Blackboard Ultra Base Navigation: Gwaith wedi’i gwblhau

Blackboard Ultra icon

Mae Ultra Base Navigation bellach wedi’i alluogi ar Blackboard. 

Y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi i Blackboard, byddwch yn gweld rhyngwyneb newydd. 

Edrychwch ar ein Cwestiwn Cyffredin ar sut i ddefnyddio Ultra Base Navigation.

Er bod edrychiad a theimlad Blackboard wedi newid, mae ymarferoldeb a chynnwys y cwrs yn aros yr un fath. 

Os ydych wedi creu nod tudalen neu greu cyswllt i dudalennau o fewn Blackboard efallai y bydd angen diweddaru’r rhain. Bydd unrhyw ddolenni uniongyrchol i’r cyfeiriad https://blackboard.aber.ac.uk/ dal yn gweithio. 

Bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu nawr yn dechrau ar y gwaith o baratoi ar gyfer Cyrsiau Ultra, yn barod ar gyfer Semester 1, 2023.  

Bydd ein tudalennau gwe Ultra a’n Cwestiynau Cyffredin yn cael eu diweddaru wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk). 

Gwybodaeth bwysig: Blackboard Ultra

Blackboard Ultra icon

Yn ein post blaenorol, cyhoeddasom ein bod yn symud i Blackboard Ultra.

Ar ôl cyfarfod y Bwrdd Academaidd, gallwn gadarnhau y bydd Cam 1 prosiect Ultra, sef ‘Ultra Base Navigation (UBN)’, yn digwydd rhwng 3 a 6 Ionawr 2023.

Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn sylwi bod newidiadau wedi’u gwneud i dudalennau glanio Blackboard. Er bod UBN yn rhoi gwedd wahanol i  Blackboard, fe fydd yr un peth o ran gweithredu a chynnwys y cyrsiau.

Rydym yn bwriadu sicrhau bod defnyddwyr yn gallu defnyddio Blackboard trwy gydol y cyfnod hwn, ond fe ddylid cofio ei bod hi’n bosib y ceir rhai problemau yn ystod y cyfnod.

Ceir negeseuon pellach am UBN yn y man i helpu i baratoi’r staff a myfyrwyr

ar gyfer y newid hwn i’r tudalen glanio.

Pan fydd Cam 1 wedi’i gwblhau, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn symud i Gam 2, er mwyn paratoi ar gyfer Cyrsiau Ultra ym mis Medi 2023.

Byddwn yn blogio trwy gydol y prosiect a bydd negeseuon allweddol yn cael eu cyfleu drwy’r Bwletin Wythnosol a newyddion y Gwasanaethau Gwybodaeth.

Byddwn yn darparu Cwestiynau Cyffredin ac mae gennym dudalen we bwrpasol a fydd yn datblygu wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Mae Cyfieithu ar y Pryd bellach ar gael yn Teams

Accessibility icons showing 3 images: a checklist, a computer workstation, an image

Yn ei ddiweddariad diweddaraf, cyflwynodd Teams eu sianel gyfieithu newydd ar gyfer cyfarfodydd ar-lein. Nawr, gallwch bennu cyfieithydd ar gyfer eich cyfarfod a gall y rhai sydd ar yr alwad wrando ar y cyfieithiad. Datblygwyd y datrysiad hwn ar y cyd rhwng Microsoft a Llywodraeth Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio Teams, cysylltwch ag is@aber.ac.uk.

Yn unol â gofynion statudol Safonau’r Gymraeg a pholisi mewnol y Brifysgol ar ddefnyddio’r Gymraeg, mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg yn darparu gwasanaeth Cyfieithu ar y Pryd mewn cyfarfodydd (h.y. cyfarfodydd rhithwir, hybrid ac wyneb yn wyneb).

Mae Cyfieithu ar y Pryd yn caniatáu i’r rhai sy’n mynychu ddefnyddio eu dewis iaith (e.e. Cymraeg/Saesneg) yn gwbl naturiol ac yn rhwydd mewn, er enghraifft, cyfarfodydd, pwyllgorau a digwyddiadau. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Gwasanaethau Cymraeg: tlustaff@aber.ac.uk.

Read More

Blackboard Ultra: Cyfarfod Rhanddeiliaid 1

Blackboard Ultra icon

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn dechrau gweithio ar ein prosiect nesaf, sef trosglwyddo i ddefnyddio Blackboard Ultra. Dros y misoedd nesaf byddwn yn defnyddio ein blog i roi gwybod am hynt y prosiect, yn ogystal â rhannu gwybodaeth bwysig.

