Raddau Blackboard i dudalen Marciau Asesu fesul Modiwl AStRA (STF080).
Mae’r offer ar gael ym mhob modiwl Blackboard a hefyd yn yr offer Marciau Cydrannol yn MyAdmin. Gall Staff Gweinyddol Adrannol weld a throsglwyddo modiwlau ar gyfer pob modiwl yn eu hadran tra bod Cydgysylltwyr Modiwlau yn gallu gweld a throsglwyddo marciau ar gyfer eu modiwlau hwy.
I gefnogi’r broses Trosglwyddo Marciau Cydrannol, cynhelir:
Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein Siaradwr Gwadd nesaf.
Ar 20 Mai 2022 12:30-13:30, bydd Dr Mary Davies, Prif Ddarlithydd yn Ysgol Fusnes Prifysgol Oxford Brookes, a’i chydweithwyr yn cynnal gweithdy ar eu hadnodd rhyngweithiol Contract Cheating Detection for Markers, sy’n gweithio ar sail rhestr wirio o ‘faneri coch’.
Bydd Stephen Bunbury, Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Westminster, Anna Krajewska, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu yn y Bloomsbury Institute, a Dr Matthew Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Greenwich, yn ymuno â Dr Davies.
Nod y gweithdy yw helpu aelodau o staff i ganfod achosion posibl o dwyll ar gontract wrth farcio. Mae’r cyflwynwyr yn aelodau o Weithgor Twyllo ar Gontract Rhwydwaith Uniondeb Academaidd Llundain a De-ddwyrain Lloegr. Dyma’r gweithgor sydd wedi paratoi’r adnodd rhyngweithiol Contract Cheating Detection for Markers, a hynny ar sail rhestr wirio o ‘faneri coch’.
Yn y gweithdy, bydd y cyflwynwyr yn esbonio’r baneri coch sy’n tynnu sylw at enghreifftiau posibl o dwyllo ar gontract, a hynny trwy drafod adrannau o’r rhestr wirio: dadansoddi testun, cyfeirnodi a defnyddio ffynonellau, tebygrwydd ar Turnitin a pharu testun, priodweddau dogfennau, y broses ysgrifennu, cymharu â gwaith blaenorol myfyrwyr, a chymharu â gwaith y garfan o fyfyrwyr. Cewch gyfle i ymarfer defnyddio’r rhestr wirio ac i drafod ffyrdd effeithiol o’ch helpu i ganfod enghreifftiau posibl o dwyllo ar gontract yng ngwaith myfyrwyr.
Mae adnoddau o ddigwyddiadau blaenorol gyda Siaradwyr Gwadd i’w gweld ar ein blog.
Cynhelir y gweithdy ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams. Archebwch eich lle ar-lein.
Cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu os oes gennych unrhyw gwestiynau (udda@aber.ac.uk).