Dros y flwyddyn nesaf, mae’n debyg y clywch yr ymadroddion canlynol:

  1. Ultra Base Navigation: yr enw a roddwyd i’r dyluniad a’r ffordd newydd o lywio o fewn Blackboard, cyn i chi fynd i mewn i fodiwl neu gyfundrefn.
  2. Ultra Course View; dyluniad mwy modern a rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio ar gyfer modiwlau, gyda rhai darnau newydd o offer nad ydynt ar gael yn Original Course View.
  3. Original Course View; y dyluniad a’r rhyngwyneb yr ydym yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer modiwlau, ac sy’n dod i ben yn Blackboard.
  4. LTI (Learning Tools Interoperability); mae hyn yn cyfeirio at offer allanol sydd wedi’u hintegreiddio â Blackboard, fel Turnitin a Panopto.

Ceir manteision i ddefnyddio Ultra:

  1. Ffordd fwy greddfol o ddylunio cyrsiau a chreu cynnwys.
  2. Mwy cydnaws â dyfeisiau symudol a chyfrifiaduron llechen.
  3. Yn elwa yn sgil diweddariadau a chefnogaeth barhaus Blackboard.
  4. Estheteg wedi’i diweddaru.

Er ein bod yn cydnabod y manteision hyn, gallai’r newid darfu ar gydweithwyr a myfyrwyr ond byddwn yn gweithio’n galed i sicrhau bod y broses o’i gyflwyno yn un mor esmwyth â phosibl.

Ar gyfer cydweithwyr, byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi y flwyddyn nesaf fel eich bod mor barod â phosibl ar gyfer y newid hwn.

Yn y blogbost cyntaf hwn, byddwn yn rhoi crynodeb o’n cyfarfod ymwneud cyntaf â’r rhanddeiliaid, a gynhaliwyd ddydd Gwener 16 Medi. Gwahoddwyd cyfarwyddwyr dysgu ac addysgu eich adran, ynghyd â rhanddeiliaid eraill, i’r cyfarfod.

Cafodd pawb a oedd yn bresennol daith o amgylch rhyngwyneb Ultra o safbwynt hyfforddwr a diwrnod ym mywyd myfyriwr, wedi eu cyflwyno gan ein cydweithwyr cefnogi cleientiaid o Blackboard. 

Rydym wedi sicrhau bod y cyfarfod ar gael i bawb drwy Panopto.

Yn dilyn y cyfarfod rhanddeiliaid byddwn yn gweithio ar yr agweddau canlynol:

  1. Pryd y gallwn roi Ultra Base Navigation ar waith?
  2. Sut brofiad fydd y broses o greu a chopïo cyrsiau i gydweithwyr?
  3. Sut mae Blackboard Ultra yn ymdopi â chynnwys Cymraeg a Saesneg?

Cadwch lygad am ragor o ddiweddariadau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, rhowch wybod i ni (udda@aber.ac.uk).

Fforymau Academi 2022-23

Mae’n gyffrous gallu cyhoeddi ein Fforymau Academi arfaethedig ar gyfer 2022-23. Gan adeiladu ar lwyddiant sesiynau’r llynedd, ac ar sail adborth, rydym ni wedi cynyddu’r nifer o Fforymau Academi sydd ar gael gyda chyfanswm o 10 dros y flwyddyn academaidd.

I’r rheini yn eich plith sy’n anghyfarwydd â Fforymau Academi, maen nhw’n drafodaethau anffurfiol sy’n dod â chydweithwyr ynghyd o bob rhan o’r Brifysgol. Ym mhob sesiwn, byddwn yn edrych ar bwnc penodol yn gysylltiedig â Dysgu ac Addysgu. Byddwn yn hwyluso’r drafodaeth ac yn darparu adnoddau ac arweiniad yn dilyn y Fforwm Academi. Yna bydd y rhain ar gael ar ein tudalennau gwe. Cymerwch olwg ar bynciau Fforwm Academi y llynedd:

Eleni, bydd rhai Fforymau Academi yn dychwelyd wyneb yn wyneb yn ogystal â’r rhai a gynhelir ar-lein drwy Teams. Gallwch weld y dyddiadau, disgrifiadau o’r sesiynau, a chadw lle ar y dudalen archebu ar gyfer y tair sesiwn gyntaf  a chadwch olwg am sesiynau’r dyfodol.

Byddwn yn dechrau’r Fforymau Academi gyda thrafodaeth ar Gynefino Myfyrwyr. Byddwn yn meddwl am sut rydych chi’n paratoi myfyrwyr i astudio. Pa fath o weithgareddau ydych chi’n eu rhedeg yn wythnos 1 eich modiwl er mwyn i’ch myfyrwyr gyfarwyddo â’r cynnwys? Hefyd, byddwn yn gofyn i gydweithwyr rannu gyda ni sut y gallech chi ddefnyddio technoleg yn y rhyngweithiadau hyn.

Read More

Modiwlau Rhiant a Phlentyn 2022-23

Image of Blackboard logo and parent-child

Gan fod modiwlau 2022-23 bellach ar gael i staff, gallwn eu cysylltu gyda’i gilydd ar gais cydgysylltydd y modiwl. Cyfeirir at y drefn hon fel trefn rhiant a phlentyn. Mae cysylltu modiwlau gyda’i gilydd yn ffordd effeithiol o drafod modiwlau ar wahân a chanddynt yr un cynnwys er mwyn osgoi uwchlwytho deunyddiau ar gyfer dau neu ragor o wahanol fodiwlau.

Yn ôl y drefn hon, bydd un modiwl yn rhiant, a’r modiwl(au) arall/eraill yn blentyn. Ni chyfyngir ar nifer y modiwlau plentyn ond ni ellir cael mwy nag un rhiant.

Os ydych yn gydgysylltydd modiwlau ac os hoffech gysylltu eich modiwlau yn ôl y drefn hon, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk gan roi’r codau modiwl ar gyfer y modiwlau rhiant a phlentyn.

Enghreifftiau o Aberystwyth

Mae llawer o aelodau staff eisoes yn defnyddio modiwlau rhiant a phlentyn ar draws y sefydliad. Dyma rai enghreifftiau:

  1. Dysgir yr un cynnwys ar y modiwlau ond mae modiwl ar gael i flynyddoedd gwahanol
  2. Modiwlau sy’n dod â gwahanol gynlluniau gradd at ei gilydd a chanddynt wahanol gyfeirnodau modiwl, er enghraifft modiwlau traethodau estynedig

Yn y bôn, mae pob modiwl sy’n rhannu’r un cynnwys yn ddelfrydol ar gyfer modiwlau rhiant a phlentyn.

Read More

Modiwlau 2022-2023 bellach ar gael i Staff

Distance Learner Banner

Mae modiwlau ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23 bellach ar gael ar gyfer staff sy’n dysgu ar fodiwlau. Mae hwn er mwyn cynorthwyo staff i baratoi eu modiwlau ar gyfer Mis Medi.   Efallai eich bod wedi sylwi bod tab newydd wedi ymddangos ar y ddewislen ar frig eich sgrin Blackboard: 

Modiwlau 2022-23

Os ydych wedi cofrestru fel aelod o staff ar y modiwl yn Astra dylech allu gweld eich modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Os nad oes modd i chi weld modiwl yr ydych wedi cofrestru arno yna cysylltwch â’ch Swyddog Gweinyddol Adrannol. Ni fydd myfyrwyr yn gallu cofrestru ar eich modiwl nes y bydd y cofrestriad wedi’i gwblhau.  Os oes arnoch angen rhagor o gymorth, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk

Creu Cyrsiau Blackboard 2022-23

Distance Learner Banner

Tua diwedd mis Gorffennaf byddwn yn dechrau creu modiwlau Blackboard ar gyfer 2022-23.

Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, ni fydd fersiynau gwag o unrhyw gyrsiau presennol yn cael eu creu. Gwnaed y penderfyniad hwn yng nghyfarfod y Bwrdd Academaidd yn ddiweddar.

Bydd cynnwys a ffeiliau’r cyrsiau yn cael eu copïo o’r fersiwn o’r modiwl yn y flwyddyn academaidd flaenorol. Ni fydd mannau cyflwyno Turnitin, recordiadau Panopto na gweithgareddau rhyngweithiol Blackboard  yn cael eu cynnwys wrth gopïo; bydd angen ail-greu’r rhain. Mae gennym lawer o Gwestiynau Cyffredin i gynorthwyo’r staff gyda hyn.

Os ydych chi’n cynnal modiwl newydd yna bydd y rhain yn cael eu creu gan ddefnyddio’r Templedi Adrannol y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Yn yr un modd, os ydych chi’n cynnal modiwl na chafodd ei gynnal yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yna bydd y rhain hefyd yn cael eu creu’n wag.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon (eddysgu@aber.ac.uk). Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y modiwlau wedi’u creu.